Agenda a chofnodion drafft

Bwrdd Pensiwn - Dydd Llun, 22ain Ionawr, 2024 2.30 yp

Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb.

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol yn y cyfarfod.

 

3.

COFNODION CYFARFOD Y BWRDD PENSIWN A GYNHALIWYD AR 25 HYDREF 2023 pdf eicon PDF 141 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

CYTUNWYD bod cofnodion cyfarfod y Bwrdd Pensiwn a gynhaliwyd ar 25  Hydref 2023 yn cael eu cadarnhau fel cofnod cywir.

 

4.

CYFARFOD PWYLLGOR CRONFA BENSIWN DYFED 15 TACHWEDD 2023 pdf eicon PDF 118 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Bwrdd yr adroddiadau a ystyriwyd gan Bwyllgor Cronfa Bensiwn Dyfed ar 15 Tachwedd, fel y nodwyd yng nghofnodion 4.1- 4.10 isod, er mwyn eu hystyried a gwneud sylwadau arnynt.

 

4.1

ADRODDIAD YNGHYLCH YR ACRCHWILIAD O DDATGIADAU ARIANNOL 2022-23 pdf eicon PDF 195 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Bwrdd Adroddiad ynghylch yr Archwiliad o Ddatganiadau Ariannol 2022-23 ar gyfer Cronfa Bensiwn Dyfed a baratowyd gan Archwilio Cymru sy'n rhoi manylion am y materion sy'n codi o'r archwiliad sy'n ofynnol o dan ISA 2022.

 

Nodwyd mai'r Archwilydd Cyffredinol sy'n gyfrifol am roi barn ynghylch a yw datganiadau ariannol Cronfa Bensiwn Dyfed yn olwg gywir a theg ar ei sefyllfa ariannol ar 31 Mawrth 2023, a'i hincwm a'i gwariant yn ystod y flwyddyn honno. Roedd adroddiad archwilio diamod ynghylch y datganiadau ariannol wedi'i gyhoeddi ac roedd yr adroddiad terfynol wedi cael ei ystyried gan y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu ar 27 Hydref 2023.  

 

Nid oedd Archwilio Cymru wedi dod o hyd i unrhyw gamddatganiadau wedi'u nodi yn y datganiadau ariannol a oedd yn dal heb eu cywiro. Roedd nifer o fân wallau cyflwyno yn y datganiadau ariannol drafft wedi'u cywiro gan y rheolwyr.

 

CYTUNWYD bod yr Adroddiad ynghylch yr Archwiliad o Ddatganiadau Ariannol 2022–23 yn cael ei dderbyn. 

 

 

4.2

ADRODDIAD BWRDD PENSIWN CRONFA BENSIWN DYFED - 25 HYDREF 2023 pdf eicon PDF 197 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Bwrdd adroddiad gan y Cadeirydd Annibynnol, a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf o gyfarfod y Bwrdd Pensiwn ar 25 Hydref, 2023.  Yr eitemau a drafodwyd oedd y Datganiad Cyfrifon Cyn-Archwilio, Monitro'r Gyllideb, Diweddariad ar Weinyddu Pensiynau, y Gofrestr Risg, Dyraniad Asedau Strategol, Adroddiad Ymgysylltu Robeco a Benthyca Gwarantau Northern Trust.

 

CYTUNWYD bod Adroddiad Bwrdd Pensiwn Cronfa Bensiwn Dyfed ar 25 Hydref, 2023 yn cael ei nodi. 

 

4.3

MONITRO CYLLIDEB 1 EBRILL 2023 - 30 MEDI 2023 pdf eicon PDF 199 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Bwrdd ystyriaeth i adroddiad Monitro Cyllideb Cronfa Bensiwn Dyfed a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa gyllidebol ddiweddaraf am y cyfnod 1  Ebrill 2023 - 30  Medi 2023.  Cafodd y Pwyllgor wybod am danwariant o'i gymharu â chyllideb o £1.6m.

 

CYTUNWYD bod yr adroddiad yn cael ei nodi. 

 

4.4

CYSONI ARIAN PAROD FEL YR OEDD AR 30 MEDI 2023 pdf eicon PDF 191 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Bwrdd ystyriaeth i adroddiad Monitro Cyllideb Cronfa Bensiwn Dyfed a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa gyllidebol ddiweddaraf am y cyfnod 1  Ebrill 2023 - 30  Medi 2023.  Cafodd y Pwyllgor wybod am danwariant o'i gymharu â chyllideb o £1.6m.

 

CYTUNWYD bod yr adroddiad yn cael ei nodi. 

 

4.5

ADRODDIAD GWEINYDDU PENSIYNAU pdf eicon PDF 183 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Bwrdd adroddiad a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am Weinyddu Pensiynau. 

 

Roedd y Rheolwr Pensiynau wedi rhoi diweddariad ar y gweithgareddau yn y gwasanaeth Gweinyddu Pensiynau ac roedd yn cynnwys materion rheoleiddiol, y gofrestr torri amodau, I-Connect, cysoniad GMP a llif gwaith.

 

Mewn ymateb i ymholiad, dywedodd y Rheolwr Pensiynau fod amserlen gyfreithiol o ran cyflwyno'r dangosfwrdd pensiwn. Y dyddiad targed o ran gweithredu yw 30 Medi, 2025.  Roedd goblygiadau o ran adnoddau ac mae adroddiad y swyddog dirprwyedig wedi'i gyflwyno i'r Swyddog Monitro Adran 151 i'w ystyried.

 

CYTUNWYD bod yr Adroddiad Gweinyddu Pensiynau mewn perthynas â Chronfa Bensiwn Dyfed yn cael ei nodi. 

 

4.6

ADRODDIAD TORRI AMODAU pdf eicon PDF 196 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Bwrdd yr Adroddiad Torri Amodau, mewn perthynas â Chronfa Bensiwn Dyfed, i'w ystyried. Nodwyd bod Adran 70 o Ddeddf Pensiynau 2004 yn pennu'r ddyletswydd gyfreithiol i roi gwybod am achosion o dorri'r gyfraith. Mae Côd Ymarfer rhif 14, paragraffau 241 i 275, a gyhoeddwyd gan y Rheoleiddiwr Pensiynau ym mis Ebrill 2015, yn rhoi cyfarwyddyd ynghylch riportio'r achosion hyn o dorri'r gyfraith.

 

Fel y dwedwyd eisoes wrth y Pwyllgor, roedd Cyflogwr wedi methu'n rheolaidd dalu'r cyfraniadau gofynnol i'r Gronfa, ac amcangyfrifwyd bod £7,230.56 yn ddyledus. Rhoddwyd gwybod am hyn i'r Rheoleiddiwr Pensiynau ac mae'r Cyflogwr bellach wedi mynd i ddwylo'r gweinyddwyr.

 

CYTUNWYD bod yr Adroddiad Torri Amodau mewn perthynas â Chronfa Bensiwn Dyfed yn cael ei nodi. 

 

4.7

COFRESTRE RISG pdf eicon PDF 183 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Bwrdd adroddiad i'w ystyried a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y Gofrestr Risg. 

 

Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod y Gofrestr Risg yn ddogfen waith sy'n tynnu sylw at yr holl risgiau a nodwyd mewn perthynas â swyddogaethau Cronfa Bensiwn Dyfed.  Nodwyd bod y gofrestr yn cynnwys manylion yr holl risgiau a nodwyd; asesiad o'r effaith bosibl, y tebygolrwydd a'r statws risg; y mesurau rheoli risg sydd ar waith; y swyddog cyfrifol a'r dyddiad targed (os yw'n berthnasol).

 

Dywedwyd wrth y Pwyllgor fod y gofrestr risg yn cael ei monitro a'i hadolygu'n rheolaidd i sicrhau bod risgiau wedi cael eu nodi a'u hasesu. Dywedwyd nad oedd unrhyw newidiadau ers cyfarfod blaenorol y pwyllgor. 

 

Mewn ymateb i ymholiad, rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod staff yn cael hyfforddiant perthnasol, gan ennill cymwysterau i sicrhau eu bod yn fedrus yn eu meysydd gwaith, sy'n darparu parhad o ran gwaith.  Pe bai aelod o staff yn gadael, byddai angen hyfforddiant, gan wneud hyn yn risg ganolig.

 

Cytunwyd bod adroddiad y gofrestr risg yn cael ei nodi. 

 

4.8

CYNLLUN HYFFORDDI 2023-2024 pdf eicon PDF 181 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Bwrdd Gynllun Hyfforddi Cronfa Bensiwn Dyfed ar gyfer 2023-2024, a oedd yn darparu manylion am gyfarfodydd, digwyddiadau hyfforddi a'r aelodau a'r swyddogion y rhagwelwyd y byddent yn mynychu'r digwyddiadau.

 

CYTUNWYD bod Cynllun Hyfforddi Cronfa Bensiwn Dyfed ar gyfer 2023/24 yn cael ei nodi.

 

4.9

DIWEDDARIAD PARTNERIAETH PENSIWN CYMRU (PPC) pdf eicon PDF 200 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Bwrdd yn ystyried y wybodaeth ddiweddaraf am weithgareddau a chynnydd Partneriaeth Pensiwn Cymru gan gynnwys gwaith sydd wedi'i gwblhau ers cyfarfod diwethaf y Cyd-bwyllgor Llywodraethu a chamau nesaf/blaenoriaethau Partneriaeth Pensiwn Cymru. 

 

Codwyd yr arsylwadau/ymholiadau canlynol ynghylch yr adroddiad ac ymatebwyd iddynt:-

 

·       Mewn ymateb i ymholiad, nododd Rheolwr y Trysorlys a Buddsoddiadau Pensiwn fod cronfa Partneriaeth Pensiwn Cymru ar hyn o bryd yn y 4edd safle ganraddol yn nhabl cynghrair y gronfa bensiwn dros 30mlynedd ond byddai'n anodd cymharu'r gronfa sy'n rhoi'r adenillion gorau, gan fod yr holl gronfeydd yn wahanol.

 

·Nodwyd y byddai'r Dyraniad Asedau Strategol yn cael ei drafod yn y cyfarfod nesaf.      

 

CYTUNWYD bod y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch Partneriaeth Pensiwn Cymru yn cael ei nodi.

 

4.10

COFNODION DRAFFT CYFARFOD Y PWYLLGOR PENSIWN 15 TACHWEDD 2023 pdf eicon PDF 109 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

5.

MONITRO CYLLIDEB Y BWRDD PENSIWN 1 EBRILL 2023 - 31 RHAGFYR 2023 pdf eicon PDF 100 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Bwrdd adroddiad Monitro Cyllideb y Bwrdd Pensiwn fel yr oedd ar 31 Rhagfyr 2023.  Cyfanswm y gwariant gwirioneddol oedd £17.5k.  Y gwariant a ragwelwyd ar gyfer y flwyddyn oedd £1.9k o danwariant o gymharu â'r gyllideb.

 

CYTUNWYD bod yr adroddiad yn cael ei nodi.

 

6.

CYLLIDEB Y BWRDD PENSIWN 2024-25 pdf eicon PDF 108 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Bwrdd ystyriaeth i Gyllideb Cronfa Bensiwn Dyfed ar gyfer 2024-25 a oedd yn unol â'r gyllideb ar gyfer 2023-24.

 

Nodir bod cyllideb ar gael ar gyfer hyfforddiant a theithio.

 

CYTUNWYD bod y Gyllideb ar gyfer 2024-25 yn cael ei chymeradwyo. 

 

7.

CYNLLUN GWAITH Y BWRDD PENSIWN 2024 pdf eicon PDF 98 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Bwrdd yn ystyried Cynllun Gwaith y Bwrdd Pensiwn ar gyfer 2024 a oedd yn amlinellu gwaith arfaethedig y Bwrdd Pensiwn a'r eitemau i'w cyflwyno ym mhob cyfarfod.

 

Nodwyd bod dyddiadau wedi'u darparu yn y cynllun.

 

CYTUNWYD bod Cynllun Gwaith y Bwrdd Pensiwn ar gyfer 2024 yn cael ei nodi.

 

8.

GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD

NI DDYLID CYHOEDDI’R ADRODDIAD SY’N YMWNEUD Â’R MATERION CANLYNOL GAN EU BOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y’I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 14 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y’I DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007. OS BYDD Y PWYLLGOR AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD YN PENDERFYNU YN UNOL Â’R DDEDDF, I YSTYRIED Y MATER HYN YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I’R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O’R FATH.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i newidiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod tra oedd yr eitemau canlynol yn cael eu hystyried, gan fod yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.  Gan ei fod yn ymwneud â gwybodaeth ynghylch materion ariannol neu fusnes unrhyw berson penodol (gan gynnwys yr Awdurdod sy'n cadw'r wybodaeth honno.

 

9.

ADRODDIAD YMYSYLLTU ROBECO 1 EBRILL 2023 - 30 MEHEFIN 2023

Cofnodion:

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 8 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn cael effaith andwyol ar y Gronfa Bensiwn drwy beryglu perfformiad buddsoddi.

 

Bu'r Bwrdd yn ystyried Adroddiad Ymgysylltu Robeco ar gyfer y cyfnod 1 Ebrill 2023 – 30 Mehefin 2023.    

 

CYTUNWYD bod yr adroddiad yn cael ei nodi.

 

10.

ADOLYGIAD BENTHYCA GWARANNAU BYD-EANG HYD AR 30 MEHEFIN 2023

Cofnodion:

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 8 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn cael effaith andwyol ar y Gronfa Bensiwn drwy beryglu perfformiad buddsoddi.

 

Bu'r Bwrdd yn ystyried adroddiad a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am fenthyca stoc yn ystod chwarter 2, fel yr oedd ar 30 Mehefin, 2023.

 

CYTUNOD bod Adolygiad Benthyca Global Securities fel yr oeddar 30 Mehefin, 2023 yn cael ei nodi.

 

11.

ADRODDIAD PERFFORMIAD A RISG YMGYNGHORYDD BUDDSODDI ANNIBYNNOL 30 MEDI 2023

Cofnodion:

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 8 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn cael effaith andwyol ar y Gronfa Bensiwn drwy beryglu perfformiad buddsoddi.

 

Ystyriodd y Bwrdd Adroddiad yr Ymgynghorydd Buddsoddi Annibynnol ar Berfformiad a Risg, a roddai fanylion mewn perthynas â pherfformiad y Rheolwyr Buddsoddi ar gyfer pob chwarter, pob 12 mis a chyfnodau treigl o 3 blynedd, gan ddod i ben ar 30 Medi 2023. Roedd yr adroddiad hefyd yn cynnwys cefndir y farchnad fyd-eang a materion i'r bwrdd pensiwn eu hystyried.

 

CYTUNWYD bod yr adroddiad Perfformiad a Risg gan yr Ymgynghorydd Annibynnol fel yr oedd ar 30 Medi, 2023 yn cael ei nodi.

 

 

12.

ADRODDIAD PERFFORMIAD NORTHERN TRUST 30 MEDI 2023

Cofnodion:

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 8 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn cael effaith andwyol ar y Gronfa Bensiwn drwy beryglu perfformiad buddsoddi.

 

Bu'r Bwrdd yn ystyried adroddiad Perfformiad Northern Trust a oedd yn nodi perfformiad Cronfa Bensiwn Dyfed fel yr oedd ar 30 Medi, 2023.  Roedd yr adroddiad yn darparu dadansoddiad perfformiad ar lefel cronfa gyfan a chan y Rheolwr Buddsoddi am y cyfnodau hyd at y cychwyn.

.

CYTUNWYD bod Adroddiad Perfformiad Northern Trust fel yr oedd ar 30 Medi 2023 yn cael ei nodi.

 

13.

ADRODDIADAU'R RHEOLWR BUDDSODDI AR 30 MEDI 2023

Cofnodion:

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 8 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn cael effaith andwyol ar y Gronfa Bensiwn drwy beryglu perfformiad buddsoddi.

 

Bu'r Bwrdd yn ystyried adroddiad a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am berfformiad y Rheolwr Buddsoddi fel yr oedd ar 30 Medi, 2023.   

 

CYTUNWYD bod adroddiadau'r Rheolwr Buddsoddi fel yr oeddent ar 30 Medi 2023 yn cael eu nodi.