Lleoliad: Committee Room 4, County Hall, Atlantic Wharf, Cardiff. CF10 4UW. Cyfarwyddiadau
Rhif | eitem | ||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Cofnodion: Ni chafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb.
|
|||||||||||
DATGAN BUDDIANNAU Cofnodion:
|
|||||||||||
PENODI CADEIRYDD Y CYD-BWYLLGOR AR GYFER Y FLWYDDYN 2017-18 Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL benodi'r Cynghorydd Stephen Churchman yn Gadeirydd y Pwyllgor ar gyfer blwyddyn y cyngor 2017/18.
|
|||||||||||
PENODI IS-GADEIRYDD Y CYD-BWYLLGOR AR GYFER Y FLWYDDYN 2017-18 Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL benodi'r Cynghorydd Mark Norris yn Is-gadeirydd y Pwyllgor ar gyfer blwyddyn y cyngor 2017-18.
|
|||||||||||
SWYDDOGAETHAU A CHYLLIDEB YR AWDURDOD CYNNAL PDF 14 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor adroddiad oedd yn manylu ar swyddogaethau'r awdurdod cynnal [Cyngor Sir Caerfyrddin] a'r gyllideb ddangosol i weinyddu'r bartneriaeth. Pwysleisiwyd ei bod yn anodd llunio'r gyllideb, a oedd yn debygol o newid dros amser, gan nad oedd y meysydd gwaith a'r llif gwaith gwirioneddol yn hysbys eto a bod hynny'n wir yn achos galwadau a gofynion y Pwyllgor hefyd. Byddai'r gyllideb, yn unol â'r Cytundeb Rhwng Awdurdodau, yn cael ei chyllido'n gyfartal gan yr 8 awdurdod lleol sy'n cymryd rhan.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL
5.1 nodi swyddogaethau'r awdurdod cynnal;
5.2 nodi'r gyllideb ddangosol am y cyfnod 2017-2020.
|
|||||||||||
AMSERLEN AR GYFER PENODI GWEITHREDWR AC ADRODDIAD CYNNYDD PDF 214 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd John Wright, Hymans Robertson, amlinelliad i'r Pwyllgor o gyd-destun a chefndir cyfuno buddsoddiadau ar gyfer Cynlluniau Pensiwn Llywodraeth Leol, gan gynnwys trefniadau mewn ardaloedd eraill, a chyflwynodd adroddiad oedd yn cynnwys amserlen ar gyfer penodi Gweithredwr a'r cynnydd yn hynny o beth. Yn ystod cyfarfod nesaf y Pwyllgor ar 18 Medi 2017 rhagwelwyd y byddai'r aelodau yn ystyried argymhelliad gan y Gweithgor Swyddogion ynghylch y Gweithredwr a ffefrir ar gyfer y Cyd-bwyllgor Llywodraethu, cyn cael ei gymeradwyo ar lefel leol gan yr awdurdodau unigol.
Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch sut y byddai'r Gweithredwr, ar ôl ei benodi, yn ymgysylltu â phwyllgorau pensiwn yr 8 awdurdod lleol yn unigol, dywedodd John Wright fod rhwymedigaeth wedi'i chynnwys yng nghontract y Gweithredwr i gynnal cyfarfodydd chwarterol gyda'r Cyd-bwyllgor Llywodraethu ac un cyfarfod gyda phob awdurdod lleol neu eu pwyllgor cronfa bensiwn. Yn ogystal roedd y contract yn darparu ar gyfer un sesiwn hyfforddiant bob blwyddyn ar gyfer pob awdurdod lleol. O ran dadfuddsoddi o'r man lle roedd y cronfeydd yn cael eu cadw ar hyn o bryd a'u trosglwyddo i gronfa'r Gweithredwr rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod hyn yn debygol o gymryd ychydig o flynyddoedd a byddai angen cynllunio pontio'n ofalus. Yn y cyswllt hwn nodwyd bod y Gr?p Trysoryddion wedi sefydlu gweithgor swyddogion i ystyried y trefniadau pontio o ran cynllunio a rhannu costau hefyd.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo'r amserlen ar gyfer penodi'r Gweithredwr ynghyd â chynnydd y prosiect.
|
|||||||||||
CYTUNDEB RHWNG-AWDURDODAU PDF 211 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor adroddiad oedd yn rhoi manylion am gylch gwaith a gweithdrefnau'r Cyd-bwyllgor Llywodraethu, fel y nodwyd yn y Cytundeb Rhwng Awdurdodau a gytunwyd gan bob un o'r 8 awdurdod lleol.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod cylch gwaith a gweithdrefnau'r Cyd-bwyllgor Llywodraethu, fel y nodwyd yn y Cytundeb Rhwng Awdurdodau, yn cael eu cymeradwyo.
|
|||||||||||
NODIADAU CYFARFODYDD Y GWEITHGOR SWYDDOGION PDF 272 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Roedd nodiadau cyfarfodydd diweddar y gweithgor swyddogion wedi cael eu dosbarthu i'r Pwyllgor a rhoddwyd gwybod iddynt am y materion oedd wedi cael eu trafod. Nodwyd y byddai unrhyw faterion y nododd y Cyd-bwyllgor Llywodraethu fod angen ymchwilio ymhellach iddynt yn cael eu cyfeirio at y gweithgor swyddogion.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL
8.1 bod nodiadau cyfarfodydd y gweithgor swyddogion a gynhaliwyd ar 10 Mai 2017 a 16 Mehefin 2017 yn cael eu derbyn;
8.2 bod y geiriad 'Partneriaeth Pensiwn Cymru' yn cael ei gadarnhau fel enw'r trefniadau cyfuno pensiynau yng Nghymru;
8.3 ystyried y posibilrwydd o aildrefnu cyfarfod y Cyd-bwyllgor Llywodraethu a oedd i'w gynnal ar 20 Rhagfyr 2017 oherwydd nad yw rhai aelodau ar gael ar y dyddiad hwnnw.
|