Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Craffu Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol - Dydd Mercher, 4ydd Hydref, 2023 10.00 yb

Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Emma Bryer  01267 224029

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr R. E. Evans ac M. James.

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL GAN GYNNWYS UNRHYW CHWIPIAU PLEIDIAU A RODDIR MEWN YMATEB I UNRHYW EITEM AR YR AGENDA.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch buddiannau personol na chwip waharddedig.

3.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.

4.

ADRODDIAD BLYNYDDOL CYFARWYDDWR STATUDOL Y GWASANAETHAU CYMDEITHASOL 2022/23 pdf eicon PDF 125 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried Adroddiad Blynyddol Cyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol 2022/23 ynghylch perfformiad gwasanaethau gofal cymdeithasol yn y sir.

 

Roedd yn ofynnol yn statudol i'r Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol adrodd yn flynyddol wrth y Cyngor ar berfformiad yr ystod gyfan o Wasanaethau Cymdeithasol a'r modd y cânt eu darparu, yn ogystal â chynlluniau ar gyfer eu gwella.

 

Nodwyd mai adroddiad drafft oedd hwn o hyd a byddai'n cael ei ddiwygio ymhellach cyn ei gwblhau.

 

Amlygodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymunedol rai o'r prif faterion allweddol a nodwyd yn yr adroddiad.  Dywedodd fod y gwasanaethau oedolion yn adfer o'r pandemig ac wedi bod dan straen difrifol, yn bennaf oherwydd diffyg adnoddau.  Dywedyd mai cyflwr cyffredinol y farchnad gyflogaeth oedd achos yr anawsterau recriwtio, gan nad oes digon o bobl o oedran gweithio i wneud y swyddi ar draws pob sector gan gynnwys lletygarwch.  Roedd adolygiad mawr ar recriwtio a chadw wedi bod ond nid oedd wedi datrys yr holl brinder sylfaenol o fewn y gweithlu. .

 

Nododd y Pwyllgor fod yr adroddiad, o ran pobl h?n, yn nodi hyd arosiadau yn yr ysbyty, gyda 75% ac weithiau hyd at 80% o bobl fregus ac oedrannus o fewn y gwelyau hynny, gyda'r hyd arhosiad cyfartalog yn ysbytai Glangwili a'r Tywysog Philip dros ddwywaith yr hyn oedd mewn ysbytai cyfatebol.

 

O ran anableddau dysgu, roedd yr Awdurdod wedi ateb galw newydd ac nid oedd nifer y bobl oedd yn mynd i ofal preswyl ffurfiol wedi cynyddu. Fodd bynnag, y teimlad oedd bod y cynnydd disgwyliedig ddim yn digwydd o ran defnyddio adnoddau cymunedol i gefnogi a lleihau cyfanswm y bobl mewn gofal preswyl, oherwydd yr amser oedd angen i drefnu lleoliadau eraill.

 

Dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymunedol wrth y Pwyllgor fod y gwasanaeth, mewn perthynas â phlant ag anableddau, yn gweld cynnydd yn y galw gan deuluoedd ac roedd nifer y plant ar y gofrestr amddiffyn plant hefyd wedi cynyddu. Er gwaethaf y problemau, roedd tystiolaeth yn dangos bod yr Awdurdod yn gwneud penderfyniadau diogel mewn perthynas â phlant.

 

Nododd y Cadeirydd y sylwadau cadarnhaol gan AGC a diolchodd i Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymunedol a'r staff perthnasol am eu gwaith caled.

 

Roedd y canlynol ymhlith y cwestiynau/sylwadau a godwyd ynghylch yr adroddiad:-

 

·    Mewn ymateb i'r pryder a godwyd am y diffyg ariannol uchaf erioed o ran cyllidebau'r Bwrdd Iechyd a'r effaith bosibl gallai hyn ei chael ar yr Awdurdod, dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymunedol y byddai'n rhaid i Lywodraeth Cymru a'r Byrddau Iechyd wneud penderfyniadau anodd rhyngddynt.  Fodd bynnag, synhwyrol oedd nodi y gallai fod effaith ar unrhyw fentrau ar y cyd fel Llesiant Delta, ond bod gan yr Awdurdod berthynas dda iawn â'r Bwrdd Iechyd yn strategol a'r gobaith oedd na fyddai mentrau oedd yn arbed arian ac yn diwallu'r angen yn cael eu heffeithio. 

 

·    Mewn perthynas â'r risg a nodwyd ynghylch y gyfradd uchel o chwyddiant, ymatebodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymunedol drwy ddweud bod yr Awdurdod yn gorfod llyncu'r diffyg amlwg a fyddai'n arwain at wneud penderfyniadau anodd. Serch hynny, roedd  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4.

5.

ADRODDIAD ALLDRO CYLLIDEB REFENIW 2022/23 pdf eicon PDF 103 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried Adroddiad Alldro'r Gyllideb Refeniw ar gyfer 2022/23 a oedd yn nodi'r sefyllfa ariannol fel yr oedd ar ddiwedd y flwyddyn ariannol. Nodwyd bod y Gwasanaeth Gofal Cymdeithasol ac Iechyd yn dangos amrywiant net o -£6,254k o gymharu â chyllideb gymeradwy 2022/23.

 

Roedd yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth am y canlynol:-

 

·         Crynodeb o'r sefyllfa ar gyfer y gwasanaethau gyda chylch gorchwyl y Pwyllgor Craffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd;

·         Adroddiad ar Brif Amrywiannau cyllidebau y cytunwyd arnynt;

·         Amrywiannau manwl;

·         Manylion y sefyllfa Monitro Arbedion ar gyfer diwedd y flwyddyn.

 

Nododd yr Aelod Cabinet dros Adnoddau fod llawer o linellau'r gyllideb yn amrywio'n fawr i'r gyllideb a osodwyd yn ystod mis Chwefror 2022 a bod hyn yn adlewyrchu'r ansicrwydd o ran galw, cost a chapasiti yn y meysydd gwasanaeth.  Dywedwyd bod y pwysau demograffig o ran gwasanaethau dysgu ac anabledd yn parhau i gael effaith ar y gyllideb ar gyfer lleoliadau preswyl a llety â chymorth. 

 

Nododd y Pwyllgor fod y pwysau a ddaeth i'r amlwg yn y Gwasanaethau Plant yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf o ganlyniad i bwysau staffio a chymhlethdod y ddarpariaeth ofal, a bod hyn yn bryder sylweddol i'r sefyllfa gyllidebol gorfforaethol.

 

Gofynnwyd nifer o gwestiynau ac roedd y prif faterion fel a ganlyn:

 

·    Gofynnwyd a oedd y gyllideb ychwanegol a ddyrannwyd yn 2022/23 i daclo'r broblem o recriwtio gweithwyr cymdeithasol wedi cael ei gwario'n ddoeth gan fod ystod eang o fentrau wedi'u lansio.

Bu i'r Pennaeth Plant a Theuluoedd ddweud unwaith eto nad oedd modd gorbwysleisio'r her wynebai'r Awdurdod o ran recriwtio gweithwyr cymdeithasol cymwys a'i bod yn her genedlaethol.  Dywedodd fod llawer o Awdurdodau Lleol yng Nghymru yn gweithredu gyda chanran uchel o weithwyr cymdeithasol asiantaeth o fewn eu gweithlu ond bod Sir Gaerfyrddin wedi gallu stopio hyn i raddau helaeth. Soniwyd bod dull cyson cydgysylltiedig ar draws yr is-adrannau o ran recriwtio ym maes gwaith cymdeithasol.  Roedd llawer o gamau wedi'u gweithredu mewn ymateb i'r adborth a dderbyniwyd drwy arolwg gweithwyr cymdeithasol ac un ohonynt oedd fframwaith dilyniant ymarferydd.  Dywedwyd bod Gofal Cymdeithasol Cymru wedi rhoi gwybod yn ddiweddar fod nifer y bobl oedd yn gwneud cais am gyrsiau gwaith cymdeithasol wedi cynyddu a bod hyn oherwydd y cynnydd yn y fwrsariaeth oedd ar gael. 

Atgoffwyd y Pwyllgor gan y Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion am fenter yr Academi Gofal.  Roedd 12 o bobl ar y rhaglen ar hyn o bryd ac wedi cael lleoliadau mewn cyfleusterau preswyl a gwasanaethau dydd tra'n ymgymryd â'u cymwysterau NVQ ac yna byddent yn cael eu cefnogi yn y pen draw i ennill eu gradd Gwaith Cymdeithasol.

 

·    Mewn ymateb i gwestiwn yngl?n â beth fyddai'r effaith ar y gyllideb pe bai pob swydd yn cael ei llenwi, dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymunedol fod galw heb ei ddiwallu a phe bai swyddi mewn meysydd fel gofal cartref yn cael eu llenwi, amcangyfrifwyd y byddai 2m arall yn cael ei wario.  Roedd modelau gofal amgen wedi'u rhoi ar waith i leihau cost a nifer y staff oedd  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5.

6.

ADRODDIAD MONITRO CYLLIDEB CYFALAF A REFENIW 2023/24 pdf eicon PDF 105 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried Adroddiad Monitro'r Gyllideb Refeniw a'r Gyllideb Gyfalaf ar gyfer y Gwasanaethau Iechyd a Chymdeithasol, a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa gyllidebol fel yr oedd ar  30 Mehefin 2023, mewn perthynas â blwyddyn ariannol 2023/24.

 

Roedd y Gwasanaethau Iechyd a Chymdeithasol yn rhagweld gorwariant o £7,325k ar y gyllideb refeniw. Dangosodd y prif amrywiadau ar gynlluniau cyfalaf amrywiant disgwyliedig o 44k yn erbyn cyllideb net o £1,157k ar brosiectau gofal cymdeithasol, ac amrywiad o £1k yn erbyn cyllideb net prosiectau'r Gwasanaethau Plant o £517k.

 

Amlygodd yr Aelod Cabinet dros Adnoddau fod y gorwariant cyllidebol a ragwelir ar Wasanaethau Plant o bryder sylweddol i sefyllfa'r gyllideb gorfforaethol, ac wrth gydnabod hyn sefydlwyd gweithgor i ymchwilio a nodi camau cywirol lle bo hynny'n bosibl.  Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod y gweithgor yn cyfarfod yn wythnosol ac yn cael ei gadeirio gan y Dirprwy Brif Weithredwr ac yn cynnwys uwch-swyddogion o bob rhan o'r Cyngor, yn ogystal â thîm arweinyddiaeth y Gwasanaethau Plant.

 

Mewn ymateb i ymholiad, cadarnhaodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymunedol fod yr amrywiant yn y chwarter cyntaf yn fras lle'r oeddent yn disgwyl bod yn seiliedig ar ragdybiaethau'r gorffennol. Mewn perthynas â'r mater a godwyd yngl?n â'r diffyg gyda'r Gwasanaethau Plant, dywedwyd nad mater newydd oedd hwn a'i fod wedi cael ei guddio o'r blaen gan grantiau unigol gan Lywodraeth Cymru.  Dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymunedol ei fod yn gobeithio y byddai'r diagnosis cyffredinol o achosion sylfaenol y diffyg yn galluogi'r Awdurdod i gymryd camau cywirol, ond byddai cynllun gweithredu'n cael ei lunio erbyn diwedd mis Hydref / dechrau mis Tachwedd.  Dywedwyd bod cynnydd enfawr wedi bod yng nghost gwasanaethau a phroffil a gomisiynwyd gwasanaethau mewn perthynas â gwasanaethau gofal preswyl i blant ag anableddau.  Yn ogystal, roedd yr Awdurdod yn wynebu cynnydd yn y galw am wasanaethau ac roedd ymchwiliadau'n cael eu cynnal i sefydlu prif achos y galw hwn ar ôl y pandemig.

 

Gofynnodd y Pwyllgor unwaith eto ynghylch lleoliadau y tu allan i'r sir.  Wrth ymateb, mynegodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymunedol bryder nad oedd y ddarpariaeth ofal yn diwallu anghenion plant a'i bod yn cael ei masnacheiddio ac yn aml yn darparu gwasanaeth gwael am gost uchel.  Dywedwyd wrth y Pwyllgor y byddai'r Awdurdod, yn ddelfrydol, yn datblygu ei adnoddau ei hun gyda digon o gapasiti yn y sir i ateb y galw, ac mai dim ond mewn amgylchiadau eithriadol y byddai plant yn cael eu lleoli y tu allan i'r sir.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

7.

EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL pdf eicon PDF 88 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r rhestr o eitemau ar gyfer y dyfodol a oedd i'w hystyried yn y cyfarfod nesaf ar 28 Tachwedd 2023.

8.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 5ED GORFFENNAF, 2023 pdf eicon PDF 100 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor oedd wedi ei gynnal ar 5 Gorffennaf 2023 gan eu bod yn gywir.