Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Safonau - Dydd Llun, 4ydd Mawrth, 2024 2.00 yp

Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Julie Owens  01267 224088

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb.

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd datganiadau o fuddiant personol.

3.

I LOFNODI FEL COFNOD CYWIR COFNODION CYFARFOD Y PWYLLGOR A GYNHALIWYD AR 16 IONAWR 2024 pdf eicon PDF 119 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd ar 16 Ionawr 2024 gan eu bod yn gywir.

4.

PENODI IS-GADEIRYDD NEWYDD Y PWYLLGOR pdf eicon PDF 103 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn dilyn ymadawiad yr Is-Gadeirydd blaenorol, bu'r Pwyllgor yn ystyried enwebiadau ar gyfer rôl Is-gadeirydd y Pwyllgor Safonau am weddill Blwyddyn y Cyngor.

 

Diolchodd aelodau'r pwyllgor i \gyn Is-gadeirydd y Pwyllgor, Julie James, am ei chyfraniad rhagorol i waith y Pwyllgor Safonau wrth hyrwyddo a chynnal safonau ymddygiad uchel gan gynghorwyr etholedig ac aelodau cyfetholedig o fewn Cyngor Sir Caerfyrddin.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL benodi'r Cynghorydd Daphne Evans yn Is-gadeirydd y Pwyllgor Safonau am weddill Blwyddyn y Cyngor.

5.

ADOLYGU COFNOD O GAMAU GWEITHREDU'R PWYLLGOR SAFONAU pdf eicon PDF 116 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad a nodai'r hyn a wnaed mewn perthynas â'r camau, ceisiadau, neu atgyfeiriadau a oedd wedi deillio o gyfarfodydd blaenorol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

6.

HYFFORDDIANT YNGHYLCH Y CoD YMDDYGIAD AR GYFER CYNGHORWYR TREF A CHYMUNED pdf eicon PDF 104 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn unol â chylch gorchwyl y Pwyllgor Safonau, rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad ynghylch darparu hyfforddiant Côd Ymddygiad ar gyfer Cynghorwyr Tref a Chymuned ar gyfer 2024.

 

Wrth ystyried y trefniadau hygyrchedd, atgoffwyd y Pwyllgor fod y Pwyllgor, yn ei gyfarfod ym mis Medi 2023, wedi cymeradwyo y dylid ystyried cynnal sesiynau yn y dyfodol o bell oherwydd y lefel isel o bresenoldeb wyneb yn wyneb a'r adnoddau ychwanegol sydd eu hangen i hwyluso hyfforddiant hybrid / aml-leoliad.  Dywedwyd y byddai gwe-ddarllediad byw sesiwn hyfforddi o bell a gynhelir ar wefan y Cyngor yn galluogi cynghorau i gael mynediad i'r hyfforddiant am gyfnod o 6 mis, felly dim ond un sesiwn oedd ei hangen.  Pwysleisiodd y Pwyllgor bwysigrwydd yr hyfforddiant a mynegodd y gallai Cynghorau Tref a Chymuned gynorthwyo'r Cyngor gyda'i ofynion casglu data drwy gadarnhau eu presenoldeb yn y sesiwn yn ysgrifenedig gan ddefnyddio'r cyfleuster sgwrsio hyfforddi ar-lein neu ar lafar ar ddechrau'r hyfforddiant.

 

Adolygodd y Pwyllgor y cyflwyniad hyfforddi a oedd wedi'i ddiweddaru i gynnwys y penderfyniadau diweddaraf gan Banel Dyfarnu Cymru.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ddarparu un sesiwn hyfforddi côd ymddygiad ar-lein ar gyfer Cynghorwyr Tref a Chymuned ym mis Mehefin/Gorffennaf 2024 yn ôl argaeledd y cyflwynwyr, gyda'r gwe-ddarllediad ar gael ar wefan y Cyngor am gyfnod o 6 mis.

7.

YMARFER CASGLU DATA YNGHYLCH CÔD YMDDYGIAD CYNGOR TREF A CHYMUNED pdf eicon PDF 104 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol adroddiad lle atgoffwyd y Pwyllgor y gofynnir bob blwyddyn i Gynghorau Tref a Chymuned ddarparu data ynghylch cydymffurfiaeth eu haelodau â'r Côd Ymddygiad ac roedd yr ymatebion a ddaeth i law yn cael eu cyfuno â data a gedwir gan y Cyngor i ddarparu trosolwg cynhwysfawr o gydymffurfiaeth y cynghorwyr hyn â'r côd, gan gynnwys y canlynol:

 

1.    Datgan buddiannau

2.    Ceisiadau am ollyngiad

3.    Cwynion ynghylch y côd ymddygiad

4.    Hyfforddiant côd ymddygiad

5.  Cynllun Hyfforddi y Cyngor

 

Gofynnwyd am farn y Pwyllgor ar y cwmpas a'r fethodoleg arfaethedig ar gyfer ymarfer casglu data 2024. 

 

Er mwyn lleihau'r baich gweinyddol sy'n gysylltiedig â'r ymarfer casglu data, cynigir bod y data'n cael ei gasglu drwy arolwg Snap ar-lein, gyda'r nod o gyflwyno'r canlyniadau i'r Pwyllgor mewn cyfarfod yn y dyfodol drwy ddefnyddio siartiau a graffiau, gan alluogi, lle bo'n bosibl, cymharu â chanlyniadau blwyddyn flaenorol y cyngor.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo'r cwestiynau y manylir arnynt yn yr adroddiad, ynghyd â defnyddio arolwg Snap ar-lein ar gyfer ymarfer casglu data Côd Ymddygiad Cynghorau Tref a Chymuned.

8.

CAIS AM OLLYNGIAD GAN Y CYNGHORYDD RODERICK GRIFFITHS pdf eicon PDF 122 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried cais a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Roderick Griffiths o Gyngor Cymuned Llansteffan a Llan-y-bri, am ollyngiad o dan ddarpariaethau'r Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) i siarad a gwneud sylwadau ysgrifenedig ond mewn perthynas â busnes y cyngor yngl?n â'r 'Grîn' yn Llansteffan.

 

Dywedwyd bod gan y Cynghorydd Griffiths fuddiant personol a rhagfarnol yn y mater hwn fel

·       mae ef/ei deulu yn berchen ar dir gerllaw 'Y Grîn’;

·       mae gan ei deulu fudd cyfamod cyfyngu dros ran o'r tir dan sylw. Mae'r cyfamod hwn yn gosod cyfyngiadau ar yr hyn y gellir ei wneud gyda thir ac ar dir a drosglwyddwyd i'r Cyngor ym 1980. Mae'r tir hwn yn ffurfio rhan o'r ardal a gwmpesir gan y newidiadau arfaethedig i 'Y Grîn’;

·       mae ei deulu'n berchen ar fusnes sy'n gweithredu ar dir sy'n ffinio â'r Grîn.

 

Roedd y Cynghorydd Griffiths yn ceisio gollyngiad yn rhinwedd Rheoliad 2(2)(d) – mae natur buddiant yr aelod yn golygu na fyddai cyfraniad yr aelod i'r busnes y mae'r buddiant yn ymwneud ag ef yn niweidio hyder y cyhoedd o ran cynnal busnes yr awdurdod perthnasol a Rheoliad 2(f) – mae cyfraniad yr aelod i'r busnes y mae'r buddiant yn ymwneud ag ef yn cael ei gyfiawnhau gan rôl neu arbenigedd penodol yr aelod.

 

Dywedwyd wrth y Pwyllgor pe bai'n caniatáu'r cais am ollyngiad, y byddai angen iddo benderfynu ar hyd y gollyngiad hwnnw hefyd.

 

Yn dilyn trafodaeth,

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ganiatáu gollyngiad o dan Reoliadau 2 (d) a (f) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) 2001 ar gyfer y Cynghorydd Roderick Griffiths i SIARAD A GWNEUD SYLWADAU YSGRIFENEDIG YN UNIG OND NID PLEIDLEISIO mewn cyfarfodydd sy'n ymwneud â'r 'Grîn' yn Llansteffan a bod y gollyngiad yn ddilys tan ddiwedd ei dymor presennol yn y swydd.

9.

CAIS AM OLLYNGIAD GAN Y CYNGHORYDD MARY MARGARET WENMAN pdf eicon PDF 117 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried cais a gyflwynwyd gan  Cynghorydd Mary Margaret Wenman o Gyngor Tref Porth Tywyn a Phen-bre am ollyngiad o dan ddarpariaethau'r Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) i siarad, pleidleisio a gwneud sylwadau ysgrifenedig mewn perthynas â hen safle Ysgol Copperworks ym Mhorth Tywyn.

 

Dywedwyd bod gan y Cynghorydd Wenman fuddiant personol a rhagfarnol yn y mater hwn gan ei bod yn Gadeirydd 'Cyfeillion Copperworks' sefydliad gwirfoddol sy'n dymuno dylanwadu ar y Cyngor Tref dros ddyfodol yr adeilad sy'n weddill ar y safle a'i brydlesu.  Roedd y cais hefyd yn manylu ar aelodaeth y Cynghorydd Wenman o'r 'gymdeithas Treftadaeth a Hanesyddol', ond nid oedd yn glir o'r cais pa fuddiant uniongyrchol sydd gan y gr?p hwn yn safle Copperworks.

 

Roedd y Cynghorydd Wenman yn gwneud cais am ollyngiad yn rhinwedd y canlynol:

 

1.    Rheoliad 2(a) nid oes gan lai na hanner aelodau'r awdurdod perthnasol sy'n ystyried y busnes fuddiant sy'n ymwneud â'r busnes hwnnw.

2.    Rheoliad 2(d) mae natur buddiant yr aelod yn golygu na fyddai ymwneud â'r busnes y mae'r buddiant yn berthnasol iddo yn niweidio hyder y cyhoedd.

3.    Rheoliad 2(e) mae'r buddiant yn gyffredin i'r aelod a chyfran sylweddol o'r cyhoedd yn gyffredinol.

4.    Rheoliad 2(f) mae cyfranogiad yr aelod yn y busnes y mae'r buddiant yn ymwneud ag ef wedi'i gyfiawnhau gan rôl neu arbenigedd penodol yr aelod

5.    Rheoliad 2(g) mae'r busnes y mae'r buddiant yn ymwneud ag ef i'w ystyried gan bwyllgor trosolwg neu graffu ac nid yw buddiant yr aelodau yn fuddiant ariannol.

 

Dywedodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol nad oedd Rheoliadau 2(e) a 2(g) yn debygol o fod yn berthnasol ac nad oedd unrhyw beth yn y cais i gefnogi'r tir o dan Reoliad 2(a). Fodd bynnag, barnwyd bod rheoliadau 2(d) a 2(f) yn berthnasol.

 

Dywedwyd wrth y Pwyllgor pe bai'n caniatáu'r cais am ollyngiad, y byddai angen iddo benderfynu ar hyd y gollyngiad hwnnw hefyd.

 

 Yn dilyn trafodaeth

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ganiatáu gollyngiad o dan Reoliadau 2 (d) a (f) Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) 2001 i Mary Margaret WenmanSIARAD A CHYFLWYNO SYLWADAU YSGRIFENEDIG YN UNIG OND NID PLEIDLEISIO mewn cyfarfodydd sy'n ymwneud â hen safle Ysgol Copperworks ym Mhorth Tywyn a bod y gollyngiad yn ddilys tan ddiwedd ei thymor presennol yn y swydd.

10.

CAIS AM OLLYNGIAD GAN GRWP AR RAN AELODAU CYNGOR CYMUNED LLANLLAWDDOG pdf eicon PDF 107 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad gr?p a gyflwynwyd gan y clerc i Gyngor Cymuned Llanllawddog mewn perthynas â 6 o'r 7 aelod presennol o' awdurdod hwnnw ar gyfer caniatáu gollyngiad o dan ddarpariaethau Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) i siarad a phleidleisio a gwneud sylwadau ysgrifenedig mewn perthynas â busnes y cyngor ynghylch gwifren uwchben Tywi/Teifi a gynigir gan Green Gen Cymru/Bute Energy.

 

Nodwyd bod y Cynghorwyr Deborah Dean, Elizabeth Gibbon, Havard Hughes, Darrell Lewis, Steven Mason a Peter Williams yn gwneud cais am ollyngiad a bod pob un ohonynt wedi cyflwyno datganiadau o fuddiant fel y manylir arnynt yn atodiad 1 o'r adroddiad.

 

Gofynnwyd am y gollyngiadau yn rhinwedd Rheoliad 2(a) nid oes gan lai na hanner aelodau'r awdurdod perthnasol sy'n ystyried y busnes fuddiant sy'n ymwneud â'r busnes hwnnw a Rheoliad 2(d) mae natur buddiant yr aelod yn golygu na fyddai ymwneud â'r busnes y mae'r buddiant yn berthnasol iddo yn niweidio hyder y cyhoedd o ran busnes yr awdurdod perthnasol.

 

Fe wnaeth yr aelodau sylwadau ar nifer y ceisiadau am ollyngiadau a dderbyniwyd mewn cysylltiad â'r cynllun a nodwyd uchod, a'r goblygiadau posibl o ran cworwm ar gyfer cyfarfodydd cynghorau cymuned.

 

Dywedwyd wrth y Pwyllgor pe bai'n caniatáu'r cais am ollyngiad, y byddai angen iddo benderfynu ar hyd y gollyngiad hwnnw hefyd.

 

Yn dilyn trafodaeth,

 

 PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL caniatáu gollyngiad o dan Reoliad 2 (a) a (d) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) 2001 i'r Cynghorwyr Deborah Dean, Elizabeth Gibbon, Havard Hughes, Darrell Lewis, Steven Mason a Peter Williams SIARAD, GWNEUD SYLWADAU YSGRIFENEDIG A PHLEIDLEISIO mewn cyfarfodydd sy'n ymwneud â gwifren uwchben Tywi/Teifi a gynigir gan Green Gen Cymru/Bute Energy a bod y gollyngiad yn ddilys tan ddiwedd eu tymor presennol yn y swydd.

11.

BLAENRAGLEN WAITH 2024-2025 pdf eicon PDF 95 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried Blaenraglen Waith ddrafft ar gyfer 2024/25 a nodwyd yr adroddiadau allweddol y mae'n disgwyl eu derbyn yn ei gyfarfodydd chwarterol.

 

Wrth ystyried y Flaenraglen Waith, awgrymodd y Pwyllgor fod cofnodion cyfarfodydd Fforwm Cadeiryddion y Pwyllgor Safonau Cenedlaethol (Cymru), ynghyd â'r adroddiadau/cyhoeddiadau perthnasol o Banel Dyfarnu Cymru ac Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn cael eu hychwanegu at agendau'r cyfarfodydd d chwarterol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fabwysiadu'r Flaenraglen Waith yn amodol ar gynnwys yr awgrymiadau uchod.

12.

UNRHYW FATER ARALL Y GALL Y CADEIRYDD OHERWYDD AMGYLCHIADAU ARBENNIG, BENDERFYNU EI YSTYRIED YN FATER BRYS YN UNOL AG ADRAN 100B(4)(B) DEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd dim materion brys i'w trafod.