Agenda a chofnodion drafft

Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd - Dydd Mawrth, 5ed Rhagfyr, 2023 9.15 yb

Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Julie Owens  01267 224088

Nodyn: moved from 24.11.23 

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorydd R. Sparks a'r Cynghorydd F. Walters.

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd datganiadau o fuddiant personol.

3.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 7 MEDI 2023 pdf eicon PDF 97 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 7 Medi, 2023 yn gofnod cywir.

4.

PANEL ANNIBYNNOL CYMRU AR GYDNABYDDIAETH ARIANNOL ADRODDIAD BLYNYDDOL DRAFFT 2024/25 pdf eicon PDF 115 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor Adroddiad Blynyddol Drafft Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol i'w ystyried, sy'n nodi ei gynigion ar daliadau o ran cydnabyddiaeth a lwfansau ar gyfer Aelodau Etholedig ac Aelodau Cyfetholedig Awdurdodau Lleol ar gyfer 2024/25.

 

Hysbyswyd y Pwyllgor o'r prif newidiadau arfaethedig ar gyfer Prif Gynghorau yn 2024/25, ynghyd â'r goblygiadau cysylltiedig i'r Awdurdod.  Yn unol â hynny, fel rhan o broses ymgynghori Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol, gwahoddwyd yr aelodau i roi adborth ar yr adroddiad drafft.

 

Tynnwyd sylw at y cynigion mewn perthynas â thaliadau i'r aelod cyfetholedig lle codwyd pryderon y gallai cyflwyno cyfradd fesul awr ar gyfer cyfarfodydd arwain at anghysondebau ar draws Awdurdodau Lleol Cymru wrth bennu cyfraddau ar gyfer diwrnod llawn, hanner diwrnod neu fesul awr o ran taliadau.

 

Dywedwyd nad oedd unrhyw newidiadau wedi'u cynnig mewn perthynas â lwfansau teithio yn ystod y blynyddoedd diwethaf, er gwaethaf y cynnydd sylweddol mewn costau tanwydd yn ystod y cyfnod hwn.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:

 

4.1

derbyn yr adroddiad, a

 

4.2

fel rhan o'r broses ymgynghori, fod Cadeirydd Pwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd yn cyflwyno ymateb i Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol ar ran y Pwyllgor.

 

5.

POLISI CYFARFODYDD AML-LEOLIAD pdf eicon PDF 113 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor adroddiad a oedd wedi'i atodi i ddiwygiadau arfaethedig i Bolisi Cyfarfodydd Aml-leoliad yr Awdurdod. 

 

Cafodd Polisi Cyfarfodydd Aml-leoliad yr Awdurdod ei gymeradwyo gan y Cyngor ar 12 Hydref 2022 (gweler cofnod 4.1) gan ystyried y canllawiau statudol dros dro a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru.   Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ei chanllawiau terfynol ar 7 Gorffennaf 2023 ac o ganlyniad ystyrid ei bod yn briodol adolygu'r polisi yn seiliedig ar brofiad yr Awdurdod o gyfarfodydd aml-leoliad hyd yma.

 

Roedd y diwygiadau arfaethedig i'r polisi, yn seiliedig ar adborth gan Gadeiryddion Pwyllgorau, yn cynnwys mwy o ganllawiau ar ddefnyddio camerâu ar gyfer y rhai sy'n mynychu o bell er mwyn cynnal dilysrwydd proses yr Awdurdod o wneud penderfyniadau a lleihau'r cyfle am her gyfreithiol yn hyn o beth.  Roedd mân welliannau mewn ymateb i lacio cyfyngiadau sy'n gysylltiedig â Covid a hefyd cynigiwyd methodoleg o ran pleidleisio.

 

Pwysleisiodd y Pwyllgor bwysigrwydd cyfarfodydd aml-leoliad o safbwynt hygyrchedd fel ffordd o wella a chefnogi democratiaeth leol a galluogi aelodau i weithio'n fwy cynhyrchiol. 

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R CYNGOR fod y Polisi Cyfarfodydd Aml-leoliad diwygiedig yn cael ei gymeradwyo.

6.

Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM Y CYNLLUN DATBLYGU AELODAU 2023/24 pdf eicon PDF 92 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad a oedd yn darparu diweddariad ar weithredu Cynllun Datblygu'r Aelodau 2023/2024.  

 

Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor, mewn ymateb i'r adborth a ddarperir yn ystod gwerthuso Rhaglen Sefydlu'r Aelodau, y byddai mynediad at recordiadau o'r sesiynau hyfforddi a datblygu ar gyfer aelodau ar gael drwy'r System Rheoli Dysgu ar-lein o fis Ionawr 2024 ymlaen.  Croesawodd y Pwyllgor fod y system yn cael ei chyflwyno fel ffordd o wella hygyrchedd i sesiynau hyfforddi a datblygu yng nghyd-destun y gofynion amrywiol sy'n cael eu rhoi ar aelodau.

 

Cyfeiriwyd at y sesiynau hyfforddiant geo-discovery ychwanegol a drefnwyd ar gyfer yr aelodau, a fyddai hefyd yn rhan o'r catalog o bynciau a fyddai ar gael drwy'r System Rheoli Dysgu yn y dyfodol.

 

Mewn diweddariad i'r Pwyllgor, cadarnhaodd y Partner Busnes Arweiniol ar gyfer Dysgu a Datblygu y byddai'r aelodau'n cael cyfle i gynnal Adolygiad o Ddatblygiad Personol gyda'u Harweinwyr Grwpiau perthnasol.  Roedd disgwyl i'r Adolygiadau gael eu cynnal erbyn 31 Rhagfyr 2023, a byddai'r canlyniadau'n llywio'r Cynllun Datblygu Aelodau wrth symud ymlaen.

 

PENDERFYNWYDYN UNFRYDOL fod y diweddariad ar gynnydd Cynllun Datblygu'r Aelodau 2023/24 yn cael ei dderbyn.