Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Craffu Cymunedau ac Adfywio - Dydd Iau, 5ed Hydref, 2017 10.00 yb

Lleoliad: Siambr a Rhag-Ystafell, - 3 Heol Spilman, Caerfyrddin. SA31 1LE.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Kevin Thomas  01267 224027

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr Sharen Davies, Betsan Jones a Shirley Matthews

 

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

Y Cynghorydd

Rhif y Cofnod

Y Math o Fuddiant

Aled Vaughan Owen

 

Deiliad Trwydded ar gyfer Neuadd Chwaraeon y Gwendraeth

 

 

3.

DATGAN CHWIPIAID PLAID SYDD WEDI EU GWAHARDD

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch chwip waharddedig.

 

4.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW)

Cofnodion:

Nid oedd cwestiynau gan y cyhoedd wedi dod i law.

 

5.

CYNLLUN STRATEGOL AMGUEDDFEYDD SIR GAERFYRDDIN 2017-2022 pdf eicon PDF 220 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniodd y Pwyllgor Gynllun Strategol Amgueddfeydd Sir Gaerfyrddin ar gyfer y cyfnod rhwng 2017-2022, a oedd yn disodli'r Blaengynllun Gwasanaeth Amgueddfeydd Sir Gaerfyrddin 2013-18 blaenorol a gymeradwywyd gan yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol ar 15 Mawrth 2013.

 

Wrth gyflwyno'r adroddiad dywedodd y Pennaeth Hamdden wrth y Pwyllgor y byddai'n ofynnol yn ôl gweithdrefnau adrodd arferol y Cyngor bod y Pwyllgor yn ei ystyried cyn ei gyflwyno i'r Bwrdd Gweithredol. Fodd bynnag, roedd yn ofynnol yn ôl amserlen achredu allanol yr amgueddfeydd bod yr adroddiad yn cael ei gyflwyno erbyn diwedd mis Hydref 2017 ac felly rhaid oedd i'r Bwrdd Gweithredol ei gymeradwyo ar 31 Gorffennaf 2017. O gael y gymeradwyaeth honno galluogwyd yr Adran i symud y broses achredu yn ei blaen i gydymffurfio â'r amserlen ofynnol. O ganlyniad roedd yr adroddiad yn cael ei gyflwyno i'r pwyllgor craffu er gwybodaeth ac i gynnig sylwadau arno.

 

Ar hynny cafodd y Pwyllgor gyflwyniad ar y Cynllun, a nodai'r 5 amcan allweddol canlynol i gyflwyno'r weledigaeth o ddarparu gwasanaeth rhagorol erbyn 2022:

·        Nod Strategol 1 – Rheoli a datblygu ein hadnoddau, ein cyfleusterau a'n gweithlu er mwyn bod yn fwy cydnerth ac adeiladu economi gryfach;

·        Nod Strategol 2 – Cael ein cydnabod am ein hymagwedd arloesol tuag at ddatblygu a defnyddio casgliadau amgueddfeydd;

·        Nod Strategol 3 - Creu profiad gwych i ymwelwyr trwy wasanaethau a rhaglenni rhagorol

·        Nod Strategol 4 - Cyflwyno cyfleoedd dysgu creadigol ac sy'n ennyn ysbrydoliaeth i bawb;

·        Nod Strategol 5 - Cefnogi cyfleoedd i hyrwyddo iechyd a llesiant

Rhoddwyd sylw i'r cwestiynau/materion canlynol wrth drafod yr adroddiad:

·        Cyfeiriwyd at waith y Gwasanaeth Amgueddfeydd a ph'un a oedd yn cael ei gefnogi gan amgueddfeydd preifat/cymunedol eraill yn y Sir neu'n gysylltiedig â hwy.

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Amgueddfeydd fod y gwasanaeth yn flaenorol wedi sefydlu Hanes Sir Gâr a oedd yn dod ynghyd ag amrywiol gymdeithasau hanesyddol ac amgueddfeydd preifat a gwrddai'n rheolaidd yn Amgueddfa'r Sir yn Abergwili. Yn ychwanegol, roedd y gwasanaeth yn gweithredu polisi drws agored gan ddarparu cymorth ac arweiniad i'r sector preifat/cymunedol ble bynnag yr oedd yn bosibl.

·        Cyfeiriwyd at uchelgais y Cynllun o ddarparu cyfleuster storio casgliadau canolog i gymryd lle'r trefniadau storio presennol sydd wedi'u gwasgaru ar draws nifer o gyfleusterau ledled y Sir.  Gan y byddai angen cyllid ychwanegol ar gyfer y cyfleuster hwnnw, gofynnwyd am eglurhad yngl?n ag a oedd hwnnw ar waith.

Cadarnhaodd y Pennaeth Hamdden bod cyllid allanol wedi'i glustnodi i alluogi gwaith cwmpasu i gael ei wneud i archwilio casgliadau'r Cyngor a pholisïau casglu i asesu maint cyfleusterau storio'r dyfodol. Yn dilyn cwblhau'r gwaith cwmpasu, y cam nesaf fyddai bod yr Awdurdod yn ymgymryd ag asesiad o'i bortffolio eiddo i nodi unrhyw gyfleusterau a allai gael eu haddasu e.e. hen warysau/rhai gwag. Gyda golwg ar gyllid, gwnaed cynigion trwy raglen gyfalaf y Cyngor gyda'r union lefel a oedd yn ofynnol yn dibynnu ar addasrwydd unrhyw eiddo i gael ei addasu i'r safon ofynnol.

·        Cyfeiriwyd at waith y gwasanaeth amgueddfeydd a gofynnwyd am eglurhad yngl?n ag a  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5.

6.

ADRODDIAD PERFFORMIAD CYNLLUNIO BLYNYDDOL pdf eicon PDF 169 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor Adroddiad Perfformiad Blynyddol yr Is-adran Gynllunio ar gyfer y cyfnod rhwng Ebrill 2016 – Mawrth 2017. Nodwyd bod llunio'r Adroddiad Perfformiad Blynyddol yn un o ofynion y Fframwaith Perfformiad Cynllunio a bod yn rhaid ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru erbyn 31 Hydref bob blwyddyn er mwyn ei werthuso yn erbyn dangosyddion a thargedau gosod.

 

Rhoddwyd sylw i'r cwestiynau/materion canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

·        Cyfeiriwyd at lwyth gwaith yr Is-adran Gynllunio yn erbyn y cefndir o leihad mewn adnoddau staff a gofynnwyd am eglurhad ynghylch ei gallu i barhau i ddarparu'r ystod o wasanaethau yn erbyn y cefndir hwnnw.

 

Rhoddodd y Pennaeth Cynllunio sicrwydd i'r Pwyllgor fod yr adnoddau staffio yn cael eu hasesu'n barhaus mewn ymateb i newid mewn galwadau a deddfwriaeth, er mwyn sicrhau bod yr adnoddau hyn yn bodloni gofynion yr Adroddiad Monitro Blynyddol yn y dyfodol. Enghraifft o'r asesu parhaus hwnnw oedd ailstrwythuro'r adain cynllunio a'r adain gorfodi yn ddiweddar. Byddai effaith yr ailstrwythuro hwnnw'n cael ei werthuso, a phe profir bod hynny'n angenrheidiol byddai achos busnes yn cael ei wneud i fynd i'r afael ag unrhyw angen a nodwyd am adnoddau staff ychwanegol.

·        Cyfeiriwyd at dudalennau 79 ac 82 yr adroddiad a chydberthyniad y tablau ynddo, a oedd yn nodi lleihad mewn lefelau incwm ac yn nifer y ceisiadau cynllunio yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Gofynnwyd am eglurhad ynghylch a oedd yna reswm am y lleihad.

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Cynllunio, tra bod yr Is-adran Gynllunio yn ymdrechu i sefydlu'r lefelau incwm disgwyliedig yn erbyn data hanesyddol, roedd y gwir lefelau incwm a nifer y ceisiadau cynllunio a ddeuai i law y tu allan i'w rheolaeth gan eu bod yn dibynnu ar ystod o ffactorau, yn bennaf yr hinsawdd economaidd.  Roedd yr Is-adran, fodd bynnag, wedi gweld cynnydd yn nifer y ceisiadau cynllunio ar gyfer chwarter cyntaf 2017/18 o gymharu â'r flwyddyn flaenorol a rhagwelid y byddai ceisiadau cynllunio pellach yn deillio o'r Fargen Ddinesig yn cynyddu lefelau incwm ymhellach.

·        Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch rheoli effaith y lleihad mewn lefelau incwm, dywedodd y Pennaeth Cynllunio fod yna nifer o opsiynau ar gael i'r is-adran yn hynny o beth gan gynnwys oedi rhag llenwi swyddi gwag/ailstrwythuro i ariannu unrhyw ddiffyg posibl. Hyd yma, roedd unrhyw bosibilrwydd o ddiffyg yn y gyllideb wedi cael ei reoli.

·        Cyfeiriwyd at gyfyngiadau polisïau cynllunio cenedlaethol a lleol ar ganiatáu cartrefi newydd ar gyfer ffermwyr a'r angen i sicrhau bod darpariaeth ddigonol yn cael ei gwneud i ateb eu gofynion am gael aros ar y fferm a bod yn rhan o'r gymuned leol.

 

Atgoffodd y Pennaeth Cynllunio'r Pwyllgor fod y Cyngor, yn ei gyfarfod ym mis Medi 2017, wedi cytuno i adolygu'r Cynllun Datblygu Lleol a byddai angen codi'r mater uchod fel rhan o'r broses adolygu.

·        Cyfeiriwyd at dudalen 87 yr adroddiad yngl?n â'r pryder a nodwyd gan aelodau mewn perthynas â chyflwyno rolau a gweithgareddau gorfodi'r Cyngor. Dywedodd y Pennaeth Cynllunio fod yr adroddiad yn nodi gorfodi rheolau cynllunio fel maes sy'n peri heriau arbennig a phenodol,  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6.

7.

ADRODDIAD MONITRO CYLLIDEB CYFALAF A REFENIW 2017/18 pdf eicon PDF 148 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor adroddiadau Monitro Cyllideb Refeniw a Chyllideb Gyfalaf 2017/18 y Gwasanaethau Tai, Adfywio, Cynllunio a Hamdden ac Adloniant ar gyfer y cyfnod hyd at 30 Mehefin 2017.  Nodwyd y rhagwelid gorwariant o £376k yn y gyllideb refeniw, tanwariant o £15,727k yn y gyllideb gyfalaf, a thanwariant o £226k yn y Cyfrif Refeniw Tai.

 

Codwyd y materion canlynol wrth ystyried yr adroddiad:-

·        Mewn perthynas â chwestiwn ynghylch y diffyg incwm o £442k a ragamcanwyd yn yr Is-adran Rheoli Datblygu, atgoffodd y Pennaeth Cynllunio'r Pwyllgor o'i sylwadau cynharach yngl?n â'r cynnydd mewn ceisiadau cynllunio a gafwyd ar gyfer chwarter cyntaf 2017/18 o gymharu â'r flwyddyn flaenorol a'r nifer fawr o geisiadau cynllunio y rhagwelid y byddant yn cael eu cyflwyno i'r awdurdod yn y dyfodol agos a fyddai'n cael effaith gadarnhaol ar lefelau cynhyrchu incwm.

·        Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch cyllideb 2018/19 ar gyfer y gwasanaethau hamdden, cynghorodd y Pennaeth Hamdden fod gwaith paratoi yn mynd rhagddo yn hynny o beth ac y byddai unrhyw gynigion cyllidebol ar gyfer darparu cyfleusterau hamdden ledled y Sir yn y dyfodol yn ffurfio rhan o'r adroddiad hwnnw i'w ystyried gan y Cyngor.

·        Mewn ymateb i gwestiwn yn ymwneud â'r tanwariant o £26k ar ddigartrefedd, soniodd y Pennaeth Tai a Diogelu'r Cyhoedd wrth y Pwyllgor am ymagwedd ddiwygiedig yr Awdurdod tuag at ddigartrefedd a gyflwynwyd sawl blwyddyn yn flaenorol a'r newid mewn pwyslais o gyflwyno gwasanaeth ymatebol i wasanaeth ataliol. Roedd y newid hwnnw, trwy ddefnyddio stoc dai'r Cyngor a stoc dai'r sector rhentu preifat, wedi arwain at leihau lleoliadau gwely a brecwast brys o 50 yr wythnos i tua phedwar bob chwarter ynghyd â lleihad yn y gyllideb gwely a brecwast brys o £600k i £10k dros y deng mlynedd diwethaf.

·        Cyfeiriwyd at y sylw a roddwyd yn y wasg yn ddiweddar ynghylch y posibilrwydd na fyddai Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot yn ymuno fel partner yn y Fargen Ddinesig. Gofynnwyd am eglurhad ynghylch yr effaith bosibl y gallai hynny ei chael ar hyfywedd y Fargen yn y dyfodol, yn enwedig o safbwynt unrhyw gynlluniau arfaethedig ar gyfer Sir Gaerfyrddin e.e.  Llynnoedd Delta. 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Economaidd fod yr erthygl ddiweddar yn y wasg yn cyfeirio at y ffaith nad yw Cyngor Castell-nedd Port Talbot mewn sefyllfa, ar hyn o bryd, i gymeradwyo'r trefniadau Cydlywodraethau ar gyfer y Fargen Ddinesig. Roedd y trafodaethau yngl?n â'r trefniadau hynny yn mynd rhagddynt a'r gobaith oedd y dylent fod wedi'u cwblhau'n derfynol erbyn diwedd y flwyddyn.

Cyfeiriwyd at y gorwariant o £331k a ragamcanwyd ym maes gwaith cynnal a chadw wedi'i gynllunio ar gyfer y stoc tai cyhoeddus, a bod hynny yn rhannol oherwydd bod mwy o foeleri'n methu a bod rhaid gosod rhai newydd. Gofynnwyd am eglurhad yngl?n ag a oedd problem benodol wedi'i nodi mewn perthynas â'r boeleri.

Cadarnhaodd y Pennaeth Tai a Diogelu'r Cyhoedd nad oedd problem benodol wedi'i nodi, ond y gallai'r cynnydd anarferol mewn achosion o foeleri'n methu fod o ganlyniad i draul yn unig, a  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 7.

8.

ADRODDIAD BLYNYDDOL CYNGOR SIR CAERFYRDDIN 2016/17 - DRAFFT pdf eicon PDF 148 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor Adroddiad Blynyddol Drafft y Cyngor ar gyfer 2016/17 a oedd yn ymgorffori adroddiad cynnydd yr ail flwyddyn ar Strategaeth Gorfforaethol 2015-20, (a oedd yn cynnwys y Crynodeb o Adroddiad Blynyddol 2016/17) a'r Adroddiad Blynyddol llawn yr oedd rhaid ei gyhoeddi erbyn diwedd mis Hydref bob blwyddyn fel un o ofynion y Mesur Llywodraeth Leol (Cymru).

 

Nodwyd bod yr Awdurdod, pan gyhoeddwyd y Strategaeth Gorfforaethol yn 2015/20, wedi mynd ati i lunio adroddiad cynnydd blynyddol yn pennu 24 o fesurau canlyniadau er mwyn barnu perfformiad yn eu herbyn.    Byddai'r Strategaeth Gorfforaethol yn cael ei hadolygu yn 2018/19 er mwyn ymgorffori Amcanion Llesiant y Cyngor yn ôl gofynion Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

 

Codwyd y sylwadau/cwestiynau canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

·        Cyfeiriwyd at y cynnydd o 0.7% mewn lefelau absenoldeb salwch yn yr Awdurdod, sef o 10.1% i 10.8%, a mynegwyd y farn y dylai'r Pwyllgor Craffu - Polisi ac Adnoddau, yr oedd ei faes gorchwyl yn cynnwys lefelau absenoldeb staff, gymryd camau brys i archwilio'r rhesymau dros y cynnydd hwnnw, o bosibl trwy ail-edrych ar waith ei gr?p gorchwyl a gorffen blaenorol ar lefelau salwch y staff.

·        Mewn ymateb i gwestiwn yn ymwneud â'r camau gweithredu i leihau nifer yr atgyfeiriadau at wasanaethau cymdeithasol oedolion a phlant, dywedodd y Pennaeth Tai a Diogelu'r Cyhoedd fod nifer yr atgyfeiriadau, yn gyffredinol, yn lleihau trwy ddefnyddio Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth. Yn flaenorol, y sefyllfa oedd y byddai atgyfeiriadau'n cael eu cyfeirio'n awtomatig at y Gwasanaethau Cymdeithasol. Nid oedd hynny'n digwydd mwyach gan y byddai defnyddwyr gwasanaeth, yn dilyn asesiad sylfaenol, yn awr yn cael eu cyfeirio cyn gynted ag y bo modd at y gwasanaeth gofal mwyaf priodol gan sicrhau mai'r gwasanaeth hwnnw oedd yr un cywir a pherthnasol.

·        Cyfeiriwyd at y thema ‘Adeiladu Gwell Cyngor’ a'r camau gweithredu i 'gynyddu'r cyfathrebu, yr ymgynghori a'r ymgysylltu â'r cyhoedd'.
 Dywedodd y Rheolwr Polisi Corfforaethol a Phartneriaeth fod y Cyngor wrthi'n ail-edrych ar ei strategaeth ymgynghori ac ymgysylltu corfforaethol yng ngoleuni darpariaethau Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol. Byddai adroddiad ar ganlyniad yr adolygiad yn cael ei gyflwyno i'r Cyngor trwy'r gweithdrefnau adrodd arferol.

·        Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch y cyfrifoldeb i ymgymryd ag asesu lefel y cymorth ar gyfer cymunedau ledled y Sir o dan ddarpariaethau Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, cynghorwyd y Pwyllgor mai'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus oedd â'r cyfrifoldeb hwnnw, ond y byddai angen i'r Cyngor gyfrannu at wneud mwy o waith lleol yn hynny o beth yn y dyfodol.

·        Cyfeiriwyd at dudalen 17 o'r adroddiad ac at y datganiad a oedd yn dweud bod y defnydd o ynni adnewyddadwy wedi mwy na dyblu. Gofynnwyd am eglurhad yngl?n ag a oedd y defnydd cyfan hwnnw, a oedd yn cynrychioli llai na 1% o gyfanswm yr ynni a ddefnyddid, o ganlyniad i fod yr Awdurdod yn cynyddu'r trydan y mae'n ei gynhyrchu ei hun, neu'n cynyddu'r swm a brynir.  Mynegwyd y farn y gellid darparu adroddiad i'r Cyngor ar lefel y trydan a gaiff ei gynhyrchu a'i brynu a pha  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 8.

9.

ADRODDIAD MONITRO PERFFORMIAD AMCANION LLESIANT 2017/18 CWARTER 1 - 1AF EBRILL I'R 30AIN O FEHEFIN 2017 pdf eicon PDF 181 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor Adroddiad Monitro Perfformiad Amcanion Llesiant 2017/18 ar gyfer Chwarter 1 i'w ystyried gyda golwg ar y cyfnod rhwng 1 Ebrill a 30 Mehefin 2017.

 

Rhoddwyd sylw i'r materion canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

·        Mewn ymateb i gwestiwn yn ymwneud â chanran yr eiddo preifat gwag a ddefnyddir unwaith eto, cadarnhaodd y Pennaeth Tai a Diogelu'r Cyhoedd bod gan yr uned un aelod staff yn llai ac y gallai'r Is-adran felly ond canolbwyntio ei hadnoddau ar fynd i'r afael ag achosion â risg uchel.
 Fodd bynnag, roedd achos busnes yn cael ei baratoi er mwyn cynnal penodiad swyddog ychwanegol, a fyddai'n cael ei ystyried fel rhan o baratoadau'r gyllideb sydd i ddod.

·        Mynegwyd pryderon mewn perthynas â'r system Budd-daliadau Credyd Cynhwysol newydd a oedd ar fin cael ei chyflwyno ledled y Deyrnas Unedig, a ph'un a oedd y Cyngor wedi/yn ystyried unrhyw lwybrau a oedd ar gael iddo  gynnig cymorth i'r rheiny yr oedd y system newydd yn effeithio arnynt.

Dywedodd y Pennaeth Tai a Diogelu'r Cyhoedd fod yna bryder cyffredinol ynghylch effaith y system newydd, ac roedd Aelodau Byrddau Gweithredol dros Dai ledled Cymru wedi cael cyfarfod gyda Llywodraeth Cymru yn ddiweddar er mwyn rhoi pwysau gwleidyddol ar y Deyrnas Unedig. Mae'r Llywodraeth yn mynd i ailystyried ei chynigion.

Tra bod sylwadau'n cael eu gwneud yn genedlaethol, roedd yr Awdurdod yn mabwysiadu ymagwedd ragweithiol mewn ymdrech i leihau effaith Credyd Cynhwysol ar ei denantiaid ac ar y posibilrwydd y byddai lefelau'r ôl-ddyledion rhent yn cynyddu. Roedd y rheiny'n cynnwys sefydlu tîm cyn-denantiaeth i gynorthwyo tenantiaid newydd posibl i sicrhau y gallent ddod i gytundeb tenantiaeth ymarferol ynghyd â phenodi swyddog i archwilio'r effaith ledled y Sir.

Cynghorodd y Pennaeth Tai a Diogelu'r Cyhoedd ymhellach y byddai angen ail-edrych ar Gynllun Busnes y Gwasanaethau Tai, gan y rhagwelwyd y gallai lefelau'r ôl-ddyledion godi rhwng 20-30%, er mwyn mynd i'r afael â'r cynnydd posibl hwnnw a allai effeithio ar bolisi'r Cyngor o gynyddu nifer y tai fforddiadwy a ddarperir o fewn y Cyngor.

Mewn ymateb i gwestiwn yngl?n â'r effaith ar y sector rhentu preifat, dywedodd y Pennaeth Tai a Diogelu'r Cyhoedd y gallai landlordiaid preifat fod yn llai parod i dderbyn tenantiaid ar Gredyd Cynhwysol a bod yna ymchwil sy'n awgrymu hynny, ac y byddai unrhyw rai o'u tenantiaid a fyddai'n mynd i ôl-ddyledion yn cael eu troi allan ac yn mynd yn ddibynnol ar y sector cyhoeddus er mwyn cael cartref arall.
 Mewn ymgais i liniaru'r sefyllfa honno, roedd y Cyngor yn cynnig ei wasanaethau i reoli eiddo landlordiaid.

·        Cyfeiriwyd at ymdrechion y Cyngor i waredu ei hystâd ym Mryn Mefys, Llanelli ar y farchnad agored a gofynnwyd am eglurhad ynghylch y sefyllfa bresennol.  Cadarnhaodd y Pennaeth Tai a Diogelu'r Cyhoedd fod pedwar cynnig wedi dod i law a bod y trafodaethau'n mynd rhagddynt ynghylch penodi'r datblygwr o ddewis i ailddatblygu'r ystâd.

·        Cyfeiriwyd at yr arolwg a gynhaliwyd yn ddiweddar o gyflwr adeiladau'r saith cartref gofal sydd gan y Cyngor a gofynnwyd am wybodaeth ynghylch  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 9.

10.

ADRODDIAD BLYNYDDOL Y PWYLLGOR CRAFFU CYMUNEDAU 2016/17 pdf eicon PDF 147 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor ei Adroddiad Blynyddol ar y gwaith a gyflawnwyd yn ystod blwyddyn y cyngor 2016/17 i'w ystyried.  Nodwyd bod yr adroddiad wedi'i baratoi'n unol ag Erthygl 6.2 o Gyfansoddiad y Cyngor a'i fod yn rhoi trosolwg o'r rhaglen waith a'r materion allweddol dan sylw, gan gynnwys hefyd unrhyw faterion a gyfeiriwyd at neu gan y Bwrdd Gweithredol, adolygiadau Gorchwyl a Gorffen a sesiynau datblygu.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

 

11.

BLAENRAGLEN WAITH Y PWYLLGOR CRAFFU CYMUNEDAU AR GYFER 2017/18 pdf eicon PDF 153 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn unol ag Erthygl 6.2 o Gyfansoddiad y Cyngor, bu'r Pwyllgor yn ystyried ei Flaenraglen Waith ar gyfer 2017/18, a ddatblygwyd yn dilyn sesiwn gynllunio anffurfiol y Pwyllgor ym mis Gorffennaf 2017.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod Blaenraglen Waith 2017/18 yn cael ei chymeradwyo.

 

12.

LLOFNODI FEL COFNOD CYWIR COFNODION CYFARFOD Y PWYLLGOR A GYNHALWYD AR Y 20FED GORFFENNAF 2017 pdf eicon PDF 223 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 20 Gorffennaf 2017 yn gofnod cywir.