Agenda a Chofnodion

Cyfarfod Penderfyniadau Aelod y Cabinet dros Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth (Cyn Mai 2022) - Dydd Gwener, 11eg Awst, 2017 10.00 yb

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 2 (Adfywio), Neuadd y Sir, Caerfyddin - Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Kevin Thomas  01267 224027

Eitemau
Rhif eitem

1.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL.

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant personol.

 

 

2.

CYMERADWYO A LLOFNODI HYSBYSIAD PENDERFYNIAD Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR YR 17EG GORFFENNAF 2017 pdf eicon PDF 284 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi bod cofnod penderfyniadau'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 17 Gorffennaf 2017 yn gofnod cywir.

 

 

3.

CEISIADAU I'R GRONFA CYMORTH DISGWYDDIADAU pdf eicon PDF 278 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried ceisiadau am gymorth gan y Gronfa Cymorth Digwyddiadau a gafodd eu hasesu ar sail eu cyfraniad at amcanion strategol y Cyngor o ran twristiaeth, cymunedau a'r economi. Darparodd y Swyddog Adfywio Cymunedol a'r Cynorthwy-ydd Marchnata a Thwristiaeth fanylion pellach am bob digwyddiad.

 

Yn dilyn trafodaeth ynghylch y dyddiadau cau ar gyfer ceisiadau, gofynnwyd i'r swyddogion gynnal adolygiad o'r dyddiadau cau cyn y flwyddyn ariannol nesaf yn 2018/19.

 

PENDERFYNWYD

3.1 cymeradwyo'r ceisiadau canlynol am gymorth o'r Gronfa Cymorth Digwyddiadau yn amodol ar y telerau a'r amodau arferol a bennwyd ym meini prawf y gronfa:-

Digwyddiad                                                                            Dyfarniad

 

Carnifal Gorslas 2017                                                                  £423.25

Hydref 2017 Rali Peiriannau Stêm y Ffordd a'r Rheilffordd             £750.00

G?yl Ddefaid Llanymddyfri                                                         £1000.00

Hanner Marathon Llanelli                                                             £2000.00

G?yl Gerdded Llanelli 2018 (blwyddyn ariannol 2018/19)                 £500.00

 

3.2 bod Swyddogion yn adolygu dyddiadau cau ar gyfer ceisiadau cyn y flwyddyn ariannol nesaf 2018/19.

 

 

4.

TALIADAU HAMDDEN 2017-18 pdf eicon PDF 285 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd yr Aelod Bwrdd Gweithredol yr adroddiad ynghylch Taliadau Hamdden 2017-18 a oedd yn gofyn am gymeradwyo ffioedd manwl ar gyfer 2017-18 sy'n ffurfio rhan o'r cynllun cynhyrchu incwm ar gyfer yr adran hamdden yn 2017/18. Roedd yr adroddiad yn cynnwys codi tâl am y canlynol:-

 

·           Gwasanaethau Diwylliannol (Lleoliadau'r Celfyddydau a'r Theatr)

·           Lleoliadau Hamdden a Chwaraeon (canolfannau hamdden a phyllau nofio)

·           Hamdden Awyr Agored (Parciau Gwledig, gan gynnwys y Parc Arfordirol y Mileniwm, a maes parcio Traeth Pentywyn; Canolfan Addysg Awyr Agored Pentywyn

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo Taliadau Hamdden 2017-18 fel y nodir yn yr adroddiad.