Cofnodion:
Cafodd y Pwyllgor Adroddiad Monitro Perfformiad Amcanion Llesiant 2017/18 ar gyfer Chwarter 1 i'w ystyried gyda golwg ar y cyfnod rhwng 1 Ebrill a 30 Mehefin 2017.
Rhoddwyd sylw i'r materion canlynol wrth drafod yr adroddiad:-
·
Mewn ymateb i gwestiwn yn ymwneud â chanran yr
eiddo preifat gwag a ddefnyddir unwaith eto, cadarnhaodd y Pennaeth
Tai a Diogelu'r Cyhoedd bod gan yr uned un aelod staff yn llai ac y
gallai'r Is-adran felly ond
canolbwyntio ei hadnoddau ar fynd i'r afael ag achosion â
risg uchel.
Fodd bynnag, roedd achos busnes yn cael
ei baratoi er mwyn cynnal penodiad swyddog ychwanegol, a fyddai'n
cael ei ystyried fel rhan o baratoadau'r gyllideb sydd i
ddod.
· Mynegwyd pryderon mewn perthynas â'r system Budd-daliadau Credyd Cynhwysol newydd a oedd ar fin cael ei chyflwyno ledled y Deyrnas Unedig, a ph'un a oedd y Cyngor wedi/yn ystyried unrhyw lwybrau a oedd ar gael iddo gynnig cymorth i'r rheiny yr oedd y system newydd yn effeithio arnynt.
Dywedodd y Pennaeth Tai a Diogelu'r Cyhoedd fod yna bryder cyffredinol ynghylch effaith y system newydd, ac roedd Aelodau Byrddau Gweithredol dros Dai ledled Cymru wedi cael cyfarfod gyda Llywodraeth Cymru yn ddiweddar er mwyn rhoi pwysau gwleidyddol ar y Deyrnas Unedig. Mae'r Llywodraeth yn mynd i ailystyried ei chynigion.
Tra bod sylwadau'n cael eu gwneud yn genedlaethol, roedd yr Awdurdod yn mabwysiadu ymagwedd ragweithiol mewn ymdrech i leihau effaith Credyd Cynhwysol ar ei denantiaid ac ar y posibilrwydd y byddai lefelau'r ôl-ddyledion rhent yn cynyddu. Roedd y rheiny'n cynnwys sefydlu tîm cyn-denantiaeth i gynorthwyo tenantiaid newydd posibl i sicrhau y gallent ddod i gytundeb tenantiaeth ymarferol ynghyd â phenodi swyddog i archwilio'r effaith ledled y Sir.
Cynghorodd y Pennaeth Tai a Diogelu'r Cyhoedd ymhellach y byddai angen ail-edrych ar Gynllun Busnes y Gwasanaethau Tai, gan y rhagwelwyd y gallai lefelau'r ôl-ddyledion godi rhwng 20-30%, er mwyn mynd i'r afael â'r cynnydd posibl hwnnw a allai effeithio ar bolisi'r Cyngor o gynyddu nifer y tai fforddiadwy a ddarperir o fewn y Cyngor.
Mewn ymateb i gwestiwn
yngl?n â'r effaith ar y sector
rhentu preifat, dywedodd y Pennaeth Tai a Diogelu'r Cyhoedd y
gallai landlordiaid preifat fod yn llai parod i dderbyn tenantiaid
ar Gredyd Cynhwysol a bod yna ymchwil sy'n awgrymu hynny, ac y
byddai unrhyw rai o'u tenantiaid a fyddai'n mynd i
ôl-ddyledion yn cael eu troi allan ac yn mynd yn ddibynnol ar
y sector cyhoeddus er mwyn cael cartref arall.
Mewn ymgais i liniaru'r sefyllfa honno,
roedd y Cyngor yn cynnig ei wasanaethau i reoli eiddo
landlordiaid.
· Cyfeiriwyd at ymdrechion y Cyngor i waredu ei hystâd ym Mryn Mefys, Llanelli ar y farchnad agored a gofynnwyd am eglurhad ynghylch y sefyllfa bresennol. Cadarnhaodd y Pennaeth Tai a Diogelu'r Cyhoedd fod pedwar cynnig wedi dod i law a bod y trafodaethau'n mynd rhagddynt ynghylch penodi'r datblygwr o ddewis i ailddatblygu'r ystâd.
· Cyfeiriwyd at yr arolwg a gynhaliwyd yn ddiweddar o gyflwr adeiladau'r saith cartref gofal sydd gan y Cyngor a gofynnwyd am wybodaeth ynghylch canlyniad hyn. Dywedodd y Pennaeth Tai a Diogelu'r Cyhoedd fod y canlyniadau'n amrywio gan fod rhai o'r cartrefi wedi cael eu hailadeiladu'n llwyr/yn rhannol yn ddiweddar a hynny i safon uchel, tra bod yna gartrefi eraill yr oedd angen eu moderneiddio ac roedd cynigion am gyllid yn cael eu gwneud yn y rhaglen gyfalaf i hwyluso'r gwelliannau hyn. Roedd yr Is-adran hefyd yn ymdrechu i ddatblygu Safon Tai ar gyfer ei Chartrefi Gofal, yn debyg i'r safon ar gyfer ei heiddo tai, gydag ystod eang o faterion yn cael eu hystyried, er enghraifft darparu cyfleusterau en-suite.
· Mewn ymateb i gwestiwn yngl?n â chynhyrchu cynllun gwasanaeth digidol hirdymor i alluogi tenantiaid i gynnal eu busnes ar-lein, cadarnhaodd y Pennaeth Tai a Diogelu'r Cyhoedd bod yna ymchwiliadau'n mynd rhagddynt i amnewid y feddalwedd bresennol a byddai hyn yn cynnwys darpariaeth er mwyn trafod busnes trwy ffonau clyfar.
· Cyfeiriwyd at y mesur ar gyfer gwasanaethau hamdden er mwyn hyrwyddo opsiynau bwyta ac yfed mwy iachus ar gyfer defnyddwyr, a gofynnwyd am wybodaeth yngl?n â pha fesurau oedd yn cael eu cyflwyno i gyflawni hynny.
Cynghorodd y Pennaeth Hamdden fod yna ystod o opsiynau'n cael eu hystyried er mwyn darparu gwasanaeth cyson ar draws y gwasanaethau hamdden, gan gynnwys siarad â'r masnachfreintiau presennol, archwilio polisïau caffael, a chysylltu â'r sector gwirfoddol. Yn ychwanegol, roedd gwaith yn mynd rhagddo i archwilio'r modd y gallai'r Awdurdod, gyda'i amrywiol bartneriaid, fynd i'r afael â lefelau gordewdra yn ystod plentyndod. Gallai hyn gynnwys gweithio gyda chlybiau chwaraeon mewn ymgais i ddylanwadu arnynt er mwyn iddynt ddarparu bwyd a diod iachus ar ôl gêm / sesiwn ymarfer.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.
Dogfennau ategol: