Agenda a Chofnodion

Cabinet - Dydd Llun, 21ain Mawrth, 2016 10.00 yb

Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir

Cyswllt: Kevin Thomas  01267 224027

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb

 

Estynnodd y Cadeirydd groeso i'r cyfarfod i Mr C. Bryant a Ms L. Tilley a fu'n cysgodi Aelodau o'r Bwrdd Gweithredol fel rhan o wythnos Brentisiaid y Cyngor.

 

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Councillor

Minute No -

Nature of Interest

G. O. Jones

10 - Rhaglen Moderneiddio Addysg - Cynnig i gau Ysgol Bancffosfelen

Mae ei wraig yn gweithio yn Ysgol Llanddarog

L.M. Stephens

10 - Rhaglen Moderneiddio Addysg - Cynnig i gau Ysgol Bancffosfelen

Llywodraethwr yn Ysgol y Fro

P.A. Palmer

15 - Premiymau'r Dreth Gyngor

Perchennog eiddo y gallai'r ddeddfwriaeth effeithio arno

 

 

3.

CWESTIYNAU Â RHYBYDD GAN AELODAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau â rhybudd wedi cael eu cyflwyno gan yr Aelodau.

 

4.

CWESTIYNAU A RHYBYDD GAN Y CYHOEDD

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau â rhybudd wedi dod i law gan y cyhoedd.

 

5.

Y RHAGLEN MODERNEIDDIO ADDYSG - BWRIAD I NEWID YSTOD OEDRAN YSGOL BETWS O 4-11 I 3-11 pdf eicon PDF 404 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad ynghylch cynigion i newid ystod oedran Ysgol Gynradd Betws o 4-11 oed i 3-11 oed ac fe'u hatgoffwyd eu bod yn eu cyfarfod ar 28 Gorffennaf 2014 wedi penderfynu ymgynghori'n ffurfiol ynghylch y cynnig, a gynhaliwyd o 7 Rhagfyr 2015 tan 29 Ionawr 2016, gyda'r ymatebion i hynny'n cael eu cynnwys yn yr adroddiad.

 

Dywedwyd wrth y Bwrdd Gweithredol, gan fod y cynnig wedi dechrau o dan drefniadau blaenorol yr Awdurdod ar gyfer penderfynu ynghylch trefniadaeth ysgolion, y byddai'r Bwrdd a'r Pwyllgor Craffu Addysg a Phlant yn cael cyfle i roi sylwadau ac argymell i'r Cyngor ynghylch a ddylid cyhoeddi Hysbysiad Statudol ai peidio i weithredu'r cynnig, fel sy'n ofynnol o dan Gôd Statudol Trefniadaeth Ysgolion 2013. Roedd y Pwyllgor Craffu Addysg a Phlant yn eu cyfarfod a gynhaliwyd ar 9 Mawrth, 2016 wedi argymell i'r Cyngor fwrw ymlaen â chyhoeddi'r Hysbysiad Statudol.

 

Petai'r Cyngor yn cymeradwyo Cyhoeddi'r Hysbysiad Statudol, byddai'n bwriadu gwneud hynny yr wythnos yn dechrau ar 9 Mai 2016.  Ar ôl hynny, byddai adroddiad gwrthwynebiadau yn crynhoi unrhyw wrthwynebiadau a gafwyd gan randdeiliaid yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor Craffu Addysg a Phlant, i'r Bwrdd Gweithredol, ac yn y pen draw, i'r Cyngor i benderfynu'n derfynol yn ei gylch.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R CYNGOR:-

 

5.1

Bod y sylwadau a gafwyd yn dilyn y cyfnod ymgynghori statudol yn cael eu derbyn;

5.2

Bod Hysbysiad Statudol i weithredu'r cynnig yn cael ei gyhoeddi.

 

6.

Y RHAGLEN MODERNEIDDIO ADDYSG - BWRIAD I NEWID YSTOD OEDRAN YSGOL Y BYNEA O 4-11 I 3-11 pdf eicon PDF 404 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad ynghylch cynigion i newid ystod oedran Ysgol Gynradd Bynea o 4-11 oed i 3-11 oed ac fe'u hatgoffwyd eu bod yn eu cyfarfod ar 28 Gorffennaf 2014 wedi penderfynu ymgynghori'n ffurfiol ynghylch y cynnig, a gynhaliwyd o 7 Rhagfyr 2015 tan 29 Ionawr 2016, gyda'r ymatebion i hynny'n cael eu cynnwys yn yr adroddiad.

 

Dywedwyd wrth y Bwrdd Gweithredol, gan fod y cynnig wedi dechrau o dan drefniadau blaenorol yr Awdurdod ar gyfer penderfynu ynghylch trefniadaeth ysgolion, y byddai'r Bwrdd a'r Pwyllgor Craffu Addysg a Phlant yn cael cyfle i roi sylwadau ac argymell i'r Cyngor ynghylch a ddylid cyhoeddi Hysbysiad Statudol ai peidio i weithredu'r cynnig, fel sy'n ofynnol o dan Gôd Statudol Trefniadaeth Ysgolion 2013. Roedd y Pwyllgor Craffu Addysg a Phlant yn eu cyfarfod a gynhaliwyd ar 9 Mawrth, 2016 wedi argymell i'r Cyngor fwrw ymlaen â chyhoeddi'r Hysbysiad Statudol.

 

Petai'r Cyngor yn cymeradwyo Cyhoeddi'r Hysbysiad Statudol, byddai'n bwriadu gwneud hynny yr wythnos yn dechrau ar 9 Mai 2016. Ar ôl hynny, byddai adroddiad gwrthwynebiadau yn crynhoi unrhyw wrthwynebiadau a gafwyd gan randdeiliaid yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor Craffu Addysg a Phlant, i'r Bwrdd Gweithredol, ac yn y pen draw, i'r Cyngor i benderfynu'n derfynol yn ei gylch.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R CYNGOR:-

 

6.1

Bod y sylwadau a gafwyd yn dilyn y cyfnod ymgynghori statudol yn cael eu derbyn;

6.2

Bod Hysbysiad Statudol i weithredu'r cynnig yn cael ei gyhoeddi.

 

7.

Y RHAGLEN MODERNEIDDIO ADDYSG - BWRIAD I NEWID YSTOD OEDRAN YSGOL PEN-BRE O 4-11 I 3-11 pdf eicon PDF 403 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad ynghylch cynigion i newid ystod oedran Ysgol Gynradd Pen-bre o 4-11 oed i 3-11 oed ac fe'u hatgoffwyd eu bod yn eu cyfarfod ar 28 Gorffennaf 2014 wedi penderfynu ymgynghori'n ffurfiol ynghylch y cynnig, a gynhaliwyd o 7 Rhagfyr 2015 tan 29 Ionawr 2016, gyda'r ymatebion i hynny'n cael eu cynnwys yn yr adroddiad.

 

Dywedwyd wrth y Bwrdd Gweithredol, gan fod y cynnig wedi dechrau o dan drefniadau blaenorol yr Awdurdod ar gyfer penderfynu ynghylch trefniadaeth ysgolion, y byddai'r Bwrdd a'r Pwyllgor Craffu Addysg a Phlant yn cael cyfle i roi sylwadau ac argymell i'r Cyngor ynghylch a ddylid cyhoeddi Hysbysiad Statudol ai peidio i weithredu'r cynnig, fel sy'n ofynnol o dan Gôd Statudol Trefniadaeth Ysgolion 2013. Roedd y Pwyllgor Craffu Addysg a Phlant yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 9 Mawrth, 2016 wedi argymell i'r Cyngor fwrw ymlaen â chyhoeddi'r Hysbysiad Statudol.

 

Petai'r Cyngor yn cymeradwyo Cyhoeddi'r Hysbysiad Statudol, byddai'n bwriadu gwneud hynny yr wythnos yn dechrau ar 9 Mai 2016. Ar ôl hynny, byddai adroddiad gwrthwynebiadau yn crynhoi unrhyw wrthwynebiadau a gafwyd gan randdeiliaid yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor Craffu Addysg a Phlant, i'r Bwrdd Gweithredol, ac yn y pen draw, i'r Cyngor i benderfynu'n derfynol yn ei gylch.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R CYNGOR:-

 

7.1

Bod y sylwadau a gafwyd yn dilyn y cyfnod ymgynghori statudol yn cael eu derbyn;

7.2

Bod Hysbysiad Statudol i weithredu'r cynnig yn cael ei gyhoeddi.

 

 

 

8.

Y RHAGLEN MODERNEIDDIO ADDYSG - BWRIAD I NEWID YSTOD OEDRAN YSGOL PWLL O 4-11 I 3-11 pdf eicon PDF 404 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad ynghylch cynigion i newid ystod oedran Ysgol Gynradd Pwll o 4-11 oed i 3-11 oed ac fe'u hatgoffwyd eu bod yn eu cyfarfod ar 28 Gorffennaf 2014 wedi penderfynu ymgynghori'n ffurfiol ynghylch y cynnig, a gynhaliwyd o 7 Rhagfyr 2015 tan 29 Ionawr 2016, gyda'r ymatebion i hynny'n cael eu cynnwys yn yr adroddiad.

 

Dywedwyd wrth y Bwrdd Gweithredol, gan fod y cynnig wedi dechrau o dan drefniadau blaenorol yr Awdurdod ar gyfer penderfynu ynghylch trefniadaeth ysgolion, y byddai'r Bwrdd a'r Pwyllgor Craffu Addysg a Phlant yn cael cyfle i roi sylwadau ac argymell i'r Cyngor ynghylch a ddylid cyhoeddi Hysbysiad Statudol ai peidio i weithredu'r cynnig, fel sy'n ofynnol o dan Gôd Statudol Trefniadaeth Ysgolion 2013. Roedd y Pwyllgor Craffu Addysg a Phlant yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 9 Mawrth, 2016 wedi argymell i'r Cyngor fwrw ymlaen â chyhoeddi'r Hysbysiad Statudol.

 

Petai'r Cyngor yn cymeradwyo Cyhoeddi'r Hysbysiad Statudol, byddai'n bwriadu gwneud hynny yr wythnos yn dechrau ar 9 Mai 2016. Ar ôl hynny, byddai adroddiad gwrthwynebiadau yn crynhoi unrhyw wrthwynebiadau a gafwyd gan randdeiliaid yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor Craffu Addysg a Phlant, i'r Bwrdd Gweithredol, ac yn y pen draw, i'r Cyngor i benderfynu'n derfynol yn ei gylch.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R CYNGOR:-

 

8.1

Bod y sylwadau a gafwyd yn dilyn y cyfnod ymgynghori statudol yn cael eu derbyn;

8.2

Bod Hysbysiad Statudol i weithredu'r cynnig yn cael ei gyhoeddi.

 

9.

Y RHAGLEN MODERNEIDDIO ADDYSG - CYNNIG I GAU YSGOL GYNRADD LLANEDI pdf eicon PDF 387 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad ynghylch cynigion i gau Ysgol Gynradd Llanedi a oedd, dros y blynyddoedd diwethaf, wedi gweld gostyngiad yn nifer y disgyblion o 33 ar y gofrestr yn Ionawr 2010 i 18 yn Ionawr 2015 a oedd wedi arwain at 51% o leoedd gwag yn yr ysgol.

 

Dywedwyd wrth y Bwrdd, yn dilyn ymadawiad y Pennaeth yn Rhagfyr 2013, bod yr ysgol wedi wynebu heriau ac ansicrwydd o ran cyflawni'r swydd uwch arweinyddiaeth, gyda dirprwy bennaeth dros dro a oedd yn aelod o'r staff presennol yn weithredol ers Medi 2015. Gan ystyried yr uchod, y farn oedd na ellid cynnal y trefniadau presennol gan nad oedd yr ysgol yn gweithredu model addysgol sefydlog a chadarn nac yn gwneud y defnydd gorau o adnoddau, nid oedd unrhyw bosibilrwydd o welliant sylweddol yn nifer y disgyblion hyd y gellir rhagweld yn y dyfodol ynghyd â'r heriau parhaus a wynebai'r ysgol i sicrhau uwch arweinyddiaeth barhaol.

 

Dywedwyd wrth y Bwrdd, o safbwynt addysgol roedd bod â chyn lleied o ddisgyblion yn ei gwneud yn eithriadol o anodd i'r ysgol ddarparu ehangder a dyfnder yn y profiadau cwricwlaidd a chymdeithasol yr oedd ar ddisgyblion o’r oedran hwnnw eu hangen i ddatblygu'n llawn. Felly cynigiwyd y dylai'r ysgol gau ar 31 Awst, 2017 ac y dylai dalgylch Ysgol Llanedi gael ei ailddynodi o 1 Medi, 2017 a'i gynnwys o fewn dalgylch bresennol Ysgol Gynradd yr Hendy.

 

Hysbyswyd y Bwrdd fod y Pwyllgor Craffu Addysg wedi ystyried y cynnig yn ei gyfarfod ar 9 Mawrth a bod nifer o gwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd yn ei gylch. Gan ystyried y sylwadau a ddaeth i law, roedd y Pwyllgor hwnnw wedi argymell (1) cyn gwneud unrhyw argymhellion i'r Bwrdd Gweithredol ynghylch dyfodol yr ysgol, bod adroddiad arall yn cael ei roi gerbron y Pwyllgor yn egluro'r data a gyflwynwyd gan swyddogion a'r honiadau a wnaed gan Gyfeillion Ysgol Llanedi yn ystod eu cwestiynau cyhoeddus a (2) cyn gwneud unrhyw argymhellion i'r Bwrdd Gweithredol ynghylch dyfodol yr ysgol, bod y Pwyllgor yn ymweld ag Ysgol Gynradd Llanedi ac Ysgol Gynradd yr Hendy.

 

O ystyried argymhellion y Pwyllgor Craffu, awgrymwyd bod y Bwrdd Gweithredol yn gohirio ystyried cychwyn yr ymgynghoriad ffurfiol ynghylch y weithdrefn cau ysgol er mwyn i adroddiad pellach gael ei lunio ac er mwyn i'r swyddogion wneud rhagor o ymholiadau. Petai'r Bwrdd yn cymeradwyo'r cynnig, awgrymwyd y dylai'r gohiriad fod yn weithredol am gyfnod o dri mis hyd at ddiwedd Mehefin 2016 a fyddai'n rhoi digon o amser i gyflwyno rhagor o wybodaeth ac i'r swyddogion wneud ymholiadau priodol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

9.1

bod yr ystyriaeth o ran cychwyn ymgynghoriad ffurfiol ynghylch y cynnig i gau Ysgol Gynradd Llanedi yn cael ei ohirio er mwyn caniatáu rhagor o amser i swyddogion egluro'r wybodaeth a roddwyd i'r Pwyllgor Addysg a Gwasanaethau Plant drwy gyfrwng cwestiynau gan y cyhoedd ac er mwyn i swyddogion adolygu a gwerthuso'r cyfryw wybodaeth,

 

9.2

bod cyfnod o dri mis, hyd at ddiwedd Mehefin 2016, yn  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 9.

10.

Y RHAGLEN MODERNEIDDIO ADDYSG - CYNNIG I GAU YSGOL GYNRADD BANCFFOSFELEN pdf eicon PDF 388 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

(NODER: Roedd y Cynghorwyr G.O. Jones ac L.M. Stephens wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach a gadawsant y Siambr tra oedd yr eitem yn cael ei thrafod ac ni wnaethant gymryd rhan yn y penderfyniad ynghylch yr eitem)

 

Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad ynghylch cynigion i gau Ysgol Gynradd Bancffosfelen a oedd, dros y blynyddoedd diwethaf, wedi gweld gostyngiad yn nifer y disgyblion o 48 ar y gofrestr yn Ionawr 2011 i 35 yn Ionawr 2016 a oedd wedi arwain at 64% o leoedd gwag yn yr ysgol.

 

Dywedwyd wrth y Bwrdd nad oedd yr ysgol wedi cael pennaeth parhaol ers ymadawiad y Pennaeth yn y Pasg 2014, ond bod trefniant anffurfiol ar waith rhwng corff llywodraethu Pontyberem a Bancffosfelen sef bod Pennaeth Pontyberem yn cyflenwi'n rhan-amser yno.  Gan ystyried yr uchod, y farn oedd na ellid cynnal y trefniadau presennol gan nad oedd yr ysgol yn gweithredu model addysgol sefydlog a chadarn nac yn gwneud y defnydd gorau o adnoddau, nid oedd unrhyw bosibilrwydd o welliant sylweddol yn nifer y disgyblion hyd y gellir rhagweld yn y dyfodol ynghyd â'r heriau parhaus a wynebai'r ysgol i sicrhau uwch arweinyddiaeth barhaol.

 

Dywedwyd wrth y Bwrdd, o safbwynt addysgol roedd bod â chyn lleied o ddisgyblion yn ei gwneud yn eithriadol o anodd i'r ysgol ddarparu ehangder a dyfnder yn y profiadau cwricwlaidd a chymdeithasol yr oedd ar ddisgyblion o’r oedran hwnnw eu hangen i ddatblygu'n llawn. Felly cynigiwyd y dylai'r ysgol gau ar 31 Awst, 2017 ac y dylai dalgylch Ysgol Bancffosfelen gael ei ailddynodi o 1 Medi, 2017 a'i gynnwys o fewn dalgylch bresennol Ysgol Gynradd Pontyberem.

 

Hefyd dywedwyd, ar ôl rhannu'r ymgynghoriad drafft â'r aelod lleol, Cadeirydd Corff Llywodraethu Ysgolion Cynradd Bancffosfelen/Pontyberem a Phennaeth Pontyberem, bod Corff Llywodraethu Bancffosfelen wedi llunio adroddiad dwyieithog manwl gydag opsiwn ychwanegol i'w ystyried (fel y manylwyd arno yn yr adroddiad). Yn ogystal, roedd sylwadau wedi dod i law oddi wrth Gadeirydd y Llywodraethwyr a Phennaeth Ysgol Pontyberem ynghyd â 23 llythyr yn gwrthwynebu'r cynnig.

 

Hysbyswyd y Bwrdd fod y Pwyllgor Craffu Addysg wedi ystyried y cynnig yn ei gyfarfod ar 9 Mawrth ac wedi argymell (1) cyn gwneud unrhyw argymhellion i'r Bwrdd Gweithredol ynghylch dyfodol yr ysgol, bod y Pwyllgor yn cael cyflwyniad gan Gorff Llywodraethu Ysgol Bancffosfelen ar ei chynnig i sefydlu ymddiriedolaeth elusennol gymunedol ac ail-gategoreiddio Bancffosfelen fel ysgol gwirfoddol a gynorthwyir a (2) cyn gwneud unrhyw argymhellion i'r Bwrdd Gweithredol ynghylch dyfodol yr ysgol, bod y Pwyllgor yn ymweld ag ysgolion Bancffosfelen, Pontyberem, Y Fro a Llanddarog.

 

Gan ystyried argymhellion y Pwyllgor Craffu a'i benderfyniad blaenorol i ohirio ystyried cychwyn ymgynghoriad ffurfiol ynghylch gweithdrefn cau Ysgol Llanedi, awgrymwyd bod yr ymgynghori ynghylch Bancffosfelen yn cael ei ohirio hefyd am gyfnod o dri mis hyd at ddiwedd Mehefin 2016 a fyddai'n rhoi digon o amser i gyflwyno rhagor o wybodaeth ac i'r swyddogion wneud ymholiadau priodol.  

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

 

10.1

bod yr ystyriaeth o ran cychwyn ymgynghoriad ffurfiol ynghylch y cynnig i gau Ysgol Bancffosfelen yn  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 10.

11.

Y RHAGLEN MODERNEIDDIO ADDYSG - CYNNIG I GAU YSGOL GYNRADD LLANMILOE, YSGOL GYNRADD WIRFODDOL RHEOLEDIG TREMOILET AC YSGOL WIRFODDOL RHEOLEDIG TALACHARN, A CHREU YSGOL ARDAL NEWYDD pdf eicon PDF 456 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad ynghylch cynigion i gau Ysgol Gynradd Gymunedol Llanmilo, Ysgol Gynradd Wirfoddol a Reolir Tremoilet ac Ysgol Gynradd Wirfoddol a Reolir Talacharn a chreu ysgol ardal newydd.

 

Dywedwyd wrth y Bwrdd fod llawer o ysgolion cynradd y Cyngor wedi gweld gostyngiad yn niferoedd y disgyblion yn y blynyddoedd diwethaf, a bod yr ysgolion uchod i gyd yn tystio i'r tuedd hwnnw, ac yn seiliedig ar y data presennol oedd ar gael ni ragwelwyd y byddai newid sylweddol yn hynny o beth ac y byddai gostyngiad yn niferoedd y disgyblion ar draws y tair ysgol yn creu rhagor o heriau addysgol ac ariannol. Yn benodol, o ran cynnal cymarebau disgybl/athro er mwyn darparu cwricwlwm effeithiol ar gyfer yr holl ddysgwyr.

 

Dywedwyd er bod amrywiaeth o drefniadau 'ffederasiwn llac' wedi bodoli rhwng yr ysgolion dros gyfnod, roedd yn amlwg bellach nad oedd model presennol y ddarpariaeth yn yr ardal yn rhoi llwyfan i greu sefydlogrwydd addysgol a gwella'r defnydd gorau o adnoddau.   Gan nad oedd unrhyw bosibilrwydd o welliant sylweddol yn niferoedd y disgyblion yn yr ardal hyd y gellir rhagweld yn y dyfodol ynghyd â'r heriau parhaus a wynebai dwy o'r ysgolion i sicrhau uwch arweinyddiaeth barhaol, ystyrid na fyddai'n ddichonadwy cynnal y trefniadau presennol. Felly roedd yn cael ei gynnig y byddai'r tair ysgol yn cau ar 31 Awst 2017 ac y byddai Ysgol Wirfoddol a Reolir 3-11 oed newydd yn agor ar 1 Medi 2017 gan ddefnyddio safle ac adeiladau ysgol bresennol Wirfoddol a Reolir Talacharn ar gyfer y tair ysgol a chyfuno eu dalgylchoedd i greu dalgylch newydd ar gyfer yr ysgol newydd.

 

Dywedwyd wrth y Bwrdd Gweithredol fod y Pwyllgor Craffu Addysg a Phlant wedi cymeradwyo'r cynnig yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 9 Mawrth.

 

Roedd y Bwrdd Gweithredol wrth ystyried y cynnig wedi rhoi ystyriaeth i'w benderfyniadau blaenorol i ohirio ystyried gweithredu ymgyngoriadau ffurfiol i gau ysgolion Llanedi a Bancffosfelen ac roedd yn ystyried, er cysondeb, y dylid hefyd ohirio'r cynnig i gau ysgolion Llanmilo, Tremoilet a Thalacharn.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL bod yr ystyriaeth o ran cychwyn ymgynghoriad ffurfiol ynghylch y cynnig i gau Ysgol Gynradd Gymunedol Llanmilo, Ysgolion Cynradd Gwirfoddol a Reolir Tremoilet a Thalacharn yn cael ei ohirio am gyfnod o dri mis, hyd at ddiwedd Mehefin 2016, er mwyn casglu a gwerthuso rhagor o wybodaeth ac yna bod swyddogion yn cyflwyno adroddiad pellach i'r Pwyllgor Craffu Addysg a Gwasanaethau Plant ac i'r Bwrdd Gweithredol cyn gynted ag y byddai'n ymarferol ar ôl hynny.

12.

PERFFORMIAD A CHYRHAEDDIAD YSGOLION 2014/15 pdf eicon PDF 395 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad a fanylai ar berfformiad a chyflawniad ysgolion Sir Gaerfyrddin yn 2014/15 mewn perthynas â'r pedair adran benodol ganlynol:-

 

·        Adran 1 – Safonau – Ein cyflawniad am 2014/15

·        Adran 2 – Canlyniadau Arolygiadau Ysgolion

·        Adran 3 - Datblygu gwerthoedd a sgiliau ar gyfer dysgu gydol oes

·        Adran 4 – Egluro Jargon.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

12.1

nodi cynnwys yr adroddiad a'r materion allweddol oedd yn deillio o'r dadansoddiad o'r data meintiol ac ansoddol mewn perthynas â pherfformiad yr ysgolion yn ystod blwyddyn academaidd 2014/15.

12.2

cymeradwyo'r meysydd blaenoriaeth ar gyfer gwella yn 2015/16 fel y manylwyd arnynt yn yr adroddiad.

 

13.

ADRODDIAD MONITRO CYLLIDEB REFENIW Y CYNGOR pdf eicon PDF 610 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried yr adroddiad monitro ynghylch y gyllideb refeniw ar gyfer y cyfnod o 1 Ebrill, 2015 hyd at 31 Rhagfyr, 2015 a roddai'r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa gyllidebol fel yr oedd ar 31 Rhagfyr, 2015 mewn perthynas â 2015/16.

 

Yn gyffredinol, roedd yr adroddiad yn rhagweld y byddai tanwariant diwedd blwyddyn o £1,384k ar gyllideb refeniw net yr Awdurdod ac y byddai gorwariant o £1,126k ar lefel adrannol. Rhagwelid tanwariant o £2.09m yn y Cyfrif Refeniw Tai.

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

13.1      derbyn yr Adroddiad Monitro ynghylch y Gyllideb;

 

13.2     bod y Prif Swyddogion a'r Penaethiaid Gwasanaeth yn adolygu eu sefyllfaoedd cyllidebol yn feirniadol ac yn cymryd camau priodol er mwyn cadw'r gwariant yn unol â'r gyllideb a ddyrannwyd.

 

14.

DIWEDDARU RHAGLEN GYFALAF 2015-16 pdf eicon PDF 439 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad oedd yn rhoi diweddariad ynghylch gwariant y Rhaglen Gyfalaf yn erbyn cyllideb 2015/16, fel yr oedd ar 31 Rhagfyr, 2015. Roedd yr adroddiad yn cynnwys manylion am y prif amrywiannau a throsglwyddiadau i'w cymeradwyo.

 

Yn ateb i gwestiwn gan y Cynghorydd D. Cundy ynghylch y sefyllfa bresennol o ran cynllun Stryd Cyfleoedd, Llanelli dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau fod y Cyngor yn anelu at weithredu'r prosiect cyn gynted â phosibl ac y byddai'n gwneud y defnydd eithaf o gyllid allanol yn y lle cyntaf. Roedd y cyllid grant o £400k ar gyfer y prosiect gan Lywodraeth Cymru yn cael ei ddefnyddio i brynu eiddo yn Stryd Stepney a fyddai'n cael ei gwblhau erbyn diwedd y flwyddyn. Ar ôl hynny, byddai cyllid y Cyngor yn cael ei ddefnyddio i hwyluso adnewyddu'r eiddo hynny. Yn ogystal, dywedodd fod y Cyngor, ar ôl llunio'r adroddiadau monitro ynghylch y gyllideb, wedi ennill cyllid grant ychwanegol gan Lywodraeth Cymru i'w ddefnyddio ar gyfer eiddo yn Stryd y Farchnad.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod yr adroddiad diweddaru ynghylch y rhaglen gyfalaf yn cael ei dderbyn a bod y trosglwyddiadau a amlinellir yn yr adroddiad yn cael eu cymeradwyo.

 

15.

PREMIYMAU'R DRETH GYNGOR pdf eicon PDF 311 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

(NODER: Roedd y Cynghorydd P.A. Palmer wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach a gadawodd y Siambr tra oedd yr eitem yn cael ei thrafod ac ni wnaeth gymryd rhan yn y penderfyniad ynghylch yr eitem)

 

Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad ar ddarpariaethau Deddf Tai 2014 a oedd yn cyflwyno pwerau, a fyddai'n dod i rym o 1 Ebrill 2017, i awdurdodau lleol weithredu Premiwm y Dreth Gyngor (neu ordal) o hyd at 100% am y canlynol:

 

·        preswylfeydd gwag tymor hir mewn perthynas ag eiddo oedd wedi bod yn wag am o leiaf 12 mis lle codwyd 50% o'r tâl meddiant arferol ar y perchnogion ar hyn o bryd ar ôl cyfnod di-dâl cychwynnol o 6 mis a,

·        preswylfeydd yn y categori 'ail gartrefi' sydd â dodrefn ynddynt ond nad ydynt yn gartrefi arferol megis ail gartrefi neu gartrefi gwyliau. Polisi presennol y Cyngor ynghylch hynny oedd codi 100% o'r tâl meddiant arferol ar berchnogion eiddo o'r fath h.y. dim disgownt.

 

Dywedwyd, o dan y pwerau newydd ar gyfer Tai Gwag Tymor Hir, y byddai ond yn bosibl cyfrif cyfnod gwag gofynnol o 12 mis o Ebrill 2016 gydag unrhyw bremiwm yn cael ei ychwanegu ar ôl 1 Ebrill 2017. O ran ail gartrefi, roedd y darpariaethau newydd yn caniatáu i awdurdodau fabwysiadu polisi lle byddai modd cynyddu'r dreth gyngor a fyddai'n daladwy hyd at 100%, gan arwain at bosibilrwydd y byddai'n rhaid i'r person atebol dalu hyd at ddwywaith y tâl meddiant arferol. Fodd bynnag, yn wahanol i dai gwag tymor hir, ni fyddai penderfyniad polisi a wnaed yn 2016/17 yn dod i rym tan 2018/19.

 

Dywedwyd wrth y Bwrdd, o ran tai gwag tymor hir ac ail gartrefi, na fyddai'r Cyngor yn gallu gwneud unrhyw benderfyniad polisi o ran gweithredu Premiwm y Dreth Gyngor heb yn gyntaf gynnal asesiad o'r effaith ar gydraddoldeb ac ymgynghoriad priodol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r adroddiad a bod y Cyngor yn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus ac asesiad o'r effaith ar gydraddoldeb cyn penderfynu ar ei bolisi ynghylch Premiymau'r Dreth Gyngor.

16.

GWASANAETHAU CYMDEITHASOL A DEDDF (CYMRU) LLES 2014 - POLISI A DIWYGIADAU GWEITHDREFN I GODI TÂL AM WASANAETHAU I OEDOLION pdf eicon PDF 255 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad ar ddarpariaethau'r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) a fyddai'n dod i rym o 6 Ebrill 2016 oedd yn darparu fframwaith statudol i gyflawni ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ganolbwyntio ar lesiant, hawliau a chyfrifoldebau.

 

Dywedwyd wrth y Bwrdd fod Llywodraeth Cymru, yn Nhachwedd 2015, wedi pasio rheoliadau a Chôd Ymarfer ynghylch Rhan 5 o'r Ddeddf oedd yn ymwneud yn benodol â chodi tâl ar ddefnyddwyr gwasanaethau am y gwasanaethau a gawsant. Er bod cyhoeddiad hwyr y rheoliadau a'r Côd Ymarfer wedi golygu bod yr amser yn brin o ran gweithredu'r newidiadau angenrheidiol fel rhan o'r Ddeddf, roedd yr adroddiad yn rhoi manylion am y prif feysydd oedd yn ymwneud yn benodol ag asesiadau ariannol a chodi tâl, yr oedd angen eu hystyried ar y cychwyn. Felly cynigiwyd y byddai polisi diwygiedig newydd, a fyddai'n dwyn ynghyd elfennau o'r polisïau presennol, yn ogystal ag unrhyw newidiadau o'r adroddiad, yn cael eu cyflwyno mewn cyfarfod yn y flwyddyn ariannol nesaf i'w cymeradwyo.

 

Yn ateb i bryder a fynegwyd gan y Cynghorydd Cundy, sef y gallai geiriad argymhelliad 8 arwain at rai defnyddwyr gwasanaeth yn cael cynnig dau gartref gofal yn unig yn unrhyw le yn y Sir a fyddai'n golygu y byddent dan anfantais daearyddol, cadarnhawyd y byddai modd ailedrych ar y geiriad. Hefyd eglurwyd, cyn y byddai lleoliad yn cael ei gynnig i unigolyn, y byddai'n rhaid cynnal asesiad llawn o anghenion ar sail amgylchiadau personol yr unigolyn.

 

Hefyd dywedodd y Cyfarwyddwr Cymunedau, er bod amgylchiadau pob unigolyn yn unigryw, roedd yn bwysig bod y polisi'n adlewyrchu'r broses asesu a fyddai'n cael ei gynnwys yn yr adolygiad i'w gyflwyno i gyfarfod yn y dyfodol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:

 

16.1

Bod Sir Gaerfyrddin yn parhau i godi tâl am leoliadau mewn cartref gofal heblaw am y rhai oedd wedi cael eu heithrio gan y Ddeddf ac y byddai'n codi tâl am bob lleoliad mewn cartref gofal o ddiwrnod cyntaf y lleoliad.

16.2

Byddai'r tâl yn seiliedig ar adennill cost y lleoliad yn llawn, oni bai bod y preswylydd yn cael ei asesu'n ariannol yn unol â'r ddeddfwriaeth, y rheoliadau, y côd a'r polisi lleol i dalu llai na'r gost lawn. Yn yr achos hwnnw byddai'r tâl asesedig yn cael ei godi ar y preswylydd yn unol â'i allu i dalu.

16.3

Byddai'r gost fesul noson ar gyfer pob lleoliad tymor byr (gan gynnwys gofal seibiant a gwelyau hyblyg) yn seiliedig ar adennill cost y lleoliad yn llawn.Yn achos lleoliadau mewn cartref gofal Awdurdod Lleol y tâl a godir fyddai'r tâl safonol. Yn achos lleoliadau mewn cartref gofal yn y sector annibynnol y tâl a godir fyddai'r swm dan gontract. (Byddai defnyddwyr gwasanaeth yn talu mwyafswm o £60 yr wythnos a byddai nifer fawr yn talu llawer llai neu'n derbyn y gwasanaeth am ddim).

16.4

Bod y rheolau asesu lleoliadau dibreswyl yn cael eu rhoi ar waith mewn perthynas ag arosiadau yr aseswyd ar y dechrau nad oeddynt yn fwy nag 8 wythnos ar unrhyw achlysur ac  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 16.

17.

GORCHYMYN GWARCHOD MANNAU CYHOEDDUS (RHEOLAETHAU CWN SIR GAERFYRDDIN) pdf eicon PDF 742 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad ynghylch cyflwyno Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus (Rheolaethau Sir Gaerfyrddin ynghylch C?n ) a chawsant eu hatgoffa eu bod yn eu cyfarfod ar 13 Gorffennaf 2015 wedi penderfynu cychwyn y broses gwneud gorchymyn statudol yn amodol ar ymgynghoriad ffurfiol a gynhaliwyd rhwng 19 Hydref ac 14 Rhagfyr 2015, ac y cafwyd cefnogaeth ysgubol i'r cynigion.

 

Dywedwyd wrth y Bwrdd, petai'n cymeradwyo gwneud y Gorchymyn, o dan y Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014, y byddai'n disodli'r rheolaethau baw c?n presennol a orfodir o dan Ddeddf (Baeddu Tir) gan G?n 1996 gyda'r tair prif elfen fel a ganlyn:-

 

1.     Gofyniad sy'n mynnu bod pobl yn glanhau ar ôl eu ci os byddai'r ci yn baeddu tir cyhoeddus ac y byddai hynny'n berthnasol i bob tir yn y sir y gall y cyhoedd gael mynediad iddo, 

2.     Gofyniad sy'n mynnu bod pobl yn cadw eu ci ar dennyn nad yw'n hwy na 2 fetr pan roddir cyfarwyddyd iddynt wneud hynny gan swyddog awdurdodedig y Cyngor, ac y byddai hynny'n berthnasol i bob tir yn y sir y gall y cyhoedd gael mynediad iddo,

3.     Gofyniad sy'n gwahardd c?n o'r holl lecynnau chwarae awyr agored caeëdig i blant yn y Sir.

 

Hefyd tynnwyd sylw'r Bwrdd at yr argymhellion yn yr adroddiad yn ymwneud â thalu Hysbysiad Cosb Benodedig a dywedwyd bod y cyfeiriad at 14 a 10 diwrnod yn y drefn honno yn golygu diwrnodau calendr.

 

Cyfeiriwyd at dudalen 398 o'r adroddiad ac at yr eithriad i'r Gorchymyn ar gyfer c?n gweithio, yn benodol y rhai oedd yn cael eu defnyddio'n gyfreithlon at ddibenion hela. Tynnwyd sylw'r Bwrdd at gynulliad Helfa Sir Gaerfyrddin yn Nhalacharn yn ddiweddar ac at y baw c?n a oedd ar y strydoedd o ganlyniad. Awgrymwyd y gellid cysylltu â'r helfa i weld a fyddai'n cytuno o'i gwirfodd i lanhau'r strydoedd ar ôl helfa, neu, a fyddai modd iddi ddod i gytundeb â'r Cyngor i ymgymryd â'r gwaith glanhau. Hysbyswyd y Bwrdd yr ymchwilir i'r mater.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:

 

17.1

Derbyn yr ymatebion a gafwyd o'r ymgynghoriad cyhoeddus.

17.2

Bod y Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus sydd ynghlwm wrth yr adroddiad (Atodiad 1) yn dod i rym ar 1 Gorffennaf, 2016

17.3

Cymeradwyo cosb benodedig o £100 fydd yn berthnasol i dorri amodau'r Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus, i'w thalu cyn pen 14 diwrnod calendr (yn amodol ar y cynllun ad-dalu'n gynnar)

17.4

Cymeradwyo cynllun ad-dalu'n gynnar lle gellid talu cosb benodedig o £50, os byddai'r tâl yn dod i law cyn pen 10 diwrnod calendr

 

18.

ADRODDIAD ASESU CORFFORAETHOL 2015 – CYNLLUN GWEITHREDU AR Y CYNIGION AR GYFER GWELLA 2016/17 pdf eicon PDF 435 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried Cynllun Gweithredu Gwelliant 2016/17 oedd yn deillio o Asesiad Corfforaethol Swyddfa Archwilio Cymru o Gyngor Sir Caerfyrddin a gynhaliwyd yn ystod Hydref 2015 a roddai ddatganiad sefyllfa o alluedd a medr yr awdurdod i gyflawni gwelliant parhaus.

 

Nodwyd bod Cyngor Sir Caerfyrddin wedi cael canmoliaeth uchel gan y Swyddfa Archwilio am feddu ar weledigaeth oedd wedi sefydlu'n dda ac oedd yn cael ei sbarduno yn ei blaen gan arweinyddiaeth ar y cyd gadarn o du'r Bwrdd Gweithredol a'r Tîm Rheoli Corfforaethol a bod ethos cryf o welliant parhaus yn treiddio trwy bopeth a wna'r Cyngor. Yn ogystal, roedd yr Archwilydd wedi gwneud chwe chynnig ar gyfer gwelliant, fel y manylwyd arnynt yn yr adroddiad ac y lluniwyd y cynllun gweithredu i fynd i'r afael â'r meysydd hynny a fyddai'n cael eu hymgorffori yng Nghynllun Gwella 2016/17.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

18.1

Cymeradwyo'r Cynllun Gweithredu a luniwyd i fynd i'r afael â'r Cynigion ar gyfer Gwella a wnaed yn Adroddiad Asesiad Corfforaethol 2015,

18.2

Monitro'r Cynllun Gweithredu trwy gyfrwng y System Monitro Perfformiad a Gwella (PIMS) i'r Bwrdd Gweithredol bob hanner blwyddyn ochr yn ochr â'r dangosfwrdd ar-lein ar gyfer monitro perfformiad.

 

19.

RHAGLEN WAITH GYCHWYNNOL Y BWRDD GWEITHREDOL 2016/17 pdf eicon PDF 244 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Bwrdd Gweithredol, yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor, yn ystyried ei Flaenraglen Waith a luniwyd drwy gydgysylltu â'r holl adrannau a Rheolwr Busnes y Bwrdd Gweithredol a oedd yn tynnu sylw at y prif benderfyniadau polisi a chyllidebol oedd i'w gwneud dros y 12 mis nesaf. Nodwyd y byddai'r rhaglen yn dal i gael ei hadolygu a'i chyhoeddi ddwywaith y flwyddyn gan sicrhau y byddai rhaglen gyfredol ar waith yn barhaus.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod y Flaenraglen Waith a ddiweddarwyd yn cael ei chymeradwyo i'w chyhoeddi.

 

20.

LLOFNODI FEL COFNOD CYWIR COFNODION CYFARFOD Y BWRDD GWEITHREDOL A GYNHALWYD AR Y 22AIN CHWEFROR, 2016 pdf eicon PDF 386 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion cyfarfod y Bwrdd Gweithredol a gynhaliwyd ar 22ain Chwefror 2016 yn gofnod cywir.

 

22.

GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i newidiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod tra oedd yr eitemau canlynol yn cael eu hystyried, gan fod yr adroddiadau yn cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym Mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf

 

23.

TIR CYD-FENTRAU

Cofnodion:

Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad ynghylch cynigion i ryddhau datblygwr o'i rwymedigaethau o ran datblygu darn o dir o fewn Cyd-fenter Llanelli

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

23.1

Rhyddhau y datblygwr tir yng Nghyd-fenter Llanelli o rwymedigaethau'r cytundeb datblygu presennol yn unol â'r telerau y manylwyd arnynt yn yr adroddiad, yn amodol ar Gymeradwyaeth Llywodraeth Cymru.

23.2

Symud ymlaen o ran darparu datblygiad arall ar y safle, ar y cyd â  Llywodraeth Cymru.

 

24.

GORFODI GORCHMYNION COSTAU

Cofnodion:

(NODER: Gadawodd yr holl swyddogion, ac eithrio Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol, Pennaeth Gweinyddiaeth a’r Gyfraith a'r Swyddog Gwasanaethau Democrataidd y cyfarfod ar gyfer yr eitem hon)

 

Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad ynghylch gorfodi costau a ddyfarnwyd i'r Cyngor gan yr Uchel Lys.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

24.1

Bod y Cyngor yn mynd ar drywydd y costau a ddyfarnwyd iddo gan yr Uchel Lys.

24.2

Gohirio ystyried mynd ar drywydd y costau a ddyfarnwyd yn y gwrth-hawliad.