Agenda item

CYNLLUN RHEOLI CYFIAWNDER IEUENCTID BLYNYDDOL 2023/2024

Cofnodion:

Cafodd Cynllun Cyfiawnder Ieuenctid Sir Gâr ar gyfer 2023/24 ei gyflwyno i'r Pwyllgor.

 

Roedd y Cynllun Cyfiawnder Ieuenctid yn amlinellu'r Gwasanaeth Cymorth Ieuenctid a'r Tîm Cyfiawnder Ieuenctid a ddarparwyd o dan un strwythur rheoli, a oedd yn darparu dull cyfannol o ddarparu gwasanaethau cymorth ieuenctid ledled Sir Gaerfyrddin. Roedd Cynllun Cyfiawnder Ieuenctid hefyd yn manylu ar berfformiad y bartneriaeth yn ystod 24/22, a hefyd yn nodi'r blaenoriaethau a'r amcanion cynllunio gwelliannau am y flwyddyn i ddod, yn unol â'r egwyddorion 'plentyn yn gyntaf' cyffredinol ac ethos o welliant parhaus.

 

Atgoffwyd y Pwyllgor gan yr Aelod Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol fod y portffolios yn gorgyffwrdd ac mai dim ond elfen Cyfiawnder Ieuenctid Statudol yr adroddiad oedd o dan gylch gwaith y Pwyllgor hwn. 

 

Rhoddwyd esboniad sut oedd y Tîm Cyfiawnder Ieuenctid yn cael ei ariannu a bod y gyllideb yn dangos cynnydd o 20% ar gyfer 2023/24.  Fodd bynnag, nodwyd mai cyllid tymor byr oedd hwnnw ar gyfer gwaith Cyfiawnder Ieuenctid ac Atal, a bod angen cynllunio a monitro gofalus o ran y gwahanol ffynonellau grant.

 

Gofynnwyd nifer o gwestiynau ac ymatebodd y swyddogion iddynt.  Dyma'r prif faterion:

  • Mewn ymateb i sylwadau ynghylch cynnydd elfennau o gynllun gweithredu hunanasesu 2022/24, ac os oedd y dyddiadau targed yn realistig, dywedodd swyddogion fod y cynllun yn ddeinamig ac mai ei fwriad oedd adrodd ar yr ymateb Cyfiawnder Ieuenctid i fframwaith a chanllawiau arolygu Arolygiaeth Prawf Ei Fawrhydi (HMIP).  Mynegwyd bod hunanasesu yn parhau i fod yn bwysig gan y byddai'n gyrru'r busnes yn ei flaen.  Nodwyd bod y cynllun yn ddogfen waith sy'n esblygu a byddai'n cael ei diweddaru drwy ddileu neu ychwanegu eitemau i adlewyrchu anghenion y gwasanaeth a newidiadau i ofynion polisi a statudol.  Dywedodd swyddogion wrth y Pwyllgor fod canlyniad arolygiad HMIP mis Tachwedd yn gadarnhaol iawn.
  • Mewn ymateb i bryderon a godwyd ynghylch plentyn nad oedd yn fodlon cael ei gyfeirio at CAMHS, rhoddwyd sicrwydd y gellid cael mynediad at wasanaethau eraill gan gynnwys y Tîm Iechyd Ieuenctid ac ymarferwyr wedi'u hyfforddi'n dda.  Dywedwyd hefyd, er na ellid gorfodi plentyn i dderbyn ymyriadau meddygol, fod dulliau eraill ar gael i amddiffyn y plentyn fel y Ddeddf Iechyd Meddwl a phwerau amddiffyn yr heddlu.
  • Mewn ymateb i ymholiad yngl?n â'r Biwro, dywedwyd wrth y Pwyllgor taw mecanwaith o fewn Heddlu

Dyfed-Powys ydoedd, i fynd i'r afael â throseddu mewn ffordd oedd yn canolbwyntio ar y plentyn.  Roedd y system yn rhoi cyfle i'r plentyn wyro oddi wrth y system gyfiawnder gan fod penderfyniadau'r tu allan i'r llys yn cael eu defnyddio, lle roedd yr heddlu o'r farn y gellid ymdrin â phlentyn a'i wyro oddi wrth system y llysoedd.  Mae'r Biwro'n caniatáu i'r plant a'r dioddefwyr gael llais.

  • O ran recriwtio staff, dywedwyd wrth y Pwyllgor fod staff ychwanegol wedi cael eu recriwtio ers llunio'r adroddiad, ond bod angen ystyried cynaliadwyedd wrth gynllunio oherwydd y ddibyniaeth bresennol ar gyllid grant fel y Gronfa Ffyniant Gyffredin a fyddai'n dod i ben ddiwedd mis Mawrth 2025.  Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod bron i 70% o'r gwasanaeth yn cael ei ariannu gan arian grant ond bod y tîm wrthi'n chwilio am ffynonellau cyllid eraill.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod Cynllun Cyfiawnder Ieuenctid Sir Gâr ar gyfer 2023/24 yn cael ei dderbyn.

 

Dogfennau ategol: