Agenda a chofnodion drafft

RCT, Hybrid, Cydbwyllgor Llywodraethu Partneriaeth Pensiwn Cymru - Dydd Mercher, 20fed Medi, 2023 10.00 yb

Lleoliad: Chamber, Rhondda Cynon Taf - Rhondda Cynon Taf, The Pavilions, Clydach Vale, Tonypandy, CF40 2XX. Cyfarwyddiadau

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Cofnodion:

Ni chafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb.

2.

DATGANIADAU O FUDDIANT

Cofnodion:

Aelod

Rhif yr Eitem ar yr Agenda

Buddiant

Cyng. M. Lewis

Pob eitem ar yr agenda

Ef a'i wraig yn aelodau o Gronfa Bensiwn Abertawe.

Cyng. S. Churchman

Pob eitem ar yr agenda

Mae'n aelod o Gronfa Bensiwn Gwynedd Fwyaf

Cyng. P. Lewis

Pob eitem ar yr agenda

Mae'n aelod o Gronfa Bensiwn Powys

Cyng. N. Yeowell

Pob eitem ar yr agenda

Aelod o Gronfa Bensiwn Gwent Fwyaf

Cyng. M. Norris

Pob eitem ar yr agenda

Mae'n aelod o Gronfa Bensiwn Rhondda Cynon Taf

Cyng. T. Palmer

Pob eitem ar yr agenda

Mae e, ei bartner a'i ferch yn aelodau o Gronfa Bensiwn Clwyd

Cyng. E. Williams

Pob eitem ar yr agenda

Mae'n aelod o Gronfa Bensiwn Dyfed

Cyng. C. Weaver

Pob eitem ar yr agenda

Mae'n aelod o Gronfa Bensiwn Caerdydd a Bro Morgannwg

 

 

[Sylwer: Ceir eithriad yn y Côd Ymddygiad ar gyfer Aelodau, sy'n caniatáu i aelod a benodwyd neu a enwebwyd gan ei awdurdod i gorff perthnasol ddatgan y buddiant hwnnw ond aros a chymryd rhan yn y cyfarfod.]

3.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION CYFARFOD Y CYD-BWYLLGOR A GYNHALIWYD AR 19EG GORFFENNAF, 2023. pdf eicon PDF 137 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion y cyfarfod y Cyd-bwyllgor Llywodraethu a gynhaliwyd ar 19 Gorffennaf  2023, gan eu bod yn gofnod cywir.

4.

Y WYBODAETH DDIWEDDARAF GAN YR AWDURDOD LLETYA pdf eicon PDF 165 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

(NODER: Roedd y Cynghorwyr S. Churchman, M. Lewis, P. Lewis, M. Norris, T. Palmer, C. Weaver, E. Williams ac N. Yeowell wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach)

 

Cafodd y Cyd-bwyllgor ddiweddariad cynnydd mewn perthynas â'r meysydd allweddol canlynol:

 

-          Llywodraethu;

-          Sefydlu Parhaus;

-          Gwasanaethau gweithredwyr;

-          Cyfathrebu ac adrodd;

-          Hyfforddiant a chyfarfodydd;

-       Adnoddau, Cyllideb a ffioedd.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod diweddariad yr Awdurdod Cynnal yn cael ei dderbyn.

5.

ADOLYGIAD COFRESTR RISG CHWARTER 3 2023 pdf eicon PDF 154 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

(NODER: Roedd y Cynghorwyr S. Churchman, M. Lewis, P. Lewis, M. Norris, T. Palmer, C. Weaver, E. Williams ac N. Yeowell wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach)

 

Ystyriodd y Cyd-bwyllgor Adolygiad Cofrestr Risg Ch3 2023. Dywedwyd wrth yr Aelodau mai pwrpas Cofrestr Risg Partneriaeth Pensiwn Cymru yw:

·       Amlinellu prif risgiau a ffactorau Partneriaeth Pensiwn Cymru a allai gyfyngu ar ei gallu i gyflawni ei hamcanion

·       Mesur difrifoldeb a thebygolrwydd y risg sy'n wynebuPartneriaeth Pensiwn Cymru

·       Crynhoi strategaethau rheoli risg Partneriaeth Pensiwn Cymru.

·       Monitro arwyddocâd parhaus y risgiau hyn a'r gofyniad am fwy o strategaethau lliniaru risg.

 

Nodwyd, yn ystod y chwarter blaenorol, fod y Gweithgor Swyddogion wedi cynnal adolygiad o'r Risgiau Hyfforddiant ac Adnoddau a Chyfathrebu ac roedd yr adroddiad yn manylu ar ganlyniad yr adolygiad ar gyfer pob un o'r risgiau a nodwyd.

Dywedwyd wrth yr Aelodau hefyd y byddai'r adolygiad nesaf a gynhelir yn Ch4 2023 yn canolbwyntio ar Risgiau yr Adran Fuddsoddi.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo'r newidiadau i Gofrestr Risg Partneriaeth Pensiwn Cymru, fel y nodwyd yn yr adroddiad.

6.

POLISIAU/CYNLLUNIAU NEWYDD: POLISI TORIADAU A CHAMGYMERIADAU pdf eicon PDF 144 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

(NODER: Roedd y Cynghorwyr S. Churchman, M. Lewis, P. Lewis, M. Norris, T. Palmer, C. Weaver, E. Williams ac N. Yeowell wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach)

 

Bu'r Cyd-bwyllgor yn ystyried Polisi Tramgwyddau a Gwallau a ddatblygwyd ar gyfer Partneriaeth Pensiwn Cymru a oedd yn manylu ar y polisi a'r gweithdrefnau ar gyfer nodi, rheoli a, lle bo angen, adrodd am achosion o dorri'r gyfraith yn unol ag Adran 70 o Ddeddf Pensiynau 2004.

 

Nodwyd bod y polisi yn berthnasol i aelodau etholedig a swyddogion a oedd yn ymgymryd â dyletswyddau mewn perthynas â Phartneriaeth Pensiwn Cymru, yn ogystal ag aelodau byrddau pensiwn lleol yr awdurdodau cyfansoddol yr oedd Bartneriaeth yn ymgysylltu â hwy. Roedd y polisi yn nodi cyfrifoldebau'r grwpiau hynny o ran nodi, rheoli a, lle bo angen, adrodd am achosion o dorri'r gyfraith wrth iddynt gael eu cymhwyso i lywodraethu, rheoli a gweinyddu Partneriaeth Pensiwn Cymru.

 

Nododd yr aelodau hefyd y byddai'r polisi'n cael ei adolygu'n ffurfiol gan y Gweithgor Swyddogion bob tair blynedd a byddai unrhyw newidiadau i'r polisi yn cael eu cyflwyno i'r Gr?p Cyd-lywodraethu er mwyn eu cymeradwyo.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo Polisi Tramgwyddau a Gwallau Partneriaeth Pensiwn Cymru.

7.

DIWEDDARIAD GAN Y GWEITHREDWR - ADOLYGIAD Ch2 2023 pdf eicon PDF 153 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

(NODER: Y Cynghorwyr S. Churchman, M. Lewis, P. Lewis, M. Norris, T. Palmer, C. Weaver, E. Williams ac N. Yeowell wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach)

 

Cafodd y Cyd-bwyllgor gyflwyniad gan Link Fund Solution ar gynnydd Partneriaeth Pensiwn Cymru mewn perthynas â Chwarter 2 (Ebrill - Mehefin), 2023 o ran y meysydd allweddol canlynol:

 

·       Diweddariadau ynghylch y Farchnad

·       Daliannau Cyfredol y Gronfa

·       Is-Gronfa a Mentrau Eraill

·       Diweddariad ac Ymgysylltiad Corfforaethol

 

Roedd yr adroddiad hefyd yn cynnwys manylion yn ymwneud â'r canlynol :-

·       caffaeliad arfaethedig Link Fund Solutions gan y Waystone Group gyda dyddiad cwblhau disgwyliedig ar 9Hydref 2023

·       Crynodeb o'r Asedau sy'n cael eu rheoli fel yr oedd ar 30 Mehefin 2023

·       Newidiadau i'r Gronfa Credyd Byd-eang, y Gronfa Ecwitïau Cynaliadwy a'r Gronfa Twf Byd-eang

·       Mentrau sy'n ymwneud â'r pecyn Gwybodaeth Rheoli ac adroddiadau ar Gyd-achosion

·       Diweddariadau marchnad mewn perthynas â Rwsia / Wcráin a'r Buddsoddiadau a Yrrir gan Atebolrwydd

 

PENDERFYNODD YN UNFRYDOL dderbyn y Diweddariad gan y Gweithredwr.

8.

ADRODDIADAU PERFFORMIAD FEL AR 30 MEHEFIN 2023 pdf eicon PDF 165 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

(NODER: Y Cynghorwyr S. Churchman, M. Lewis, P. Lewis, M. Norris, T. Palmer, C. Weaver, E. Williams ac N. Yeowell wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach)

 

Derbyniodd y Cyd-bwyllgor gyflwyniad ar yr Adroddiadau Perfformiad fel yr oeddent ar  30 Mehefin:, 2023. Dywedwyd wrth yr Aelodau bod yr is-gronfeydd wedi perfformio'n uwch/ tanberfformio eu meincnodau priodol, fel a ganlyn:

 

 

·       Cyfleoedd Byd-eang - wedi perfformio 1.16% gros / 0.83% net yn well

·       Twf Byd-eang - tanberfformiad o 0.76% gros / 1.18% net

·       Marchnadoedd Datblygol – tanberfformiad o 0.94% gros / 1.39% net  

·       Cyfleoedd y DU – tanberfformiad o 0.48% gros / 0.87% net

·       Bond Llywodraeth Fyd-eang  - wedi perfformio o 2.35% gros / 2.11% net yn well

·       Credyd Byd-eang  - tanberfformiad o 0.17% gros / 0.34% net

 

Nid oedd y Gronfa Credyd Aml-Asedau, y Cronfa Bond Elw Absoliwt wedi cyrraedd eu targedau ac roedd Cronfa Credyd y DU wedi rhagori ar ei tharged.

 

PENDERFYNWYD y dylid cymeradwyo Adroddiadau Perfformiad yr is-gronfeydd canlynol fel yr oeddent ar  30  Mehefin 2023:

 

8.1          Cronfa Ecwiti Cyfleoedd Byd-eang;

8.2          Cronfa Ecwiti Twf Byd-eang;

8.3          Cronfa Ecwiti Marchnadoedd Datblygol;

8.4          Cronfa Ecwiti Cyfleoedd y DU;

8.5          Cronfa Bond Llywodraeth Fyd-eang;

8.6         Cronfa Credyd Byd-eang;

8.7          Cronfa Credyd Aml-asedau;

8.8     Cronfa Strategaeth Bond Elw Absoliwt;

8.9          Cronfa Credyd y DU.

9.

GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD

NI DDYLID CYHOEDDI’R ADRODDIADAU SY’N YMWNEUD Â’R MATERION CANLYNOL GAN EU BOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y’I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 14 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y’I DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007. OS BYDD Y CYD-BWYLLGOR AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD YN PENDERFYNU YN UNOL Â’R DDEDDF, I YSTYRIED Y MATERION HYN YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I’R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O’R FATH.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i newidiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod tra oedd yr eitem ganlynol yn cael ei hystyried, gan fod yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.

10.

ADOLYGIAD BENTHYCA GWARANNAU BYD-EANG HYD AT 30 MEHEFIN 2023

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

(NODER: Y Cynghorwyr S. Churchman, M. Lewis, P. Lewis, M. Norris, T. Palmer, C. Weaver, E. Williams ac N. Yeowell wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach)

 

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 9 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn debygol o achosi niwed ariannol i'r Gronfa Bensiwn ac o niweidio trafodaethau parhaus a thrafodaethau'r dyfodol.

  

Derbyniodd y Cyd-bwyllgor adroddiad ar Berthynas Benthyca ac Adolygiad Perfformiad Global Securities ar gyfer y chwarter a ddaeth i ben ar 30 Mehefin 2023.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi Adolygiad Benthyca Global Securties fel yr oedd ar 30  Mis Mehefin, 2023.

11.

GWASANAETH YMGYSYLLTU ROBECO - ADRODDIAD YMGYSYLLTU Ch2 2023

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

(NODER: Y Cynghorwyr S. Churchman, M. Lewis, P. Lewis, M. Norris, T. Palmer, C. Weaver, E. Williams ac N. Yeowell wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach)

 

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 9 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn debygol o achosi niwed ariannol i'r Gronfa Bensiwn ac o niweidio trafodaethau parhaus a thrafodaethau'r dyfodol.

 

Derbyniodd y Cyd-bwyllgor yr Adroddiad Ymgysylltu ar gyfer Ch2 2023.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r Adroddiad Ymgysylltu ar gyfer Ch2 2023.

12.

ADRODDIADAU BUDDSODDI CYFRIFOL A RISG HINSAWDD

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

(NODER: Y Cynghorwyr S. Churchman, M. Lewis, P. Lewis, M. Norris, T. Palmer, C. Weaver, E. Williams ac N. Yeowell wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach)

 

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 9 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn debygol o achosi niwed ariannol i'r Gronfa Bensiwn ac o niweidio trafodaethau parhaus a thrafodaethau'r dyfodol.

 

Cafodd y Cyd-Is-bwyllgor adroddiad am Adroddiadau Buddsoddi Cyfrifol a Risg Hinsawdd ar gyfer yr is-gronfeydd canlynol:-

 

·       Bond Elw Absoliwt

·       Credyd Aml-asedau

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r Adroddiadau Buddsoddi Cyfrifol a Risg Hinsawdd.

13.

IS-GRONFA ECWITI CYNALIADWY - ADOLYGIAD TRAWSNEWID

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

(NODER: Y Cynghorwyr S. Churchman, M. Lewis, P. Lewis, M. Norris, T. Palmer, C. Weaver, E. Williams ac N. Yeowell wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach)

 

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 9 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn debygol o achosi niwed ariannol i'r Gronfa Bensiwn ac o niweidio trafodaethau parhaus a thrafodaethau'r dyfodol.

 

Derbyniodd y Cyd-bwyllgor adroddiad ôl-bontio ar lansiad Is-Gronfa Ecwiti Cynaliadwy Partneriaeth Pensiwn Cymru.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi Adroddiad Adolygu Pontio Is-Gronfa Ecwiti Cynaliadwy Partneriaeth Pensiwn Cymru.