Eitemau
Rhif |
eitem |
1. |
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Ni
chafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb.
|
2. |
DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Y
Cynghorydd
|
Rhif y
Cofnod
|
Y Math
o Fuddiant
|
A
Lenny
|
5 -
Cais Cynllunio W/37401 - Dymchwel yr adeiladau presennol a'r
slabiau telathrebu diangen ac adeiladu siop fwyd Lidl ynghyd
â'r maes parcio cysylltiedig, trefniadau dosbarthu ac
ehangu'r ffordd fynediad bresennol ar safle hen orsaf yr heddlu yng
Nghaerfyrddin, Parc y Brodyr Llwyd, Caerfyrddin, SA31 3A
|
Mae
perthynas agos ac aelodau teulu eraill yn byw ar stryd gyfagos -
personol a rhagfarnol
|
A
Lenny
|
5 -
Cais Cynllunio W/38447 - Newid defnydd y llawr gwaelod o breswylfa
(C3) i siop goffi defnydd cymysg (A1/A3) ac ychwanegu to ar oleddf
i'r garej ar wahân yn y cefn ac ychwanegu ffenstri Velux at
do'r brif breswylfa (ailgyflwyno cais W/37493), Croft House,
Llansteffan, Caerfyrddin, SA33 5LW
|
Mae
perthynas agos yn byw ar yr un stryd â'r ymgeisydd - personol
a rhagfarnol
|
J.
James
|
4 -
Cais Cynllunio S/38105 - Amrywio amod 1 o gais cynllunio S/30597
(estyniad o ran amser) ar Safle 4, Harbwr Porth Tywyn (Dwyrain),
Porth Tywyn, SA16 0LT
|
Mae
wedi cefnogi'r cais yn gyhoeddus o'r blaen
|
J.
James
|
4 -
Cais Cynllunio S/38107 - Newid geiriad amod 1 o gais cynllunio
S/30599 (darparu hyd at 10,500 metr sgwâr o arwynebedd llawr
at ddibenion cyflogaeth gydag elfen byw/gweithio sylweddol, a
gymeradwywyd ar 25/11/2015) er mwyn caniatáu 3 blynedd
ychwanegol ar gyfer cyflwyno materion a gadwyd yn ôl ar Safle
7, tir ger Teras Arian, Porth Tywyn, SA16 0NA
|
Mae
wedi cefnogi'r cais yn gyhoeddus o'r blaen
|
D.
Jones
|
5 -
Cais Cynllunio W/37006 - Bwriad i gadw a chwblhau gwaith ar dir i
greu maes parcio ychwanegol dros dro am gyfnod o hyd at 5 mlynedd
ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Ffordd y Coleg,
Caerfyrddin, SA31 3EP
|
Mae ei
g?r yn gweithio i Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.
|
A C
Jones
|
5 -
Cais Cynllunio W/38447 - Newid defnydd y llawr gwaelod o breswylfa
(C3) i siop goffi defnydd cymysg (A1/A3) ac ychwanegu to ar oleddf
i'r garej ar wahân yn y cefn ac ychwanegu ffenstri Velux at
do'r brif breswylfa (ailgyflwyno cais W/37493), Croft House,
Llansteffan, Caerfyrddin, SA33 5LW
|
Mae'n
byw yn agos i safle'r cais ac mae'r gwrthwynebwyr yn ffrindiau
iddo.
|
A C
Jones
|
5 -
Cais Cynllunio W/37006 - Bwriad i gadw a chwblhau gwaith ar dir i
greu maes parcio ychwanegol dros dro am gyfnod o hyd at 5 mlynedd
ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Ffordd y Coleg,
Caerfyrddin, SA31 3EP
|
Mae'n
gweithio'n rhan-amser ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi
Sant.
|
|
3. |
RHANBARTH Y DWYRAIN - PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO PDF 980 KB
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ohirio ystyried y
cais cynllunio canlynol er mwyn i'r Pwyllgor ymweld â'r
safle:-
E/37947
|
Cadw carafán sipsiwn breswyl, gwaith
daear ac adeiladu ystafell ddydd/ystafell aml-bwrpas, lle parcio ar
gyfer un garafán deithiol, lle parcio a man troi a gosod
tanc carthion, ar dir yng Nghaeau Ternaymar, ger Heol Bryncethin,
Garnant, SA18 1YS
RHESWM: Er
mwyn i'r Pwyllgor gael golwg ar y safle mewn perthynas â
phryderon ynghylch y priffyrdd ac i weld lleoliad y
garafán.
|
|
4. |
RHANBARTH Y DE - PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO PDF 2 MB
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
4.1 PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL
ganiatáu'r ceisiadau cynllunio canlynol yn amodol ar yr
amodau yn Adroddiad/Atodiad y Pennaeth Cynllunio a/neu y rhoddwyd
gwybod amdanynt yn y cyfarfod:-
S/38105
|
Amrywio Amod 1 o gais cynllunio S/30597
(estyniad o ran amser) ar Safle 4, Harbwr Porth Tywyn (Dwyrain),
Porth Tywyn, SA16 0LT
(SYLWER: Gan fod y Cynghorydd J. James wedi datgan buddiant yn
yr eitem hon yn gynharach, gadawodd y Siambr tra bod y Pwyllgor yn
ystyried y mater).
|
S/38107
|
Newid geiriad amod 1 o gais cynllunio
S/30599 (darparu hyd at 10,500 metr sgwâr o arwynebedd llawr
at ddibenion cyflogaeth gydag elfen byw/gweithio sylweddol, a
gymeradwywyd ar 25/11/2015) er mwyn caniatáu 3 blynedd
ychwanegol ar gyfer cyflwyno materion a gadwyd yn ôl ar Safle
7, tir ger Teras Arian, Porth Tywyn, SA16 0NA
(SYLWER: Gan fod y Cynghorydd J. James wedi datgan buddiant yn
yr eitem hon eisoes, gadawodd y Siambr tra bod y Pwyllgor yn
ystyried y mater).
|
4.2 PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL
gymeradwyo'r amodau a ddrafftiwyd gan y Pennaeth Cynllunio, fel y
manylwyd arnynt yn yr adroddiad, mewn perthynas â'r cais
cynllunio canlynol, y rhoddodd y Pwyllgor Cynllunio ganiatâd
cynllunio iddo, yn groes i argymhelliad y swyddog, ar 19 Mawrth
2019:-
S/38295
|
Adeiladu t? newydd â garej yn rhan
ohono ar Lain 3, Heol Bronallt, Fforest, Llanelli, SA4
7TE
|
|
5. |
RHANBARTH Y GORLLEWIN - PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO PDF 1 MB
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
5.1 PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL
ganiatáu'r cais cynllunio canlynol yn amodol ar yr amodau yn
adroddiad/atodiad y Pennaeth Cynllunio a/neu y rhoddwyd gwybod
amdanynt yn y cyfarfod:-
W/37006
|
Bwriad i gadw a chwblhau gwaith ar dir fel
maes parcio ychwanegol dros dro am gyfnod o hyd at 5 mlynedd ym
Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Ffordd y Coleg, Caerfyrddin,
SA31 3EP
(SYLWER: Gan fod y Cynghorydd A.C. Jones a'r Cynghorydd D.
Jones wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach, gadawsant
Siambr y Cyngor tra bod y Pwyllgor yn ystyried y mater)
|
5.2 PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ohirio
ystyried y ceisiadau cynllunio canlynol er mwyn i'r Pwyllgor
Cynllunio ymweld â'r safle:-
W/37401
|
Dymchwel yr adeiladau presennol a'r slabiau
telathrebu diangen ac adeiladu siop fwyd Lidl ynghyd â'r maes
parcio cysylltiedig, trefniadau dosbarthu ac ehangu'r ffordd
fynediad bresennol ar safle hen orsaf yr heddlu yng Nghaerfyrddin,
Parc y Brodyr Llwyd,
Caerfyrddin, SA31 3AW
Rheswm: er
mwyn galluogi'r Pwyllgor i asesu'r effaith debygol y gallai'r
datblygiad ei chael ar heneb gofrestredig Bullwark.
Yn unol
â phrotocol y Pwyllgor Cynllunio, roedd y gwrthwynebydd a
oedd wedi gofyn am gael siarad ynghylch yr eitem hon wedi dewis
cyflwyno ei sylwadau yn y cyfarfod a fydd yn dilyn yr ymweliad
safle
(SYLWER: Gan fod y Cadeirydd, sef y Cynghorydd A. Lenny, wedi
datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach, gadawodd Siambr y
Cyngor tra bod y Pwyllgor yn ystyried y mater. Cadeiriwyd y
cyfarfod gan y Cynghorydd Irfon Jones, sef yr
Is-gadeirydd)
|
W/38447
|
Newid defnydd y llawr gwaelod o breswylfa
(C3) i siop goffi defnydd cymysg (A1/A3) ac ychwanegu to ar oleddf
i'r garej ar wahân yn y cefn ac ychwanegu ffenstri Velux at
do'r brif breswylfa (ailgyflwyno cais W/37493), Croft House,
Llansteffan, Caerfyrddin, SA33 5LW
RHESWM: er
mwyn galluogi'r Pwyllgor i weld y safle yn sgil y gwrthwynebiadau a
ddaeth i law gan Gyngor Cymuned Llansteffan a Llan-y-bri, fel y
dywedwyd yn y cyfarfod.
Yn unol
â phrotocol y Pwyllgor Cynllunio, roedd y gwrthwynebydd a
oedd wedi gofyn am gael siarad ynghylch yr eitem hon wedi dewis
cyflwyno ei sylwadau yn y cyfarfod a fydd yn dilyn yr ymweliad
safle
(SYLWER:
1.
Gan fod y Cadeirydd, sef y
Cynghorydd A. Lenny, wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn
gynharach, gadawodd Siambr y Cyngor tra bod y Pwyllgor yn ystyried
y mater. Cadeiriwyd y cyfarfod gan y Cynghorydd Irfon Jones, sef yr
Is-gadeirydd, yn ystod absenoldeb y Cadeirydd.
2.
Gan fod y Cynghorydd A.C.
Jones wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach, gadawodd
Siambr y Cyngor tra bod y Pwyllgor yn ystyried y mater.
|
5.3 PENDERFYNWYD caniatáu'r
cais cynllunio canlynol yn groes i argymhellion y Pennaeth
Cynllunio, oherwydd bod y Pwyllgor yn ystyried ei fod yn unol
â pholisi AH3 o Gynllun Datblygu Lleol Sir Gaerfyrddin (Tai
Fforddiadwy - Mân anheddiad yng nghefn gwlad agored), yn
cyd-fynd â'r anghenion lleol go iawn, agosrwydd y safle i
glwstwr bach o anheddau/eiddo masnachol, darpariaethau Deddf
Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol o ran yr ymgeisydd a
...
Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5.
|
6. |
LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 2AIL O FAI, 2019 PDF 116 KB
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod
cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 2 Mai 2019 yn gofnod
cywir.
|