Manylion Pwyllgor

Cyngor Sir

Diben y Pwyllgor

Mae’r Cyngor yn cynnwys 75 o gynghorwyr a etholir fel arfer bob pum mlynedd.

 

Mae’r cynghorwyr i gyd yn cyfarfod ar ffurf y Cyngor. Mae cyfarfodydd y Cyngor fel arfer ar agor i’r cyhoedd. Yma mae cynghorwyr yn penderfynu ar bolisïau cyffredinol y Cyngor ac yn pennu'r gyllideb bob blwyddyn. Mae gan y Cyngor Cabinet sydd yn gyfrifol yn ei dro am weithredu polisïau y cytunir arnynt gan y Cyngor, a chymryd penderfyniadau gweithredol ar faterion nad ydynt yn gyfrifoldeb i'r Cyngor nac un o’i bwyllgorau. Mae’r Cyngor hefyd yn cymeradwyo’r Cyfansoddiad, y flaenraglen waith a’r rheolau trafodaeth ar gyfer cyfarfodydd y Cyngor, y Cabinet a’r pwyllgorau.

 

Blaenrhaglen Waith y Cyngor

 

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD

 

Gall aelodau o'r cyhoedd, ar yr amod eu bod yn byw yn y Sir, yn berchen ar fusnes sydd wedi ei leoli yn y Sir neu'n gweithio yn y Sir, ofyn cwestiynau i aelodau o'r Bwrdd Gweithredol mewn cyfarfodydd cyffredin o'r Cyngor Sir.

 

I ofyn cwestiwn mae angen i chi ei gyflwyno yn  ysgrifenedig neu drwy bost electronig i’r Prif Weithredwr (e-bost prifweithredwr@sirgar.gov.uk) erbyn 10 a.m. 7 diwrnod gwaith clir fan bellaf cyn y cyfarfod (h.y. nid yw diwrnod clir yn cynnwys y diwrnod dderbyniwyd y cwestiwn na diwrnod y cyfarfod).

 

Wrth gyflwyno'ch cwestiwn, bydd rhaid I chi gynnwys  eich enw a chyfeiriad (neu enw a chyfeiriad eich busnes os ydych chi’n brechen ar fusness sydd wedi ei leoli yn y Sir,  neu eich  lle gwaith os ydych yn byw yn rhywle arall) a rhaid hefyd I chi enwi’r aelod o’r Cyngor y gofynnir y cwestiwn iddo/iddi.

 

Am wybodaeth bellach cysylltwch â GwasanaethauDemocrataidd@sirgar.gov.uk   neu 01267 224028.

 

Aelodaeth