Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Craffu Cymunedau ac Adfywio - Dydd Llun, 5ed Rhagfyr, 2016 2.00 yp

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Kevin Thomas  01267 224027

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr H.I. Jones, S. Matthews a'r Cynghorydd M. Gravell – Yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Adfywio a Hamdden.

 

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant personol.

3.

DATGANIAD CHWIP PLAID WAHARDDEDIG

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch chwip waharddedig.

 

4.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW)

Cofnodion:

Nid oedd cwestiynau gan y cyhoedd wedi dod i law.

 

5.

EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL pdf eicon PDF 99 KB

Cofnodion:

Rhoddwyd rhestr i'r Pwyllgor o'r eitemau a fyddai'n cael eu hystyried yn y cyfarfod oedd i'w gynnal ar 20 Ionawr, 2017.

 

Nodwyd nifer fawr yr eitemau agenda oedd wedi eu cyflwyno i'r Pwyllgor. Er mwyn i'r Aelodau barhau i gyflawni swyddogaeth graffu effeithiol, dywedwyd y dylid cyfyngu ar nifer yr eitemau agenda yn y dyfodol.

 

Cynigiwyd bod cyfarfod ychwanegol yn cael ei drefnu ar ddechrau 2017 er mwyn rheoli nifer fawr yr eitemau ar yr agenda.

 

PENDERFYNWYD bod cyfarfod ychwanegol o'r Pwyllgor Craffu - Cymunedau yn cael ei drefnu ar ddechrau 2017.

 

 

6.

YMGYNGHORI YNGHYLCH STRATEGAETH Y GYLLIDEB REFENIW 2017/18 TAN 2019/20 pdf eicon PDF 160 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried Strategaeth Cyllideb Refeniw 2017/18 - 2019/20 (Atodiad A) a oedd wedi ei chymeradwyo gan y Bwrdd Gweithredol at ddibenion ymgynghori yn y cyfarfod ar 21 Tachwedd 2016.  Roedd yr adroddiad yn darparu'r sefyllfa bresennol i'r Aelodau ynghylch y Gyllideb Refeniw ar gyfer 2017/2018, ynghyd â ffigurau dangosol ar gyfer blynyddoedd ariannol 2017/2018 a 2019/2020. Roedd yr adroddiad yn seiliedig ar ragamcanion gwariant y swyddogion, gan ystyried y setliad amodol a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ar 19 Hydref 2016.

 

Dywedwyd bod y setliad amodol a gyhoeddwyd gryn dipyn yn well na'r hyn a ddisgwyliwyd, fodd bynnag, roedd yn cael ei gydnabod y byddai'r setliad niwtral yn parhau i gael effaith negyddol ar adnoddau'r Cyngor.

 

Gan grynhoi, byddai'r cynigion ar gyfer y gyllideb yn darparu'r £24.6 miliwn o arbedion a nodwyd. Ar ben hynny, roedd y cynigion ar gyfer y gyllideb yn golygu cynnydd yn y Dreth Gyngor o 2.5% yn y strategaeth a symudiad o 1% a oedd yn cyfateb i +/-£790k.

 

Trafodwyd y materion canlynol wrth ystyried yr adroddiad:

 

Mynegwyd pryder ynghylch y £3k oedd wedi dod i law ar gyfer y cynllun sgorio hylendid bwyd, a'r gred oedd bod hwn yn swm bach i gynnal cynllun mor fawr. Gan ymateb, dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Ariannol mai hwn oedd swm penodol y grant oedd ar gael i weithredu'r cynllun, ac nid cost gyflawn darparu'r gwasanaeth.

 

Yn dilyn ymholiad ynghylch yr arian oedd wrth gefn gan ysgolion, dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Ariannol wrth yr Aelodau mai'r disgwyliad, adeg yr adroddiad, oedd y byddai'r rhan fwyaf o'r ysgolion eisoes wedi defnyddio'r arian oedd wrth gefn ganddynt yn eu cyllidebau ar gyfer y flwyddyn i ddod. Fodd bynnag, os nad oeddent wedi defnyddio'r arian wrth gefn, byddent yn gallu rhoi eglurhad i'r Prif Swyddog Addysg er mwyn penderfynu a fyddai modd iddynt drosglwyddo'r arian hwn oedd wrth gefn ganddynt i'r cyfnod ariannol nesaf.

 

Mynegwyd pryderon ynghylch y costau ychwanegol posibl oedd ynghlwm wrth Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Dywedodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Adfywio a Pholisi) wrth yr Aelodau er na ddylai costau ychwanegol fod ynghlwm wrth weithredu Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, y byddai'r costau'n cael eu monitro. Fodd bynnag, atgoffwyd y Pwyllgor fod y Ddeddf yn nodi bod yn rhaid i'r holl gyrff cyhoeddus ddatblygu'n gynaliadwy, gan wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru.

 

Gan ymateb i ymholiad ychwanegol, dywedodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Adfywio a Pholisi) y byddai'r Awdurdod yn sicrhau hyn drwy fod yn destun proses i sicrhau bod y pum ffordd newydd o weithio yn cael eu mabwysiadu, gan weithio tuag at gyflawni'r 7 nod llesiant.  Er mwyn lleddfu pryderon yr Aelodau ynghylch y mater hwn, awgrymodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Adfywio a Pholisi) fod seminar pellach yn cael ei threfnu ynghylch Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Ar ôl cael ei roi gerbron y Pwyllgor, cytunwyd i wneud hyn.

 

Gofynnwyd faint o bobl oedd wedi ymweld â Pharc Gwledig Pen-bre a faint o incwm roedd y parc yn ei greu.  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6.

7.

Y RHAGLEN GYFALAF PUM MLYNEDD - 2017/18 - 2021/22 pdf eicon PDF 155 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried Rhaglen Gyfalaf Bum Mlynedd 2017/18 - 2021/22 (Atodiad A) a oedd wedi ei chymeradwyo gan y Bwrdd Gweithredol at ddibenion ymgynghori yn y cyfarfod ar 21 Tachwedd 2016.  Byddai'r adborth o'r broses ymgynghori hon, ynghyd â chanlyniad y setliad terfynol, yn cyfrannu i'r adroddiad terfynol ynghylch y gyllideb a fyddai'n cael ei gyflwyno i'r aelodau i'w ystyried yn Chwefror, 2017.

Roedd y rhaglen gyfalaf arfaethedig yn gyfanswm o £208 miliwn dros y 5 mlynedd, gyda'r nod o gyflawni nifer o brosiectau allweddol, gan gynnwys creu swyddi a gwella ansawdd bywyd pobl Sir Gaerfyrddin.

Roedd yr adroddiad yn nodi'r setliad dros dro a gafwyd gan Lywodraeth Cymru ar 19 Hydref 2016, a oedd yn nodi cyllid cyfalaf o £9.400 miliwn ar gyfer yr Awdurdod yn 2017/18. Roedd y cyllid yn cynnwys benthyca â chymorth o £5.844 miliwn a Grant Cyfalaf Cyffredinol o £3.556 miliwn. Nodwyd yn absenoldeb unrhyw ddyraniadau amcanol gan Lywodraeth Cymru, fod y lefel hon o gyllid wedi cael ei thybio ar gyfer pob blwyddyn o'r rhaglen bum mlynedd. 

I grynhoi, sefyllfa gyffredinol y rhaglen gyfalaf oedd ei bod yn cael ei chyllido am y 4 blynedd cyntaf o 2017/18 tan 2020/21 gyda diffyg presennol o £3.123 miliwn ym mlwyddyn olaf y rhaglen sef 2021/22.

 

Trafodwyd y materion canlynol wrth ystyried yr adroddiad:

Mewn ymateb i ymholiad ynghylch dyfodol cyllid allanol, dywedodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Adfywio a Pholisi) y byddai Cyllid Ewropeaidd yn dirwyn i ben o ganlyniad i Brexit ac mai'r gobaith oedd y byddai Llywodraeth Cymru yn helpu i ddarparu ar gyfer rhywfaint o'r diffyg. Fodd bynnag, byddai'r Awdurdod yn dal i chwilio am gyfleoedd cyllido eraill.

Gofynnwyd am y sefyllfa bresennol o ran gwneud gwelliannau i Amgueddfa Sir Gaerfyrddin yn Abergwili.  Dywedodd y Pennaeth Hamdden wrth y Pwyllgor fod y gwelliannau wedi dechrau a bod peth cyllid wedi'i ddyrannu o'r flwyddyn ariannol bresennol.  Hefyd byddai cais ychwanegol yn ceisio cyllid pellach yn 2018/19.

Cyfeiriwyd at Lwybrau Diogel mewn Cymunedau, a gofynnwyd pam nad oedd dim cyllid i Gyngor Sir Caerfyrddin yn 2018/19. Dywedodd y Pennaeth Trafnidiaeth a Phriffyrdd mai ffigurau dangosol oedd y rhain ar hyn o bryd. Yn ogystal, drwy gydol y flwyddyn byddai cymunedau'n cael gwahoddiad i wneud cais am gynllun. Mae hawl gan yr Awdurdod i wneud cais am 3 chynllun y flwyddyn, ac mae pob cais yn cael ei asesu gan ddefnyddio'r meini prawf ar gyfer y grant, yn unol â phenderfyniad Llywodraeth Cymru.  Mae hawl gan yr Awdurdod i gyflwyno ceisiadau am 3 chynllun y flwyddyn. Roedd y ffigurau oedd wedi eu cynnwys yn y rhaglen yn symiau dangosol ond roeddent yn ddibynnol ar ganlyniad y broses ymgeisio. Nodwyd mai hyn a hyn o gyllid yn unig oedd ar gael mewn perthynas â Ffermydd Sirol. Dywedodd y Pennaeth Eiddo fod y cyllid yn 2017/18 yn ychwanegol at y cyllid oedd wedi'i ddyrannu yn y flwyddyn bresennol a blynyddoedd blaenorol. Hefyd byddai'r portffolio hwnnw'n dal i gael gwasanaeth cynnal a chadw priodol o'r gyllideb gyfalaf cynnal  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 7.

8.

ADRAN YR AMGYLCHEDD: GYNLLUN BUSNES CRYNODEB YR ADRAN AM 2017-2020 pdf eicon PDF 161 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor Adroddiad ar Gynllun Busnes Adrannol yr Amgylchedd 2017-20.  Roedd yr adroddiad yn cynnwys elfennau oedd yn berthnasol i'r Pwyllgor Craffu - Cymunedau, a roddai amlinelliad o'r blaenoriaethau ar gyfer yr adran yn ystod 2017-20.  Roedd yr adroddiad yn nodi sut oedd yr adran yn cefnogi'r 5 Ffordd o Weithio a 7 Nod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

 

Trafodwyd y materion canlynol wrth ystyried y diweddariad: 

 

Gofynnwyd am y wybodaeth ddiweddaraf am y Cynllun Gwella Hawliau Tramwy newydd diwygiedig. Hysbyswyd y Pwyllgor gan y Pennaeth Trafnidiaeth a Phriffyrdd fod y gwaith adlinio cefn gwlad wrthi'n cael ei gwblhau. Roedd y gwaith yn cael ei wneud ar hyn o bryd i sicrhau bod y cynllun yn cael ei gwblhau erbyn diwedd 2017.

 

Mewn ymateb i ymholiad ynghylch prosiect Bwcabus, dywedodd y Pennaeth Trafnidiaeth a Pheirianneg ei fod wedi llwyddo'n ddiweddar i gael arian ychwanegol ar gyfer cynllun helaethach.

 

PENDERFYNWYD nodi Cynllun Busnes Adrannol yr Amgylchedd 2017-20

 

9.

ADRAN CYMUNEDAU: GYNLLUN BUSNES CRYNODEB YR ADRAN AM 2017-2020 pdf eicon PDF 129 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor Adroddiad ar Gynllun Busnes Adrannol yr Adran Cymunedau 2017-20.  Roedd yr adroddiad yn rhoi crynodeb o'r cynllun busnes a diweddariad am y cynnydd a wnaed o ran camau gweithredu ar gyfer y Gwasanaethau Tai a Hamdden, a oedd wedi'u cynnwys yng nghynllun busnes adrannol 2017-20.

 

Trafodwyd y materion canlynol wrth ystyried y diweddariad : 

 

Yn dilyn ymholiad, rhoddodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Adfywio a Pholisi) grynodeb byr am y prosiect Llesiant a Gwyddorau Bywyd. Yn ei gyfanrwydd byddai'r prosiect yn costio bron £200 miliwn, a rhagwelid y byddai mwy na £127 miliwn yn dod o'r sector preifat. Hefyd roedd asiantaethau allanol yn cynnwys Byrddau Iechyd Prifysgol Hywel Dda ac Abertawe Bro Morgannwg wedi rhoi cefnogaeth aruthrol. Cynigiodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Adfywio a Pholisi) drefnu seminar er mwyn rhoi rhagor o fanylion i'r Aelodau.  Ar ôl cael ei roi gerbron y Pwyllgor, cytunwyd i wneud hyn.

 

Yn dilyn pryder ynghylch y Llwybr Beicio o Langennech i Ddafen, eglurodd y Pennaeth Trafnidiaeth a Phriffyrdd fod y seilwaith Beicio yn cael ei gyllido gan grantiau ac yn unol â dyletswyddau statudol yr Awdurdod, fel y'u pennwyd yn y Ddeddf Teithio Llesol. Y gwaith ar y darn o'r llwybr beicio a'r llwybr troed oedd y cam cyntaf o ran cysylltu cymunedau â safleoedd cyflogaeth.  

 

Mewn ymateb i ymholiad arall, dywedodd y Pennaeth Hamdden wrth y Pwyllgor fod cais am gynnal cymal o'r 'Tour of Britain' yn cael ei ystyried ar hyn o bryd, a allai roi hwb o tua £40k i'r economi leol.

 

Mewn ymateb i ymholiad ynghylch Harbwr Porth Tywyn, fe wnaeth y Pennaeth Hamdden gydnabod bod heriau a chostau cysylltiedig a dweud y byddai angen i'r Awdurdod, yn wleidyddol, wneud penderfyniadau pellach. Byddai adroddiad yn cael ei gyflwyno yn y cyfarfod nesaf.

 

Mewn ymateb i ymholiad ynghylch cael fflyd newydd ar gyfer y llyfrgelloedd teithiol, dywedodd y Pennaeth Hamdden mai'r bwriad oedd gweithio'n agos gyda'r Tîm Cyfathrebu yn Chwefror 2017 er mwyn rhoi cyhoeddusrwydd eang i'r gwasanaeth llyfrgelloedd teithiol newydd a gwell. Yn dilyn ymholiad arall, cadarnhaodd y Pennaeth Hamdden fod ymgynghori wedi digwydd, ond nad oedd yr holl waith hwnnw wedi'i gwblhau hyd yn hyn.

 

Gofynnwyd am y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch adolygu'r gwasanaeth archifau. Dywedodd y Pennaeth Hamdden fod £2 filiwn o'r rhaglen gyfalaf wedi cael ei ddyrannu i gyfleuster archifau newydd a fyddai'n cael ei leoli yng nghefn Llyfrgell Caerfyrddin. Hefyd, roedd rhai heriau ar hyn o bryd o ran cael caniatâd cynllunio gan fod y lleoliad newydd yn eiddo rhestredig. Fodd bynnag, roedd y cynlluniau arfaethedig yn cael eu rhannu ar hyn o bryd â Chyfeillion yr Archifau er mwyn iddynt gael dweud eu dweud.  Dywedodd y Pennaeth Hamdden y byddai'n rhannu'r cynlluniau a'r amserlen â'r Pwyllgor. 

 

Yn dilyn ymholiad arall dywedodd y Pennaeth Hamdden mai'r disgwyl oedd, yn ystod datblygiad y cyfleuster archifau newydd, y byddai'r Ganolfan Addysg Gymunedol gyffiniol yn aros ar agor. Fodd bynnag, efallai y byddai rhywfaint o darfu ar y gwasanaethau.

 

Mewn ymateb i ymholiad, dywedodd y  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 9.

10.

CYNLLUN BUSNES ADRANNOL Y PRIF WEITHREDWR 2017-20 pdf eicon PDF 131 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i'r Adroddiad ar Gynllun Busnes Adrannol y Prif Weithredwr 2017-20. Roedd yr adroddiad yn cynnwys elfennau oedd yn berthnasol i'r Pwyllgor Craffu - Cymunedau, a roddai amlinelliad o'r gwaith Adfywio Eiddo a'r gwaith prosiect yn Adran y Prif Weithredwr a'r Prosiect Arbennig ar y Pentref Llesiant a Gwyddorau Bywyd. Roedd yr adroddiad yn nodi sut oedd yr adran yn cefnogi 5 ffordd o weithio a 7 o nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Adfywio a Pholisi) fod cyfleoedd cyllido allanol wedi bod yn llwyddiannus megis rhaglen LEADER, ac roedd 13 o brosiectau wedi cael cefnogaeth hyd yn hyn (cyfanswm buddsoddiad o £642,000). Roedd 8 o brosiectau, cyfanswm buddsoddiad o £1.28 miliwn, wedi cael cymorth drwy'r Gronfa Datblygu Cymunedau Gwledig hyd at ail gam y broses ymgeisio.

 

Trafodwyd y materion canlynol wrth ystyried y diweddariad: 

 

Mewn ymateb i ymholiad ynghylch creu swyddi a thwf ledled y sir, dywedodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Adfywio a Pholisi) wrth y Pwyllgor mai'r prif faes y byddid yn canolbwyntio arno, fel rhan o Strategaeth Gorfforaethol Sir Gaerfyrddin 2015-20 fyddai cryfhau'r gwasanaethau cymorth busnes, a byddai hynny'n cael ei wneud drwy weithio'n agos gyda busnesau newydd sy'n dechrau arni.

 

Gofynnwyd am y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch Bwrsariaeth y Goleudy. Dywedodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Adfywio a Pholisi) fod y maes hwn yn cael ei adolygu ar hyn o bryd, gan ganolbwyntio ar yr hyn oedd yn bwysig i bobl ifanc a busnesau. Byddai hyn yn golygu y gellid cael ymagwedd â mwy o ffocws wrth gamu ymlaen.

 

Yn dilyn ymholiad ynghylch Cynllun Heneiddio'n Dda yng Nghymru, eglurodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Adfywio a Pholisi) wrth y Pwyllgor fod gan yr Awdurdod, fel un o lofnodwyr 'Datganiad Dulyn ar Ddinasoedd a Chymunedau sy'n Gyfeillgar i Oed', gyfrifoldeb i ddarparu Cynllun Heneiddio'n Dda yng Nghymru a fyddai'n cyfrannu at un amcan trosfwaol; er mwyn sicrhau bod Cymru'n lle da i bawb dyfu'n h?n. Nod cyffredinol Cynllun Heneiddio'n Dda yng Nghymru oedd uno gwasanaethau amrywiol y Cyngor er mwyn cefnogi byw'n annibynnol a helpu pobl h?n i fyw yn eu cymunedau. Byddai'r Cynllun yn helpu'r Cyngor i gyflawni ei gyfrifoldebau o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

 

Nodwyd mai'r bwriad oedd cyflwyno'r Cynllun i'r Pwyllgor Craffu - Polisi ac Adnoddau yn Ionawr 2017. Dywedodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Adfywio a Pholisi) y byddai'n sicrhau bod Cynllun Heneiddio'n Dda yng Nghymru yn cael ei rannu â'r Pwyllgor hwn.

 

PENDERFYNWYD nodi Cynllun Busnes Adrannol y Prif Weithredwr 2017-20

11.

CYFARWYDDYD RHEOLI DATBLYGU A CHYTUNDEB LEFEL GWASANAETH CYNGOR SIR CAERFYRDDIN YNGHYLCH CODI TÂL AM GYNGOR CYN CYFLWYNO CAIS AC AR ÔL CAEL CANIATÂD I GAIS, MEWN PERTHYNAS Â PHROSIECTAU SEILWAITH CENEDLAETHOL EU HARWYDDOCÂD (DEDDF CYNLLUNIO 2008) A DATBLYGIADAU O ARWYDDOCÂD CENEDLAETHOL (DEDDF CYNLLUNIO (CYMRU) 2015) pdf eicon PDF 194 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i adroddiad am gyflwyno taliadau am roi cyngor, cyn bod ceisiadau'n cael eu cyflwyno, i ddatblygwyr sydd wrthi'n llunio ceisiadau DNS i'r Arolygiaeth Gynllunio ac ystyried diweddaru'r cyfarwyddyd/ffioedd presennol sy'n ymwneud â phrosiectau seilwaith cenedlaethol eu harwyddocâd. Hefyd byddai'r taliadau hyn yn berthnasol lle rhoddir cyngor ar ôl i gais gael ei ganiatáu ac o ran cyflawni cyfrifoldebau mewn perthynas ag amodau caniatâd cynllunio a monitro.

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu wrth y Pwyllgor fod costau, amser, a ffïoedd penodedig yn cael eu hystyried ar hyn o bryd. Hefyd, dywedwyd wrth yr Aelodau mai datblygiadau seilwaith sylweddol yng Nghymru a Lloegr oedd Prosiectau Seilwaith Cenedlaethol eu Harwyddocâd a Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol, megis cynigion ar gyfer pwerdai, prosiectau ynni adnewyddadwy mawr, meysydd awyr newydd, a helaethiadau i feysydd awyr, prosiectau ffordd sylweddol ac ati. Câi Prosiectau Seilwaith Cenedlaethol eu Harwyddocâd eu diffinio yn Neddf Cynllunio 2008, tra bo diffiniad o Ddatblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol yn Neddf Cynllunio (Cymru) 2015. Câi ceisiadau am Brosiectau Seilwaith Cenedlaethol eu Harwyddocâd a cheisiadau am Ddatblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol eu cyflwyno i'r Arolygiaeth Gynllunio er mwyn eu hasesu a gwneud argymhellion yn eu cylch.

Byddai argymhellion ynghylch ceisiadau am Brosiectau Seilwaith Cenedlaethol eu Harwyddocâd yn cael eu hanfon at yr Ysgrifennydd Gwladol perthnasol er mwyn cael penderfyniad yn eu cylch, ond Gweinidogion Cymru fyddai'n penderfynu ynghylch y ceisiadau am Ddatblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol.

Er gwybodaeth, dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod ymgynghoriad mewn perthynas â Fferm Wynt Gogledd Brechfa wedi cychwyn a bod y cwmni'n trafod â'r gymuned ar hyn o bryd.

 

PENDERFYNWYD nodi Cyfarwyddyd a Chytundeb Lefel Gwasanaeth Cyngor Sir Caerfyrddin ynghylch codi tâl am gyngor cyn cyflwyno cais ac ar ôl cael caniatâd i gais, mewn perthynas â Phrosiectau Seilwaith Cenedlaethol eu Harwyddocâd (NSIP) (Deddf Cynllunio 2008) a Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (DNS) (Deddf Cynllunio (Cymru) 2015).

 

12.

ADRODDIAD MONITRO CYLLIDEB CYFALAF A REFENIW 2016/17 pdf eicon PDF 149 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i'r Adroddiad Monitro ynghylch Cyllideb Refeniw a Chyllideb Gyfalaf 2016/17. Roedd yr adroddiad yn rhoi i'r Aelodau wybodaeth am fonitro'r gyllideb ar gyfer y Gwasanaethau Tai, Adfywio, Cynllunio a Hamdden ac yn rhoi ystyriaeth i'r sefyllfa gyllidebol. I grynhoi, roedd y gyllideb refeniw ar gyfer y gwasanaethau o fewn maes gorchwyl y Pwyllgor Craffu - Cymunedau yn rhagweld gorwariant o £196k.  Ond roedd y prif amrywiannau ar gynlluniau cyfalaf yn dangos gwariant net rhagweladwy o £18,246k o gymharu â chyllideb net weithredol o £24,816k gan roi amrywiant o £-6,570.

 

Yn dilyn ymholiad mewn perthynas â'r siop yng Nghanolfan Sgïo Pen-bre, dywedodd y Pennaeth Tai a Diogelu'r Cyhoedd fod y siop yn lleihau ei stoc gan ei bod yn mynd i gau.

 

PENDERFYNWYD nodi'r Adroddiad Monitro ynghylch Cyllideb Refeniw a Chyllideb Gyfalaf 2016/17.

 

13.

LLOFNODI YN GOFNODAU CYWIR, COFNODION Y PWYLLGOR A GYNHALIWYD AR Y 3YDD TACHWEDD, 2016 pdf eicon PDF 298 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu Cymunedau ar 3ydd o Dachwedd 2016 gan eu bod yn gywir.