Lleoliad: Rhith-Gyfarfod,. Cyfarwyddiadau
Rhif | eitem | |||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr G. Jones ac E. Thomas.
|
||||||||||||||||||
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL GAN GYNNWYS UNRHYW CHWIPIAU PLEIDIAU A RODDIR MEWN YMATEB I UNRHYW EITEM AR YR AGENDA. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch buddiannau personol na chwip waharddedig.
|
||||||||||||||||||
CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW) Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.
|
||||||||||||||||||
LLES: GWASANAETHAU ADDYSG A PHLANT. PDF 339 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor adroddiad a oedd yn rhoi trosolwg o'r ffyrdd helaeth y mae'r Adran Addysg a Gwasanaethau Plant yn cefnogi ein hysgolion, unedau cyfeirio disgyblion a lleoliadau arbenigol o ran llesiant dysgwyr a staff.
Mae'r adran yn parhau i weithio ochr yn ochr ag ysgolion yn ymateb i anghenion newidiol dysgwyr, teuluoedd a staff, wrth iddi barhau i fynd i'r afael â phandemig COVID. Mae'r heriau llesiant sy'n wynebu ysgolion yn fwyfwy amlwg a chymhleth, gan ychwanegu pwysau ychwanegol ar staffio.
Roedd yr adroddiad yn nodi:-
- yr hyn sy'n hysbys am lesiant staff a disgyblion ar hyn o bryd; - sut mae'r Tîm Gwella Ysgolion yn cefnogi llesiant ei staff a'i ddysgwyr; - mentrau cymorth pellach; - y Gwasanaeth Seicoleg Addysg a Phlant a'r Tîm Iechyd Emosiynol; - cymorth corfforaethol a chymorth arall sydd ar gael.
Roedd yr adroddiad hefyd yn cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf am awyru a monitro CO2 mewn ysgolion a pha fesurau sy'n cael eu cymryd i sicrhau awyru da er mwyn helpu i atal lledaeniad Covid.
Codwyd y cwestiynau/sylwadau canlynol wrth drafod yr adroddiad:-
|
||||||||||||||||||
STRATEGAETH 10 MLYNEDD YR ADRAN ADDYSG. PDF 318 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor Strategaeth 10 Mlynedd yr Adran Addysg a Gwasanaethau Plant a oedd yn dwyn ynghyd feddylfryd strategol, gweledigaeth gyfunol, datganiadau cenhadaeth a blaenoriaethau'r adran dros y 10 mlynedd nesaf. Gweledigaeth arfaethedig newydd yr adran oedd "Sicrhau bod pob plentyn a pherson ifanc yn cael eu gwerthfawrogi a'u gwerthfawrogi'n gyfartal".
Mae'r strategaeth yn adeiladu ar yr arfer sy'n gwella a oedd eisoes yn amlwg yn y gwasanaeth addysg, er mwyn darparu'r un cyfle i bob dysgwr â chanlyniadau cyson rhagorol. Mae'n nodi gweledigaeth glir ar y cyd ar gyfer y rôl y mae gwasanaethau addysg yn ei chwarae o ran datblygu cymunedau bywiog ac economi lewyrchus yn Sir Gaerfyrddin yn y dyfodol. Bydd y strategaeth lefel uchel hon yn cael ei gweithredu drwy gynlluniau adrannol ac is-adrannol a bydd hefyd yn amlwg mewn Cynlluniau Datblygu Ysgolion.
Gofynnwyd i'r Pwyllgor ystyried a rhoi sylwadau ar y materion canlynol a llunio barn arnynt i'w cyflwyno i'r Cabinet i'w hystyried:-
1. A yw'r Strategaeth yn bodloni'r nodau fel y nodwyd yn yr adroddiad? 2. A yw'r 20 Darn Diben yn berthnasol ac a ydynt yn adlewyrchu dyheadau'r Cyngor Sir? 3. A ellir gwella'r Strategaeth mewn unrhyw ffordd?
Cyflwynwyd y cwestiynau/sylwadau canlynol wrth drafod yr adroddiad:-
· Pan ofynnwyd sut yr ymgynghorodd swyddogion ag ysgolion ar y strategaeth, rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor y cynhaliwyd ymgynghoriad ar ddwy lefel – cynhaliwyd tri gweithdy gyda phenaethiaid a chynhaliwyd ymgynghoriad hefyd gyda chynghorau ysgolion uwchradd; · Cyfeiriwyd at y ffaith y bydd carfan sylweddol o blant y mae'r pandemig wedi effeithio arnynt dros y 10 mlynedd nesaf yn mynd drwy'r system ysgolion a phwysleisiwyd yr angen i sicrhau nad oes unrhyw blant yn llithro drwy'r system. Esboniodd y Cyfarwyddwr fod Dyheadau 2, 4 a 5 yn y strategaeth wedi'u hysgrifennu'n benodol gyda hynny mewn golwg. Mae llawer o'r dyheadau lefel uchel hyn wedi'u hysgrifennu gan gofio y byddwn yn delio ag effeithiau'r pandemig am amser maith; · Cyfeiriwyd at y ffaith bod argaeledd staff sydd â phrofiad perthnasol a sgiliau dwyieithog yn parhau i fod yn her i'r Awdurdod. O ran y Strategaeth 10 Mlynedd a'r Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg, gofynnwyd i swyddogion sut y bydd yr Awdurdod yn mynd i'r afael â'r materion hyn h.y. sut y byddwn yn recriwtio'r holl staff sydd â sgiliau iaith angenrheidiol a sut y byddwn yn cadw'r staff hynny. Esboniodd y Cyfarwyddwr mai o dan y strategaethau hyn mae'r cynlluniau busnes adrannol sy'n cynnwys y manylion mewn perthynas â sut yr ydym yn cefnogi'r strategaethau. Mae llawer o staff wedi cymryd rhan mewn dysgu ar-lein yn ystod y pandemig ac mae addysgu'n dal i fod yn alwedigaeth ddeniadol gyda nifer uchel yn ymgymryd â hyfforddiant athrawon ar hyn o bryd; · Pan ofynnwyd sut y bydd y strategaeth yn gysylltiedig â mesuriadau y gellir eu monitro megis Dangosyddion Perfformiad Allweddol ac amserlenni, eglurodd y Cyfarwyddwr fod swyddogion yn trafod ar hyn o bryd yngl?n â'r ffordd orau o fesur cynnydd o ran yr 20 dyhead lefel uchel; · O ran dyhead ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5. |
||||||||||||||||||
TREFNIANT SESIYNAU YMGYSYLLTU A'R YSGOL YN Y DYFODOL. PDF 235 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL
6.1 nodi'r adroddiad; 6.2 bod sesiynau ymgysylltu ag ysgolion yn cael eu trefnu fel y nodir yn yr adroddiad.
|
||||||||||||||||||
EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL PDF 201 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor restr o eitemau i'w hystyried yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor a drefnwyd i'w gynnal ar 23ain Rhagfyr, 2021.
Gan fod adroddiad ymgynghori ynghylch y gyllideb wedi'i symud i gyfarfod mis Ionawr, gan adael dim ond un adroddiad i'w ystyried yn y cyfarfod nesaf, gofynnwyd bod yr adroddiad "Timau o Amgylch y Teulu" y bwriedir ei gyflwyno yng nghyfarfod mis Ionawr yn cael ei gyflwyno yng nghyfarfod mis Rhagfyr. Awgrymodd y Cyfarwyddwr y dylid rhoi'r teitl "Cymorth i Deuluoedd" i'r adroddiad a fyddai'n caniatáu cwmpas llawer ehangach.
PENDERFYNWYD nodi'r rhestr o eitemau sydd i'w hystyried yn y cyfarfod nesaf, gan gynnwys y newid uchod.
|
||||||||||||||||||
LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR YR 8FED GORFFENNAF 2021. PDF 407 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD llofnodi yn gofnod cywir cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 8 Gorffennaf 2021.
|