Agenda item

ADRODDIAD BLYNYDDOL CYFARWYDDWR STATUDOL Y GWASANAETHAU CYMDEITHASOL 2022/23

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried Adroddiad Blynyddol Cyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol 2022/23 ynghylch perfformiad gwasanaethau gofal cymdeithasol yn y sir.

 

Roedd yn ofynnol yn statudol i'r Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol adrodd yn flynyddol wrth y Cyngor ar berfformiad yr ystod gyfan o Wasanaethau Cymdeithasol a'r modd y cânt eu darparu, yn ogystal â chynlluniau ar gyfer eu gwella.

 

Nodwyd mai adroddiad drafft oedd hwn o hyd a byddai'n cael ei ddiwygio ymhellach cyn ei gwblhau.

 

Amlygodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymunedol rai o'r prif faterion allweddol a nodwyd yn yr adroddiad.  Dywedodd fod y gwasanaethau oedolion yn adfer o'r pandemig ac wedi bod dan straen difrifol, yn bennaf oherwydd diffyg adnoddau.  Dywedyd mai cyflwr cyffredinol y farchnad gyflogaeth oedd achos yr anawsterau recriwtio, gan nad oes digon o bobl o oedran gweithio i wneud y swyddi ar draws pob sector gan gynnwys lletygarwch.  Roedd adolygiad mawr ar recriwtio a chadw wedi bod ond nid oedd wedi datrys yr holl brinder sylfaenol o fewn y gweithlu. .

 

Nododd y Pwyllgor fod yr adroddiad, o ran pobl h?n, yn nodi hyd arosiadau yn yr ysbyty, gyda 75% ac weithiau hyd at 80% o bobl fregus ac oedrannus o fewn y gwelyau hynny, gyda'r hyd arhosiad cyfartalog yn ysbytai Glangwili a'r Tywysog Philip dros ddwywaith yr hyn oedd mewn ysbytai cyfatebol.

 

O ran anableddau dysgu, roedd yr Awdurdod wedi ateb galw newydd ac nid oedd nifer y bobl oedd yn mynd i ofal preswyl ffurfiol wedi cynyddu. Fodd bynnag, y teimlad oedd bod y cynnydd disgwyliedig ddim yn digwydd o ran defnyddio adnoddau cymunedol i gefnogi a lleihau cyfanswm y bobl mewn gofal preswyl, oherwydd yr amser oedd angen i drefnu lleoliadau eraill.

 

Dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymunedol wrth y Pwyllgor fod y gwasanaeth, mewn perthynas â phlant ag anableddau, yn gweld cynnydd yn y galw gan deuluoedd ac roedd nifer y plant ar y gofrestr amddiffyn plant hefyd wedi cynyddu. Er gwaethaf y problemau, roedd tystiolaeth yn dangos bod yr Awdurdod yn gwneud penderfyniadau diogel mewn perthynas â phlant.

 

Nododd y Cadeirydd y sylwadau cadarnhaol gan AGC a diolchodd i Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymunedol a'r staff perthnasol am eu gwaith caled.

 

Roedd y canlynol ymhlith y cwestiynau/sylwadau a godwyd ynghylch yr adroddiad:-

 

·    Mewn ymateb i'r pryder a godwyd am y diffyg ariannol uchaf erioed o ran cyllidebau'r Bwrdd Iechyd a'r effaith bosibl gallai hyn ei chael ar yr Awdurdod, dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymunedol y byddai'n rhaid i Lywodraeth Cymru a'r Byrddau Iechyd wneud penderfyniadau anodd rhyngddynt.  Fodd bynnag, synhwyrol oedd nodi y gallai fod effaith ar unrhyw fentrau ar y cyd fel Llesiant Delta, ond bod gan yr Awdurdod berthynas dda iawn â'r Bwrdd Iechyd yn strategol a'r gobaith oedd na fyddai mentrau oedd yn arbed arian ac yn diwallu'r angen yn cael eu heffeithio. 

 

·    Mewn perthynas â'r risg a nodwyd ynghylch y gyfradd uchel o chwyddiant, ymatebodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymunedol drwy ddweud bod yr Awdurdod yn gorfod llyncu'r diffyg amlwg a fyddai'n arwain at wneud penderfyniadau anodd. Serch hynny, roedd yn hyderus bod yr adran yn effeithlon ac yn effeithiol wrth ddarparu gwasanaethau a roddai werth da, ond dywedodd fod wastad lle i wella.

 

·    Mewn ymateb i ddiweddariad yngl?n â'r gwaith ar hunanladdiad a hunan-niweidio, dywedodd y Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion fod y gwaith oedd yn cael ei wneud yn y maes hwn wedi cynyddu'n sylweddol dros y 18 mis diwethaf, a oedd yn briodol gan fod yr ystadegau ar gyfer hunanladdiad a hunanladdiad a amheuir yn uwch yn y rhanbarth nag unrhyw le arall yng Nghymru, a bod hynny'n rhywbeth yr oedd angen i ni i gyd fod yn bryderus amdano.  O ran y strwythur ar gyfer atal hunanladdiad yng Nghymru, nodwyd bod gr?p ymgynghorol cenedlaethol a thri gr?p rhanbarthol ar draws Cymru.  Mae Sir Gaerfyrddin yn rhan o fforwm Canolbarth a De-orllewin Cymru sy'n cynnwys chwe Awdurdod Lleol, tri Bwrdd Iechyd a dau o Luoedd Heddlu.  O dan hynny ceir grwpiau lleol ac mae Sir Gaerfyrddin yn rhan o Siaradwch â Mi 2 sef enw'r strategaeth ar gyfer Cymru ar atal hunanladdiad.  Mae'r gr?p hwn yn cael ei gadeirio gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ac mae'n canolbwyntio ar strategaethau atal.  Eglurwyd bod Ymateb ar Unwaith amlasiantaeth i hunanladdiad yn cael ei dreialu ar draws y rhanbarth. Pan fydd yn cael ei amau bod hunanladdiad wedi digwydd, mae'r gr?p amlasiantaeth yn cyfarfod i gytuno pa gymorth y gallai fod ei angen ar gyfer y rhai yr effeithir arnynt megis teulu neu'r gymuned ehangach. Er gwaethaf y gwaith a wnaed eisoes, dywedwyd y gellid gwneud mwy a'i fod yn flaenoriaeth i'r Awdurdod.

 

·    Gofynnwyd a oedd gwaith yn cael ei wneud i ddeall pam mae cyfraddau hunanladdiad yn uchel yn y rhanbarth ac a oedd y cynnydd mewn cyfraddau yr un peth i oedolion a phlant.  Dywedodd y Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion fod cynnydd yn cael ei wneud yn genedlaethol, ond roedd y tueddiadau'n newid. Yn hanesyddol dynion rhwng 40 a 60 oed oedd yr uchaf yn ystadegol ond roedd cynnydd ymysg pobl h?n.  O safbwynt plant, ers y pandemig roedd iechyd meddwl ac emosiynol plant wedi dioddef.  Dywedodd y Pennaeth Plant a Theuluoedd fod y cyfraddau hunanladdiad ar gyfer plant yn fach, ond bod y materion yn cael eu hystyried o ddifrif gan yr Awdurdod a gyda'r Bwrdd Diogelu Rhanbarthol.  Roedd gwaith cynllunio ar y gweill i fynd i'r afael â'r agenda atal i helpu i ddeall beth oedd angen ei wneud i gynorthwyo plant oedd mewn trallod emosiynol a meddyliol.  Nodwyd bod ymddygiadau'n anodd iawn a bod hyn yn amlwg mewn ysgolion ac yn y cymunedau a bod y duedd hon wedi cynyddu ar ôl y pandemig. Dywedwyd bod llwybr llesiant atal ymyrraeth gynnar wedi'i gyflwyno o fewn y timau cymunedol ac iechyd meddwl.  Roedd cyllid grant Llywodraeth Cymru hefyd wedi trefnu penodi cydlynydd rhanbarthol ar gyfer atal hunanladdiad a hunan-niwed.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R CABINET fod yr adroddiad yn cael ei dderbyn.

 

Dogfennau ategol: