Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Craffu Cymunedau ac Adfywio - Dydd Iau, 3ydd Tachwedd, 2016 10.00 yb

Lleoliad: Siambr a Rhag-Ystafell, - 3 Heol Spilman, Caerfyrddin. SA31 1LE.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Kevin Thomas  01267 224027

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr H.I. Jones, S. Matthews a H.B. Shepardson ynghyd â’r Cynghorydd L.M. Stephens – Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau Dynol, Effeithlonrwydd a Chydweithio.

 

Estynnodd y Cadeirydd groeso i’r Cynghorydd D.O. Thomas i’w gyfarfod cyntaf ers cael ei benodi’n aelod o’r Pwyllgor yn ddiweddar.

 

Cyfeiriodd y Cadeirydd at salwch diweddar y Cynghorydd H.I. Jones ac estynnodd ei ddymuniadau am wellhad buan.

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiannau personol.

3.

DATGAN CHWIPIAID PLAID SYDD WEDI EU GWAHARDD

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch chwip waharddedig.

4.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW)

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw gwestiynau gan y cyhoedd wedi dod i law.

5.

EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL pdf eicon PDF 67 KB

Cofnodion:

Rhoddwyd rhestr i'r Pwyllgor o'r eitemau a fyddai'n cael eu hystyried yn y cyfarfod oedd i'w gynnal ar 5 Rhagfyr 2016.

6.

RHAGLEN TRAWSNEWID I WNEUD CYNNYDD (TIC) - Y NEWYDDION DIWEDDARAF pdf eicon PDF 137 KB

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor ddiweddariad ar y rhaglen ‘Trawsnewid i Wneud Cynnydd’ (TIC) ac fe nododd fod y fenter, a sefydlwyd yn 2012 mewn ymateb i’r heriau ariannol sylweddol yr oedd yr Awdurdod Lleol yn eu hwynebu, wedi bod o gymorth i adnabod, neu’n helpu i gyflawni, arbedion effeithlonrwydd gwerth dros £7m. Cafodd y Pwyllgor drosolwg hefyd o adolygiad o weithrediad y System Rheoli Datblygu a gynhaliwyd gan yr Adain Gynllunio.

 

Trafodwyd y materion canlynol wrth ystyried y diweddariad: 

 

·         Cyfeiriwyd at yr arbedion gwerth £7m a gyflawnwyd ers 2012, a gofynnwyd am ddadansoddiad bras ohonynt a gofynnwyd hefyd a oedd y mwyafrif o’r arbedion a gyflawnwyd yn gysylltiedig â gostyngiadau staff a allai ddwyn goblygiadau o ran cadw arbenigedd o fewn adrannau.

 

Rhoddodd Rheolwr y Rhaglen TIC wybod bod tua 60% o’r arbedion yn rhai nad oeddent yn gysylltiedig â staff ac yn cwmpasu amrywiaeth o swyddogaethau’r Cyngor a oedd yn cynnwys arbedion o £165k (ers 2013) ar bost allanol trwy ostwng nifer y llythyrau a anfonir yn y post dosbarth cyntaf, £45k trwy ostwng nifer y peiriannau ffrancio o 17 i 5, dros £400k trwy ostwng costau argraffu a £2m ar gostau cerbydau. O ran gostyngiadau staff, roedd y rheiny’n ymwneud â staff a oedd wedi mynegi dewis i adael eu cyflogaeth gyda’r awdurdod dan ei gynllun diswyddo, gydag achosion busnes manwl yn cael eu cyflwyno a’u cymeradwyo cyn y diswyddiadau hynny. Mewn rhai achosion, roedd niferoedd y staff wedi cynyddu er mwyn creu arbedion/incwm ychwanegol neu adfer mwy o ddyledion.

 

O ran y Gwasanaeth Cynllunio’n benodol, roedd arbedion gwerth £65k wedi cael eu cyflawni o ganlyniad i ymadawiadau tri aelod o staff dan y cynllun diswyddo yn dilyn cyflwyno arferion gweithio newydd.

 

·             Roedd un maes yr oedd aelodau etholedig yn cael cwynion yn aml yn ei gylch yn ymwneud â’r amser y mae’n ei gymryd i brosesu ceisiadau cynllunio. Gofynnwyd sut yr oedd y Gwasanaeth Cynllunio wedi mynd i’r afael â’r mater hwn.

 

Rhoddodd y Rheolwr Rheoli Datblygu wybod bod y drefn ar gyfer prosesu ceisiadau’n arfer bod yn seiliedig ar dargedau gyda’r mwyafrif yn cael eu prosesu o fewn 52-55 diwrnod. Roedd y gwasanaeth bellach wedi cyflwyno system a oedd yn golygu bod ceisiadau’n cael eu rhagddilysu cyn eu cofrestru, gan olygu bod yr amser prosesu ar gyfartaledd wedi gostwng i 28-33 diwrnod. Fodd bynnag, roedd deddfwriaeth, sy’n ei gwneud yn ofynnol cynnal cyfnod ymgynghori o 21 diwrnod mewn perthynas â cheisiadau cynllunio, yn cyfyngu ar y cyfleoedd i leihau’r ffrâm amser honno ymhellach.

·             Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch blaenoriaethu prosiectau i’w cynnwys o fewn y Rhaglen TIC, hysbyswyd y pwyllgor eu bod yn cael eu cyflwyno trwy nifer o ffynonellau e.e. ceisiadau gan adrannau gwasanaethau, y Tîm Rheoli Corfforaethol a Seminarau Aelodau. Roedd y ceisiadau hynny’n cael eu rhoi gerbron Bwrdd y Rhaglen TIC i gael eu hasesu ar gyfer eu cynnwys ac i benderfynu faint o flaenoriaeth fydd yn cael ei rhoi iddynt o fewn y Rhaglen.

·             O ran yr arbedion gwerth £7m a oedd eisoes  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6.

7.

ADRODDIAD PERFFORMIAD BLYNYDDOL 2016 (CYNLLUNIO) pdf eicon PDF 159 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyfeiriodd y Cadeirydd at yr amser cyfyngedig sydd ar gael i’r Pwyllgor drafod yr holl eitemau ar yr agenda a gyflwynwyd gerbron i’w hystyried y diwrnod hwnnw, ac awgrymodd y dylai’r eitem ar yr Adroddiad Blynyddol ar Berfformiad 2016 (Cynllunio) gael ei gohirio er mwyn ei hystyried rywbryd yn y dyfodol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ohirio’r eitem ar yr Adroddiad Blynyddol ar Berfformiad 2016 (Cynllunio) er mwyn ei hystyried yn un o gyfarfodydd y Pwyllgor yn y dyfodol.

8.

ADRODDIAD MONITRO BLYNYDDOL 2015/16 CYNLLUN DATBLYGU LLEOL SIR GAERFYRDDIN pdf eicon PDF 290 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd Adroddiad Monitro Blynyddol 2015/16 ar Gynllun Datblygu Lleol Sir Gaerfyrddin i’r Pwyllgor ei ystyried. Nodwyd fod y cynllun wedi cael ei lunio yn unol â gofynion Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 a oedd yn ei gwneud yn ofynnol ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru erbyn 31 Hydref 2016. Roedd yr adroddiad yn cynrychioli llinell sylfaen y gallai’r adran ei defnyddio i fonitro gweithrediad y Cynllun ac adnabod unrhyw dueddiadau hirdymor a allai olygu bod angen ystyried diwygiadau posibl yn y dyfodol. Roedd yr Adroddiad Monitro Blynyddol ar gael fel rhan o ymgynghoriad anffurfiol hefyd, y tu allan i ofynion statudol, gan roi’r cyfle i gyflwyno safbwyntiau a fyddai, os oeddent yn briodol, yn gallu goleuo cynnwys Adroddiadau Monitro Blynyddol dilynol.

 

Codwyd y materion canlynol mewn perthynas â’r adroddiad:-

·        Cyfeiriwyd at y gyfradd unedau manwerthu gwag o 17% yng Nghanol Tref Llanelli a gofynnwyd sut y gallai mabwysiadu Gorchymyn Datblygu Lleol (GDLl) ddylanwadu ar y gyfradd hon.

 

Cadarnhaodd y Rheolwr Blaengynllunio fod yr Awdurdod wedi cydnabod y gyfradd uchel o ran unedau manwerthu gwag, a oedd wedi cael ei chamystumio i ryw raddau gan lwyddiant Canolfan Siopa Elli. Mae Tasglu wedi cael ei sefydlu i fynd i’r afael â materion parhaus yng nghanol tref Llanelli gan greu dull cydgysylltiedig o’i adfywio gan gynnwys mynd i’r afael ag unedau gwag a bywiogrwydd. Gellid mabwysiadu GDLl a’i ddefnyddio fel offeryn i ddylanwadu ar weithrediad Hawliau Datblygu a Ganiateir trwy fabwysiadu dull hyblyg er mwyn hwyluso’r broses o gyflwyno newid defnydd posibl ar gyfer unedau manwerthu. Gallai hynny gynnwys newid y defnydd cynllunio ar gyfer lloriau uwch unedau manwerthu o ddefnydd storio i ddefnydd preswyl, a chaniatáu ystod eang o ddefnyddiau masnachol ar gyfer unedau ar loriau gwaelod yn hytrach na chyfyngu eu defnydd i ddefnydd manwerthu.

 

Hysbysodd hefyd mai un ffactor arall sy’n dylanwadu ar Ganol Tref Llanelli yw llwyddiant y ganolfan siopa ar gyrion y dref yn Nhrostre, a Pemberton, ac un o nodau’r Tasglu oedd cynorthwyo Canol y Dref i ymateb i bwysau o’r fath. Gallai cyflwyno’r GDLl gynorthwyo gyda’r broses honno trwy ganiatáu i’r newidiadau awgrymedig mewn defnydd y cyfeirir atynt uchod gael eu gwneud trwy’r broses hysbysu, yn hytrach na thrwy gyflwyno cais cynllunio ffurfiol. Yn y bôn, gellid teilwra’r GDLl er mwyn ateb gofynion penodol ardal. Fodd bynnag, byddai angen i’r defnydd ohono gael ei fonitro a’i adolygu er mwyn sicrhau bod canlyniadau a ddymunir yn cael eu cyflawni.

·        Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch darparu safleoedd ar gyfer teithwyr, cadarnhaodd y Pennaeth Cynllunio fod Llywodraeth Cymru yn gosod dyletswydd statudol ar bob awdurdod lleol i asesu’r angen am safleoedd o’r fath, ac i ddarparu’r safleoedd hynny o fewn ei ardal. Roedd y CDLl wedi nodi bod angen casglu gwybodaeth bellach yn y cyswllt hwnnw.

·        Yn codi o’r uchod, gofynnwyd am eglurhad o’r sefyllfa lle gallai rhywun gaffael llain o dir at ddiben darparu safle ar gyfer teithwyr. Dywedodd y Pennaeth Cynllunio y byddai angen i rywun sy’n ymgymryd â menter o’r fath ymgeisio  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 8.

9.

ADOLYGU'R POLISI YNGHYLCH MYNEDIAD AT DAI CYMDEITHASOL pdf eicon PDF 228 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd yr adroddiad ar yr adolygiad o’r Polisi ynghylch Mynediad at Dai Cymdeithasol y Cyngor i’r Pwyllgor ei ystyried yn dilyn ymgynghoriad eang a oedd wedi cynnwys grwpiau gwleidyddol y Cyngor, Partneriaid sy’n Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig, Shelter, Wallace, y Fforwm 50+, y rhwydwaith tenantiaid a thrwy anfon neges e-bost at ryw 6,000 o denantiaid ar Gofrestr Tai Cymdeithasol y Cyngor. Nodwyd mai’r prif newidiadau i’r polisi oedd:

·        gwneud y polisi’n symlach,

·        Rhoi blaenoriaeth i bobl o fewn Sir Gaerfyrddin a’r rhai oedd â chysylltiad â’r Sir;

·        Gostwng nifer y bandiau cymhwysol o bedwar i ddau

·        Cael gwared ar y system pwyntiau.

 

Codwyd y materion canlynol wrth ystyried yr adroddiad:

 

·        Cyfeiriwyd at fandiau A a B a’r ddarpariaeth ynddynt ar gyfer cartrefu pobl ddigartref. Mynegwyd pryder fod pobl ddigartref yn dal yn ddigartref ni waeth ym mha fand yr oeddent yn cael eu categoreiddio.

 

Hysbyswyd y Pwyllgor mai’r rheswm dros gynnwys categori digartref yn y ddau fand oedd er mwyn symleiddio’r broses. Roedd Band A yn ymdrin ag ymgeiswyr a aseswyd dan Ran 2 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014 ac yr oedd dyletswydd dan Adran 75 wedi cael ei derbyn mewn perthynas â hwy. Roedd y rheiny’n cynnwys ymgeiswyr â phlant, menywod beichiog, y rhai sy’n dioddef cam-drin domestig, aelodau o’r Lluoedd Arfog a’r cyn-droseddwyr hynny nad ydynt yn cael eu cyfrif mwyach yn bobl y rhoddir blaenoriaeth iddynt ond yr ystyrir eu bod yn agored i niwed ac yn dioddef cyflyrau iechyd meddwl neu feddygol. Roedd Band B yn ymdrin ag ymgeiswyr a oedd yn ddigartref neu’n wynebu bygythiad o ddigartrefedd ond nad oeddent yn bobl y rhoddir blaenoriaeth iddynt.

·        Cyfeiriwyd at gap Llywodraeth y DU o £20k ar fudd-daliadau ac at yr effaith bosibl y gallai hynny ei chael ar bobl yn dod yn ddigartref. Hysbyswyd y Pwyllgor fod swyddogion ar hyn o bryd yn gweithio ar effaith bosibl y cap trwy wasanaeth cyngor ar dai holistaidd a fyddai’n defnyddio pob modd sydd ar gael iddo i helpu a chynghori pobl y gallai’r cap effeithio arnynt. Gallai hynny gynnwys symud tenantiaid i eiddo llai, gan felly ryddhau eu cartref i gael ei ddyrannu i deulu mwy.

 

Hefyd, roedd swyddogion yn Adain Refeniw a Budd-daliadau’r Cyngor yn cynnal ymarfer modelu a oedd yn ystyried faint o deuluoedd y gallai’r cap effeithio arnynt, a gallai canlyniad yr ymarfer hwnnw gael ei rannu gydag aelodau o’r Pwyllgor. Yn genedlaethol, roedd Shelter Cymru wedi amcangyfrif y gallai oddeutu 400 o deuluoedd ddod yn ddigartref o ganlyniad i gyflwyno’r cap.

·        Cyfeiriwyd at bwyslais y polisi ar gartrefu pobl sy’n byw yn y sir ar hyn o bryd, neu’r rhai sy’n dymuno adleoli i’r sir a hwythau’n bobl a chanddynt gysylltiad â’r ardal. Gofynnwyd a fyddai’r polisi’n eithrio’r holl bobl eraill nad ydynt yn perthyn i’r categorïau hynny rhag ymgeisio am dai cymdeithasol gyda’r cyngor, a allai fod yn niweidiol i gynaliadwyedd economaidd.

 

Hysbyswyd y Pwyllgor na fyddai’r polisi’n rhagwahardd unrhyw un rhag gwneud cais i gael ei gynnwys ar gofrestr tai cymdeithasol y  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 9.

10.

ADRODDIAD MONITRO CYLLIDEB CYFALAF A REFENIW 2016/17 pdf eicon PDF 149 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyfeiriodd y Cadeirydd at yr amser cyfyngedig sydd ar gael i’r Pwyllgor drafod yr holl eitemau ar yr agenda a gyflwynwyd gerbron i’w hystyried y diwrnod hwnnw, ac awgrymodd y dylai’r eitem ar Adroddiad Monitro Cyllideb Cyfalaf a Refeniw 2016/2017 gael ei gohirio er mwyn ei hystyried rywbryd yn y dyfodol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL y byddai’r eitem ar Adroddiad Monitro Cyllideb Cyfalaf a Refeniw 2016/2017 yn cael ei gohirio er mwyn ei hystyried rywbryd yn y dyfodol.

 

11.

ADRODDIAD HANNER BLWYDDYN CWYNION A CHANMOLIAETH - 1AF O EBRILL HYD AT 30AIN O FEDI 2016 pdf eicon PDF 133 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd Adroddiad Hanner Blwyddyn Cwynion a Chanmoliaeth ar gyfer y cyfnod o 1 Ebrill – 30 Medi 2016 i’r Pwyllgor ei ystyried a rhoddodd y Pwyllgor sylw arbennig i’r materion a oedd yn ymwneud â’i gylch gwaith, h.y. Adran 9.4 Hamdden a Thai ac Adran 9.4 Gwasanaethau Cynllunio ac Eiddo.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

12.

DURATION OF MEETING

Cofnodion:

Am 1.00 p.m. tra’r oedd Cofnod 11 uchod yn cael ei ystyried, dygwyd sylw’r Pwyllgor at Reol 9.1 yn y Rheolau Gweithdrefn Gorfforaethol, “Hyd y Cyfarfod” a Rheol 23.1 yn y Rheolau Gweithdrefn Gorfforaethol, “Atal”. Gan fod y cyfarfod wedi bod yn mynd rhagddo am dair awr,

 

PENDERFYNWYD atal Rheolau Gweithdrefn y Cyngor i’w gwneud yn bosibl ystyried y busnes a oedd yn weddill ar yr agenda.

 

13.

DIWEDDARAF AM WEITHREDIADAU AC ATGYFEIRIADAU'R PWYLLGOR CRAFFU CYMUNEDAU pdf eicon PDF 144 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor adroddiad a oedd yn nodi’r cynnydd a oedd wedi cael ei wneud o ran camau gweithredu, ceisiadau neu atgyfeiriadau a oedd yn deillio o gyfarfodydd blaenorol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

14.

EGLURHAD AM BEIDIO A CHYFLWYNO ADRODDIADAU CRAFFU pdf eicon PDF 45 KB

Cofnodion:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i’r eglurhad a ddarparwyd am beidio â chyflwyno adroddiad.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad am beidio â chyflwyno adroddiad. 

 

15.

LLOFNODI YN GOFNODAU CYWIR, COFNODION Y PWYLLGOR A GYNHALIWYD AR Y 29AIN MEDI 2016 pdf eicon PDF 297 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 29 Medi 2016 fel cofnod cywir.