Agenda a Chofnodion

Cydbwyllgor Llywodraethu Partneriaeth Pensiwn Cymru - Dydd Mercher, 13eg Rhagfyr, 2023 10.00 yb

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod,. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Julie Owens  01267 224088

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd M. Lewis.

2.

DATGANIADAU O FUDDIANT

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yr Aelod

Rhif yr Eitem ar yr Agenda

Buddiant

Y Cynghorydd P. Lewis

Pob eitem ar yr agenda

Aelod o Gronfa Bensiwn Powys

Y Cynghorydd P. Downing

Pob eitem ar yr agenda

Ei frawd yn aelod o'r Gronfa Bensiwn ynghyd a'i wraig.

Y Cynghorydd N. Yeowell

Pob eitem ar yr agenda

Aelod o Gronfa Bensiwn Gwent Fwyaf

Y Cynghorydd M. Norris

Pob eitem ar yr agenda

Aelod o Gronfa Bensiwn Rhondda Cynon Taf

Y Cynghorydd. C. Weaver

Pob eitem ar yr agenda

Aelod o Gronfa Bensiwn Caerdydd a'r Fro

Y Cynghorydd S. Churchman

Pob eitem ar yr agenda  

Aelod o Gronfa Bensiwn Gwynedd Fwyaf

Y Cynghorydd E. Williams

Pob eitem ar yr agenda

Aelod o Gronfa Bensiwn Dyfed

Y Cynghorydd T Palmer

Pob eitem ar yr agenda

Ef, ei bartner a'i ferch yn aelodau o Gronfa Bensiwn Clwyd

 

[Sylwer: Ceir eithriad yn y Côd Ymddygiad ar gyfer Aelodau, sy'n caniatáu i aelod a benodwyd neu a enwebwyd gan ei Awdurdod i gorff perthnasol ddatgan y buddiant hwnnw ond aros a chymryd rhan yn y cyfarfod.]

3.

I LOFNODI FEL COFNOD CYWIR GOFNODION CYFARFOD Y CYD-BWYLLGOR A GYNHALIWYD AR 20FED MEDI 2023 pdf eicon PDF 139 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion cyfarfod y Cyd-bwyllgor Llywodraethu oedd wedi'i gynnal ar 20 Medi 2023 gan eu bod yn gywir.

4.

Y WYBODAETH DDIWEDDARAF GAN YR AWDURDOD LLETYA pdf eicon PDF 169 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

(NODER: Roedd y Cynghorwyr S. Churchman, P. Downing, P. Lewis, M. Norris, T. Palmer, C. Weaver, E. Williams ac N. Yeowell wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach).

 

Cafodd y Cyd-bwyllgor ddiweddariad cynnydd mewn perthynas â'r meysydd allweddol canlynol:

 

·       Llywodraethu;

·       Sefydlu parhaus;

·       Gwasanaethau gweithredwyr;

·       Cyfathrebu ac adrodd;

·       Hyfforddiant a chyfarfodydd;

·       Adnoddau, cyllideb a ffioedd.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod diweddariad yr Awdurdod Cynnal yn cael ei dderbyn.

5.

ADOLYGIAD COFRESTR RISG Ch4 2023 pdf eicon PDF 152 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

(NODER: Roedd y Cynghorwyr S. Churchman, P. Downing, P. Lewis, M. Norris, T. Palmer, C. Weaver, E. Williams ac N. Yeowell wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach).

 

Ystyriodd y Cyd-bwyllgor Adolygiad Cofrestr Risg Ch4 2023.  Rhoddwyd gwybod i'r Aelodau mai pwrpas Cofrestr Risg Partneriaeth Pensiwn Cymru yw:

·       Amlinellu risgiau allweddol Partneriaeth Pensiwn Cymru a’r ffactorau a allai gyfyngu ar ei gallu i fodloni ei hamcanion;

·       Mesur difrifoldeb a thebygolrwydd y risg sy'n wynebu Partneriaeth Pensiwn Cymru;

·       Crynhoi strategaethau rheoli risg Partneriaeth Pensiwn Cymru; a

·       Monitro arwyddocâd parhaus y risgiau hyn a'r gofyniad am fwy o strategaethau lliniaru risg.

 

Nodwyd, yn ystod y chwarter blaenorol, fod y Gweithgor Swyddogion wedi cynnal adolygiad o'r Risgiau Buddsoddi ac roedd yr adroddiad yn manylu ar ganlyniad yr adolygiad ar gyfer pob un o'r risgiau a nodwyd.

 

Rhoddwyd gwybod i'r Cyd-bwyllgor y byddai'r adolygiad nesaf yn cael ei gynnal yn Ch1 2024 ac y byddai'n canolbwyntio ar risgiau G.1 i G.7 yr adran Risgiau Llywodraethu a Rheoleiddio.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo'r newidiadau i Gofrestr Risg Partneriaeth Pensiwn Cymru, fel y nodwyd yn yr adroddiad.

6.

ADOLYGIADAU POLISI BLYNYDDOL pdf eicon PDF 150 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

(NODER: Roedd y Cynghorwyr S. Churchman, P. Downing, P. Lewis, M. Norris, T. Palmer, C. Weaver, E. Williams ac N. Yeowell wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach).

 

Cafodd y Cyd-bwyllgor bolisïau wedi'u diweddaru i'w hystyried mewn perthynas â Hyfforddiant ac Ailgydbwyso ac Addasu.

 

Nodwyd bod y Polisi Hyfforddiant wedi'i gymeradwyo gan y Cyd-bwyllgor Llywodraethu yn ei gyfarfod ym mis Rhagfyr 2020 ac yn amlinellu dull Partneriaeth Pensiwn Cymru o hyfforddi a datblygu.  Arweiniodd yr adolygiad at ddiweddaru'r polisi i adlewyrchu'r modd y caiff anghenion hyfforddi eu nodi.

 

Roedd y polisi Ailgydbwyso ac Addasu wedi cael ei gymeradwyo gan y Cyd-bwyllgor Llywodraethu yn ei gyfarfod ym mis Rhagfyr 2021 ac yn nodi dull Partneriaeth Pensiwn Cymru o ail-gydbwyso’r asedau a ddelir o fewn is-gronfeydd y cronfeydd. Roedd y polisi'n amlinellu'r fframwaith a sefydlwyd i sicrhau bod dyraniadau rheolwr o fewn yr is-gronfeydd yn cael eu monitro a'u hailgydbwyso lle bo'n briodol. Arweiniodd yr adolygiad at ddiweddaru'r polisi i ystyried mandadau'r Farchnad Breifat, fel y nodir yn adrannau 12 a 13 o'r polisi.

 

Nodwyd y byddai gwefan Partneriaeth Pensiwn Cymru yn cael ei diweddaru i adlewyrchu'r diwygiadau a gymeradwywyd gan y Cyd-bwyllgor Llywodraethu.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo'r Polisi Hyfforddiant a'r Polisi Ailgydbwyso ac Addasu.

7.

DIWEDDARIAD GAN Y GWEITHREDWR - ADOLYGIAD Ch3 2023 pdf eicon PDF 153 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

(NODER: Roedd y Cynghorwyr S. Churchman, P. Downing, P. Lewis, M. Norris, T. Palmer, C. Weaver, E. Williams ac N. Yeowell wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach).

 

Cafodd y Cyd-bwyllgor gyflwyniad a ddarparwyd gan Waystone Management (UK) Limited ar gynnydd Partneriaeth Pensiwn Cymru ar gyfer Chwarter 3 (Gorffennaf - Medi) 2023 mewn perthynas â'r meysydd allweddol canlynol:

 

·       Diweddariad y farchnad mewn perthynas â chaffael Link Fund Solutions;

·       Crynodeb Asedau Dan Reolaeth ar  30 Medi 2023;

·       Ariannu newidiadau mewn perthynas â'r gronfa Credyd Byd-eang, Cronfa Twf Byd-eang, Cronfa Cyfleoedd y DU a Chronfa Bond Elw Absoliwt

·       Diweddariadau'r farchnad mewn perthynas â Rwsia / Wcráin a'r Dwyrain Canol

·       Diweddariad ac ymgysylltiad corfforaethol

 

PENDERFYNODD YN UNFRYDOL dderbyn y Diweddariad gan y Gweithredwr.

8.

ADRODDIADAU PERFFORMIAD FEL AR 30 MEDI 2023 pdf eicon PDF 166 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

(NODER: Roedd y Cynghorwyr S. Churchman, P. Downing, P. Lewis, M. Norris, T. Palmer, C. Weaver, E. Williams ac N. Yeowell wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach).

 

Derbyniodd y Cyd-bwyllgor gyflwyniad ar yr Adroddiadau Perfformiad fel yr oeddent ar  30 Medi, 2023. Rhoddwyd gwybod i'r Aelodau bod yr is-gronfeydd a oedd wedi perfformio'n uwch/ tanberfformio eu meincnodau priodol, fel a ganlyn:

 

·       Perfformiodd Cronfa Ecwiti Cyfleoedd Byd-eang 1.28% gros / 0.96% net yn uwch;

       ·Tanberfformiodd Cronfa Ecwiti Twf Byd-eang 0.98% gros / 1.39% net;

·       Tanberfformiodd Cronfa Ecwiti Gweithredol Cynaliadwy 2.72% gros / 2.80% net;

       ·Tanberfformiodd Cronfa Ecwiti Marchnadoedd Datblygol 1.45% gros / 1.87% net;

·       Tanberfformiodd Cronfa Ecwiti Cyfleoedd DU 0.40% gros / 0.80% net;

·       Perfformiodd Cronfa Bond Llywodraeth Fyd-eang 1.10% gros / 0.87% net yn uwch;

·       Tanberfformiodd Cronfa Credyd Byd-eang 0.13% gros / 0.31% net yn uwch.

 

At hynny, adroddwyd nad oedd y Gronfa Credyd Aml-asedau a'r Gronfa Bond Elw Absoliwt yn cyrraedd eu targedau tra bod y Gronfa Credyd Sterling yn rhagori ar ei tharged.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL y dylid nodi Adroddiadau Perfformiad yr is-gronfeydd canlynol fel yr oeddent ar 30ain Medi 2023:

 

8.1.Cronfa Ecwiti Cyfleoedd Byd-eang;        

8.2.Cronfa Ecwiti Twf Byd-eang;        

8.3.Cronfa Ecwiti Marchnadoedd Datblygol;        

8.4.Cronfa Ecwiti Cyfleoedd y DU;        

8.5.Cronfa Bond Llywodraeth Byd-eang;        

8.6. Cronfa Credyd Fyd-eang;        

8.7. Cronfa Credyd Aml-asedau;        

8.8 Cronfa Strategaeth Bond Elw Absoliwt;        

8.9 Cronfa Credyd y DU.

9.

GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD

NI DDYLID CYHOEDDI’R ADRODDIADAU SY’N YMWNEUD Â’R MATERION CANLYNOL GAN EU BOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y’I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 14 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y’I DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007. OS BYDD Y PWYLLGOR AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD YN PENDERFYNU YN UNOL Â’R DDEDDF, I YSTYRIED Y MATERION HYN YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I’R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O’R FATH.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i newidiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod tra oedd yr eitem ganlynol yn cael ei hystyried, gan fod yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.

10.

ADOLYGIAD BENTHYCA GWARANNAU BYD-EANG HYD AT 30 MEDI 2023

Cofnodion:

(NODER: Roedd y Cynghorwyr S. Churchman, P. Downing, P. Lewis, M. Norris, T. Palmer, C. Weaver, E. Williams ac N. Yeowell wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach).

 

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 9 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn debygol o achosi niwed ariannol i'r Gronfa Bensiwn ac o niweidio trafodaethau parhaus a thrafodaethau'r dyfodol.

  

Derbyniodd y Cyd-bwyllgor adroddiad ar Berthynas Benthyca Gwarantau Byd-eang ac Adolygiad Perfformiad ar gyfer y chwarter a ddaeth i ben ar 30 Medi 2023.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi Adolygiad Perfformiad a Pherthynas Benthyca Gwarannau Byd-eang fel yr oedd ar 30ain Medi 2023.

11.

GWASANAETH YMGYSYLLTU ROBECO - ADRODDIAD YMGYSYLLTU Ch3 2023

Cofnodion:

(NODER: Roedd y Cynghorwyr S. Churchman, P. Downing, P. Lewis, M. Norris, T. Palmer, C. Weaver, E. Williams ac N. Yeowell wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach).

 

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 9 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn debygol o achosi niwed ariannol i'r Gronfa Bensiwn ac o niweidio trafodaethau parhaus a thrafodaethau'r dyfodol.

 

Derbyniodd y Cyd-bwyllgor Adroddiad Ymgysylltu Robeco ar gyfer Ch3 2023.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r Adroddiad Ymgysylltu ar gyfer Ch3 2023.

12.

ADRODDIADAU BUDDSODDI CYFRIFOL A RISG HINSAWDD

Cofnodion:

Palmer, C. Weaver, E. Williams ac N. Yeowell wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach).

 

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 9 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn debygol o achosi niwed ariannol i'r Gronfa Bensiwn ac o niweidio trafodaethau parhaus a thrafodaethau'r dyfodol.

 

Cafodd y Cyd-bwyllgor adroddiad am Adroddiadau Buddsoddi Cyfrifol a Risg Hinsawdd ar gyfer yr is-gronfeydd canlynol:-

 

·       Is-gronfa Marchnadoedd Datblygol

·       Is-gronfa Cyfleoedd y DU

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi Adroddiadau Buddsoddi Cyfrifol a Risg Hinsawdd, fel yr hyn sydd uchod.

13.

ADRODDIAD HINSAWDD CYMRU GYFAN

Cofnodion:

(NODER: Roedd y Cynghorwyr S. Churchman, P. Downing, P. Lewis, M. Norris, T. Palmer, C. Weaver, E. Williams ac N. Yeowell wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach).

 

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 9 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn debygol o achosi niwed ariannol i'r Gronfa Bensiwn ac o niweidio trafodaethau parhaus a thrafodaethau'r dyfodol.

 

Ystyriodd y Cyd-bwyllgor ganlyniad adroddiad Hinsawdd Cymru Gyfan a oedd yn darparu asesiad o risg hinsawdd ar draws yr wyth Gronfa gyfan.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi Adroddiad Hinsawdd Cymru Gyfan.