Y Cabinet sy'n gyfrifol am waith cyffredinol y Cyngor ac yn cyfarfod bob pethefnos.
Mae'r Cabinet yn cynnwys Arweinydd y Cyngor, sef Cadeirydd y Cabinet, a 9 aelod arall a benodir gan Arweinydd y Cyngor. Mae gan bob aelod o'r Cabinet bortffolio sy'n diffinio ei gyfrifoldebau.
Mae penderfyniadau'r Cabinet yn destun craffu gan gr?p arall o Gynghorwyr, sy'n cwrdd mewn Pwyllgorau Craffu er mwyn gwirio a monitro gwaith y Cabinet.
Ma Blaengynllun (rhaglen o waith i ddatblygu polisïau newydd ac ati) yn gwella ac yn datblygu 'Y Gyllideb a'r Fframwaith Polisi'. Caiff y raglen ei pharatoi mewn cysylltiad â holl Adrannau'r Cyngor ac mae'n amlinellu'r penderfyniadau pwysig ynghylch polisïau a'r gyllideb sydd i'w gwneud gan y Cabinet a'r Cyngor yn y 12 mis nesaf a chaiff ei diweddaru yn chwarterol.
CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD
Gall aelodau o'r cyhoedd, ar yr amod eu bod yn byw yn y Sir, yn berchen ar fusnes sydd wedi ei leoli yn y Sir neu'n gweithio yn y Sir, ofyn cwestiynau i aelodau o'r Cabinet mewn cyfarfodydd y Cabinet.
I ofyn cwestiwn mae angen i chi ei gyflwyno yn ysgrifenedig neu drwy bost electronig i’r Prif Weithredwr (e-bost prifweithredwr@sirgar.gov.uk) erbyn 10 a.m. 7 diwrnod gwaith clir fan bellaf cyn y cyfarfod (h.y. nid yw diwrnod clir yn cynnwys y diwrnod dderbyniwyd y cwestiwn na diwrnod y cyfarfod).
Wrth gyflwyno'ch cwestiwn, bydd rhaid I chi gynnwys eich enw a chyfeiriad (neu enw a chyfeiriad eich busnes os ydych chi’n brechen ar fusness sydd wedi ei leoli yn y Sir, neu eich lle gwaith os ydych yn byw yn rhywle arall) a rhaid hefyd I chi enwi’r aelod o’r Cyngor y gofynnir y cwestiwn iddo/iddi.
Am wybodaeth bellach cysylltwch â GwasanaethauDemocrataidd@sirgar.gov.uk neu 01267 224028.