Agenda a Chofnodion

CPP & Treth y Cyngor, Cyngor Sir - Dydd Mercher, 8fed Mawrth, 2023 10.00 yb

Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Martin Davies  01267 224059

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr C. Davies, D.C. Evans, B.W. Jones, G.R. Jones, M.J.A. Lewis, E. Rees, J. Seward a G.B. Thomas.

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Y Cynghorydd

Rhif y Cofnod

Y Math o Fuddiant

L.R. Bowen

5 - Datganiad Polisi Tâl 2023/24;

Mae ei wraig yn gweithio yn Uned Gyfieithu'r Cyngor;

K. Broom

6 - Premiymau'r Dreth Gyngor Ail Gartrefi ac Eiddo Gwag;

Yn berchen ar eiddo sy'n cael ei ddefnyddio fel llety gwyliau;

J.M. Charles

5 - Datganiad Polisi Tâl 2023/24;

Mae perthynas yn gweithio mewn ysgol uwchradd ond nid mewn rôl addysgu;

M.D. Cranham

5 - Datganiad Polisi Tâl 2023/24;

Mae ei fab yn gweithio i'r Cyngor;

S. Godfrey-Coles

5 - Datganiad Polisi Tâl 2023/24;

Partner yn gweithio i'r Cyngor;

D. Cundy

5 - Datganiad Polisi Tâl 2023/24;

Sawl perthynas iddo'n gweithio i'r Cyngor;

D. Cundy

6 - Premiymau'r Dreth Gyngor Ail Gartrefi ac Eiddo Gwag;

Mae perthynas iddo yn berchen ar ail gartref;

S.A. Curry

6 - Premiymau'r Dreth Gyngor Ail Gartrefi ac Eiddo Gwag;

Yn berchen ar lety gwyliau;

B. Davies

5 - Datganiad Polisi Tâl 2023/24;

Gwraig yn gweithio yn Adran Gwasanaethau Cymunedol y Cyngor;

L.M. Davies

5 - Datganiad Polisi Tâl 2023/24;

Chwaer-yng-nghyfraith yn gweithio fel Cynorthwyydd Addysgu;

T. Davies

5 - Datganiad Polisi Tâl 2023/24;

Mae aelod o'r teulu yn gweithio fel Cynorthwyydd Addysgu;

T.A.J. Davies

5 - Datganiad Polisi Tâl 2023/24;

Ei chwaer-yng-nghyfraith yn gweithio i'r Cyngor;

A.Evans

5 - Datganiad Polisi Tâl 2023/24;

Ei fam yn gweithio i Adain Gwasanaethau Democrataidd y Cyngor;

H.A.L. Evans

5 - Datganiad Polisi Tâl 2023/24;

Ffrind yn gweithio i'r Cyngor;

H.A.L. Evans

6 - Premiymau'r Dreth Gyngor Ail Gartrefi ac Eiddo Gwag;

Mae perthynas agos yn berchen ar gartref gwyliau;

L.D. Evans

5 - Datganiad Polisi Tâl 2023/24;

Perthynas yn gweithio fel Cynorthwyydd Addysgu

L.D. Evans

6 - Premiymau'r Dreth Gyngor Ail Gartrefi ac Eiddo Gwag;

Mae perthynas agos yn berchen ar gartref gwyliau;

N. Evans

5 - Datganiad Polisi Tâl 2023/24;

Ei ferch yn gweithio i Wasanaethau Llyfrgelloedd y Cyngor;

R.E. Evans

5 - Datganiad Polisi Tâl 2023/24;

Ei ferch yn gweithio i Wasanaethau Llyfrgelloedd y Cyngor;

J.P. Hart

5 - Datganiad Polisi Tâl 2023/24;

Aelodau o'r teulu yn gweithio i'r Cyngor;

T.M. Higgins

5 - Datganiad Polisi Tâl 2023/24;

Ei nith yn gweithio i Wasanaethau Llyfrgelloedd y Cyngor;

P.M. Hughes

5 - Datganiad Polisi Tâl 2023/24;

Aelod o'r teulu'n gweithio i'r Cyngor;

J.D. James

5 - Datganiad Polisi Tâl 2023/24;

Mab-yng-nghyfraith yn gweithio i'r Cyngor;

M. James

6 - Premiymau'r Dreth Gyngor Ail Gartrefi ac Eiddo Gwag;

Yn debygol o fod yn berchen ar eiddo ychwanegol yn ystod y cyfnod dan sylw;

R. James

5 - Datganiad Polisi Tâl 2023/24;

Partner yn gweithio i  Wasanaethau Llyfrgelloedd y Cyngor;

G.H. John

5 - Datganiad Polisi Tâl 2023/24;

Aelod o'r teulu'n gweithio i'r Cyngor;

A.C. Jones

5 - Datganiad Polisi Tâl 2023/24;

Merch-yng-nghyfraith yn gweithio i'r Cyngor;

H. Jones

5 - Datganiad Polisi Tâl 2023/24;

Aelod o'r teulu yn gweithio fel cynorthwyydd addysgu;

A. Leyshon

5 - Datganiad Polisi Tâl 2023/24;

Ei ferch yn gweithio i Wasanaethau Llyfrgelloedd y Cyngor;

K. Madge

5 - Datganiad Polisi Tâl 2023/24;

Ei ferch  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 2.

3.

CYHOEDDIADAU'R CADEIRYDD

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

·      Dywedodd y Cadeirydd ei fod ef a'i Gydymaith, y Cynghorydd Nysia Evans, wedi cael y pleser o fynychu nifer o ddigwyddiadau yn ddiweddar gan gynnwys dathliad penblwydd Mary Kier yn 111 oed yng Nghartref Gofal Awel Tywi, Ffairfach, Llandeilo;

 

·     Croesawodd y Cadeirydd Lili Evans, Sam Williams, Magda Smith, Olivia Smolicz, Marianna Pilichowska a Zach Davis, aelodau o'r Cyngor Ieuenctid, a oedd yn gwylio'r cyfarfod ar-lein. Roeddent i gyd yn gweithio tuag at y Wobr Cysgodi Cynghorwyr Lleol ac roedd rhai wedi bod yn bresennol yn y Siambr yng nghyfarfod blaenorol y Cyngor;

 

·     Dywedodd y Cynghorydd Tyssul Evans ei fod wedi cael y pleser o fynychu dathliadau yn Neuadd Bentref Llangyndeyrn i gofio 60 mlynedd ers i'r pentref gael ei achub rhag cael ei foddi ym 1963. Bu'r Cynghorydd Evans yn hel atgofion o’r cyfnod ym 1963. 

 

4.

PENNU TRETH Y CYNGOR AM Y FLWYDDYN ARIANNOL 2023/24 pdf eicon PDF 128 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Cyngor adroddiad a gyflwynwyd gan yr Aelod Cabinet dros Adnoddau  a oedd yn nodi'r manylion ariannol perthnasol o ran pennu'r Dreth Gyngor am flwyddyn ariannol 2023/2024, ynghyd â symiau'r Dreth Gyngor o ran gwahanol Fandiau Prisio'r Dreth Gyngor, fel yr oeddynt yn berthnasol i'r holl Gynghorau Cymuned a Thref unigol.

Nodwyd bod yr argymhellion yn yr adroddiad yn dwyn ynghyd ofynion cyllideb yr awdurdod a'r praeseptau ar gyfer Awdurdod yr Heddlu a'r Cynghorau Tref a Chymuned i symiau cyfunol y Dreth Gyngor mewn perthynas â bandiau prisio unigol y Dreth Gyngor.

PENDERFYNWYD, er mwyn galluogi'r Cyngor i gydymffurfio â'r gofynion deddfwriaethol, bod adroddiad ac argymhellion y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Corfforaethol ynghylch pennu'r Dreth Gyngor am flwyddyn ariannol 2023/24 yn cael eu mabwysiadu.

 

5.

DATGANIAD POLISI TALIADAU 2023-2024 pdf eicon PDF 99 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[SYLWER:

1.    Roedd y Cynghorwyr L.R. Bowen, J.M. Charles, M.D. Cranham, S. Godfrey-Coles, D.M. Cundy, B. Davies, L.M. Davies, T. Davies, A. Evans, H.A.L. Evans, L.D. Evans, N. Evans, R.E. Evans, J.P. Hart, T.M. Higgins, P.M. Hughes, J.D. James, R. James, G.H. John, A.C. Jones, H. Jones, A. Leyshon, K. Madge, D. Nicholas, M. Palfreman, B.A.L. Roberts ac F. Walters wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach ac felly nid oeddent yn bresennol yn ystod yr eitem;

2.  Barnwyd bod gan bob swyddog a oedd yn bresennol fuddiant personol yn yr eitem hon a gadawsant y cyfarfod cyn iddi gael ei hystyried ac eithrio Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd, Swyddog Gwasanaethau Democrataidd a'r swyddogion a oedd yn  hwyluso trefniadau gweddarlledu'r cyfarfod.

   3. Gan fod yr Aelod Cabinet dros Drefniadaeth a'r Gweithlu wedi datgan diddordeb yn yr eitem hon ac wedi gadael y cyfarfod, cyflwynodd yr Aelod Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yr adroddiad ar ei ran.]

Cyn i'r rhai uchod adael y cyfarfod, a oedd yn cynnwys y Cadeirydd a'r Is-gadeirydd, cynigiwyd ac eiliwyd a

PHENDERFYNWYD YN UNFRYDOL y byddai'r Cynghorydd Dot Jones yn cael ei phenodi i Gadeirio'r cyfarfod ar gyfer yr eitem hon.

Cyflwynodd yr Aelod Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yr adroddiad ar ran yr Aelod Cabinet dros Drefniadaeth a'r Gweithlu a amlinellai bod rheidrwydd ar yr holl Awdurdodau Lleol, yn unol â darpariaethau Deddf Lleoliaeth 2011, i baratoi Datganiad Polisi Tâl y mae'n rhaid cytuno arno a'i gyhoeddi erbyn 1  Ebrill bob blwyddyn.   

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, yn wahanol i lawer o Awdurdodau, fod gan Gyngor Sir Caerfyrddin Banel Ymgynghorol ynghylch y Polisi Tâl a oedd yn gytbwys yn wleidyddol, sydd eisoes wedi ystyried a chynghori ar y Datganiad Polisi Tâl. Ychwanegodd fod fformat y Datganiad yn cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth a'r canllawiau perthnasol gan gynnwys canllawiau a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru a'r arfer gorau a ddatblygwyd gan cyn-Gomisiwn Staff y Gwasanaethau Cyhoeddus. Nid oedd y Datganiad Polisi Tâl eleni yn wahanol iawn i'r hyn a gyflwynwyd yr adeg hon y llynedd. Y prif newidiadau oedd bod cyflwyniad yr Arweinydd, a'r Prif Weithredwr wedi'u diweddaru, roedd hyn yn adlewyrchu'r gofynion gwahanol iawn a oedd ar y Cyngor, ar ôl pandemig COVID-19 a'r pwysau economaidd ac ariannol presennol yr oedd cymdeithas yn gyffredinol yn eu hwynebu.

 

Dymuniad yr Awdurdod oedd parhau i gefnogi'r cyflogau isaf, drwy sicrhau bod trothwy'r Cyflog Byw Gwirioneddol gwirfoddol yn cael ei fodloni drwy dalu'r hyn sy'n cyfateb i £10.90 yr awr o 1 Ebrill 2023. Roedd Dyfarniad Cyflog 22/23 hefyd yn dileu pwynt 1 y graddfeydd cyflog ac felly y gyfradd isaf fesul awr fyddai £10.59. Roedd y Panel Ymgynghorol ynghylch y Polisi Tâl felly wedi argymell y dylid parhau â'r cymorth i'r rhai ar y cyflog isaf drwy dalu tâl atodol i gynyddu'r cyfraddau fesul awr hyd at y gyfradd Cyflog Byw Gwirioneddol o £10.90..

 

Bu'r Aelod Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn sôn am y cymorth pellach  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5.

6.

AIL GARTREFI AC EIDDO GWAG - PREMIYMAU TRETH Y CYNGOR pdf eicon PDF 144 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn dilyn dadl a allai'r mater o fabwysiadu premiwm ar ail gartrefi, y cyfeirir ato yn yr adroddiad a ddosbarthwyd, gael ei ystyried a'i benderfynu ar wahân i fabwysiadu premiwm ar eiddo gwag, y cyfeirir ato hefyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd, cafodd ei gynnig a'i eilio a

 

PHENDERFYNWYD bod yr adroddiad ar Bremiymau'r Dreth Gyngor ar Ail Gartrefi ac Eiddo Gwag yn cael ei ystyried fel y'i dosbarthwyd.

 

[SYLWER: Roedd y Cynghorwyr K.V. Broom, M. James, D.M. Cundy, S.A. Curry, H.A.L. Evans, L.D. Evans, B.D.J. Phillips ac E. Williams wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach gan adael y cyfarfod tra oedd yr eitem yn cael ei thrafod.] Roedd y Cynghorydd K.V. Broom wedi cael gollyngiad i siarad ond nid pleidleisio ac roedd wedi parhau yn y cyfarfod yn ystod y drafodaeth ond cafodd ei rhoi yn yr ystafell aros adeg y bleidlais.

 

Cyflwynodd yr Aelod Cabinet dros Adnoddau adroddiad a oedd yn gofyn am gymeradwyaeth i fabwysiadu premiymau ar ail gartrefi ac eiddo gwag. Dywedodd fod dros 800 o ail gartrefi yn Sir Gaerfyrddin a 1,800 o dai sydd wedi bod yn wag ers dros flwyddyn o leiaf - a nifer ohonynt ers blynyddoedd lawer.  Dywedodd fod y ddau gategori o eiddo yn cael effaith andwyol ar gymunedau lleol a phwrpas yr adroddiad oedd naill ai annog mwy o ddefnydd o'r eiddo yma neu sicrhau bod eu perchnogion yn cyfrannu mwy tuag at gymunedau lleol trwy bremiwm y Dreth Gyngor.

 

Yn achos eiddo gwag tymor hir soniodd yr Aelod Cabinet dros Adnoddau am yr effaith negyddol yr oeddent yn ei chael ar strydoedd, yn aml yn destun fandaliaeth ac yn adnodd oedd yn cael ei wastraffu. Wrth droi'r rhain yn gartrefi unwaith eto dylai hyn arwain at lai o alw am adeiladu tai newydd ar gaeau gwyrdd. Rhoddodd ganmoliaeth i'r cyngor bod 700 o dai gwag yn cael eu defnyddio unwaith eto ers 2016 ac roedd o'r farn bod angen polisi newydd i wella ymhellach. Dywedodd fod y Cyngor wedi ymgynghori'n eang ar y mater hwn gyda 61% o'r ymatebwyr yn cytuno bod tai gwag tymor hir yn cael effaith andwyol ar gymunedau lleol gyda'r mwyafrif yn cytuno y dylid codi premiwm. Cynigwyd codi premiwm o 50% ar dai oedd wedi bod yn wag rhwng blwyddyn a dwy flynedd, gan godi i 100% rhwng dwy a phum mlynedd, ac i 200% ar ôl pum mlynedd.

O ran ail gartrefi, dywedodd yr Aelod Cabinet dros Adnoddau fod yr ateb, yn rhannol, yn y ddeddfwriaeth a basiwyd gan Lywodraeth Cymru yn 2014, a gafodd ei diwygio a'i chryfhau'n ddiweddar. Nod y ddeddfwriaeth yw sicrhau bod ail gartrefi, sy'n llety gwyliau, naill ai'n cael  eu gosod am o leiaf 182 diwrnod y flwyddyn, a fydd yn rhoi hwb i'r diwydiant twristiaeth, neu fod perchnogion yn talu premiwm ar y Dreth Gyngor. Awgrymodd y gallai'r cyfraniad hwn leddfu effaith negyddol Ail Gartrefi pan oeddent yn lleihau'r stoc dai leol a chynyddu prisiau tai i'r graddau nad oedd hyd yn oed  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6.

7.

ADOLYGIAD CYMUNEDOL ARFAETHEDIG YN SIR GAERFYRDDIN pdf eicon PDF 84 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Cyngor adroddiad yn nodi manylion ar gyfer cychwyn ar Adolygiad Cymunedol o holl Gynghorau Cymuned Sir Gaerfyrddin. O dan y Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) Cymru 2013 mae dyletswydd ar bob prif gyngor, bob 10 mlynedd, i fonitro'r cymunedau yn ei ardal a lle bo'n briodol,  trefniadau etholiadol y cymunedau hynny at ddibenion ystyried a ddylid argymell newidiadau.

 

PENDERFYNWYD 

 

7.1 cymeradwyo cychwyn ar Adolygiad Cymunedol o holl Gynghorau Cymuned Sir Gaerfyrddin;

 

7.2 cymeradwyo'r Cylch Gorchwyl ar gyfer yr Adolygiad Cymunedol fel y nodir yn yr adroddiad;

 

7.3 bod yr amserlen ddangosol a geir yng Nghylch Gorchwyl yr Adolygiad Cymunedol yn cael ei nodi.

 

8.

DERBYN ADRODDIAD CYFARFOD Y CABINET A GYNHALIWYD AR 20 CHWEFROR 2023 pdf eicon PDF 138 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

9.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.

 

10.

CWESTIYNAU GAN AELODAU:-

Dogfennau ychwanegol:

10.1

CWESTIWN GAN Y CYNGHORYDD HEFIN JONES I'R CYNGHORYDD EDWARD THOMAS, YR AELOD CABINET DROS WASANAETHAU TRAFNIDIAETH, GWASTRAFF A SEILWAITH

“Mae bwriad Llywodraeth Cymru i ddileu cyllid Cynllun Argyfwng Bysiau  yn peri cryn bryder. Er ymestyn y cynllun am gyfnod byr, mae’n ymddangos bod Llywodraeth Cymru yn ddigon bodlon i weld gwaredu cyfrwng cludiant sy’n hanfodol bwysig ac sy’n achubiaeth i nifer o bobol.  Er nad problem mewn ardalydd gwledig yn unig yw hon fel y mae eraill yn siambr hon wedi nodi, mae’n debygol iawn mai ardaloedd gwledig fydd yn wynebu  crynswth y broblem, a gall y goblygiadau fod  yn rhai pellgyrhaeddol. A wnaiff yr aelod o’r cabinet sy’n gyfrifol am gludiant ddarparu braslun o’r effaith posib yma yn Sir Gaerfyrddin os gwelwch yn dda?”

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

“Mae'n destun pryder clywed am fwriad Llywodraeth Cymru i ddileu'r Cynllun Argyfwng Bysiau. Er ymestyn y cynllun am gyfnod byr mae'n destun pryder bod Llywodraeth Cymru yn ddigon bodlon gwaredu cyfrwng cludiant sy'n gyfrwng teithio hanfodol i lawer. Er nad yw'n broblem wledig yn unig, fel rydym wedi clywed gan gydweithwyr yn y siambr, mae'n debygol y bydd ardaloedd gwledig yn dioddef fwyaf, a gallai'r canlyniadau fod yn bellgyrhaeddol. A all yr aelod cabinet sy'n gyfrifol am drafnidiaeth amlinellu'r effaith bosib yma yn Sir Gaerfyrddin os gwelwch yn dda?”

 

Ymateb gan y Cynghorydd Edward Thomas, yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Trafnidiaeth, Gwastraff a Seilwaith:-

 

“Mae'r Cynllun Argyfwng Bysiau wedi darparu cymorth hanfodol i'r sector trafnidiaeth gyhoeddus drwy gydol y pandemig ac yn ystod y broses o adfer. Fodd bynnag, nid yw'r niferoedd ar rwydweithiau trafnidiaeth gyhoeddus wedi cyrraedd yr un lefelau a welwyd cyn Covid. Mae hyn, ynghyd ag ansicrwydd yn y sector o ddiwygio parhaus y gwasanaeth bysiau, pwysau'r gadwyn gyflenwi ynghylch prinder tanwydd a gyrwyr, yn arwain at bwysau anghynaladwy ar y sector yn enwedig y Mentrau Maint Bach a Chanolig [BBaCh]. 

Ni all Trafnidiaeth Gyhoeddus mewn siroedd gwledig weithredu heb gymhorthdal. Mae tua 78% o'n llwybrau yn gofyn am gymhorthdal i ddarparu'r lefel mwyaf sylfaenol o wasanaethau. Mae'r Cynllun Argyfwng Bysiau yn hollbwysig tra bod y sector yn adfer. Mae'n ddefnyddiol bod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi bod y Cynllun wedi cael ei ymestyn am dri mis, ond nid wyf o'r farn bod hyn yn ddigon. Fodd bynnag, mae buddsoddiad ehangach i'r system drafnidiaeth gyhoeddus hefyd yn hanfodol ar gyfer ardaloedd gwledig os yw Llywodraeth Cymru am gyflawni'r amcanion ar newid dulliau teithio fel y nodir yn Llwybr Newydd - Strategaeth Drafnidiaeth Newydd i Gymru.

Mae modelu cychwynnol yn dangos y bydd dros hanner cant o'n llwybrau bysiau presennol yn cael eu colli os nad yw'r sector yn adfer pan fydd cyllid ar gyfer y Cynllun Argyfwng Bysiau yn dod i ben.  Ardaloedd gwledig a busnesau bach a chanolig sy'n debygol o deimlo'r ergyd fwyaf. Felly nid yw hyn yn newyddion da a dw i wir yn dymuno i'r Gweinidog adolygu’r strategaeth Llwybr Newydd.”

 

Cwestiwn atodol gan y Cynghorydd Hefin Jones:

 

“A allaf ofyn a oes deialog barhaus gyda darparwyr gwasanaethau a chwmnïau bysiau, ac a fydd cynllun cyfathrebu ar waith oherwydd pe bai'r fwyell yn disgyn ar rai gwasanaethau ac eraill yn cael eu dileu bod trigolion a wardiau yn cael gwybod drwy gyfrwng proses yn hytrach na chlywed sibrydion ar y mater?" 

 

Ymateb gan y Cynghorydd Edward Thomas, yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Trafnidiaeth, Gwastraff a Seilwaith:-

 

Yr ateb yn syml yw 'Oes' a 'Bydd'.