Mae Cyd-bwyllgor Llywodraethu Partneriaeth Pensiwn Cymru yn goruchwylio cyfuno buddsoddiadau cronfeydd yr wyth Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol yng Nghymru. Mae'r Pwyllgor Llywodraethu yn cynnwys un aelod etholedig a enwebir o bob un o'r aelod-awdurdodau, sef:
Sir Gar
Abertawe
Caerdydd
Y Fflint
Gwynedd
Powys
Rhondda Cynon Taf
Torfaen
Mae Cyd-bwyllgor Partneriaeth Pensiwn Cymru yn cael ei weinyddu gan Gyngor Sir Caerfyrddin ac yn cwrdd o leiaf bedair gwaith y flwyddyn yn un o swyddfeydd yr aelod-awdurdodau.
NODWCH, YN DEBYNOL AR DARPARIAETH POB AWDURDOD LLEOL, EFALLAI BYDD Y WE-DDARLLENIAD YN CAEL EI DDARLLEDU YN IAITH Y LLAWR YN UNIG
Wefan Partneriaeth Pensiwn Cymru
https://www.partneriaethpensiwncymru.org/