Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau
Rhif | eitem | ||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr J.A. Davies a K. Madge. |
|||||||||||
DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant personol. |
|||||||||||
YSTYRIED ADRODDIADAU'R PENNAETH CYNLLUNIO YNGHYLCH Y CEISIADAU CYNLLUNIO CANLYNOL (BYDD Y PWYLLGOR WEDI YMWELD Â'R SAFLEOEDD YN FLAENOROL) A PHENDERFYNU AR Y CEISIADAU Dogfennau ychwanegol: |
|||||||||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyfeiriodd y Swyddog Rheoli Datblygu (Dwyrain) at ymweliad preifat y Pwyllgor â'r safle'n gynharach y diwrnod hwnnw (gweler cofnod 3 cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio ar 9 Mawrth 2017) a gynhaliwyd er mwyn i'r Pwyllgor gael golwg ar safle'r datblygiad mewn perthynas â'i agosrwydd at eiddo cyfagos. Cyfeiriodd, gyda chymorth sleidiau cyflwyniad, at adroddiad ysgrifenedig y Pennaeth Cynllunio a oedd yn rhoi arfarniad o'r safle, ynghyd â disgrifiad o'r datblygiad arfaethedig, crynodeb o'r ymatebion a gafwyd i'r ymgynghoriad a gwybodaeth am y polisïau lleol a chenedlaethol a oedd yn berthnasol wrth asesu'r cais. Dywedwyd wrth y Pwyllgor bod y Pennaeth Cynllunio yn argymell cymeradwyo'r cais am y rhesymau a nodwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.
Roedd sylwadau wedi dod i law yn gwrthwynebu'r datblygiad arfaethedig. Roedd y rhain yn cynnwys y canlynol:
· Roedd maint y llain yn rhy fach i'r datblygiad arfaethedig. · Roedd offer/seilwaith D?r Cymru yn parhau i groesi'r safle. · Byddai'r datblygiad yn cael effaith niweidiol ar breifatrwydd/amwynder deiliaid Bryngoiallt. · Byddai'r datblygiad yn tarfu ar ddeiliaid Bryngoiallt o ran llygredd s?n, yn enwedig wrth i ymwelwyr fynd a dod a defnyddio generadur trydan. · Parcio annigonol ar y safle. · Byddai'r datblygiad yn effeithio ar ddiogelwch ac iechyd deiliaid Bryngoiallt.
Cafwyd sylwadau yn ogystal yn cefnogi'r datblygiad arfaethedig. Roedd y rhain yn cynnwys y canlynol:
· Roedd y cais ar gyfer y safle tir llwyd yn unigryw ac yn anarferol ac roedd ailddatblygu safleoedd o'r fath yn cael ei annog gan bolisïau cenedlaethol a lleol. · Roedd addasu'r strwythur presennol at ddibenion busnes. · Roedd y cymydog sy'n gwrthwynebu'r datblygiad wedi prynu ei eiddo gan wybod mai safle diwydiannol oedd hwn. · Roedd D?r Cymru yn hapus â'r cynigion o ran y parcio a'r cynlluniau ar gyfer y safle. · Roedd y generadur trydan yn fodern ac ychydig iawn o s?n byddai'n cael ei gynhyrchu. · Nid oedd mynediad i'r safle yn broblem fel y gwelwyd wrth i fws y Pwyllgor ddilyn y lôn yn arwain at y safle ar gyfer yr ymweliad. · Byddai'r datblygiad o fudd i'r ardal gyfan, gan ddenu twristiaid i'r ardal. · Fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad, roedd cwrtil preswylfa gerllaw wedi cael ei estyn yn is na safle'r cais er nad oedd wedi bod yn rhan o'r ardd yn wreiddiol.
PENDERFYNWYD:
3.1.1 Bod y cais cynllunio canlynol yn cael ei wrthod, yn groes i argymhelliad y Pennaeth Cynllunio, ar sail y ffaith na fyddai'n cydymffurfio â pholisïau cynllunio perthnasol Cynllun Datblygu Lleol Sir Gaerfyrddin, sef Polisïau TSM4 a H5.
3.1.2 Bod y Pennaeth Cynllunio yn cyflwyno adroddiad mewn cyfarfod yn y dyfodol gan nodi gwrthwynebiad y Pwyllgor ac awgrymu rhesymau cynllunio dros wrthod y cais ar sail yr uchod. |
|||||||||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyfeiriodd y Swyddog Rheoli Datblygu (Dwyrain) at ymweliad preifat y Pwyllgor â'r safle'n gynharach y diwrnod hwnnw (gweler cofnod 3 cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio ar 9 Mawrth 2017) a gynhaliwyd er mwyn i'r Pwyllgor gael golwg ar safle'r datblygiad mewn perthynas â'r man gwyrdd a chyn Gartref Gofal Glanmarlais, sydd ar fin ailagor. Cyfeiriodd, gyda chymorth sleidiau cyflwyniad, at adroddiad ysgrifenedig y Pennaeth Cynllunio a oedd yn rhoi arfarniad o'r safle, ynghyd â disgrifiad o'r datblygiad arfaethedig, crynodeb o'r ymatebion a gafwyd i'r ymgynghoriad a gwybodaeth am y polisïau lleol a chenedlaethol a oedd yn berthnasol wrth asesu'r cais. Dywedwyd wrth y Pwyllgor bod y Pennaeth Cynllunio yn argymell cymeradwyo'r cais am y rhesymau a nodwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.
Roedd sylwadau wedi dod i law yn gwrthwynebu'r datblygiad arfaethedig. Roedd y rhain yn cynnwys y canlynol:
· Effaith y datblygiad ar y ffordd fynediad i safle Maespiode a oedd yn gul iawn ac roedd y sefyllfa yn waeth oherwydd bod ceir yn parcio ar ochr y ffordd, yn enwedig gyda'r nos ac ar benwythnosau. Byddai'r datblygiad yn gweld cynnydd mewn traffig ym Maespiode, a fyddai'n gwaethygu gydag ailddatblygiad arfaethedig Cartref Gofal Glanmarlais. · Cael gwared â'r palmant oherwydd y datblygiad. · Roedd y man gwyrdd yn arfer bod yn ardal hamdden o dan yr hen Gynllun Datblygu Unedol, ond cafodd ei ddileu o'r Cynllun Datblygu Lleol presennol heb ymgynghori â'r aelodau lleol. · Roedd y man gwyrdd yn rhan annatod o'r gymuned leol a bu'n cael ei ddefnyddio'n gyson ar gyfer ffeiriau a gan drigolion cyn Gartref Gofal Glanmarlais (a oedd ar fin cael ei ailagor gyda phwyslais penodol ar ofal dementia). · Byddai'r datblygiad yn cael effaith niweidiol ar drigolion Maespiode a gallai beryglu ailddatblygiad Glanmarlais. · Roedd anghysondebau yn yr adroddiad o ran y polisïau sy'n berthnasol i'r cais hwn.
PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais cynllunio canlynol yn amodol ar yr amodau y manylwyd arnynt yn adroddiad y Pennaeth Cynllunio.
|
|||||||||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyfeiriodd y Swyddog Rheoli Datblygu (Rhanbarth y De) at ymweliad preifat y Pwyllgor â'r safle'n gynharach y diwrnod hwnnw (gweler cofnod 4.2 cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio ar 9 Mawrth 2017) a oedd wedi ei gynnal er mwyn i'r Pwyllgor gael golwg ar safle'r cais o ran yr eiddo cyfagos. Cyfeiriodd, gyda chymorth sleidiau cyflwyniad, at adroddiad ysgrifenedig y Pennaeth Cynllunio a oedd yn rhoi arfarniad o'r safle, ynghyd â disgrifiad o'r datblygiad arfaethedig, crynodeb o'r ymatebion a gafwyd i'r ymgynghoriad a gwybodaeth am y polisïau lleol a chenedlaethol a oedd yn berthnasol wrth asesu'r cais. Dywedwyd wrth y Pwyllgor bod y Pennaeth Cynllunio yn argymell cymeradwyo'r cais am y rhesymau a nodwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.
Roedd sylwadau wedi dod i law yn gwrthwynebu'r datblygiad arfaethedig. Roedd y rhain yn cynnwys:
· Siom nad oedd y Pwyllgor wedi gweld y safle o'r eiddo cyfagos. · Roedd uchder crib to'r datblygiad arfaethedig yn uwch na'r tai cyfagos. · Byddai'r eiddo cyfagos hefyd yn colli eu preifatrwydd. · Ni fyddai'r newidiadau arfaethedig i uchder y ffenestri yn y datblygiad yn atal colli preifatrwydd yr eiddo cyfagos.
PENDERFYNWYD caniatáu'r cais cynllunio canlynol yn amodol ar yr amodau y manylwyd arnynt yn adroddiad /atodiad y Pennaeth Cynllunio. |
|||||||||||
PENNU’R CEISIADAU CYNLLUNIO A NODIR YN YR ADRODDIADAU CANLYNOL GAN Y PENNAETH CYNLLUNIO: Dogfennau ychwanegol: |
|||||||||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: 4.1.1 PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL caniatáu'r cais cynllunio canlynol yn amodol ar yr amodau y manylwyd arnynt yn adroddiad y Pennaeth Cynllunio.
4.1.2 PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gohirio ystyried y cais cynllunio canlynol er mwyn i'r Pwyllgor ymweld â'r safle.
RHESWM: Galluogi'r Pwyllgor i weld safle'r cais yn sgil pryderon gan drydydd parti o ran ffiniau diffiniedig y Cynllun Datblygu Lleol a chyfran y datblygiad mewn perthynas â'r llain.
|
|||||||||||
RHANBARTH Y GORLLEWIN PDF 1 MB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: 4.2.1 PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ganiatáu'r ceisiadau canlynol.
4.2.2 PENDERFYNWYD cymeradwyo'r ceisiadau canlynol.
4.2.3 PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL caniatáu'r cais cynllunio canlynol yn amodol ar yr amodau y manylwyd arnynt yn adroddiad y Pennaeth Cynllunio.
Tynnwyd sylw'r Pwyllgor at y ffaith bod y cyfarfod wedi bod yn mynd rhagddo ers 3 awr. Felly, PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod y Rheolau Sefydlog yn cael eu rhoi o'r neilltu dros dro er mwyn gallu ystyried yr eitemau oedd yn weddill ar yr agenda.
4.2.4 PENDERFYNWYD:
4.2.4.1 Bod y cais cynllunio canlynol yn cael ei ganiatáu, yn groes i argymhelliad y Pennaeth Cynllunio, ar sail y byddai'n (i) darparu cyfleoedd cyflogaeth yn yr ardal, (ii) hyrwyddo defnydd effeithiol y tir, (iii) creu amgylchedd diogel, deniadol a hygyrch a fyddai'n cyfrannu at iechyd a llesiant pobl a (iv) gwella llesiant cymdeithasol ac economaidd.
4.2.4.2. Bod y Pennaeth Cynllunio yn cyflwyno adroddiad mewn cyfarfod yn y dyfodol gan awgrymu rhesymau cynllunio dros ganiatáu'r cais ar sail yr uchod, a hynny er mwyn i'r Pwyllgor eu cadarnhau.
|