Yn unol â chyfansoddiad Cyngor Sir Caerfyrddin, mae'n rhaid sefydlu pwyllgor pensiwn ar gyfer Cronfa Bensiwn Dyfed a fydd:
Penderfynu ar yr holl faterion polisi a chyfeiriad strategol yn ymwneud â buddsoddiadau’r Gronfa Bensiwn
Adolygu a monitro perfformiad buddsoddi’r Gronfa
Adolygu a phenderfynu ar holl faterion y gronfa sy’n ymwneud â Phrisio’r Gronfa Bensiwn
Penderfynu ar bolisi a materion strategol Awdurdod Gweinyddu’r Gronfa Bensiwn
Pwyllgor Pensiwn
Cylch Gorchwyl
Gweithredu cyfrifoldebau'r Cyngor Sir o ran rheoli Cronfa Bensiwn Dyfed, gan gynnwys rheoli'r gwaith gweinyddu budd-daliadau a rheoli asedau'r Gronfa yn strategol
Cyfarfod o leiaf bob chwarter neu fel arall, fel y bo'n briodol
Rhoi Adroddiad Blynyddol ar sefyllfa'r Gronfa a'r gwaith buddsoddi yn ystod y flwyddyn erbyn 30 Medi bob blwyddyn
Bod â chyfrifoldeb cyffredinol am y polisi buddsoddi a monitro'r perfformiad cyffredinol
Adolygu'r trefniadau llywodraethu a'r defnydd effeithiol o'r ymgynghorwyr er mwyn sicrhau bod proses penderfynu dda ar waith
Derbyn adroddiadau rheolaidd ynghylch gweinyddu'r cynllun er mwyn sicrhau y bodlonir ac y cydymffurfir â safonau arferion gorau a bod wedi'i fodloni fod y Gronfa'n cael ei rhedeg yn effeithiol a chyfiawnhau hynny i'r holl randdalwyr gan gynnwys Cyflogwyr y Gronfa
Penodi Rheolwyr Buddsoddi sy'n cyflawni swyddogaethau sy'n ymwneud â rheoli buddsoddiadau'r Gronfa
Penodi Ceidwaid y Gronfa, ymgynghorydd mesur perfformiad, actiwari, ymgynghorydd annibynnol a darparwr Cyfraniadau Gwirfoddol Ychwanegol
Cymeradwyo Datganiad Strategaeth Gyllido a Datganiad Strategaeth Fuddsoddi.