Agenda a Chofnodion

Cabinet - Dydd Iau, 22ain Rhagfyr, 2016 10.00 yb

Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd. M Gravell.</AI1>

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Y Cynghorydd

Rhif y Cofnod

Y Math o Fuddiant

H.A.L. Evans

10 – Atal, Ymyrraeth gynnar a Hyrwyddo Byw'n Annibynnol

Mae ei mam yn derbyn gwasanaethau gofal.

3.

LLOFNODI FEL COFNOD CYWIR COFNODION CYFARFOD Y BWRDD GWEITHREDOL A GYNHALWYD AR YR 21AIN TACHWEDD, 2016. pdf eicon PDF 228 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod y Bwrdd Gweithredol a gynhaliwyd ar 21 Tachwedd, 2016 yn gofnod cywir.

4.

CWESTIYNAU Â RHYBYDD GAN AELODAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau â rhybudd wedi cael eu cyflwyno gan yr Aelodau.  Fodd bynnag, roedd wedi cael gwybod gan y Cynghorwyr D.M. Cundy a J.S. Edmunds, eu bod yn dymuno gofyn cwestiwn ynghylch eitem 6 ar yr agenda, a byddai'r rhain yn cael sylw o dan yr eitem briodol yn ddiweddarach yn y cyfarfod.

5.

CWESTIYNAU A RHYBYDD GAN Y CYHOEDD

Dogfennau ychwanegol:

5.1

CWESTIWN GAN MR ROBERT WILLOCK I'R CYNGHORYDD GARETH JONES, AELOD O'R BWRDD GWEITHREDOL DROS ADDYSG A PHLANT:-

“Mr Jones. Yn ein cyfarfod cyntaf gyda chi'r llynedd, dywedoch fod 30% o wersi yn Gymraeg yn ormod i'r plant Saesneg. Fel addysgwr, sut ydych wedi dod i'r casgliad y bydd trochi plant yn llwyr yn eu hiaith wanaf yn fwy buddiol i'r plant na dysgu Cymraeg ail iaith?”

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

“Yn ein cyfarfod cyntaf gyda chi'r llynedd, dywedoch fod 30% o wersi yn Gymraeg yn ormod i'r plant Saesneg. Fel addysgwr, sut ydych wedi dod i'r casgliad y bydd trochi plant yn llwyr yn eu hiaith wanaf yn fwy buddiol i'r plant na dysgu Cymraeg ail iaith?”

Ymateb gan y Cynghorydd Gareth. Jones, yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Addysg a Phlant:-

"Bydd y penderfyniad terfynol yn seiliedig ar sail y rhinweddau addysgol a lles pennaf y dysgwyr."

Gofynnodd Mr Willcock y cwestiwn atodol canlynol:-

"Rwyf am dynnu eich sylw at adroddiad Unesco Achub y Plant ar Iaith ac Addysg - The Missing Link 2016, sy'n nodi yn gwbl i'r gwrthwyneb o ran y broses drochi. Mae iaith y cartref, lle mae 70% o'r cartrefi yn Llangennech yn siarad Saesneg, yn cael ei adnabod fel y famiaith. Ac os yw'r iaith bwysicaf yn cael ei disodli gan ail iaith mae'n niweidiol i addysg tymor hir y plentyn. Rydym yma heddiw i roi'r addysg orau i'n plant. Os nad ydych wedi darllen yr adroddiad hwn, a fyddech cystal ag atal y Bwrdd hyd nes i chi fod yn agored i'r wybodaeth a chael barn gytbwys."

Ymatebodd y Cynghorydd Jones fel a ganlyn:-

"Tynnwyd fy sylw at yr adroddiad yn ystod yr wythnos diwethaf.  Mae’r dystiolaeth ryngwladol, fel y dyfynnir gan Lywodraeth Cymru, yn cadarnhau mai’r ffordd fwyaf effeithiol i ddatblygu plant dwyieithog yw eu trochi yn yr iaith sy’n llai cyffredin wrth ddatblygu hefyd eu sgiliau yn yr iaith sy’n fwy cyffredin.  Hefyd mae Llywodraeth Cymru yn hyrwyddo, yn achos plant sydd o deuluoedd di-Gymraeg, fod trochi plant yn y Gymraeg yn hynod o bwysig er mwyn gwreiddio’r iaith.”

5.2

CWESTIWN GAN MS NIKKI LLOYD I'R CYNGHORYDD GARETH JONES, AELOD O'R BWRDD GWEITHREDOL DROS ADDYSG A PHLANT:-

“Cynhaliwyd cynllun peilot gan yr Ysgol i ymchwilio i drochi disgyblion yn y Gymraeg mewn dosbarthiadau derbyn. Rydym wedi gwneud cais am ganlyniadau'r cynllun peilot hwn gan yr Ysgol a'r Cyngor Sir o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000. Fodd bynnag, rydym yn dal i aros am y canlyniadau hyn. Adeg y cynllun peilot hwn, dim ond y rhieni oedd yn y cyfarfod yn yr Ysgol gafodd wybod amdano, ac ni ddosbarthwyd unrhyw lythyrau dilynol. Dylai'r dystiolaeth a ganfuwyd o'r cynllun peilot hwn fod wedi cael ei chasglu a'i chyflwyno gyda'r cynnig. Yr unig bryd cawsom wybod am y cynllun peilot oedd pan roddwyd gwybodaeth inni drwy Ryddid Gwybodaeth, ac nid yw'r wybodaeth wedi cael ei chyhoeddi. Nid yw'r dystiolaeth a'r canlyniadau wedi cael eu cyflwyno gyda'r cynnig, ac nid yw'n hysbys a oes galw gwirioneddol am newid. Yn ôl y Côd Trefniadaeth Ysgolion, dylid asesu'r galw am ddarpariaeth ychwanegol o unrhyw fath mewn ardal a dangos tystiolaeth ar ei gyfer. O edrych ar y sefyllfa bresennol yn Ysgolion Llangennech, ar hyn o bryd mae 121 o blant o'r tu allan i'r dalgylch yn dod i Ysgol Llangennech, ac, ar yr un pryd, mae 111 o blant yn gadael y pentref i gael addysg (mae 20 o'r disgyblion hyn wedi gadael yn y misoedd diwethaf o ganlyniad i'r cynnig hwn a'r ansicrwydd). Mae'n amlwg bod y ffactorau hyn wedi cael eu hanwybyddu. Pam nad oes asesiad digonol o'r galw wedi cael ei gynnal?”

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd Ms Lloyd yn gallu bod yn bresennol yn y cyfarfod heddiw ond gofynnwyd iddo ofyn y cwestiwn ar ei rhan.

“Mae'r Ddogfen Ymgynghori a'r broses ymgynghori wedi cael eu cynnal yn unol â'r Côd Trefniadaeth Ysgolion statudol.  Mae Rhan 4 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol baratoi Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg yn nodi sut y byddant yn cyflawni eu swyddogaethau addysg gyda golwg benodol ar wella'r modd y mae'r ddarpariaeth addysg drwy gyfrwng y Gymraeg yn cael ei chynllunio a chodi'r safonau o ran addysg cyfrwng Cymraeg ac addysgu Cymraeg.  Mae Adran 86 o'r Ddeddf yn nodi y gallai Gweinidogion Llywodraeth Cymru ofyn i awdurdodau lleol, yn unol â'r rheoliadau, gynnal asesiad o'r galw am addysg cyfrwng Cymraeg ymhlith rhieni'r ardal ar gyfer eu plant.  Mae'r Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg a Rheoliadau Asesu'r Galw am Addysg drwy Gyfrwng y Gymraeg (Cymru) 2013 yn nodi sut y dylai awdurdod lleol fynd ati i gynnal asesiad addysg cyfrwng Cymraeg, petai hyn yn ofynnol gan Weinidogion Llywodraeth Cymru.  Hyd yn hyn, nid yw Llywodraeth Cymru wedi gofyn i Gyngor Sir Caerfyrddin ymgymryd ag asesiad addysg cyfrwng Cymraeg.  Gan fod gennym ganran uchel o ddysgwyr sy'n cael addysg cyfrwng Cymraeg nid yw'n ofynnol arnom yn ôl y gyfraith i fesur y galw.  Mae'r Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg Sir Gaerfyrddin wedi cael ei gymeradwyo'n ffurfiol gan Lywodraeth Cymru.  Mae'r cynnydd  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5.2

5.3

CWESTIWN GAN MRS MICHAELA BEDDOWS I'R CYNGHORYDD GARETH JONES, AELOD O'R BWRDD GWEITHREDOL DROS ADDYSG A PHLANT:-

“Mewn cyfarfod blaenorol o'r Pwyllgor Craffu, dywedodd Mr Sully mai ei fwriad yw newid yr holl ysgolion Dwy Ffrwd yn rhai cyfrwng Cymraeg a newid yr holl ysgolion cyfrwng Saesneg yn rhai Dwy Ffrwd ac yn y blaen....Bydd hyn yn arwain at waredu'r holl ysgolion cyfrwng Saesneg sydd yn Sir Gaerfyrddin yn y pen draw.  A allwch gadarnhau ai hwn hefyd yw cynllun addysg yr Awdurdod yn y tymor hir?”

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd Mrs Beddows yn gallu bod yn bresennol yn y cyfarfod heddiw ond gofynnwyd iddo ofyn y cwestiwn ar ei rhan.

“Mewn cyfarfod blaenorol o'r Pwyllgor Craffu, dywedodd Mr Sully mai ei fwriad oedd newid yr holl ysgolion Dwy Ffrwd yn rhai cyfrwng Cymraeg a newid yr holl ysgolion cyfrwng Saesneg yn rhai Dwy Ffrwd ac yn y blaen....Bydd hyn yn arwain at waredu'r holl ysgolion cyfrwng Saesneg sydd yn Sir Gaerfyrddin yn y pen draw.  A allwch gadarnhau ai hwn hefyd yw cynllun addysg yr Awdurdod yn y tymor hir?”

Ymatebodd y Cynghorydd Gareth Jones, yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Addysg a Phlant fel a ganlyn:-

“Mae gan Gyngor Sir Caerfyrddin gyfrifoldeb statudol o dan Ran 4 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 i lunio Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg ar gyfer ei ardal gyda golwg benodol ar wella'r modd y cynllunnir darparu addysg drwy gyfrwng y Gymraeg er mwyn codi'r safonau o ran addysgu ac o ran dysgu Cymraeg.  Mae dau Gynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg diwethaf Sir Gaerfyrddin wedi cael eu derbyn gan Weinidog Cymru a Chyngor Sir Caerfyrddin.  Yn ôl y Cynllun mae'n ofynnol i holl ysgolion cynradd Sir Gaerfyrddin, gan gynnwys yr ysgolion cyfrwng Saesneg, symud ar hyd y continwwm iaith, gan barhau i gynyddu cyfran yr addysg sy'n cael ei ddarparu drwy gyfrwng y Gymraeg, gyda golwg ar sicrhau ymhen amser y bydd yr holl blant yn gwbl ddwyieithog wrth adael yr ysgol gyda defnydd o ddwy iaith o leiaf.”

5.4

CWESTIWN GAN MR STEVE HATTO I'R CYNGHORYDD GARETH JONES, AELOD O'R BWRDD GWEITHREDOL DROS ADDYSG A PHLANT:-

“Yn ôl adroddiad diweddaraf PISA, mae Cymru'n dal y tu ôl i weddill y DU mewn Mathemateg, Gwyddoniaeth a Saesneg. Gallai'r ffaith nad yw plant yn cael eu haddysgu yn eu hiaith gyntaf fod yn rheswm uniongyrchol dros hyn. Ni fydd plant nad ydynt mor ddisglair yn academaidd yn cyrraedd eu potensial llawn os nad ydynt yn deall yn llawn y wers sy'n cael ei dysgu ac os na fydd rhieni'n gallu eu helpu gartref. A yw Cyngor Sir Caerfyrddin yn credu bod hyrwyddo'r Gymraeg i'r fath raddau ar draul safon ein haddysg yn aberth gwerth ei wneud?” 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

“Yn ôl adroddiad diweddaraf PISA, mae Cymru'n dal y tu ôl i weddill y DU mewn Mathemateg, Gwyddoniaeth a Saesneg. Gallai'r ffaith nad yw plant yn cael eu haddysgu yn eu hiaith gyntaf fod yn rheswm uniongyrchol dros hyn. Ni fydd plant nad ydynt mor ddisglair yn academaidd yn cyrraedd eu potensial llawn os nad ydynt yn deall yn llawn y wers sy'n cael ei dysgu ac os na fydd rhieni'n gallu eu helpu gartref. A yw Cyngor Sir Caerfyrddin yn credu bod hyrwyddo'r Gymraeg i'r fath raddau ar draul safon ein haddysg yn aberth gwerth ei wneud?”

Ymatebodd y Cynghorydd Gareth Jones, yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Addysg a Phlant fel a ganlyn:-

 “Mae blaenoriaeth genedlaethol yng Nghymru, a arddelir gan Gyngor Sir Caerfyrddin, i gynyddu nifer y bobl yn ein cymunedau sy'n gallu siarad Cymraeg ac sy'n defnyddio'r iaith wrth fyw eu bywydau beunyddiol.  Ystyrir bod ysgolion yn elfen hanfodol bwysig yn natblygiad plant er mwyn iddyn nhw fod yn gwbl ddwyieithog erbyn eu bod yn gadael yr ysgol gynradd.  Nid ydym yn derbyn bod addysg drwy gyfrwng y Gymraeg yn arwain at safonau a chanlyniadau is. Mae profion PISA yn profi ystod o sgiliau a doniau ac maent yn cael eu gweinyddu yn yr iaith y mae'r plentyn yn astudio.  Yn anffodus nid oes canlyniadau ar gael o ran lefelau Cyngor Sir Caerfyrddin na lefel canlyniadau unigol ac felly mae'n amhosibl canfod sut y gwnaeth disgyblion Sir Gaerfyrddin berfformio yn y profion hyn.”

Gofynnodd Mr Hatto y cwestiwn atodol canlynol:-

"Mae ymchwil wedi dangos bod plant sy'n cael eu haddysgu yn Gymraeg sy'n dod o gartrefi lle siaredir Cymraeg yn fwy tebygol o gyrraedd eu potensial. Nid yw plant o gartrefi lle siaredir Saesneg yn cyrraedd eu llawn botensial pan fyddant yn cael eu haddysgu yn gyfan gwbl yn Gymraeg.  Mae'r Athro Angelina Kioko, mewn astudiaeth o Affrica yn nodi bod defnyddio iaith cartref y plentyn yn fwy buddiol i'w addysg yn hytrach na defnyddio ail iaith.  Ar ôl gweithio am 20 mlynedd mewn colegau yn Abertawe a Llanelli, byddem yn gofyn bob blwyddyn i fyfyrwyr a oedd yn dod o ysgolion uwchradd Cymraeg a oeddent yn dymuno cael eu haddysgu yn Gymraeg, a doedd neb yn derbyn y cynnig, byth. A yw'r Cyngor yn cytuno bod yr achos a nodir gan yr Athro Kioko yn wir?"

Ymatebodd y Cynghorydd Jones fel a ganlyn:-

"Nid wyf yn gyfarwydd â'r ymchwil fy hun, ond byddaf yn ymchwilio iddo erbyn y cyfarfod nesaf a bydd gennyf well ateb ar eich cyfer."

</AI9>

5.5

CWESTIWN GAN MRS JULIA REES I'R CYNGHORYDD GARETH JONES, AELOD O'R BWRDD GWEITHREDOL DROS ADDYSG A PHLANT:-

“Fel rhiant plentyn â gofynion dysgu ychwanegol, yn amlwg rwy'n teimlo'n gryf iawn ynghylch yr hyn sy'n digwydd yma heddiw. Cafodd fy mab ei osod gan Gyngor Sir Caerfyrddin mewn canolfan asesu tymor byr, un o blith 3 yn unig yn Sir Gaerfyrddin.  Cafodd ei osod yno i asesu ei ofynion cyn ei ryddhau i addysg brif ffrwd fel nifer o blant eraill bob blwyddyn. Mae'r 3 canolfan asesu hyn yn addysgu drwy gyfrwng y Saesneg ac nid oes canolfan gyfatebol Gymraeg yn Sir Gaerfyrddin. Fel sydd wedi cael ei nodi o'r blaen, dywedwyd wrthym mai nod y cyngor yw dirwyn yr holl addysg drwy gyfrwng y Saesneg i ben erbyn 2022, ac mai rhan o'r cynllun hirdymor hwn yn unig yw Ysgol Llangennech. Sut gall y cyngor ddirwyn addysg drwy gyfrwng y Saesneg i ben yn y sir pan gaiff llawer o blant bob blwyddyn eu gosod gan arbenigwyr y Sir yn y canolfannau asesu Saesneg eu hiaith hyn, os na fydd ysgolion Saesneg y gallant gael eu rhyddhau iddynt ar ôl eu hasesu?”

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

“Fel rhiant plentyn â gofynion dysgu ychwanegol, yn amlwg rwy'n teimlo'n gryf iawn ynghylch yr hyn sy'n digwydd yma heddiw. Cafodd fy mab ei osod gan Gyngor Sir Caerfyrddin mewn canolfan asesu tymor byr, un o blith 3 yn unig yn Sir Gaerfyrddin. Cafodd ei osod yno i asesu ei ofynion cyn ei ryddhau i addysg brif ffrwd fel nifer o blant eraill bob blwyddyn. Mae'r 3 canolfan asesu hyn yn addysgu drwy gyfrwng y Saesneg ac nid oes canolfan gyfatebol Gymraeg yn Sir Gaerfyrddin. Fel sydd wedi cael ei nodi o'r blaen, dywedwyd wrthym mai nod y cyngor yw dirwyn yr holl addysg drwy gyfrwng y Saesneg i ben erbyn 2022, ac mai rhan o'r cynllun hirdymor hwn yn unig yw Ysgol Llangennech. Sut gall y cyngor ddirwyn addysg drwy gyfrwng y Saesneg i ben yn y sir pan gaiff llawer o blant bob blwyddyn eu gosod gan arbenigwyr y Sir yn y canolfannau asesu Saesneg eu hiaith hyn, os na fydd ysgolion Saesneg y gallant gael eu rhyddhau iddynt ar ôl eu hasesu?”

Ymatebodd y Cynghorydd Gareth Jones, yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Addysg a Phlant fel a ganlyn:-

“Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn darparu ar gyfer dysgwyr ag Anghenion Dysgu Ychwanegol yn y Gymraeg a'r Saesneg.  Mae'r holwr yn gywir yn nodi bod tair Canolfan Arsylwi ac Asesu o fewn y Sir. Fodd bynnag, er bod dwy o'r canolfannau hyn yn addysgu trwy gyfrwng y Saesneg, mae'r ganolfan yn Ysgol Bro Banw yn addysgu'n ddwyieithog.  Mae gennym hefyd uned cyfrwng Cymraeg yn Ysgol Nantgaredig. Mae'n ofynnol i holl ysgolion cynradd yn Sir Gaerfyrddin, gan gynnwys ysgolion cyfrwng Saesneg, yn ôl y polisi Cymraeg mewn Addysg, symud ar hyd y continwwm iaith, gan barhau i gynyddu cyfran yr addysg sy'n cael ei ddarparu drwy gyfrwng y Gymraeg, gyda golwg ar sicrhau ymhen amser bod yr holl blant yn gwbl ddwyieithog wrth adael yr ysgol. Mae'r disgwyliad o ran cynnydd yn berthnasol i'r holl ysgolion, fodd bynnag bydd pa mor gyflym y gall ysgolion ehangu dwyieithrwydd ac addysg cyfrwng Cymraeg yn dibynnu ar amgylchiadau lleol.  Er ei bod yn ofynnol i ysgolion cynradd symud ar hyd y continwwm iaith yn ôl y Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg, nid yw'n fwriad gan Gyngor Sir Caerfyrddin ddirwyn addysg cyfrwng Saesneg i ben erbyn 2022.”

Gofynnodd Mrs Rees y cwestiwn atodol canlynol:-

"Mi wnaethoch chi ddweud fod addysg ddwyieithog ym Mro Banw, ond pan wnes i siarad â'r ysgol cefais wybod nad trochi yn y Gymraeg sydd ar gael, ac mewn gwirionedd mae'n rhyw fath o gyfuniad felly nid oes proses drochi yn yr ysgol. Siaradais hefyd ag Ysgol Nantgaredig a dywedwyd wrthyf oherwydd bod hyn yn rhan o'r brif ysgol gynradd, dim ond plant o'r ardal gyfagos leol sy'n gallu cael mynediad ac nid yr ardal ehangach.  Felly does dim gobaith i blant fel fy mab a gafodd ei roi mewn ysgol cyfrwng Cymraeg ond yna ei symud gan y Cyngor i ganolfan asesu sydd yn uniaith  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5.5

5.6

CWESTIWN GAN MR DEAN BOLGIANI I'R CYNGHORYDD GARETH JONES, AELOD O'R BWRDD GWEITHREDOL DROS ADDYSG A PHLANT:-

“Yn ôl gwybodaeth a ddaeth i law yn ddiweddar o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, mae Ysgolion Bryn a Bynea eisoes wedi gwrthod ceisiadau am le yn yr ysgolion, er gwaethaf y ffaith y dywedwyd wrthym mewn cyfarfodydd blaenorol nad oedd yr ysgolion yn llawn. Yn yr Hendy y mae'r Ysgol Cyfrwng Saesneg agosaf, ac nid oes ganddi lwybr diogel i'r ysgol. Rydych wedi rhoi gwybod inni drwy gydol yr ymgynghoriad hwn nad yw'n fwriad gan yr Awdurdod i unrhyw blentyn adael Ysgol Llangennech, ond mae'n amlwg eich bod eisoes wedi gyrru rhai plant ymaith a diflannodd y croeso pan ddatganodd Cadeirydd y Llywodraethwyr yn agored fod plant sy'n siarad Saesneg yn niweidiol i addysg plant sy'n siarad Cymraeg. Os gwaredir addysg drwy gyfrwng y Saesneg o Langennech, gwaredir hefyd y rhyddid sydd gan rieni i ddewis.  A fyddech cystal ag ateb y cwestiwn hwn y tro hwn a dweud ble yr ydych yn mynd i ddarparu ar gyfer disgyblion sy'n ceisio Addysg drwy Gyfrwng y Saesneg, gan na fydd ar gael mwyach yn Llangennech ar gyfer y sawl sy'n ei cheisio?”

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

“Yn ôl gwybodaeth a ddaeth i law yn ddiweddar o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, mae Ysgolion Bryn a Bynea eisoes wedi gwrthod ceisiadau am le yn yr ysgolion, er gwaethaf y ffaith y dywedwyd wrthym mewn cyfarfodydd blaenorol nad oedd yr ysgolion yn llawn. Yn yr Hendy y mae'r Ysgol Cyfrwng Saesneg agosaf, ac nid oes ganddi lwybr diogel i'r ysgol. Rydych wedi rhoi gwybod inni drwy gydol yr ymgynghoriad hwn nad yw'n fwriad gan yr Awdurdod i unrhyw blentyn adael Ysgol Llangennech, ond mae'n amlwg eich bod eisoes wedi gyrru rhai plant ymaith a diflannodd y croeso pan ddatganodd Cadeirydd y Llywodraethwyr yn agored fod plant sy'n siarad Saesneg yn niweidiol i addysg plant sy'n siarad Cymraeg. Os gwaredir addysg drwy gyfrwng y Saesneg o Langennech, gwaredir hefyd y rhyddid sydd gan rieni i ddewis. A fyddech cystal ag ateb y cwestiwn y tro hwn a dweud ble yr ydych yn mynd i ddarparu ar gyfer disgyblion sy'n ceisio Addysg drwy Gyfrwng y Saesneg, gan na fydd ar gael mwyach yn Llangennech ar gyfer y sawl sy'n ei cheisio?”

Ymatebodd y Cynghorydd Gareth Jones, yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Addysg a Phlant fel a ganlyn:-

“Nid yw'r Cyngor Sir yn cynnig dewisiadau eraill heblaw ysgol Llangennech ar gyfer y plant lleol.  Rydym yn parhau o'r farn bod modd diwallu anghenion yr holl ddysgwyr yn Ysgol Llangennech.  Dymuniad yr Awdurdod Lleol yw bod yr holl ddisgyblion presennol yn aros yn yr ysgol a bod y plant lleol yn y dyfodol yn mynychu ysgol eu pentref gan dderbyn eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg yn bennaf, a bod Saesneg yn bwnc a addysgir yng Nghyfnod Allweddol 2 ac yn gyfrwng dysgu ar gyfer rhai gwersi eraill yn ystod y blynyddoedd olaf yn yr ysgol. Nod Cyngor Sir Caerfyrddin yw bod yr holl blant yn gwbl ddwyieithog erbyn iddynt adael yr ysgol gynradd gyda mynediad at ragor o gyfleoedd a dewisiadau pan fyddant yn gadael yr ysgol.  Yr unig rwymedigaeth sydd ar y Cyngor Sir o ran hwyluso dewis y rhieni yw pan fo'r dewis hwnnw'n gyson â darparu addysg mewn modd effeithiol a defnyddio adnoddau'n effeithlon. Nid oes gan yr un rhiant hawl i fynnu lle mewn ysgol benodol i'w blentyn neu i'w blant.  Caiff y lleoedd yn yr ysgolion eu dyrannu ar sail polisi derbyn disgyblion cyhoeddedig y Cyngor, sy'n ffafrio bod plant yn mynychu eu hysgol leol neu ysgol ddynodedig.  Ar gais y rhieni caiff plant eu derbyn mewn ysgol heblaw eu hysgol ddynodedig a hynny pan fo lleoedd ar gael ac yn unol â'r meini prawf o ran goralw yn y polisi derbyn disgyblion cyhoeddedig.  Yn rhinwedd ei swyddogaeth fel yr Awdurdod Derbyn ar gyfer ysgolion yn Sir Gaerfyrddin, mae'r Cyngor yn ddiduedd ac yn gyfreithiol ni all gynghori rhieni ynghylch y dewis o ysgol ar gyfer eu plant. Mae'r llyfryn Derbyn i Ysgolion - Gwybodaeth Rieni yn rhoi'r holl wybodaeth sydd ei hangen ar rieni i'w helpu i ddewis ysgol, e.e. dewis iaith,  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5.6

5.7

CWESTIWN GAN MRS KAREN HUGHES I'R CYNGHORYDD GARETH JONES, AELOD O'R BWRDD GWEITHREDOL DROS ADDYSG A PHLANT:-

“Aelodau o gymuned Llangennech yw'r 'KeepDualStreamCommittee', sydd wedi rhoi eu hamser a'u harian yn wirfoddol i sicrhau bod llais gan y mwyafrif yn Llangennech. Hyd yn hyn, atebion megis 'Mae'n rhaid gwneud hynny oherwydd Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg' neu 'Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn gwybod beth sydd orau o ran addysg eich plentyn' neu 'Does dim galw am Ffrwd Ddeuol' sydd wedi cael eu rhoi i unrhyw gwestiynau. Yn syml, datganiadau damcaniaethol, camarweiniol, nad ydynt yn rhai ffeithiol yw'r rhain ac maent yn profi nad oes sylw'n cael ei roi i'r materion sy'n cyfrif go iawn. Methir cydnabod hyd yn oed bryderon ynghylch plant ag anableddau, galluoedd dysgu, dyfodiad rhaniadau cymdeithasol, traffig cynyddol trwy Langennech wrth i blant gael eu cludo yno ac oddi yno yn ddianghenraid i gael addysg yn eu dewis iaith, ynghyd ag effeithiau niweidiol ar yr amgylchedd ac ar hyrwyddo ffordd o fyw iach. Hefyd rhaid inni beidio ag anghofio'r effaith negyddol ar yr iaith Gymraeg ei hun, yr oedd y rhan fwyaf o'r rhieni'n ei chroesawu gan fod Llangennech wedi bod yn gefnogol bob amser o'r diwylliant, y dreftadaeth a'r iaith.  Rydym yn syfrdan nad oes un o'r ffactorau hyn yn rhan o'r Asesiad Cymunedol, er bod angen cyfreithiol i roi 'ystyriaeth ddyledus' iddynt.  Mae'n ymddangos mai ymarfer ticio bocsys yn unig yw hwn ac nad oes neb yn ei gymryd o ddifrif nac yn darparu atebion y gellir eu gweithredu. Yn hytrach mae'r Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg yn cael ei ddefnyddio fel dull i amddiffyn yr hyn a wneir.  Mae'n eironig mai diben yr Asesiad Cymunedol yw llywio'r Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg a thynnu sylw at risgiau er mwyn sicrhau bod yr hyn a weithredir yn addas at y diben. Ni chofnodwyd dim o'r materion a godwyd gan y Gymuned yn eich asesiadau risg. O ganlyniad, rhaid gofyn beth yw diben cynnal yr ymgynghoriad hwn pan mae'r rhan fwyaf o'r barnau a'r pryderon yn cael eu hanwybyddu. A allwch egluro'r rhesymau dros anwybyddu proses wybodus a ddemocrataidd ar gyfer gwneud penderfyniadau, a sut y gallwch weld hyn yn rhywbeth positif?”

“Mae'r ddogfen ymgynghori wedi cael ei pharatoi; ac mae'r broses ymgynghori a'r cyfnod ymgynghori statudol wedi cael eu cynnal yn unol â'r Côd Trefniadaeth Ysgolion statudol.  Mae'n rhaid i ni ddilyn y broses honno.  Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi cytuno i gymeradwyo cynigion mewn perthynas ag ad-drefnu ysgolion.  Cyn dechrau'r cyfnod ymgynghori ar 25 Ionawr 2016, cafodd y Ddogfen Ymgynghori ei hystyried gan y Pwyllgor Craffu - Addysg a Phlant a'r Bwrdd Gweithredol a rhoddwyd caniatâd i ymgynghori.  Yn dilyn diwedd y cyfnod ymgynghori ar 18 Mawrth 2016, paratowyd adroddiad ymgynghori yn cynnwys yr holl sylwadau a ddaeth i law gan gynnwys yr holl sylwadau cefnogol a'r gwrthwynebiadau mewn ymateb i'r cyfnod ymgynghori.  Yn ogystal roedd yr adroddiad hwn yn cynnwys ymateb Estyn a'r Ysgol i'r cynnig.  Cafodd yr Adroddiad Ymgynghori  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5.7

5.8

CWESTIWN GAN MR NIGEL HUGHES I'R CYNGHORYDD GARETH JONES, AELOD O'R BWRDD GWEITHREDOL DROS ADDYSG A PHLANT:-

“Bydd cael gwared ar y ffrwd ddeuol yn Llangennech yn cael effaith anferthol o ran annog pobl broffesiynol nad ydynt yn siarad Cymraeg i beidio â symud i'r ardal. Os oes ganddynt blant sydd wedi cael eu haddysg yn Saesneg yn eu blynyddoedd cynnar, maent yn annhebygol o symud i'r ardal. Bydd hyn yn cael effaith andwyol ar brisiau tai a buddsoddiadau o'r tu allan i'r sir. Mae fel petai strategaeth hirdymor Cyngor Sir Caerfyrddin am greu sir lle caiff pobl eu hynysu a'u gwahanu. A allwch egluro sut ydych yn bwriadu denu busnesau a doniau newydd i'r sir pan fyddwch ond yn addysgu plant mewn un o ddwy iaith gydnabyddedig Cymru, heb roi dewis i deuluoedd? Dyma gamsyniad arall gan y cynghorwyr lleol a ysgrifennodd y Cynllun Strategol  Cymraeg mewn Addysg, nad yw wedi ystyried yr effeithiau hirdymor yn ôl pob tebyg.”

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

“Bydd cael gwared ar y ffrwd ddeuol yn Llangennech yn cael effaith anferthol o ran annog pobl broffesiynol nad ydynt yn siarad Cymraeg i beidio â symud i'r ardal.  Os oes ganddynt blant sydd wedi cael eu haddysg yn Saesneg yn eu blynyddoedd cynnar, maent yn annhebygol o symud i'r ardal.  Bydd hyn yn cael effaith andwyol ar brisiau tai a buddsoddiadau o'r tu allan i'r sir. Mae fel petai strategaeth hirdymor Cyngor Sir Caerfyrddin am greu sir lle caiff pobl eu hynysu a'u gwahanu. A allwch egluro sut ydych yn bwriadu denu busnesau a doniau newydd i'r sir pan fyddwch ond yn addysgu plant mewn un o ddwy iaith gydnabyddedig Cymru, heb roi dewis i deuluoedd?  Dyma gamsyniad arall gan y cynghorwyr lleol a ysgrifennodd y Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg, nad yw wedi ystyried yr effeithiau hirdymor yn ôl pob tebyg.”

Ymatebodd y Cynghorydd Gareth Jones, yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Addysg a Phlant fel a ganlyn:-

“Eisoes mae nifer o ysgolion cyfrwng Cymraeg yn Sir Gaerfyrddin yn darparu addysg yn llwyddiannus i ddisgyblion o gefndiroedd Saesneg/eraill gyda disgyblion yn llwyddo.  Mae'r dystiolaeth ar gyfer ysgolion Llangennech yn cadarnhau bod plant o gartrefi di-Gymraeg sydd yn y ffrwd Gymraeg yn cael canlyniadau cyson dda yn yr holl bynciau, gan gynnwys Saesneg.  Bydd yr addysg yn Ysgol Llangennech yn ddwyieithog a bydd Saesneg yn cael ei addysgu fel pwnc yng Nghyfnod Allweddol 2 ac yn cael ei ddefnyddio fel cyfrwng addysgu mewn rhai gwersi eraill yn ystod blynyddoedd olaf yr ysgol ynghyd â'r iaith Gymraeg.  Nod Cyngor Sir Caerfyrddin yw y bydd disgyblion yn gwbl ddwyieithog yn y Gymraeg a'r Saesneg pan fyddant yn symud i'r ysgol uwchradd.  Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn ystyried yr iaith Gymraeg yn fantais ac yn sgil allweddol ar gyfer cael gwaith yn Sir Gaerfyrddin a Chymru oherwydd gydag amser bydd dwyieithrwydd yn sgìl mwyfwy pwysig yn y byd gwaith.  Er enghraifft, mae'r holl sefydliadau cyhoeddus yng Nghymru yn gorfod cydymffurfio â safonau statudol newydd o ran y Gymraeg, a thros gyfnod bydd mwyfwy o angen iddynt benodi nifer gynyddol o siaradwyr Cymraeg i ddarparu eu gwasanaethau.  Gydag amser bydd meddu ar sgiliau Cymraeg yn rhoi mwyfwy o fantais gystadleuol i unigolion wrth chwilio am waith.”

Gofynnodd Mr Hughes y cwestiwn atodol canlynol:-

"Fel y dywedais, mae gan Gymru ddwy iaith gydnabyddedig, Cymraeg a Saesneg. Rwy'n credu nad ydych yn rhoi digon o bwyslais ar bwysigrwydd cael addysg dda yn Saesneg.  Yn y byd economaidd modern hwn mae Saesneg yn cael ei chydnabod yn iaith fusnes dros 2 biliwn o siaradwyr, ac mae'n hanfodol i ddyfodol economaidd a chymdeithasol plant yng Nghymru. Sut y gallwch chi ystyried bod cael ei gwared yn fuddiol pan fo gwledydd eraill yn ceisio ei defnyddio mwy a mwy?"

Ymatebodd y Cynghorydd Jones fel a ganlyn:-

"Nid ydym yn ceisio cael gwared ar Saesneg fel pwnc yn Ysgol Llangennech nac o fewn y sir. Mae'n bwysig iawn, iawn a bydd hefyd angen Saesneg arnoch fel sgil cyflogaeth allweddol.  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5.8

5.9

CWESTIWN GAN MR PHILLIP WILLOCK I'R CYNGHORYDD GARETH JONES, AELOD O'R BWRDD GWEITHREDOL DROS ADDYSG A PHLANT:-

“Rydym ar fin gweld a ydych chi, fel y diduedd Mr Campbell, yn credu mewn addysg Gymraeg trwy orfodaeth.  Rydych wedi gofyn am sylwadau'r cyhoedd trwy'r ymgynghoriad statudol a bellach rydym yn awyddus iawn i weld a ydych yn mynd i wrando arnynt. O ystyried bod mwyafrif ymatebion Llangennech yn gwrthwynebu'r newid, a ydych yn mynd i fabwysiadu ymagwedd awdurdodaidd at yr ymgynghoriad hwn?”

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

“Rydym ar fin gweld a ydych chi, fel y diduedd Mr Campbell, yn credu mewn addysg Gymraeg trwy orfodaeth. Rydych wedi gofyn am sylwadau'r cyhoedd trwy'r ymgynghoriad statudol a bellach rydym yn awyddus iawn i weld a ydych yn mynd i wrando arnynt. O ystyried bod mwyafrif ymatebion Llangennech yn gwrthwynebu'r newid, a ydych yn mynd i fabwysiadu ymagwedd awdurdodaidd at yr ymgynghoriad hwn?”

Ymatebodd y Cynghorydd Gareth Jones, yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Addysg a Phlant fel a ganlyn:-

“Ni allaf siarad dros sylwadau aelodau eraill ynghylch y cynnig, fodd bynnag, wrth ystyried yr holl sylwadau a ddaeth i law, mae'n rhaid, yn statudol, i'r penderfyniad ynghylch camu ymlaen neu beidio â'r cynnig gael ei wneud er lles pennaf y dysgwyr.  Felly mae'n rhaid penderfynu ar sail y rhinweddau addysgol yn hytrach nag ar sail nifer yr ymatebion a ddaeth i law, boed o blaid neu yn erbyn y cynnig.”

Gofynnodd Mr Willcock y cwestiwn atodol canlynol:-

"Mae plant y blynyddoedd cynnar o dan anfantais os nad ydynt yn cael eu haddysgu yn iaith y cartref.  Mae ymchwil gan Dr. Angelina Kioko, ynghyd ag adroddiad Unesco gan Helen Pinnock a chanlyniadau'r profion Pisa yn dangos hyn. Wrth edrych ar ganlyniadau Pisa, mae plant y Ffindir yn dechrau'r ysgol yn 7 oed ac yn cael eu haddysgu yn iaith y cartref.  Mae'r Ffindir, a ddaeth yn bumed yng nghanlyniadau Pisa, ychydig y tu ôl o ran marciau i Singapore a ddaeth yn gyntaf.   Mae gan y Ffindir, fel Cymru, iaith frodorol sef Suomi. Wrth ddefnyddio iaith y cartref er lles y plant ac nid er mwyn gwneud cymhellion gwleidyddol, cudd gydag addysg, mae'r Ffindir ymhell ar y blaen ar Gymru. A yw'r Bwrdd Gweithredol wedi ystyried unrhyw adroddiadau eraill heblaw adroddiad Yr Athro Donaldson ac os felly, pwy oedd yr awduron ac a wnaethant ddewis yr adroddiadau a oedd yn cyd-fynd â'u cymhellion?" 

Ymatebodd y Cynghorydd Jones fel a ganlyn:-

"Rydym wedi ein rhwymo i ddeddfwriaeth Llywodraeth Cymru yn ogystal ag adroddiadau eraill. Rwy'n gwybod bod swyddogion yn sicrhau eu bod yn meddu ar y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch dwyieithrwydd."

5.10

CWESTIWN GAN MRS SALLYANN THOMAS I'R CYNGHORYDD GARETH JONES, AELOD O'R BWRDD GWEITHREDOL DROS ADDYSG A PHLANT:-

“Cynhaliwyd ymgynghoriad eang yn ddiweddar gan Lywodraeth Cymru i ganfod barn amrywiol ffynonellau am ei gweledigaeth hirdymor ar gyfer yr iaith Gymraeg. Nod Llywodraeth Cynulliad Cymru yw creu miliwn o siaradwyr dwyieithog, Cymraeg a Saesneg, erbyn 2050, ac mae canlyniadau'r ymgynghoriad hwn yn cael eu hadolygu o hyd. Yn ddiamheuaeth, bydd y canfyddiadau'n cael effaith sylweddol ar sut ydym yn darparu ein system addysg mewn Ysgolion Cynradd. Pa resymau sydd gennych dros beidio ag aros tan fod argymhellion ymgynghoriad panel annibynnol Cymru yn dod i law ar ddechrau 2017, cyn penderfynu ar unrhyw newid i unrhyw un o'n hysgolion yn Sir Gaerfyrddin?”

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd Ms Thomas yn gallu bod yn bresennol yn y cyfarfod heddiw ond gofynnwyd iddo ofyn y cwestiwn ar ei rhan.

“Cynhaliwyd ymgynghoriad eang yn ddiweddar gan Lywodraeth Cymru i ganfod barn amrywiol ffynonellau am ei gweledigaeth hirdymor ar gyfer yr iaith Gymraeg.  Nod Llywodraeth Cynulliad Cymru yw creu miliwn o siaradwyr dwyieithog, Cymraeg a Saesneg, erbyn 2050, ac mae canlyniadau'r ymgynghoriad hwn yn cael eu hadolygu o hyd.  Yn ddiamheuaeth, bydd y canfyddiadau'n cael effaith sylweddol ar sut ydym yn darparu ein system addysg mewn Ysgolion Cynradd.  Pa resymau sydd gennych dros beidio ag aros tan fod argymhellion ymgynghoriad panel annibynnol Cymru yn dod i law ar ddechrau 2017, cyn penderfynu ar unrhyw newid i unrhyw un o'n hysgolion yn Sir Gaerfyrddin?”

Ymatebodd y Cynghorydd Gareth Jones, yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Addysg a Phlant fel a ganlyn:-

"Cyn cyhoeddi "Ymgynghoriad ynghylch Strategaeth Ddrafft Llywodraeth Cymru: miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050”, roedd Awdurdodau Lleol yn destun deddfwriaeth a gofynion gan Lywodraeth Cymru mewn perthynas ag addysg cyfrwng Cymraeg ac mae'r rheiny dal mewn grym.  Yn 2010, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei bolisi cenedlaethol "Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg 2010" er mwyn datblygu addysg drwy gyfrwng y Gymraeg ledled y wlad.  Mae'r strategaeth genedlaethol yn gosod safbwyntiau Llywodraeth Cymru ar bwysigrwydd addysg cyfrwng Cymraeg i ddeilliannau dysgwyr a'r uchelgais o ddatblygu dinasyddion dwyieithog.  Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru hefyd "Strategaeth Iaith Gymraeg 2012-2017 – Iaith Fyw: Iaith Byw". Mae'r polisi cenedlaethol hwn yn ystyried yr amodau y mae eu hangen er mwyn hyrwyddo mwy o ddefnydd o'r Gymraeg gan blant a phobl ifanc ym mhob agwedd ar eu bywydau ac mae'n cynnig nifer o gamau gweithredu lefel uchel er mwyn sicrhau'r nod. Mae'n rhaid i Gyngor Sir Caerfyrddin yn ogystal ag Awdurdodau Lleol eraill yng Nghymru barhau i gydymffurfio â'r deddfwriaethau a'r gofynion hyn ni waeth am yr ymgynghoriad er mwyn creu miliwn o siaradwyr Cymraeg.  Mae Rhan 4 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol baratoi Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg yn nodi sut y byddant yn cyflawni eu swyddogaethau addysg gyda golwg benodol ar wella'r modd y mae'r ddarpariaeth addysg drwy gyfrwng y Gymraeg yn cael ei chynllunio a chodi'r safonau o ran addysg cyfrwng Cymraeg ac addysgu Cymraeg.  Mae hyn yn rhoi dyletswydd ar Gyngor Sir Caerfyrddin i wella a helaethu addysg cyfrwng Cymraeg.  Yn ogystal mae gennym gyfrifoldeb i ymateb i adroddiad Cyngor Sir Caerfyrddin a gafodd ei ddatblygu yn dilyn Cyfrifiad 2011 a ddangosodd bod canran y siaradwyr Cymraeg yn Sir Gaerfyrddin wedi lleihau ac am y tro cyntaf mewn hanes, wedi gostwng o dan hanner.  Yn ogystal mae'n rhaid i'r broses ar gyfer unrhyw gynnig cael ei chynnal yn unol â'r Côd Trefniadaeth Ysgolion statudol.  Mae'r Côd Trefniadaeth Ysgolion yn nodi: "o dan adran 53 o Ddeddf 2013, rhaid i’r cynigydd wneud penderfyniad cyn pen 16 wythnos (112 diwrnod) o ddiwedd y cyfnod gwrthwynebu. Os bydd y cynigydd yn methu â  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5.10

5.11

CWESTIWN GAN MS VICKI FREEMAN I'R CYNGHORYDD GARETH JONES, AELOD O'R BWRDD GWEITHREDOL DROS ADDYSG A PHLANT:-

“Mae llawer o ddoctoriaid a nyrsys yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol o gefndiroedd ethnig gwahanol. Mae nifer fawr o nyrsys o Ynysoedd y Philipinos ac India, ac mae mwyafrif llethol y doctoriaid o'r Dwyrain Canol a'r Dwyrain Pell. Mae Saesneg yn ail iaith iddynt eisoes. Mae llawer o swyddi gwag yn Sir Gaerfyrddin o ran y ddwy alwedigaeth. Mae trafodaeth wedi bod ynghylch pam y mae cyn lleied o bobl yn gwneud cais am y swyddi hyn. Yr ateb gan nifer ohonynt oedd gan fod eu plant yn siarad dwy iaith eisoes, maent o'r farn y byddai'n rhy anodd symud i'r ardal hon pan fo'r Gymraeg yn cael ei gorfodi ar fewnfudwyr nad ydynt yn ei medru. Roedd hwn yn bryder penodol yn achos plant 8 neu 9 oed nad oeddent erioed wedi dod i gysylltiad â'r iaith Gymraeg. A yw Cyngor Sir Caerfyrddin yn ymwybodol fod dilyn trywydd lle gwaredir addysg drwy gyfrwng y Saesneg yn mynd i gael effaith ar seilwaith cyfan y sir ac atal mewnfudo proffesiynol i'n GIG lleol a busnesau eraill?”

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

“Mae llawer o ddoctoriaid a nyrsys yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol o gefndiroedd ethnig gwahanol.  Mae nifer fawr o nyrsys o Ynysoedd y Philipinos ac India, ac mae mwyafrif llethol y doctoriaid o'r Dwyrain Canol a'r Dwyrain Pell.  Mae Saesneg yn ail iaith iddynt eisoes. Mae llawer o swyddi gwag yn Sir Gaerfyrddin o ran y ddwy alwedigaeth. Mae trafodaeth wedi bod ynghylch pam y mae cyn lleied o bobl yn gwneud cais am y swyddi hyn. Yr ateb gan nifer ohonynt oedd gan fod eu plant yn siarad dwy iaith eisoes, maent o'r farn y byddai'n rhy anodd symud i'r ardal hon pan fo'r Gymraeg yn cael ei gorfodi ar fewnfudwyr nad ydynt yn ei medru. Roedd hwn yn bryder penodol yn achos plant 8 neu 9 oed nad oeddent erioed wedi dod i gysylltiad â'r iaith Gymraeg.  A yw Cyngor Sir Caerfyrddin yn ymwybodol fod dilyn trywydd lle gwaredir addysg drwy gyfrwng y Saesneg yn mynd i gael effaith ar seilwaith cyfan y sir ac atal mewnfudo proffesiynol i'n GIG lleol a busnesau eraill?”

Ymatebodd y Cynghorydd Gareth Jones, yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Addysg a Phlant fel a ganlyn:-

“Mae'r Adran Addysg yn darparu cefnogaeth i'w holl ddisgyblion ledled y sir gan gynnwys hwyrddyfodiaid a allai ddod o amrywiol gefndiroedd/cartrefi di-Gymraeg.  Mae pob ysgol yn y sir yn ymroddedig ac wedi ymrwymo i addysgu a chefnogi'r holl ddisgyblion i gyflawni hyd eithaf eu gallu ac mae gennym nifer o straeon llwyddiant am ddysgwyr o wahanol gefndiroedd yn dod yn siaradwyr Cymraeg hyfedr iawn.  Rwyf hefyd yn si?r y bydd unrhyw un, waeth beth yw ei gefndir, sy'n dymuno symud i Sir Gaerfyrddin, neu yn wir unrhyw ran o Gymru yn ystyried yr holl ffactorau dan sylw gan gynnwys dwy iaith genedlaethol y wlad cyn gwneud penderfyniad.  Wrth wneud ei benderfyniad, bydd pob unigolyn wedi ystyried safon ac iaith yr addysg y gallai ei blentyn dderbyn yn ei ysgol leol.  Yn ogystal mae'n rhaid cofio bod yn rhaid i Gyngor Sir Caerfyrddin yn ogystal ag Awdurdodau Lleol eraill yng Nghymru ddilyn deddfwriaeth a gofynion Llywodraeth Cymru.  Bydd Llywodraeth Cymru wedi craffu ar y polisïau a gyhoeddwyd cyn eu cymeradwyo.”

Gofynnodd Ms Freeman y cwestiwn atodol canlynol:-

"Sut ydych chi'n bwriadu darparu ar gyfer plant ag anableddau?  Mae gennyf blentyn ag anableddau sy'n cael anhawster astudio Saesneg. Os bydd hi bellach yn cael ei gorfodi i newid i'r Gymraeg, ni fydd yn gallu ymdopi a'i haddysg. Nid yw hyn yn amlwg yn eich asesiad anabledd."

Ymatebodd y Cynghorydd Jones fel a ganlyn:-

"Mae gennym bolisi ein bod yn ceisio darparu ar gyfer yr holl anghenion dysgu ychwanegol o fewn y sir.  Nid oeddwn yn sicr a oeddech yn cyfeirio at y Gwasanaeth Iechyd Gwladol neu'r Awdurdod Addysg, ond bydd gennym gymaint â phosibl o gefnogaeth ar eich cyfer chi a'ch teulu."

</AI16>

5.12

CWESTIWN GAN MS ORLA WILLIAMS I'R CYNGHORYDD GARETH JONES, AELOD O'R BWRDD GWEITHREDOL DROS ADDYSG A PHLANT:-

“Mae CSC yn gwahanu ac yn gwthio i'r cyrion ddysgwyr y ffrwd Saesneg a dysgwyr dwyieithog cyfredol ysgol Llangennech, a rhai'r dyfodol, trwy beidio â darparu llwybr addas i'r dysgwyr hynny. Yn neddfwriaeth Llywodraeth Cymru, mae gan y Gymraeg a'r Saesneg statws cyfartal. Ond dim os ydych yn byw yn Nwyrain Sir Gaerfyrddin. Mae symud i sefyllfa lle addysgir drwy gyfrwng y Gymraeg yn unig yn Llangennech, lle mae canran uchel o'r rhieni yn rhai dosbarth canol o'r tu allan i'r dalgylch sydd ar eu ffordd i gyffordd 48 yr M4, a mynnu ar Gymraeg yn unig, yn gynllun gwallus gan y Cyngor Sir.   Pa ddarpariaeth sy'n cael ei rhoi ar waith i wella perfformiad yn Ysgol Gynradd yr Hendy ac Ysgol Gyfun y Strade i gyfiawnhau'r arfer gwaharddol hwn ac i ddarparu addysg sydd o'r un safon uchel yn Llangennech i rieni sy'n dymuno i'w plant gael eu haddysgu'n ddwyieithog, gan nad oes gan Ysgol Bryn yr un ethos dwyieithog, perfformiad, deilliannau nac arweinyddiaeth â'r hyn sydd gan Ysgol Llangennech ar hyn o bryd, sef pam y mae rhieni'n dewis y ffrwd ddwyieithog. Bydd cadw'r ffrwd ddwyieithog yn Llangennech yn helpu i gyrraedd targed y llywodraeth o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Ni fydd atal teuluoedd rhag cael addysg ddwyieithog yn rhoi anogaeth na chroeso i'r teuluoedd hynny sy'n barod i gymryd y camau cyntaf tuag at fod yn rhugl. Bydd y polisi arfaethedig hwn yn annog rhai teuluoedd i beidio â siarad Cymraeg, ac yn creu rhwyg a darpariaeth addysg anghyfartal a chynhennus yn Nwyrain Llanelli. Heb os nac oni bai mae'n well croesawu pobl, fel sydd wedi cael ei brofi gan astudiaethau yng Nghatalonia, y Ffindir a Lithwania, lle mae perfformiad, PISA a pherfformiad rhyngwladol yn tystio i lwyddiant addysg gwir ddwyieithog. Oni fyddai chwilio am atebion cynhwysol yn fwy buddiol i'r disgyblion presennol ac i genedlaethau'r dyfodol yn ein cymuned ac yn sicrhau bod y Cyngor hwn yn gadael gwaddol gwell?” 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd Ms Williams yn gallu bod yn bresennol yn y cyfarfod heddiw felly gofynnwyd iddo ofyn y cwestiwn ar ei rhan.

Fel y nodwyd yn flaenorol, nod Cyngor Sir Caerfyrddin yw creu unigolion dwyieithog sydd meddu ar sgiliau i ddarllen, ysgrifennu a siarad yn rhugl yn y Gymraeg a'r Saesneg.  O ganlyniad i'r cynnig hwn, bydd disgyblion yn gadael ysgol Llangennech â dwy iaith gyntaf a hyfedredd yn y Gymraeg a'r Saesneg.  Mae'r cynnig hwn yn ceisio darparu'r cyfle hwn i'r holl ddisgyblion yn ysgolion Llangennech.  Mae gan Gyngor Sir Caerfyrddin bolisi dewis rhieni mewn perthynas â derbyn i ysgolion ond rhoddir blaenoriaeth i ddisgyblion sy'n byw yn y dalgylch.  Yr unig rwymedigaeth sydd ar y Cyngor Sir o ran hwyluso dewis y rhieni yw pan fo'r dewis hwnnw'n gyson â darparu addysg mewn modd effeithiol a defnyddio adnoddau'n effeithlon.  Nid oes gan yr un rhiant hawl i fynnu lle  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5.12

5.13

CWESTIWN GAN MR DARREN SEAWARD I'R CYNGHORYDD GARETH JONES, AELOD O'R BWRDD GWEITHREDOL DROS ADDYSG A PHLANT:-

“Mae'r Cynghorydd Gwyn Hopkins wedi dweud sawl gwaith mai lleiafrif uchel eu cloch sy'n gwrthwynebu'r newidiadau, ac mae wedi sôn wrth y wasg am hynny er nad yw'n wir. O gofio bod mwy na 750 o wrthwynebiadau, sef yr apêl fwyaf yn hanes Llangennech yn ôl pob tebyg, mae'n anffodus nad yw Mr Hopkins, ar ôl bod yn Gynghorydd Sir am fwy nag 20 mlynedd, yn deall anghenion a dymuniadau'r etholwyr yn well. Hefyd mae'n rhaid gofyn y cwestiwn, pa benderfyniadau gwael eraill sydd wedi cael eu gwneud yn ystod yr ymgynghoriad hwn. Rydym o'r farn y byddai'n decach i bawb, yn cynnwys yr ymgeisydd newydd, fod y penderfyniad hwn yn cael ei ohirio tan ar ôl etholiadau mis Mai 2017, pryd y caiff ymgeisydd newydd ei benodi. Mae'n bosibl y bydd modd adfer hyder bryd hynny ac y bydd gan y pentref lais sy'n ei gynrychioli. A ydych yn cytuno y dylid gohirio?”

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd Mr Seaward yn gallu bod yn bresennol yn y cyfarfod heddiw ond gofynnwyd iddo ofyn y cwestiwn ar ei ran.

“Mae'r Cynghorydd Gwyn Hopkins wedi dweud sawl gwaith mai lleiafrif uchel eu cloch sy'n gwrthwynebu'r newidiadau, ac mae wedi sôn wrth y wasg am hynny er nad yw'n wir. O gofio bod mwy na 750 o wrthwynebiadau, sef yr apêl fwyaf yn hanes Llangennech yn ôl pob tebyg, mae'n anffodus nad yw Mr Hopkins, ar ôl bod yn Gynghorydd Sir am fwy nag 20 mlynedd, yn deall anghenion a dymuniadau'r etholwyr yn well. Hefyd mae'n rhaid gofyn y cwestiwn, pa benderfyniadau gwael eraill sydd wedi cael eu gwneud yn ystod yr ymgynghoriad hwn. Rydym o'r farn y byddai'n decach i bawb, yn cynnwys yr ymgeisydd newydd, fod y penderfyniad hwn yn cael ei ohirio tan ar ôl etholiadau mis Mai 2017, pryd y caiff ymgeisydd newydd ei benodi. Mae'n bosibl y bydd modd adfer hyder bryd hynny ac y bydd gan y pentref lais sy'n ei gynrychioli. A ydych yn cytuno y dylid gohirio?”

Ymatebodd y Cynghorydd Gareth Jones, yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Addysg a Phlant fel a ganlyn:-

“Nid fy lle i yw cyflwyno sylwadau ynghylch barn y Cynghorydd Hopkins, fodd bynnag, rwy'n ymwybodol mai ef yw aelod lleol Llangennech ac y bydd ganddo wybodaeth leol ynghylch yr ardal.  Mae'n rhaid i'r broses ar gyfer unrhyw gynnig cael ei chynnal yn unol â'r Côd Trefniadaeth Ysgolion a dyna yw'r broses.”

</AI18>

<AI19>

5.14

CWESTIWN GAN MRS JACQUELINE SEWARD I'R CYNGHORYDD GARETH JONES, AELOD O'R BWRDD GWEITHREDOL DROS ADDYSG A PHLANT:-

“Tristwch mawr i ni yw gweld i ba raddau y mae ein cymuned, a oedd unwaith yn un glos, wedi cael ei rhannu gan y cynnig hwn. Mae'n ymddangos ein bod wedi anghofio am yr hyn sy'n bwysig yma, sef bod gennym ysgol ddwy ffrwd hynod lwyddiannus sy'n darparu ar gyfer pawb. Mae gan Ysgol Llangennech enw rhagorol a cheisir lle ynddi gan lawer, sydd hyd yn oed yn barod i deithio o'r tu allan i'r ardal i gael eu haddysgu yn Llangennech. Byddai nifer o'r plant yn y Ffrwd Gymraeg heb roi cynnig arni petai'r ysgol yn un Gymraeg yn unig a dyma'r hyn y mae'n rhaid inni gydnabod. Mae Llywodraeth Cymru am weld miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Dylai'r Gymraeg fod yn rhywbeth y mae pobl yn dyheu amdano ac nid yn rhywbeth sy'n cael ei orfodi, a thrwy amddifadu rhieni rhag cael dewis, yr unig beth y byddwn yn ei wneud fydd gwanhau'r Gymraeg ac nid cynyddu'r defnydd ohoni. Mae Llangennech eisoes yn cyfrannu at gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg a bydd yn parhau i wneud hynny fel ysgol ddwy ffrwd. Mae angen i ysgolion eraill ddilyn ein hesiampl. Gadewch inni edrych ar yr effaith mae'r cynnig hwn wedi ei chael ar gymuned Llangennech, sydd wedi bod yn gefnogol i'r Gymraeg ers blynyddoedd. Mae'r mater yn peri inni feddwl sut y byddai ysgolion eraill, yn enwedig yr holl ysgolion cyfrwng Saesneg, yn ymateb pe baent yn wynebu'r un cynnig â'r hyn a ddymunir gan Mr Sully, sef gwneud pob ysgol yn Sir Gaerfyrddin yn un Gymraeg ei chyfrwng.  Bydd hyn yn achosi anghydfod ac yn niweidiol i'r Gymraeg yn y pen draw, ac nid dyna'r hyn ydym ei eisiau yn bendant. Rydym am i'n plant ddal ati i ddysgu Cymraeg fel y maent yn gallu ei wneud nawr yn y ffrwd ddeuol, ond ar gyflymdra sy'n addas iddynt ac yn unol â dewis rhieni. Mae ein hymarfer diwethaf wedi rhoi tystiolaeth gadarn inni fod 750 o bobl yn erbyn y cynnig. Cafwyd 698 o sylwadau a gefnogai'r cynnig, ond yn dilyn cais Rhyddid Gwybodaeth rydym wedi cael gwybod bod cyfran helaeth o'r rhai a gyflwynodd sylwadau ddim yn dod o'r pentref na'r sir hyd yn oed. Rydym wedi gofyn unwaith eto o dan gais Rhyddid Gwybodaeth am fanylion pellach ynghylch strydoedd, fel y gellir gwneud dadansoddiad go iawn. Ond yn anffodus, yn ôl yr arfer, nid yw'r wybodaeth hon ar gael yn hwylus.  Cafodd ffigyrau a phobl eu cam-lywio am flynyddoedd lawer cyn y cynnig hwn, er mwyn cyflwyno darlun ffug o'r galw yn y pentref. Mae pobl Llangennech wedi lleisio eu barn, ac mae'n hen bryd gwrando arnynt. A yw'n bosibl ichi mewn difrif wneud penderfyniad mor bwysig am ddyfodol ac am addysg ein plant pan fo cynifer o gwestiynau yn dal heb gael eu hateb?”

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

“Tristwch mawr i ni yw gweld i ba raddau y mae ein cymuned, a oedd unwaith yn un glos, wedi cael ei rhannu gan y cynnig hwn sy'n cael ei hybu gan leiafrif o'r pentref. Mae'n ymddangos ein bod wedi anghofio am yr hyn sy'n bwysig yma, sef bod gennym ysgol ddwy ffrwd hynod lwyddiannus sy'n darparu ar gyfer pawb. Mae gan Ysgol Llangennech enw rhagorol a cheisir lle ynddi gan lawer, sydd hyd yn oed yn barod i deithio o'r tu allan i'r ardal i gael eu haddysgu yn Llangennech. Byddai nifer o'r plant yn y Ffrwd Gymraeg heb roi cynnig arni petai'r ysgol yn un Gymraeg yn unig a dyma'r hyn y mae'n rhaid inni gydnabod. Mae Llywodraeth Cymru am weld miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Dylai'r Gymraeg fod yn rhywbeth y mae pobl yn dyheu amdano ac nid yn rhywbeth sy'n cael ei orfodi, a thrwy amddifadu rhieni rhag cael dewis, yr unig beth y byddwn yn ei wneud fydd gwanhau'r Gymraeg ac nid cynyddu'r defnydd ohoni. Mae Llangennech eisoes yn cyfrannu at gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg a bydd yn parhau i wneud hynny fel ysgol ddwy ffrwd. Mae angen i ysgolion eraill ddilyn ein hesiampl. Gadewch inni edrych ar yr effaith mae'r cynnig hwn wedi ei chael ar gymuned Llangennech, sydd wedi bod yn gefnogol i'r Gymraeg ers blynyddoedd. Mae'r mater yn peri inni feddwl sut y byddai ysgolion eraill, yn enwedig yr holl ysgolion cyfrwng Saesneg, yn ymateb pe baent yn wynebu'r un cynnig â'r hyn a ddymunir gan Mr Sully, sef gwneud pob ysgol yn Sir Gaerfyrddin yn un Gymraeg ei chyfrwng.  Bydd hyn yn achosi anghydfod ac yn niweidiol i'r Gymraeg yn y pen draw, ac nid dyna'r hyn ydym ei eisiau yn bendant. Rydym am i'n plant ddal ati i ddysgu Cymraeg fel y maent yn gallu ei wneud nawr yn y ffrwd ddeuol, ond ar gyflymdra sy'n addas iddynt ac yn unol â dewis rhieni. Mae ein hymarfer diwethaf wedi rhoi tystiolaeth gadarn inni fod 750 o bobl yn erbyn y cynnig. Cafwyd 698 o sylwadau a gefnogai'r cynnig, ond yn dilyn cais Rhyddid Gwybodaeth rydym wedi cael gwybod bod cyfran helaeth o'r rhai a gyflwynodd sylwadau ddim yn dod o'r pentref na'r sir hyd yn oed. Rydym wedi gofyn unwaith eto o dan gais Rhyddid Gwybodaeth am fanylion pellach ynghylch strydoedd, fel y gellir gwneud dadansoddiad go iawn. Ond yn anffodus, yn ôl yr arfer, nid yw'r wybodaeth hon ar gael yn hwylus. Cafodd ffigyrau a phobl eu cam-lywio am flynyddoedd lawer cyn y cynnig hwn, er mwyn cyflwyno darlun ffug o'r galw yn y pentref. Mae pobl Llangennech wedi lleisio eu barn, ac mae'n hen bryd gwrando arnynt. A yw'n bosibl ichi mewn difrif wneud penderfyniad mor bwysig am ddyfodol ac am addysg ein plant pan fo cynifer o gwestiynau yn dal heb gael eu hateb?”

Ymatebodd y Cynghorydd Gareth Jones, yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Addysg a Phlant fel a ganlyn:-

“Rydym yn hyderus  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5.14

6.

GOHIRIAD

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Am 11.00 a.m. gohiriwyd y cyfarfod am egwyl.

7.

Y CYFARFOD YN AILYMGYNNULL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd y cyfarfod wedi ailymgynnull am 11.15 a.m.

8.

Y RHAGLEN MODERNEIDDIO ADDYSG- CYNNIG I GAU YSGOL BABANOD LLANGENNECH AC YSGOL IAU LLANGENNECH A SEFYDLU YSGOL GYMUNEDOL GYNRADD LLANGENNECH. pdf eicon PDF 356 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Bwrdd yn ystyried adroddiad ar y cynnig i gau Ysgol Babanod Llangennech ac Ysgol Iau Llangennech ac i sefydlu Ysgol Gynradd Gymunedol Llangennech.

Yn dilyn ymddeoliad pennaeth Ysgol Babanod Llangennech ar ddiwedd tymor yr haf 2013 sefydlwyd ffederasiwn llac gyda phennaeth Ysgol Iau Llangennech.  Ar 24 Medi 2014, penderfynodd cyrff llywodraethu'r ddwy ysgol fynd ati i ffedereiddio'n ffurfiol o fis Ebrill 2015 ymlaen.

Roedd yr Awdurdod Lleol ar hyn o bryd yn cynnig darpariaeth addysgu llawn amser ar gyfer plant 4-11 oed drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg yn ysgolion ffederal Babanod ac Iau Llangennech.  Yn yr ysgol gynradd newydd i ddisgyblion 3–11 oed, a fyddai'n cynnwys darpariaeth feithrin, cynigiwyd newid categorïau ieithyddol presennol Ysgol Babanod Llangennech (Dwy Ffrwd) – (DFf) ac Ysgol Iau Llangennech (Dwy Ffrwd) – (DFf) i greu ysgol newydd categori Cyfrwng Cymraeg – (CC) a fyddai'n cynyddu'r addysg Cyfrwng Cymraeg a ddarperir yn Sir Gaerfyrddin a byddai'n sicrhau bod dwyieithrwydd yn cynyddu yn ardal Llangennech.  Byddai'n sicrhau parhad ieithyddol o'r sector meithrin ar hyd y cyfnodau allweddol i'r sector uwchradd er mwyn i bob disgybl ddod yn rhugl ac yn hyderus wrth ddefnyddio'r Gymraeg a'r Saesneg, yn unol â'r hyn a nodwyd yng Nghynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg  (2014–17.

Yn dilyn estyniad bach i'r cyfnod ymgynghori, y cyfnod cyn yr etholiad a'r nifer fawr o ymatebion a ddaeth i law yn ystod y cyfnod ymgynghori, roedd y dyddiadau ar gyfer y cynnig wedi newid.  Yr oeddid wedi gwneud hyn er mwyn sicrhau bod digon o amser ar gael i bobl fynegi eu barn ac er mwyn sicrhau nad oedd cyfnod gwyliau'r ysgolion yn tarfu ar y broses.  Felly cynigiwyd y canlynol:

(i)    cau Ysgol Babanod Llangennech ar 31ain Awst, 2017;

(ii)  cau Ysgol Iau Llangennech ar 31 Awst, 2017;

(iii)o 1af Medi, 2017 ymlaen sefydlu Ysgol Gynradd Gymunedol, ynghyd â darpariaeth feithrin, drwy gyfrwng y Gymraeg (CC) i ddisgyblion 3-11 oed (a elwir o hyn ymlaen yr "Ysgol Newydd" ar safleoedd ac yn adeiladau presennol Ysgol Babanod ac Ysgol Iau Llangennech.  Byddai nifer y lleoedd yn y ddwy ysgol yn parhau'r un fath, ond byddai hyn yn cael ei adolygu a'i addasu petai'r galw yn cynyddu yn y dyfodol.

Yn unol â chyfarwyddiadau'r Bwrdd Gweithredol yn ystod y cyfarfod a gynhaliwyd ar 4 Ionawr, 2016 (gweler cofnod rhif 15) ymgymerwyd ag ymarfer ymgynghori ffurfiol rhwng 25 Ionawr a 18 Mawrth, 2016, ac atodwyd canlyniadau'r ymgynghori i'r adroddiad.

Yn ystod y cyfarfod a gynhaliwyd ar 26 Gorffennaf, 2016 (gweler cofnod rhif 9) cymeradwyodd y Bwrdd Gweithredol i gyhoeddi Hysbysiad Statudol i weithredu'r cynnig.  Cyhoeddwyd yr Hysbysiad Statudol ar 5 Rhagfyr, 2016 gan ganiatáu 28 o ddiwrnodau i wrthwynebwyr anfon eu gwrthwynebiadau'n ysgrifenedig at y Cyngor.  Roedd y cyfnod gwrthwynebu fod dod i ben ar 2 Hydref, 2016 ond yn sgil cais gan barti â buddiant, cytunodd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant ymestyn y cyfnod gwrthwynebu o un wythnos hyd at 9 Hydref 2016. 

Cafwyd cyfanswm o 1,418 o sylwadau i'r  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 8.

9.

CRAFFU AR Y BWRDD GWASANAETHAU CYHOEDDUS. pdf eicon PDF 217 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedwyd wrth y Bwrdd Gweithredol bod y Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus wedi disodli'r Byrddau Gwasanaethau Lleol a'u bod yn ofynnol iddynt yn benodol:-

(a)  ymgymryd ag asesiad llesiant ar gyfer yr ardal;

(b)  gosod amcanion llesiant yn rhan o gynllun llesiant;

(c)  cymryd pob cam rhesymol i gyflawni'r amcanion hynny.

Mae'n ofynnol i bwyllgor trosolwg a chraffu Awdurdod Lleol yn ôl Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 gael rôl allweddol yn sicrhau atebolrwydd democrataidd y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus drwy ei rôl fel yr amlinellir yn y Ddeddf.   Byddai disgwyl i'r pwyllgor craffu dynodedig yn benodol gyflawni'r canlynol:-

·         Derbyn yr yn ffurfiol yr Asesiad Llesiant a'r Cynllun Llesiant gan y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus;

·         Bod yn ymgynghorai statudol ar gyfer yr Asesiad Llesiant a'r Cynllun Llesiant;

·         Adolygu'r Cynllun Llesiant os ceir cyfarwyddyd i wneud hynny gan Weinidog Cymru (sy'n meddu ar y gallu i gyfeirio ond nid y gallu i gymeradwyo).

Mae Canllawiau Statudol 3 Pennod 6 Cydamcanu:Cydymdrechu Llywodraeth Cymru yn nodi:-

“174. Er mwyn sicrhau atebolrwydd democrataidd mae gofyniad i bwyllgor craffu llywodraeth leol ddynodedig yr awdurdod lleol perthnasol graffu ar waith y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus.  Mater i’r awdurdod lleol unigol fydd ei drefniadau ar gyfer craffu ar y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus y mae’n aelod ohono.  Er enghraifft, gellir defnyddio pwerau deddfwriaethol sy’n bod eisoes i roi trefniadau ar y cyd ar waith, fel ‘cyfethol’ pobl nad ydynt yn aelodau o’r awdurdod i eistedd ar y pwyllgor a lle bo’n briodol, penodi cydbwyllgorau sy’n rhychwantu ffiniau mwy nag un awdurdod lleol.

175. Er y bydd yn parhau i fod yn hollol gyfreithlon i bwyllgor craffu pwnc (megis pwyllgor craffu plant a phobl ifanc) graffu ar waith y bwrdd gwasanaethau cyhoeddus mewn perthynas â mater penodol, mae'n bwysig fod gan un pwyllgor trosolwg cyffredinol ar effeithiolrwydd y bwrdd.  Dyma pam fod yn rhaid i un pwyllgor gael ei ddynodi i ymgymryd â'r gwaith hwn."

PENDERFYNWYD ARGYMELL YN UNFRYDOL I'R CYNGOR bod y Pwyllgor Craffu - Polisi ac Adnoddau yn cael ei bennu yn Bwyllgor Craffu'r Awdurdod at ddibenion craffu ar waith Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir Gaerfyrddin, a bod y swyddogaeth  hon yn cael ei hadlewyrchu yn Erthygl 6 o Gyfansoddiad y Cyngor.

</AI2<AI24>

10.

ATAL, YMYRRAETH GYNNAR A HYBU BYW'N ANNIBYNNOL. pdf eicon PDF 131 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[SYLWER: Gan ei bod wedi datgan buddiant personol a rhagfarnol yn y mater hwn yn gynharach, gadawodd y Cynghorydd H.A.L Evans y cyfarfod cyn i'r Pwyllgor ystyried y mater a phenderfynu arno.]

Cynghorwyd y Bwrdd bod y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) yn gosod cyfrifoldeb statudol ar Awdurdodau Lleol i hyrwyddo gwasanaethau ataliol ar gyfer y boblogaeth leol. Roedd yr ymgynghoriad a gynhaliwyd gan y Gwasanaethau Integredig â phobl h?n yn dangos bod cadw annibyniaeth a chadw mewn cysylltiad â'u cymuned yn flaenoriaeth allweddol.

Roedd y strategaeth yn amlinellu ffyrdd y byddai gwasanaethau ataliol yn cael eu gosod yn rhan annatod o'r ddarpariaeth yn ei chyfanrwydd er mwyn hyrwyddo annibyniaeth a sicrhau bod strategaethau ymyrraeth gynnar yn cael eu defnyddio i gadw pobl mor iach a hunangynhaliol â phosibl.  Roedd y strategaeth yn elfen hanfodol o ddarparu arbedion cost, ond byddai'r rhain yn cael eu cyflawni o fewn y cyd-destun o hyrwyddo annibyniaeth a darparu'r cymorth cywir yn ystod y camau cynharaf er mwyn osgoi argyfwng.

Nodwyd er y byddai arbedion cost yn cael eu cyflawni drwy gynlluniau megis sicrhau pecynnau gofal cywir a gwell gwybodaeth, darparu cyngor a chymorth, roedd cyllid ychwanegol wedi cael ei sicrhau drwy gyfrwng y Gronfa Gofal Canolraddol er mwyn sicrhau bod y gwasanaethau a amlinellwyd yn y strategaeth hon yn gadarn ac yn gallu darparu nid yn unig effeithlonrwydd yn y tymor hir ond hefyd gwella gwasanaethau cymunedol yn eu cyfanrwydd, a hyrwyddo'r ethos o annibyniaeth a chyfrifoldeb personol dros lesiant.

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo'r Strategaeth Gymunedol Integredig ac Ymyrraeth Gynnar ar gyfer Gwasanaethau Integredig Sir Gaerfyrddin.

11.

CYNLLUN ABSENOLDEB STAFF AR GYFER YSGOLION. pdf eicon PDF 261 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cynghorwyd y Bwrdd bod llawer o ysgolion ar hyn o bryd yn trefnu eu polisïau yswiriant eu hunain drwy amryw o ddarparwyr er mwyn talu’r gost o gyflogi gweithwyr cyflenwi pan fydd staff addysgu a chymorth dysgu yn absennol o’r ysgol.  Mae’r warchodaeth a gynigir gan y polisïau yswiriant hyn yn amrywio’n fawr; felly hefyd y costau a’r buddion.  Mae gan 105 o ysgolion bolisïau yswiriant ar hyn o bryd, sy’n costio dros £1m i ysgolion cynradd ac uwchradd.  Mae'r incwm a gafwyd o hawliadau yn ystod y blynyddoedd diwethaf tua £850k.

Er mwyn sicrhau gwerth am arian, roedd swyddogion wedi ymgymryd ag adolygiad o'r ddarpariaeth yswiriant allanol, mewn ymgynghoriad ag ysgolion o fewn y sir ac roedd ymchwil yn dangos bod Cynllun Absenoldeb Staff Ysgolion yn cynnig manteision ariannol a gweithredol i ysgolion a'r Awdurdod Lleol lle mae cynlluniau tebyg wedi cael eu cyflwyno.

Cafodd y cynllun hwn ei gynllunio i weithredu ar yr egwyddor o bartneriaeth, i’r diben o godi arian oddi wrth yr aelodaeth y gellir ei ddefnyddio i ddarparu buddion cyffredin a rennir i holl aelodau’r cynllun.  Mae premiymau yswiriant a phatrymau absenoldeb presennol yn ysgolion Sir Gaerfyrddin wedi cael eu hystyried wrth ddatblygu'r cynllun ac roedd y swyddogion yn fodlon y gallai Cynllun Absenoldeb Staff Ysgolion, sy'n cael ei weinyddu a'i strwythuro'n dda, weithredu'n llwyddiannus yn y sir, yn amodol ar gael aelodaeth ddigonol gan yr ysgolion.  Ar sail y lefelau presennol, byddai modd sicrhau'r gwariant net dros ben a'r costau gweinyddu er budd aelodau'r cynllun yn hytrach na bod yr aelodau yn talu premiymau yswiriant i ddarparwyr allanol ar golled net wrth gymharu â'r ad-daliadau a geir.

Pe bai lefel yr hawliad gan aelodau'r cynllun yn uwch na'r arian sydd ar gael, byddai'r diffyg yn cael ei drosglwyddo a'i osod yn erbyn yr elw yn y dyfodol. Felly roedd o fudd i'r ysgolion a'r Awdurdod i reoli presenoldeb yn gadarnhaol ac yn rhagweithiol, yn unol â pholisïau, er mwyn elwa ar bremiymau llai yn y dyfodol. Ar sail y data sydd ar gael a'r ymrwymiad gan yr holl bartïon sydd â diddordeb i ddilyn y canllawiau a'r polisïau, barnwyd bod y risg o ddiffyg yn isel.

Byddai y Cynllun Absenoldeb Staff Ysgolion yn gweithredu i ddechrau am gyfnod o ddwy flynedd gan ddechrau ar 1 Ebrill 2017 hyd at 31n Mawrth 2019 a byddai'n gweithredu fel cynllun nad yw’n gwneud elw, er budd yr aelodau sy’n cymryd rhan.  Byddai'n cael ei adolygu'n flynyddol er mwyn sicrhau ei fod yn parhau'n hyfyw yn ariannol yn y blynyddoedd ariannol sydd i ddod.

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R CYNGOR y dylid mabwysiadu'r Cynllun Absenoldeb Staff Ysgolion.

12.

SYLFAEN TRETH Y CYNGOR 2017-2018. pdf eicon PDF 234 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Atgoffwyd y Bwrdd Gweithredol ei bod yn ofynnol i'r Cyngor benderfynu, yn flynyddol, ar Sylfaen y Dreth Gyngor a Sylfaen y Dreth Gyngor ar gyfer pob cymuned yn ei ardal, at ddibenion cyfrifo lefel y Dreth Gyngor am y flwyddyn ariannol oedd i ddod a bod y gwaith cyfrifo blynyddol wedi cael ei ddirprwyo i'r Bwrdd Gweithredol, o dan ddarpariaethau Adran 84 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 a Rheoliadau Trefniadau Gweithrediaeth Awdurdodau Lleol (Swyddogaethau a Chyfrifoldebau) (Diwygio) (Cymru) 2004, roedd y cyfrifiad blynyddol wedi cael ei ddirprwyo i'r Bwrdd Gweithredol.

Roedd cyfrifiad sylfaen y Dreth Gyngor ar gyfer y Cyngor Sir am 2017-18 wedi'i nodi yn Nhabl 1a a chrynodeb yn Nhabl 1b, a oedd wedi'u hatodi i'r adroddiad. Roedd y cyfrifiad yng nghyswllt Cynghorau Tref a Chymuned unigol ar gyfer 2017-18 wedi'i grynhoi yn Nhabl 2 a'r manylion yn Atodiad A, a oedd hefyd wedi'u hatodi i'r adroddiad.

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

12.1. bod y cyfrifiadau o ran pennu Sylfaen y Dreth Gyngor ar gyfer blwyddyn ariannol 2017-18, fel y manylwyd arnynt yn Atodiad A o'r adroddiad, yn cael eu cymeradwyo;

12.2. bod Sylfaen y Dreth Gyngor o 71,598.56, fel y manylwyd arno yn Nhablau 1a a 1b o'r adroddiad, yn cael ei gymeradwyo yng nghyswllt ardal y Cyngor Sir;

12.3. bod y sylfeini treth perthnasol yng nghyswllt y Cynghorau Cymuned a Thref unigol, fel y manylwyd arnynt yn nhabl 2 o'r adroddiad, yn cael eu cadarnhau.

13.

CYNLLUN RHEOLI ASEDAU CORFFORAETHOL 2016-2019. pdf eicon PDF 183 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Mae'r Cyngor yn ymgymryd ag adolygiad cynhwysfawr o'i Gynllun Rheoli Asedau Corfforaethol bob tair blynedd, gan osod ei flaenoriaethau o ran eiddo er mwyn bodloni'r amcanion a nodwyd yn y Strategaethau Corfforaethol a Chymunedol Integredig. 

Yn ogystal, mae'r Cynllun Rheoli Asedau Corfforaethol yn nodi'r problemau a'r goblygiadau o ran eiddo i wasanaethau, yn sgil newidiadau mewn agendau lleol a chenedlaethol. Mae'r gofynion o ran eiddo gwasanaethau yn cael eu cyfeirio atynt yn y Cynlluniau Rheoli Asedau Gwasanaethau yn dilyn asesiadau o addasrwydd y portffolio perthnasol i fodloni newidiadau o'r fath.

Mae'r Cynllun Rheoli Asedau Corfforaethol yn adolygu perfformiad lefel uchel y portffolio corfforaethol ac yn tynnu sylw at yr heriau a'r blaenoriaethau allweddol dros y tair blynedd nesaf.

Yn o ganlyniadau'r Asesiad Corfforaethol diweddaraf oedd y gofyniad i gryfhau'r cysylltiadau rhwng y Cynlluniau Rheoli Asedau Gwasanaethau a'r Cynllun Rheoli Asedau Corfforaethol, yn ogystal ag adolygu gwybodaeth am y gwaith cynnal a chadw sydd i'w wneud er mwyn llywio penderfyniadau yn well. Mae'r eitemau hyn, ynghyd â'r heriau y nodir isod, wedi cael eu nodi fel y blaenoriaethau allweddol ar gyfer materion sy'n ymwneud ag eiddo dros y tair blynedd nesaf:-

·         Buddsoddi mewn safleoedd strategol er mwyn hybu twf economaidd;

·         Cynnal yr Asedau Cymunedol;

·         Sicrhau addasrwydd yr ystâd a gedwir;

·         Edrych ar ffyrdd amgen o ddal asedau eiddo er mwyn darparu gwasanaethau;

·         Rhagor o gydweithio gyda phartneriaid ar faterion sy'n ymwneud ag eiddo;

·         Cynhyrchu Derbyniadau Cyfalaf;

·         Lleihau costau refeniw.

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL y dylai fersiwn drafft o Gynllun Rheoli Asedau Corfforaethol 2016/2019 gael ei gymeradwyo.

14.

CANLLAWIAU A CHYTUNDEB LEFEL GWASANAETH CYNGOR SIR CAERFYRDDIN YNGHYLCH CODI TÂL AM GYNGOR CYN CYFLWYNO CAIS AC AR ÔL CAEL CANIATÂD I GAIS, MEWN PERTHYNAS Â DATBLYGIADAU O ARWYDDOCÂD CENEDLAETHOL (DEDDF CYNLLUNIO (CYMRU) 2015) A PHROSIECTAU SEILWAITH O ARWYDDOCÂD CENEDLAETHOL (DEDDF CYNLLUNIO 2008). pdf eicon PDF 194 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Bwrdd yn ystyried adroddiad a oedd y gofyn am gymeradwyaeth yr Awdurdod Cynllunio Lleol i ddechrau codi tâl am roi cyngor, cyn bod ceisiadau'n cael eu cyflwyno, i ddatblygwyr sydd wrthi'n llunio ceisiadau i'r Arolygiaeth Gynllunio mewn perthynas â datblygiadau o arwyddocâd cenedlaethol. Yn ogystal, diweddaru'r canllawiau/ffioedd presennol sy'n ymwneud â phrosiectau seilwaith o arwyddocâd cenedlaethol. 

Mae Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol a Phrosiectau Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol yn ddatblygiadau seilwaith sylweddol megis cynigion ar gyfer pwerdai, prosiectau ynni adnewyddadwy mawr, meysydd awyr newydd, a helaethiadau i feysydd awyr, prosiectau ffordd sylweddol ac ati.

Mae Deddf Llywodraeth Leol 2003 yn rhoi pwerau i Awdurdodau Cynllunio Lleol i adennill y costau sydd ynghlwm wrth roi cyngor cyn cyflwyno cais mewn cydnabyddiaeth o'r amser y mae'n rhaid i swyddogion ei dreulio yn asesu ac yn ymchwilio i wybodaeth er mwyn rhoi atebion i ddarpar ddatblygwyr neu asiantiaid.  Mae'r drefn o godi tâl am gyngor cyn cyflwyno cais yn cael ei hategu ar lefel genedlaethol, ac mae'n arferiad sydd wedi hen ennill ei blwyf yn y rhan fwyaf o Awdurdodau Cynllunio Lleol.

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R CYNGOR

14.1  cytuno ar ddyletswyddau a gweithdrefnau cyffredinol y Cyngor wrth ddarparu'r gwasanaeth cynghori i ddatblygwyr prosiectau seilwaith o arwyddocâd cenedlaethol a datblygiadau o arwyddocâd cenedlaethol;

14.2  cytuno ar newidiadau i'r canllawiau presennol sy'n ymwneud â phrosiectau seilwaith o arwyddocâd cenedlaethol, a chynnwys darpariaethau i ymdrin â datblygiadau o arwyddocâd cenedlaethol;

14.3  cytuno ar y manylion sy'n ymwneud â chodi tâl, anfonebu a gweithdrefnau talu

14.4  cytuno ar y manylion sy'n berthnasol i gyfrinachedd datblygwyr.