Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Cronfa Bensiwn Dyfed - Dydd Mercher, 27ain Mawrth, 2024 2.00 yp

Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Kevin Thomas  01267 224027

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb.

 

Croesawodd y Cadeirydd y Cynghorydd P Cooper i'w gyfarfod cyntaf o Bwyllgor Cronfa Bensiwn Dyfed yn dilyn ei benodiad diweddar gan y Cyngor i'r Pwyllgor.

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd datganiadau o fuddiant personol.

3.

COFNODION CYFARFOD Y PWYLLGOR A GYNHALIWYD AR Y 15 TACHWEDD 2023 pdf eicon PDF 118 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 15 Tachwedd 2023 yn gywir.

4.

COFNODION BWRDD PENSIWN CRONFA BENSIWN DYFED 22 IONAWR 2024 pdf eicon PDF 108 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi cofnodion cyfarfod Bwrdd Pensiwn Cronfa Bensiwn Dyfed a gynhaliwyd ar 22 Ionawr 2024.

5.

ADRODDIAD BWRDD PENSIWN CRONFA BENSIWN DYFED 22 IONAWR 2024 pdf eicon PDF 107 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor adroddiad Bwrdd y Gronfa Bensiwn wedi'i gyflwyno gan Gadeirydd Bwrdd Pensiwn Cronfa Bensiwn Dyfed a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am yr eitemau a drafodwyd yng nghyfarfod y Bwrdd ar 22 Ionawr 2024.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ar fuddsoddiadau mewn tanwydd ffosil, cadarnhaodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol fod y portffolio buddsoddi ar daith tuag at sicrhau gostyngiad mewn amlygiad carbon.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod Adroddiad Bwrdd Pensiwn Cronfa Bensiwn dyfed ar gyfer y cyfarfod a gynhaliwyd ar 22 Ionawr 2024 yn cael ei dderbyn.

6.

MONITRO CYLLIDEB 1 EBRILL 2023 - 31 RHAGFYR 2023 pdf eicon PDF 103 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor adroddiad Monitro Cyllideb Cronfa Bensiwn Dyfed a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa gyllidebol ddiweddaraf o ran blwyddyn ariannol 2023/2024.Nodwyd mai'r sefyllfa bresennol, ar 31 Rhagfyr 2023, oedd tanwariant o gymharu â chyllideb o £1.8m.

 

Tra oedd gorwariant o £2.8m yn cael ei ragweld ar wariant, o ganlyniad i fuddion ymddeoliad ar ffurf cyfandaliadau y rhagwelid y byddent £3.9m yn fwy na’r gyllideb, adroddwyd bod yna drosglwyddiadau allan o £715k yn fwy na’r gyllideb a chostau rheoli o £310k yn fwy na’r gyllideb. Yn gwrthbwyso'r gorwariannau hyn oedd pensiynau taladwy lle rhagwelid tanwariant o £1.1m a buddion marwolaeth ar ffurf cyfandaliadau lle rhagwelid tanwariant o £1m. Mewn perthynas â phensiynau taladwy, dywedwyd adeg gosod y gyllideb ar gyfer 2023-24 bod cynnydd o 2.2% wedi'i gynnwys i amcangyfrif y pensiynau ychwanegol a dalwyd ar aelodau newydd y pensiwn am y flwyddyn a hyd yma roedd y cynnydd gwirioneddol mewn aelodau pensiwn yn agosach at 1%.

 

O ran incwm, rhagwelwyd y byddai cyfraniadau'n £4.6m yn fwy na'r gyllideb, sydd i'w briodoli'n bennaf i'r ffaith bod tâl pensiynadwy gweithwyr yn uwch na'r disgwyl ar adeg gosod y gyllideb oherwydd codiad cyflog uwch. At hynny, derbyniwyd incwm ychwanegol uwch na'r disgwyl yn y gyllideb gan Gyflogwyr. Rhagwelwyd y byddai trosglwyddiadau i mewn yn fwy na'r gyllideb o £1.8k a rhagwelwyd y byddai incwm buddsoddi £1.8m yn is na'r gyllideb.

 

Amcangyfrifwyd mai cyfanswm y gwariant cyffredinol oedd £125.6m ac mai cyfanswm yr incwm oedd £127.4m, gan arwain i sefyllfa llif arian gadarnhaol o £1.8m.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod Adroddiad Monitro Cyllideb Cronfa Bensiwn Dyfed ar gyfer y cyfnod 1 Ebrill 2023 i 31 Rhagfyr 2023 yn cael ei dderbyn.

7.

CYLLIDEB CRONFA BENSIWN DYFED 2024-2025 pdf eicon PDF 103 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried Cyllideb Cronfa Bensiwn Dyfed ar gyfer 2024-25 a nododd fod cyllideb gwariant o £133.6m a chyllideb incwm o £133.6m wedi'u gosod, gan arwain i gyllideb net sero a rhoi hyblygrwydd i'r Gronfa ddefnyddio incwm buddsoddi ar sail gofynion cyllidebol.

 

O ran lefelau gwariant, nododd y Pwyllgor fod y buddion sydd i'w talu wedi cael eu hamcangyfrif i fod yn £118m a oedd yn cynnwys darpariaeth ar gyfer cynnydd o 6.7% yn y pensiynau, ar sail Mynegai Prisiau Defnyddiwr mis Medi 2023, ynghyd â chynnydd o 1.5% ar gyfer aelodau newydd y pensiwn ac aelodau gohiriedig. Yn ogystal, roedd cynnydd yn y gyllideb hefyd wedi’i ddyrannu ar gyfer buddion ymddeoliad ar ffurf cyfandaliadau a thaliadau i ymadawyr .

 

Amcangyfrifwyd bod treuliau rheoli yn £11.9m, ac o blith hwn roedd £9.4m wedi cael ei glustnodi ar gyfer ffioedd rheolwyr buddsoddi. 

 

Nodwyd yr amcangyfrifwyd bod cyfraniadau'n £104.5m gan gynnwys cyfraniadau cyflogwyr o £76.1m a chyfraniadau gweithwyr o £28.4m. Newidiwyd cyfraddau cyfraniadau i gyflogwyr er mwyn adlewyrchu canlyniadau prisiad tair blynedd 2022. Roedd 4% ychwanegol hefyd wedi cael eu cynnwys mewn dyfarniadau cyflog am y flwyddyn.

 

Nodwyd ymhellach yr amcangyfrifwyd mai'r incwm ar fuddsoddiadau oedd £25.7m i gynnal cyllideb niwtral yn ariannol felly nid oedd y gronfa'n cadw arian dros ben y gellid ei fuddsoddi.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo Cyllideb Cronfa Bensiwn Dyfed ar gyfer 2024-25. 

8.

CYSONI ARIAN PAROD FEL YR OEDD AR 31 RHAGFYR 2023 pdf eicon PDF 100 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried yr adroddiad Cysoni Arian Parod a roddai'r wybodaeth ddiweddaraf am sefyllfa ariannol Cronfa Bensiwn Dyfed.  Nodwyd ar 31 Rhagfyr 2023 fod Cyngor Sir Caerfyrddin yn cadw £15.4m o arian parod ar ran y Gronfa ar gyfer gofynion llif arian uniongyrchol i dalu pensiynau, cyfandaliadau a chostau rheoli buddsoddiadau.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn adroddiad Cysoni Arian Parod Cronfa Bensiwn Dyfed.

9.

ADRODDIAD GWEINYDDU PENSIYNAU pdf eicon PDF 106 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor adroddiad a roddai ddiweddariad ar Weinyddu Pensiynau. Roedd yr adroddiad yn cynnwys diweddariadau ar y gweithgareddau yn y gwasanaeth Gweinyddu Pensiynau ac roedd yn cynnwys materion rheoleiddiol, cyflogwyr newydd, y gofrestr torri amodau, i-Connect, cysoniad GMP, Cynllun Dilyniant Busnes, a llif gwaith.

 

Mewn ymateb i gwestiwn, cadarnhawyd bod y tîm Pensiynau yn cysylltu ac yn cynorthwyo Coleg Ceredigion, Coleg Sir Gâr, Coleg Sir Benfro a Heddlu Dyfed-Powys ar drosglwyddo i i-connect.

 

O ran gweithredu'r Cynllun Dilyniant Busnes, cadarnhawyd bod dwy ganolfan ddata yn weithredol a phe bai un yn cael problemau, byddai'r ganolfan eilaidd yn weithredol.

  

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod yr Adroddiad Gweinyddu Pensiynau mewn perthynas â Chronfa Bensiwn Dyfed yn cael ei nodi.  

10.

ADRODDIAD TORRI AMODAU pdf eicon PDF 108 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor yr Adroddiad Torri Amodau i'w ystyried mewn perthynas â Chronfa Bensiwn Dyfed a baratowyd yn unol ag Adran 70 Deddf Pensiwn 2004, Côd Ymarfer rhif 14 a Pholisi Torri Amodau Cronfa Bensiwn Dyfed.

 

Tynnwyd sylw'r Pwyllgor at y rhestr o achosion o dorri rheolau a oedd ynghlwm wrth yr adroddiad a oedd yn manylu ar yr achosion lle nad oedd cyfraniadau gweithwyr/cyflogwyr wedi dod i law mewn pryd. I'r perwyl hwn, atgoffwyd y Pwyllgor gan y Swyddog Buddsoddiadau Pensiwn am achos o dorri amodau a adroddwyd yn ddiweddar mewn perthynas â Burry Port Marina Ltd a oedd wedi methu'n rheolaidd dalu'r cyfraniadau gofynnol i'r Gronfa. Cadarnhaodd yr adroddiad fod y Rheoleiddiwr Pensiynau hefyd wedi cael gwybod am yr achos hwn a bod y cyflogwr bellach wedi mynd i ddwylo'r gweinyddwyr, a'r cyfraniadau oedd yn ddyledus i'r Gronfa bryd hynny oedd £7,230.56. Yn dilyn hynny, ac yn dilyn cytundeb y daethpwyd iddo gyda gweinyddwyr y cwmni, nodwyd bod y cyfraniadau hynny wedi'u talu i'r gronfa ar 29 Chwefror 2024.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi’r Adroddiad Torri Amodau mewn perthynas â Chronfa Bensiwn Dyfed.  

11.

COFRESTR RISG pdf eicon PDF 109 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor y Gofrestr Risg, a oedd yn manylu ar yr holl risgiau a nodwyd mewn perthynas â swyddogaethau Cronfa Bensiwn Dyfed, i'w hystyried. 

 

Dywedwyd wrth y Pwyllgor fod risg newydd wedi'i hychwanegu yn dilyn gwaith sylweddol a wnaed wrth adolygu'r gofrestr, sef risg G8 – Amgylcheddol, Cymdeithasol a Llywodraethu

 

Dywedwyd ymhellach wrth y Pwyllgor fod risgiau wedi'u categoreiddio erbyn hyn yn dri is-bennawd sef Llywodraethu a Rheoleiddiol (8 risg), Cyllid a Buddsoddiadau (13 risg) a Gweithredol (16 risg) a fyddai'n cael eu hadolygu yn y cyfarfodydd ym mis Mehefin, mis Medi a mis Tachwedd.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi adroddiad y gofrestr risg.

12.

POLISI LLYWODRAETHU A DATGANIAD CYDYMFFURFIO pdf eicon PDF 106 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried Polisi Llywodraethu a Datganiad Cydymffurfiaeth wedi'u diweddaru i Gronfa Bensiwn Dyfed yn dilyn adolygiad diweddar a nododd gydymffurfiaeth y Gronfa â'r egwyddorion arfer gorau mewn perthynas â strwythur, cynrychiolaeth, dethol, pleidleisio, hyfforddi, cyfarfodydd, mynediad, cwmpas a chyhoeddusrwydd.

 

Nodwyd bod y Polisi yn manylu ar drefniadau mewn perthynas â'r canlynol:

·       Llywodraethu'r Gronfa

·       Cylch Gorchwyl y Pwyllgor Pensiwn

·       Dirprwyo i Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol a Phennaeth y Gwasanaethau Ariannol

·       Cyfarfodydd y Pwyllgor

·       Y Cyfarfod Ymgynghorol Blynyddol

·       Y Bwrdd Pensiwn

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod y Polisi Llywodraethu a'r Datganiad Cydymffurfiaeth ar gyfer Cronfa Bensiwn Dyfed yn cael ei gymeradwyo.

13.

DATGANIAD STRATEGAETH FUDDSODDI pdf eicon PDF 104 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried Datganiad Strategaeth Fuddsoddi ar gyfer Cronfa Bensiwn Dyfed oedd yn adlewyrchu'r Adolygiad Diwygiedig o'r Dyraniad Asedau Strategol a gymeradwywyd gan y Pwyllgor ar 22 Medi 2023 a argymhellodd ddyraniad 5% i Gredyd Preifat a gyllidir o'r Portffolio Ecwitis, fel y nodir yn yr adroddiad

 

Nododd y Pwyllgor fod y Datganiad Strategaeth Fuddsoddi yn ddogfen llywodraethu bwysig i'r Gronfa sy'n nodi strategaeth fuddsoddi bresennol y Gronfa, yn rhoi tryloywder o ran sut y mae buddsoddiadau'r Gronfa'n cael eu rheoli, yn gweithredu fel cofrestr risg lefel uchel, a'i fod wedi'i ddylunio i roi gwybodaeth i'r holl randdeiliaid.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod y Datganiad Strategaeth Fuddsoddi ar gyfer Cronfa Bensiwn Dyfed gael ei gymeradwyo.

14.

CYNLLUN BUSNES 2024-2025 pdf eicon PDF 107 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor Gynllun Busnes Cronfa Bensiwn Dyfed ar gyfer cyfnod 2024-2025 i'w ystyried, a oedd â'r diben canlynol:

 

·       Darparu gwybodaeth am y Gronfa a sut y cafodd ei chynnal.

·       Esbonio'r cefndir a strwythur llywodraethu y Gronfa.

·       Amlinellu prif gyfrifoldebau'r Gronfa.

·       Cyflwyno dogfennau allweddol y Gronfa.

·       Tynnu sylw at strategaeth fuddsoddi'r Gronfa gan gynnwys dyrannu asedau strategol.

·       Darparu ystadegau allweddol ar gyfer y Gronfa.

·       Amlinellu'r gyllideb ariannol ar gyfer y flwyddyn nesaf.

·       Amlinellu blaenoriaethau ac amcanion busnes y Gronfa dros y flwyddyn nesaf. 

 

Yn dilyn cwestiwn, cadarnhawyd bod Adolygiad Tair Blynedd 2022 o Gronfa Bensiwn Dyfed wedi arwain at ostyngiad yng nghyfraniadau'r Cyflogwr ar gyfer rhai o'r cyflogwyr yn y cynllun yn dibynnu ar eu hamgylchiadau unigol a'u proffiliau aelodau. Nodwyd bod gwaith paratoi hefyd wedi dechrau ar adolygiad 2025.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo Cynllun Busnes Cronfa Bensiwn Dyfed ar gyfer 2024/25.

15.

CYNLLUN HYFFORDDI pdf eicon PDF 99 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf am Gynllun Hyfforddi 2023/24 a oedd yn manylu ar amserlen cyfarfodydd y pwyllgor, a digwyddiadau hyfforddi ar gyfer aelodau a swyddogion Cronfa Bensiwn Dyfed, ynghyd â'r cynllun arfaethedig ar gyfer 2024-2025.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r Cynllun Hyfforddi ar gyfer 2023/24 a chymeradwyo'r Cynllun Hyfforddi ar gyfer 2024/25.

16.

CYNLLUN BUSNES PARTNERIAETH PENSIYNAU CYMRU 2024-2027 pdf eicon PDF 101 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor Gynllun Busnes Partneriaeth Pensiwn Cymru (PPC) ar gyfer y cyfnod 2024-2027, a luniwyd yn unol ag Adran 6 y Cytundeb Rhwng Awdurdodau, gan fanylu ar flaenoriaethau a meysydd ffocws y Gronfa dros gyfnod y cynllun gyda'r diben o:

 

·       Egluro cefndir a strwythur llywodraethu Partneriaeth Pensiwn Cymru.

·       Amlinellu blaenoriaethau ac amcanion Partneriaeth Pensiwn Cymru dros y tair blynedd nesaf.

·       Cyflwyno polisïau a chynlluniau Partneriaeth Pensiwn Cymru.

·       Amlinellu'r gyllideb ariannol ar gyfer cyfnod y Cynllun Busnes perthnasol.

·       Crynhoi Buddsoddiadau ac Amcanion Perfformiad Partneriaeth Pensiwn Cymru.

 

Nodwyd, pe bai'r Cynllun yn cael ei gymeradwyo gan bob partner, y byddai' n cael ei fonitro'n gyson a’i adolygu’n ffurfiol ac y byddent yn  cytuno arno bob blwyddyn.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo Cynllun Busnes Partneriaeth Pensiwn Cymru ar gyfer 2024-27. 

17.

DIWEDDARIAD CYD-BWYLLGOR LLYWODRAETHU PARTNERIAETH PENSIWN CYMRU pdf eicon PDF 110 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf o gyfarfod Cyd-bwyllgor PPC, a gynhaliwyd ar 13 Mawrth 2024, gan roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y canlynol:

 

·       Llywodraethu

·       Gwaith sy'n cael ei wneud i ddatblygu Is-gronfeydd

·       Gwasanaethau gweithredwyr

·       Buddsoddiadau ac Adrodd

·       Cyfathrebu a Hyfforddiant

·       Adnoddau, Cyllideb a Ffioedd

·       Cynllun Hyfforddi

 

Roedd atodiadau'r adroddiad hefyd yn cynnwys crynodeb a sylwebaeth ar berfformiad buddsoddi PPC ar gyfer Ch4 2023 (Hydref - Rhagfyr 2023) ynghyd ag adroddiad gan GCM Grosvenor yn manylu ar fuddsoddiadau seilwaith gan fod Cronfa Bensiwn Dyfed wedi buddsoddi yn ei chronfa seilwaith gaeedig.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn diweddariad Partneriaeth Pensiwn Cymru ynghylch y Cyd-bwyllgor Llywodraethu.

18.

DIWEDDARIAD BUDDSODDI CYFRIFOL PARTNERIAETH PENSIWN CYMRU - 31 RHAGFYR 2023 pdf eicon PDF 109 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor adroddiad diweddaru Rhagfyr 2023 am Fuddsoddiadau Cyfrifol PPC oedd yn manylu ar y gweithgarwch Buddsoddiadau Cyfrifol diweddar ynghyd â gwybodaeth am yr Is-gronfeydd canlynol y mae Cronfa Bensiwn Dyfed wedi buddsoddi ynddynt:

 

·       Twf Byd-eang

·       Ecwiti Gweithredol Cynaliadwy

·       Credyd Byd-eang

 

Yn ogystal â'r uchod, roedd y diweddariad hefyd yn rhoi Crynodeb Stiwardiaeth ynghyd â'r atodiadau perthnasol rhif 1-4 yn yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad diweddaru.

19.

GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD

NI DDYLID CYHOEDDI’R ADRODDIAD SY’N YMWNEUD Â’R MATERION CANLYNOL GAN EU BOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y’I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 14 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y’I DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007. OS BYDD Y PWYLLGOR AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD YN PENDERFYNU YN UNOL Â’R DDEDDF, I YSTYRIED Y MATER HYN YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I’R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O’R FATH.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

(NODER: Ar ôl gorffen yr eitem hon, gohiriwyd y Pwyllgor am egwyl o 10 munud)

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i newidiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod tra oedd yr eitemau canlynol yn cael eu hystyried, gan fod yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf. 

20.

ADRODDIAD ARGYMHELLION O RAN CAFFAEL GWEITHREDWR PARTNERIAETH PENSIWN CYMRU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 19 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn debygol o gael effaith andwyol ar y Gronfa Bensiwn er anfantais i aelodau'r gronfa.

 

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad ar yr ymarfer tendro diweddar a gynhaliwyd ar gyfer contract gweithredwr newydd ar gyfer Partneriaeth Pensiwn Cymru.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo penodi cynigydd 3 fel y cynigydd a ffefrir ar gyfer Contract Gweithredwr Newydd Partneriaeth Pensiwn Cymru.

21.

ADRODDIAD YMGYSYLLTU ROBECO 1 GORFFENNAF 2023 - 30 MEDI 2023

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 19 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn cael effaith andwyol ar y Gronfa Bensiwn er anfantais i aelodau'r gronfa.

 

Cafodd y Pwyllgor adroddiad ymgysylltu Robeco i'w ystyried ar gyfer cyfnod arodd 1 Gorffennaf 2023 - 30 Medi 2023. Roedd yr adroddiad yn rhoi ystadegau manwl mewn perthynas â gweithgareddau ymgysylltu a gynhaliwyd ar bortffolio'r Bartneriaeth yn ystod y chwarter, a detholiad o astudiaethau achos o weithgarwch ymgysylltu a gynhaliwyd mewn perthynas ag Allyriadau Carbon Sero Net.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi Adroddiad Ymgysylltu Robeco am y cyfnod adrodd 1 Gorffennaf 2023 - 30 Medi 2023.

22.

ADRODDIAD YMGYSYLLTU ROBECO 1 HYDREF 2023 - 31 RHAGFYR 2023

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 19 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn cael effaith andwyol ar y Gronfa Bensiwn er anfantais i aelodau'r gronfa.

 

Cafodd y Pwyllgor adroddiad ymgysylltu Robeco ar gyfer y cyfnod adrodd 1 Hydref 2023 – 31 Rhagfyr 2023.  Roedd yr adroddiad yn rhoi ystadegau manwl mewn perthynas â gweithgareddau ymgysylltu a gynhaliwyd ar bortffolio'r Bartneriaeth yn ystod y chwarter, a detholiad o astudiaethau achos o weithgarwch ymgysylltu a gynhaliwyd mewn perthynas â Chydnabyddiaeth Gyfrifol i Weithredwyr.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn Adroddiad Ymgysylltu Robeco am y cyfnod adrodd 1 Hydref 2023 - 31 Rhagfyr 2023.

 

23.

ADOLYGIAD BENTHYCA GWARANNAU BYD-EANG HYD AR 31 RHAGFYR 2023

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 19 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn cael effaith andwyol ar y Gronfa Bensiwn er anfantais i aelodau'r gronfa.

 

Cafodd y Pwyllgor i'w ystyried adroddiad ynghylch yr Adolygiad Benthyca Gwarannau Byd-eang fel yr oedd ar 31 Rhagfyr 2023, a nodai wybodaeth am fenthyca gwarannau a oedd wedi dechrau ym mis Mawrth 2020. Roedd Northern Trust wedi darparu adolygiad o Berfformiad Benthyca Gwarannau ar gyfer Chwarter 4 2023 (y chwarter a ddaeth i ben ar 31 Rhagfyr 2023)

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r adolygiad o Fenthyca Gwarannau Byd-eang a ddaeth i ben ar 31 Rhagfyr 2023.

24.

ADRODDIAD PERFFORMIAD A RISG YMGYNGHORYDD BUDDSODDI ANNIBYNNOL 31 RHAGFYR 2023

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 19 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn cael effaith andwyol ar y Gronfa Bensiwn er anfantais i aelodau'r gronfa.

 

Ystyriodd y Pwyllgor Adroddiad yr Ymgynghorydd Buddsoddi Annibynnol, a roddai wybodaeth mewn perthynas â pherfformiad y rheolwr buddsoddiadau ar gyfer pob chwarter, pob 12 mis a chyfnodau treigl o 3 blynedd, gan ddod i ben ar 31 Rhagfyr 2023. Roedd yr adroddiad hefyd yn cynnwys cefndir marchnad fyd-eang a materion i'r Pwyllgor eu hystyried.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi Adroddiad yr Ymgynghorydd Buddsoddi Annibynnol fel yr oedd ar 31 Rhagfyr 2023.

25.

ADRODDIAD PERFFORMIAD NORTHERN TRUST 31 RHAGFYR 2023

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 19 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn cael effaith andwyol ar y Gronfa Bensiwn er anfantais i aelodau'r gronfa.

 

Ystyriodd y Bwrdd adroddiad perfformiad Northern Trust ar gyfer Cronfa Bensiwn Dyfed fel yr oedd ar 31 Rhagfyr 2023 a oedd yn nodi dadansoddiad o berfformiad o ran lefel y gronfa gyfan a chan y rheolwr buddsoddi am y cyfnodau ers i'r gronfa gychwyn.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi adroddiad perfformiad Northern Trust ar gyfer Cronfa Bensiwn Dyfed fel yr oedd ar 31 Rhagfyr 2023. 

26.

ADRODDIADAU'R RHEOLWR BUDDSODDI AR 31 RHAGFYR 2023

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 19 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn cael effaith er anfantais i aelodau'r gronfa.

 

Rhoddodd y Bwrdd ystyriaeth i adroddiadau rheolwyr buddsoddi a oedd yn nodi perfformiad pob rheolwr fel yr oedd ar 31 Rhagfyr 2023.

 

·   BlackRock - Adroddiad Chwarterol 31 Rhagfyr 2023;

·   Schroders - Adroddiad Buddsoddi Ch4 2023;

·   Partners Group - Adroddiad Chwarterol Ch4 2023;

·   Cronfa Tyfu Byd-eang Partneriaeth Pensiwn Cymru - 31 Rhagfyr 2023;

·   Cronfa Credyd Byd-eang Partneriaeth Pensiwn Cymru - 31 Rhagfyr 2023

·   Cronfa Ecwiti Gweithredol Cynaliadwy PPC – 31 Rhagfyr 2023.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi adroddiadau'r rheolwyr buddsoddi ar gyfer Cronfa Bensiwn Dyfed fel yr oeddent ar 31 Rhagfyr 2023.