Agenda a Chofnodion

Cyd-Bwyllgor Partneriaeth - Dydd Gwener, 29ain Ebrill, 2022 1.00 yp

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

ETHOL CADEIRYDD Y CYD-BWYLLGOR AM GYFNOD O DWY FLYNEDD

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Cyd-bwyllgor yn ystyried enwebiadau i'w penodi i swydd y Cadeirydd am gyfnod o ddwy flynedd. Bydd hyn yn cael ei adolygu ar ôl yr Etholiadau ar 5 Mai, 2022.

 

PENDERFYNWYD y bydd yr aelodau canlynol yn cael eu hethol yn y cyfamser a'u hadolygu ar ôl yr etholiadau ar 5 Mai 2022 :-

 

1.1

Penodi'r Cynghorydd Emlyn Dole (Cyngor Sir Caerfyrddin) yn Gadeirydd Cyd-bwyllgor Partneriaeth

1.2

Penodi'r Cynghorydd David Simpson (Cyngor Sir Penfro) yn Ddirprwy Gadeirydd Cyd-bwyllgor Partneriaeth

1.3

Penodi'r Cynghorydd Robert Stewart (Cyngor Sir Abertawe) yn Ddirprwy Gadeirydd Cyd-bwyllgor Partneriaeth

 

2.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan Wendy Walters, (Prif Weithredwr Cyngor Sir Caerfyrddin), y Cynghorydd Rob Stewart (Arweinydd Cyngor Dinas a Sir Abertawe) a'r Cynghorydd Glynog Davies, (Cyngor Sir Caerfyrddin).

 

3.

DATGANIADAU O FUDDIANT

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol yn y cyfarfod.

 

4.

CYTUNDEB CYFREITHIOL PARTNERIAETH A SWYDDOGAETHAU'R CYD-BWYLLGOR pdf eicon PDF 241 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniodd y Cyd-bwyllgor adroddiad yn cymeradwyo cytundeb cyfreithiol Partneriaeth ac i wneud penderfyniadau llywodraethu a gweithredol allweddol yn unol â chylch gorchwyl y Cyd-bwyllgor.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

·       Bod cytundeb cyfreithiol y cytunwyd arno ac a lofnodwyd gan bob un o'r tri Chyngor yn cael ei gymeradwyo.

·       Bod sefydlu Gr?p Strategol, Gr?p Gweithrediadau a Gr?p Rhanddeiliaid yn unol â'r cylch gorchwyl yn Atodlen 4 a 5 o'r cytundeb cyfreithiol yn cael ei gymeradwyo

·       Bod y cylch gorchwyl ar gyfer y Gr?p Cynghorwyr Craffu ar y Cyd yn Atodlen 6 yn cael ei gymeradwyo

·       Bod y Cynghorau Arweiniol sy'n ymgymryd â'r Swyddogaethau a nodir yn y tabl ym mharagraff 5 o'r adroddiad hwn yn cael eu penodi

·       Cytuno ar y penodiadau ar gyfer y Prif Weithredwr Arweiniol, y Cyfarwyddwr Addysg Arweiniol a'r Prif Swyddog Cyllid Arweiniol

·       Bod y penderfyniad gan bob un o'r cynghorau i Bartneriaeth ddarparu gwasanaethau i gynghorau eraill nad ydynt yn rhan o'r cytundeb cyfreithiol sef Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot, Cyngor Sir Ceredigion a Chyngor Sir Powys yn unol â chymal 14 y cytundeb cyfreithiol gyda'r awdurdod a ddirprwywyd i'r Cyngor Arweiniol sy'n gyfrifol am Gontractau a Chaffael i ddrafftio'r cytundebau lefel gwasanaeth a'r contractau priodol sy'n angenrheidiol i ddiogelu buddiannau Partneriaeth yn cael ei gymeradwyo.

 

5.

CYLLIDEB AMLINELLOL PARTNERIAETH 2022-23 pdf eicon PDF 231 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniodd y Cyd-bwyllgor adroddiad ar y gyllideb amlinellol ar gyfer 2022-23 cyn i'r Cynghorau ei gymeradwyo.  Nodwyd bod yr adroddiad yn rhoi gwybodaeth fanwl benodol mewn perthynas â'r canlynol:

 

·         Rhagdybiaethau ac amcangyfrifon

·         Cyfraniadau Awdurdodau Lleol

·         Cytundebau Lefel Gwasanaeth

·         Risgiau

 

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL :-

 

·         Bod y rhagdybiaethau a'r amcangyfrifon a wnaed wrth lunio'r gyllideb amlinellol ar gyfer 2022-23 yn cael eu nodi

 

·         Bod cyfraniadau'r Awdurdodau Lleol ar gyfer 2022-23, y Cytundeb Lefel Gwasanaeth (CLG) ar gyfer 2022-23 a'r gyllideb amlinellol ar gyfer 2022-23 yn cael eu cymeradwyo, yn dilyn cymeradwyaeth gan  y Cynghorau.

 

·         Bod Swyddog Adran 151 Partneriaeth yn cael ei awdurdodi i wneud diwygiadau i'r gyllideb amlinellol wrth i ragdybiaethau ac amcangyfrifon 2022-23 gael eu cadarnhau.

 

6.

DIWEDDARIAD / CYNLLUN BUSNES DRAFFT PARTNERIAETH 2022-23 pdf eicon PDF 223 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniodd y Cyd-bwyllgor adroddiad ar werthuso Cynllun Busnes 2021-22 a Chynllun Busnes drafft 2022-23 gyda'r wybodaeth ddiweddaraf am ddarpariaeth bresennol Partneriaeth.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL :-

 

·         bod cynnwys Cynllun Busnes drafft 2022-23 sydd wedi'i atodi i'r adroddiad hwn yn cael ei nodi

 

·         bod fersiwn derfynol o Gynllun Busnes 2022-23 yn dod yn ôl gerbron y Cyd-bwyllgor i'w gymeradwyo.

 

7.

UNRHYW FATER ARALL Y GALL Y CADEIRYDD OHERWYDD AMGYLCHIADAU ARBENNIG BENDERFYNU EI YSTYRIED YN FATER BRYS YN UNOL AG ADRAN 100B(4)(B) O DDEDDF LLYWODRAETH LEOL, 1972.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nododd y Cadeirydd nad oedd unrhyw faterion eraill y dylid eu hystyried fel mater o frys.

 

Cyn dirwyn y cyfarfod i ben, manteisiodd y Cadeirydd ar y cyfle i ddiolch i bawb am eu gwaith caled yn sefydlu Partneriaeth a bod hyn yn ddechrau ar bartneriaeth lwyddiannus.