Lleoliad: Siambr a Rhag-Ystafell, - 3 Heol Spilman, Caerfyrddin. SA31 1LE.. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Kevin Thomas
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriad am absenoldeb oddi wrth y Cynghorydd W.R.A. Davies. |
|
DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiannau personol. |
|
DATGAN CHWIPIAID PLAID SYDD WEDI EU GWAHARDD Cofnodion: Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch chwip waharddedig. |
|
CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW) Cofnodion: Nid oedd dim wedi dod i law. |
|
EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL PDF 241 KB Cofnodion: Rhoddwyd rhestr i'r Pwyllgor o'r eitemau a fyddai'n cael eu hystyried yn y cyfarfod oedd i'w gynnal ar y 29ain Medi, 2016.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn y rhestr o eitemau ar gyfer y dyfodol.
|
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Derbyniodd y Pwyllgor adroddiad cynnydd a chynllun gweithredu cysylltiol i’w hystyried ynghylch argymhellion ei Gr?p Gorchwyl a Gorffen ar yr adolygiad o eiddo gwag yn Sir Gaerfyrddin a gynhaliwyd yn ystod 2014/15.
Codwyd y materion canlynol wrth ystyried yr adroddiad:-
Cyfeiriwyd at nifer y cartrefi gwag yn y sir y telid morgais ar eu cyfer ac at a oedd unrhyw gamau allai’r Awdurdod eu cymryd i hwyluso’r broses o’u gwneud yn addas i fyw ynddynt unwaith yn rhagor. Dywedodd Rheolwr y Gwasanaethau Tai, er ei bod yn anarferol i gartrefi o’r fath gael eu morgeisio, neu i fod heb unrhyw ecwiti, gan fod y mwyafrif llethol mewn meddiant llwyr, fod nifer o ddewisiadau ar gael i’w gwneud yn addas i fyw ynddynt unwaith eto. Roedd hynny’n cynnwys darparu benthyciadau i berchnogion, cymryd camau gorfodaeth o dan ddeddfwriaeth Iechyd yr Amgylchedd a phrynu’r eiddo trwy bryniant gorfodol.
Cyfeiriwyd at fater tai ym meddiant y Cyngor sy’n wag am gyfnodau maith ac y mae’n rhaid gwneud gwaith costus arnynt i’w gwneud yn addas i fyw ynddynt unwaith yn rhagor. Holwyd a fyddai’n fwy cost effeithiol a buddiol gwneud y gwaith hwnnw yn hytrach na gadael yr eiddo’n wag. Atgoffwyd y Pwyllgor fod y Gr?p Gorchwyl a Gorffen wedi rhoi sylw i’r agwedd honno fel rhan o’i ymchwiliadau, ac y cafodd wybod bod unrhyw waith adnewyddu sydd ei angen ar eiddo ym meddiant y Cyngor yn cael ei werthuso yn ôl eu haeddiant ac yn ôl yr angen am dai yn yr ardal dan sylw. Os oedd eiddo y mae angen gwaith arno mewn ardal o angen isel, efallai nad gwneud gwaith adnewyddu helaeth iddo yw’r cam mwyaf priodol, o gofio fod adnoddau ariannol yn gyfyngedig, ond rhoddir mwy o bwys ar wneud eiddo yn addas i fyw ynddynt unwaith yn rhagor mewn ardaloedd lle mae’r galw yn drwm.
Atgoffodd y Pennaeth Tai a Diogelu’r Cyhoedd y Pwyllgor fod yr Adran, wrth osod a gwneud tai ym meddiant y Cyngor yn addas i fyw ynddynt unwaith yn rhagor, yn defnyddio system weithredu Vangaurd i werthuso ei pherfformiad. Mae’r system honno’n sicrhau cryn arbedion i’r Awdurdod, a chafodd y cyfnod gwag cyfartalog presennol ei leihau o 80 i 20 diwrnod. Nifer yr eiddo fu’n wag am gyfnod maith ym mis Mehefin 2016 oedd 56, o’i gymharu â stoc tai o fwy na 9,000, rhai ohonynt yn anodd eu gosod neu mewn ardaloedd lle’r oedd y galw am dai yn isel, tra bod angen cryn fuddsoddiad ar eraill. Wrth werthuso eiddo fu’n wag am gyfnod maith, roedd yr Adran yn edrych ar y cam mwyaf priodol i’r dyfodol, gan gynnwys a oedd angen cadw’r eiddo o fewn y portffolio tai. Os mai canlyniad y gwerthusiad oedd y dylid cadw’r eiddo, byddai’r eiddo’n cael ei roi ar restr aros i gystadlu am adnoddau cyfyngedig yn ôl targed y Cyngor ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6. |
|
DARPARIAETH FFITRWYDD ACTIF PDF 293 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Derbyniodd y Pwyllgor gyflwyniad Power Point yn rhoi diweddariad ar y ddarpariaeth ffitrwydd uwchraddedig a gynigir yng nghanolfannau hamdden yr Awdurdod yn Llanelli, Caerfyrddin a Rhydaman ac yn cynnwys manylion am y meysydd perfformiad thematig canlynol:- · Lle Ffitrwydd Actif o fewn y Portffolio Chwaraeon a Hamdden · Perfformiad Hanesyddol – Yr angen am newid · Effaith yr uwchraddio hyd yn hyn · Strategaethau amgylchynol er mwyn llwyddo: hyrwyddo a gwella’r gwasanaeth · Rheoli Perfformiad · Camau i’r Dyfodol
Codwyd y materion canlynol wrth ystyried yr adroddiad:-
Wrthymateb i gwestiwn ynghylch gosod offer ffitrwydd newydd a materion capasiti yn y tair canolfan hamdden y cyfeiriwyd atynt, dywedwyd wrth y Pwyllgor nad oedd yr offer a osodwyd yn ddiweddar yng Nghanolfan Hamdden Llanelli yn lle’r hen offer wedi golygu unrhyw waith ychwanegol. Ar gyfer Caerfyrddin, roedd y capasiti’n cael ei gynyddu 20%. O ran Rhydaman, bydd gwaith adlunio’n cael ei wneud mewn dau gam, trwy gael gwared â’r ystafelloedd newid ac ymestyn y gampfa a thrwy adleoli’r stiwdio ddawns ar y llawr cyntaf i’r llawr gwaelod.
Cyfeiriwyd at y buddsoddiad sy’n cael ei wneud yn y canolfannau hamdden uchod a holwyd a allai cost y gwaith hwnnw fod ar draul cyfleusterau hamdden eraill sy’n eiddo i’r Cyngor ac y gallai’r rheiny wynebu’r perygl o gau dros yr hirdymor er mwyn canoli’r ddarpariaeth yn y tair prif ganolfan boblog. Cadarnhaodd y Pennaeth Hamdden nad oedd gan y Cyngor unrhyw bolisi o’r fath ar hyn o bryd a bod cyfleusterau o’r fath y tu hwnt i’r prif ganolfannau poblog yn cyflawni rôl bwysig yn y gymuned. Yn hynny o beth, dywedodd fod yr Awdurdod yn darparu rhagor o gyfleusterau yn y canolfannau hynny, gan gynnwys adleoli rhai cyfleusterau o Ganolfan Hamdden Caerfyrddin i Gastellnewydd Emlyn, a gosod offer ffitrwydd newydd yng Nghanolfan Hamdden Sanclêr gan ddefnyddio arian o incwm cynllunio A106. Roedd y Cyngor hefyd yn chwilio’n gyson am bob cyfle i wella cyfleusterau yn ei holl ganolfannau hamdden.
Cyfeiriwyd at bolisi codi tâl y Cyngor yn ei ganolfannau hamdden ac yn benodol felly at ei effaith ar ddau glwb yn ardal Castellnewydd Emlyn oedd wedi’u gorfodi i chwilio am leoliadau hyfforddi eraill. Atgoffodd y Pennaeth Hamdden y Pwyllgor fod y Cyngor, wrth bennu prisiau, yn gorfod sicrhau cysondeb ar draws ei bortffolio hamdden, a chydnabod effaith cystadleuaeth o’r sector preifat ac awdurdodau lleol cyfagos.
Wrth ymateb i gwestiwn ar gydweithio, cadarnhawyd fod yr Awdurdod yn gweithio’n agos gyda’r Bwrdd Iechyd yn y maes hwn a’i fod yn cymryd rhan yn y cynllun atgyfeirio cleifion. Hyd yn hyn, roedd yr Awdurdod wedi darparu ar gyfer 1200 atgyfeiriad, gan feddygon teulu yn bennaf, ac roedd wrthi’n chwilio am ffyrdd eraill o gael mwy o bobl i ddefnyddio ei ganolfannau hamdden er mwyn hyrwyddo ffitrwydd a llesiant, gan gynnwys dosbarthiadau ymarfer i famau cyn ac wedi geni babanod. O ran nifer yr atgyfeiriadau, nodwyd fod ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 7. |
|
ADRODDIAD MONITRO CYLLIDEB CYFALAF A REFENIW 2015/16 PDF 384 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried Adroddiadau Monitro ynghylch Cyllidebau Refeniw a Chyfalaf Gwasanaethau Tai, Cynllunio a Hamdden am y cyfnod diwedd blwyddyn ar gyfer blwyddyn ariannol 2015/16.
Codwyd y materion canlynol wrth ystyried yr adroddiad:-
Wrth ymateb i gwestiwn ar y gorwariant cyfunol o £70k ar Harbwr Porth Tywyn a Llethr Sgïo Pen-bre dywedodd y Pennaeth Hamdden eu bod yn gysylltiedig â chostau treillio ychwanegol yn yr harbwr ynghyd â gostyngiad yng ngwerth y stoc yn siop y llethr sgïo. O ran yr harbwr, atgoffodd y Pwyllgor mai polisi’r Cyngor oedd cadw a rheoli’r cyfleuster, a bod gwaith treillio yn rhan annatod o’i reoli. O ran y llethr sgïo, dywedodd fod hynny’n golygu lleihau gwerth a lefel y stoc a gedwir yn y siop gan mai pwyslais y Cyngor oedd darparu cyfleusterau sgïo nid gwerthu dillad.
Wrthymateb i gwestiwn ar y ffaith y cafodd gorwariannau yn y gyllideb Hamdden eu gosod yn erbyn swyddi gweigion, cadarnhaodd y Pennaeth Hamdden nad oedd gan yr Is-adran unrhyw staff ar gontractau dim oriau. Fodd bynnag, dywedodd fod gan y gwasanaeth nifer fawr o swyddi achlysurol oedd yn angenrheidiol er mwyn darparu gwasanaeth hyblyg a bod y rheiny’n cael cynnig oriau penodol lle y bo modd, er bod yn well gan rai staff weithio isafswm oriau.
Wrthymateb i gwestiwn ar y gorwario yn y Cyfrif Tai heb fod yn cynnwys yr HRA, dywedwyd wrth y Pwyllgor ei fod yn ymwneud yn bennaf â gorwariant o £125k ar Wasanaethau Cefnogi Pobl, ac yn y gorffennol y defnyddiwyd cyfran o’r Gronfa Ddatblygu i dalu costau cyflogau yn y gwasanaeth hwnnw. Fodd bynnag, yn dilyn penderfyniad Llywodraeth Cymru i newid y meini prawf ar ariannu a hawlio peth o’r cyllid yn ôl, nid oedd defnyddio’r gronfa i dalu costau cyflogau yn cael ei ganiatáu mwyach. O’r herwydd, roedd rhaid dod o hyd i’r arian o rannau eraill o gyllideb yr Is-adran a byddai adlunio’r gwasanaeth yn golygu y gellid cynnwys y costau hynny yng nghyllidebau’r dyfodol.
Wrth ymateb i’r uchod, cyfeiriwyd at y ffaith fod y cynllun Cefnogi Pobl yn cael ei redeg gan fwrdd a gofynnwyd a fyddai modd i’r Pwyllgor dderbyn adroddiad ar y gwasanaethau a gynigia a’i gynlluniau i’r dyfodol. Dywedodd y Pennaeth Tai a Diogelu’r Cyhoedd, er bod y cynllun yn dod o fewn cylch gorchwyl y Pwyllgor Craffu Iechyd a Gofal Cymdeithasol, y byddai’n holi am y posibilrwydd o ddarparu’r adroddiad y gofynnodd y Pwyllgor amdano.
Wrth ymateb i gwestiwn ar adlunio’r gwasanaethau a ddarperir, dywedodd y Pennaeth Tai a Diogelu’r Cyhoedd fod sawl trywydd yn cael ei ystyried yn hynny o beth, gan gynnwys lleihau nifer y contractau a ddosberthir gan y Cyngor, lleihau nifer y swyddogion comisiynu, cydweithio â Chyngor Sir Penfro ar gomisiynu rhanbarthol a lleihau nifer y staff swyddfeydd cefn er mwyn rhyddhau mwy o adnoddau ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 8. |
|
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Derbyniodd y Pwyllgor Adroddiad Rheoli Perfformiad Diwedd Blwyddyn ar gyfer y gwasanaethau o fewn ei gylch gorchwyl ar gyfer y cyfnod rhwng y 1af Ebrill, 2015 a’r 31ain Mawrth, 2016. Roedd yr adroddiad yn cynnwys trosolwg o berfformiad gan Benaethiaid Gwasanaethau, y dulliau a ddefnyddir i fesur perfformiad, Monitro’r Cynllun Gwella – Gweithredoedd a Mesuriadau Perfformiad ynghyd â gwybodaeth am ddiolchiadau a chwynion.
Trafodwyd y materion canlynol wrth ystyried yr adroddiad.
Wrth ymateb i gais am ddiweddariad ar y sefyllfa bresennol o ran yr adolygiad a gynhaliwyd o’r Polisi Mynediad at Dai Cymdeithasol, atgoffodd y Pennaeth Tai a Diogelu’r Cyhoedd y Pwyllgor y codwyd nifer o faterion/pryderon am y cynlluniau mewn seminar aelodau a gynhaliwyd yn ddiweddar. O’r herwydd, roedd trefniadau’n cael eu gwneud i roi cyflwyniadau ar y cynlluniau i bob un o grwpiau gwleidyddol y Cyngor. Wedi hynny, cyflwynir yr adroddiad i’r Cyngor yn yr Hydref i’w ystyried trwy’r broses wleidyddol arferol.
Wrth ymateb i gwestiwn ar Osodiadau Cymdeithasol a’r Cyngor yn rhedeg cynllun i reoli cartrefi sector preifat ar ran landlordiaid, dywedodd y Pennaeth Tai a Diogelu’r Cyhoedd fod y Cyngor yn rheoli 135 o gartrefi ar hyn o bryd a’i fod yn eu defnyddio i ail-gartrefu aelwydydd digartref neu bobl oedd mewn perygl o fod yn ddigartref yn fuan iawn. Roedd Cytundebau Rheoli ar gyfer ffioedd a threfniadau cynnal a chadw’n cael eu cytuno gyda phob landlord, ac roedd y gwaith cynnal a chadw’n cael ei wneud gan y Cyngor neu’r landlord, gan ddibynnu ar ofynion pob landlord unigol.
Wrth ymateb i gwestiwn ar weithrediad y cynllun peilot yng Nglanymor a sefydlu tîm Tai ac Eiddo ar y cyd, dywedodd y Pennaeth Tai a Diogelu’r Cyhoedd y cafodd 20% o’r stad ei archwilio a bod y canlyniadau cychwynnol yn addawol, ac mai’r bwriad yw cyflwyno’r cynllun i weddill Llanelli a Chaerfyrddin. Er y cafodd 20% o’r stad ei archwilio, efallai y bydd angen, oherwydd oedi a achoswyd gan newid personél ar y dechrau, cynyddu nifer y staff sy’n gwneud yr archwiliadau trwy ddefnyddio swyddogion tai a gafodd yr hyfforddiant priodol.
Cyfeiriwyd at fframwaith contractwyr y Cyngor ac at y camau oedd ar waith i fonitro ansawdd y gwaith a wneir gan isgontractwyr. Dywedodd y Pennaeth Tai a Diogelu’r Cyhoedd fod y fframwaith yn pennu mai cyfrifoldeb y contractwr oedd cynnal archwiliadau rheoli ansawdd. Fodd bynnag, cynhelir adolygiad o’r fframwaith cyn bo hir i weld a oedd unrhyw feysydd y gellid eu gwella yng ngoleuni profiad a’r angen i sicrhau gwerth am arian ar fil cynnal a chadw tai blynyddol £20m y Cyngor.
Wrth ymateb i gwestiwn ar gynlluniau i lunio model darparu amgen i gynyddu nifer y tai fforddiadwy yn y Sir, dywedodd y Pennaeth Tai a Diogelu’r Cyhoedd ei fod yn golygu sefydlu Cwmni Tai Awdurdod Lleol i edrych ar ffyrdd o godi cyfalaf ychwanegol i gefnogi Ymrwymiad Cartrefi Fforddiadwy’r Cyngor trwy ddulliau/manylebau caffael ac adeiladu gwahanol er mwyn cyflawni mwy am lai. Bydd y cwmni hwnnw’n yn eiddo’n llwyr i’r Cyngor Sir a byddai’n ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 9. |
|
DURATION OF MEETING Cofnodion: Am 1.00 p.m. wrth ystyried Cofnod 9 uchod, tynnwyd sylw’r Pwyllgor at Reol Gweithdrefn Gorfforaethol 9.1 “Hyd Cyfarfod” a CPR 23.1 “Ataliad”. Gan y bu’r cyfarfod ar waith am dair awr,
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL atal Rheolau Gweithdrefn y Cyngor er mwyn gallu ystyried y materion sy’n weddill ar yr agenda.
|
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL Y PWYLLGOR CRAFFU CYMUNEDAU 2015/16 PDF 369 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Derbyniodd y Pwyllgor Adroddiad Blynyddol ar ei waith yn ystod blwyddyn y Cyngor 2015/16, gan nodi y cafodd ei baratoi yn unol ag Erthygl 6.2 Cyfansoddiad y Cyngor Sir.
Roedd yr adroddiad yn cynnig trosolwg o’r rhaglen waith a’r prif faterion a drafodwyd gan y Pwyllgor. Roedd yn manylu hefyd ar y materion a gyfeiriwyd at neu gan y Bwrdd Gweithredol, adolygiadau Gorchwyl a Gorffen, sesiynau datblygu a gynhaliwyd ar gyfer aelodau ynghyd â’u presenoldeb yng nghyfarfodydd y Pwyllgor.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad. |
|
DIWEDDARAF AM WEITHREDIADAU AC ATGYFEIRIADAU'R PWYLLGOR CRAFFU CYMUNEDAU PDF 295 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Derbyniodd y Pwyllgor adroddiad yn nodi’r cynnydd a wnaed o ran camau gweithredu, ceisiadau neu atgyfeiriadau yn deillio o gyfarfodydd blaenorol y Pwyllgor.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad. |