Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Cronfa Bensiwn Dyfed - Dydd Mawrth, 28ain Mawrth, 2023 10.00 yb

Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Martin S. Davies  01267 224059

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb. 

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant personol.

 

3.

COFNODION CYFARFOD Y PWYLLGOR A GYNHALIWYD AR 23AIN TACHWEDD 2023 pdf eicon PDF 109 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 23  Tachwedd  2022 yn gywir. 

 

4.

COFNODION BWRDD PENSIWN CRONFA BENSIWN DYFED 18 HYDREF 2022 pdf eicon PDF 102 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod cofnodion cyfarfod Bwrdd Pensiwn Cronfa Bensiwn Dyfed ar 18 Hydref, 2022 yn cael eu derbyn. 

 

5.

CYNLLUN ARCHWILIO AMLINELLOL 2023 pdf eicon PDF 109 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Croesawyd y Pwyllgor i'r cyfarfod Jason Blewitt o Archwilio Cymru a gyflwynodd Gynllun Archwilio Amlinellol 2023 ar gyfer Cronfa Bensiwn Dyfed a oedd yn manylu ar y canlynol:

 

• Cyfrifoldebau archwilio;

• Ffioedd a'r tîm archwilio;

• Llinell amser archwilio;

• Ansawdd archwilio;

• Newidiadau allweddol i ISA315 a'r effaith bosibl ar y Gronfa.

 

Mewn diweddariad i'r adroddiad a ddosbarthwyd, rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor mai'r dyddiad cau ar gyfer cymeradwyo cyfrifon wedi'u harchwilio ar gyfer 2022/23 yw 30 Tachwedd 2023 oherwydd pwysau adnoddau yn Archwilio Cymru, ond roedd ymrwymiad i osod y dyddiad cau hwnnw'n gynharach dros y blynyddoedd sydd i ddod. Yn ogystal, yn dilyn ymgynghoriad ar ffioedd, byddai cynnydd o 4.8% mewn ffioedd ar gyfer rhai archwiliadau ariannol a pherfformiad a chynnydd o 10.2% ar gyfer gwaith archwilio ariannol ISA 315 gan arwain at gynnydd o 15% yn gyffredinol o'r elfen archwilio ariannol o'r ffi. Byddai llythyrau sy'n manylu ar y cynnydd yn cael eu hanfon i bob Swyddog Adran 151 cyn bo hir.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo Cynllun Archwilio Amlinellol 2023. 

 

 

6.

MONITRO CYLLIDEB 1 EBRILL 2022 - 31 RHAGFYR 2022 pdf eicon PDF 125 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniodd y Pwyllgor Adroddiad Monitro Cronfa Bensiwn Dyfed a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa gyllidebol o ran blwyddyn ariannol 2022/23.Nodwyd bod y sefyllfa bresennol, fel yr oedd ar 31 Rhagfyr 2022, yn rhagweld tanwariant o £6.9m o ran arian parod.

 

Rhagwelwyd y byddai gorwariant o £1m. Rhagwelwyd y byddai budd-daliadau sy'n daladwy yn £1.4m yn uwch na'r gyllideb a rhagwelwyd y byddai treuliau rheoli £714k yn is na'r gyllideb.

 

O ran incwm, roedd effaith net cyfraniadau ac incwm buddsoddi yn dangos cynnydd o £7.9m, yn bennaf o ganlyniad i ragweld incwm buddsoddi uwch na'r hyn roeddid wedi cyllidebu ar ei gyfer. 

 

Amcangyfrifwyd mai cyfanswm y gwariant cyffredinol oedd £108.8m ac mai cyfanswm yr incwm oedd £115.7m, gan arwain i sefyllfa llif arian gadarnhaol o £6.9m.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn Adroddiad Monitro Cyllideb terfynol Cronfa Bensiwn Dyfed ar gyfer y cyfnod 1 Ebrill 2022 i 31 Rhagfyr 2022.

 

7.

CYLLIDEB CRONFA BENSIWN DYFED 2023-2024 pdf eicon PDF 118 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried Cyllideb Cronfa Bensiwn Dyfed ar gyfer 2023-24.  Nodwyd bod y gwariant arian parod cysylltiedig ar gyfer 2023-24 a oedd wedi'i bennu ar £122.8m a'r incwm arian parod cysylltiedig o £122.8m wedi arwain at gyllideb net o £0 a oedd yn rhoi hyblygrwydd i'r Gronfa ddefnyddio incwm buddsoddi ar sail gofynion llif arian.

 

O ran lefelau gwariant, nododd y Pwyllgor fod y buddion sydd i'w talu wedi cael eu hamcangyfrif i fod yn £108.9m a oedd yn cynnwys darpariaeth ar gyfer cynnydd o 10.1% yn y pensiynau, ar sail Mynegai Prisiau Defnyddiwr mis Medi 2022, ynghyd ag effaith net o 2.5% ar gyfer aelodau newydd y pensiwn ac aelodau gohiriedig.

 

Amcangyfrifwyd bod treuliau rheoli yn £10.2m, ac o blith hwn roedd £7.95m wedi cael ei glustnodi ar gyfer ffioedd rheolwyr buddsoddi. 

 

Nodwyd yr amcangyfrifwyd bod incwm ar fuddsoddiadau yn £24.2m i gynnal cyllideb ariannol niwtral er mwyn sicrhau nad oedd y gyllid yn dal unrhyw arian dros ben y gellid ei fuddsoddi.

 

Roedd y gyllideb gysylltiedig ar gyfer eitemau nad ydynt yn rhai arian parod  wedi'i gosod ar £50m ar sail amcangyfrif yr enillion a'r colledion a gafwyd o ran portffolios rheolwyr unigol a gwerthiannau a phryniannau o fewn y portffolios eiddo.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn Cyllideb Cronfa Bensiwn Dyfed ar gyfer 2023-24. 

 

8.

CYSONI ARIAN PAROD FEL YR OEDD AR 31 RHAGFYR 2022 pdf eicon PDF 101 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried yr adroddiad Cysoni Arian Parod a roddai'r wybodaeth ddiweddaraf am sefyllfa ariannol Cronfa Bensiwn Dyfed. 

 

Nodwyd ar 31 Rhagfyr, 2022 fod Cyngor Sir Caerfyrddin yn cadw £3.2m o arian parod ar ran y Gronfa ar gyfer gofynion llif arian uniongyrchol i dalu pensiynau, cyfandaliadau a chostau rheoli buddsoddiadau.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn adroddiad Cysoni Arian Parod Cronfa Bensiwn Dyfed.  

 

9.

ADRODDIAD GWEINYDDU PENSIYNAU pdf eicon PDF 110 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniodd y Pwyllgor adroddiad a roddai ddiweddariad ar Weinyddu Pensiynau. Roedd yr adroddiad yn cynnwys diweddariadau ar y gweithgareddau yn y gwasanaeth Gweinyddu Pensiynau ac roedd yn cynnwys materion rheoleiddiol, y gofrestr torri amodau, i-Connect, cysoniad GMP adroddiadau Ansawdd Data a llif gwaith.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi’r Adroddiad Gweinyddu Pensiynau mewn perthynas â Chronfa Bensiwn Dyfed.  

 

10.

ADRODDIAD TORRI AMODAU 2022-2023 pdf eicon PDF 112 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor Adroddiad Torri Amodau, mewn perthynas â Chronfa Bensiwn Dyfed, i'w ystyried. Nodwyd bod Adran 70 o Ddeddf Pensiynau 2004 yn pennu'r ddyletswydd gyfreithiol i riportio achosion o dorri'r gyfraith. Mae Côd Ymarfer rhif 14, paragraffau 241 i 275, a gyhoeddwyd gan y Rheoleiddiwr Pensiynau ym mis Ebrill 2015, yn rhoi cyfarwyddyd ynghylch riportio'r achosion hyn o dorri'r gyfraith.

 

Cafodd Polisi Torri Amodau Cronfa Bensiwn Dyfed ei gymeradwyo gan Banel Cronfa Bensiwn Dyfed ym mis Mawrth 2016. O dan y polisi, roedd yn ofynnol i achosion o dorri'r gyfraith gael eu hadrodd i'r Rheoleiddiwr Pensiynau os oes achos rhesymol i gredu'r canlynol:

 

·   na chydymffurfir – neu na chydymffurfiwyd – â dyletswydd gyfreithiol sy'n berthnasol i'r gwaith o weinyddu'r cynllun;

 

·   bod yr anallu i gydymffurfio yn debygol o fod o arwyddocâd sylweddol i'r Rheoleiddiwr wrth iddo arfer unrhyw un o'i swyddogaethau.

 

Nododd y Pwyllgor fod nifer o achosion wedi bod ers y cyfarfod diwethaf lle nad oedd cyfraniadau gweithwyr/cyflogwr wedi'u derbyn ar amser. Byddai adroddiad yn cael ei anfon at y Rheoleiddiwr Pensiynau mewn perthynas â chyflogwr oedd wedi methu taliadau yn rheolaidd ac wedi methu â darparu dogfennau. Roedd £3,433.42 yn ddyledus i'r Gronfa gan y cyflogwr hwn am y cyfnod 1 Medi 2022 – 31 Ionawr 2023.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi’r Adroddiad Torri Amodau mewn perthynas â Chronfa Bensiwn Dyfed.  

 

11.

COFRESTR RISG pdf eicon PDF 111 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod y Gofrestr Risg yn ddogfen waith a oedd yn tynnu sylw at holl risgiau a nodwyd mewn perthynas â swyddogaethau Cronfa Bensiwn Dyfed. Ers cyfarfod blaenorol y Pwyllgor roedd y Gofrestr Risg wedi'i hadolygu ac roedd y ddau risg canlynol wedi'u diwygio:

·       DPFOP0010 (Methiant i ddenu, rheoli, datblygu, a chadw staff ar bob lefel yn briodol) – roedd y risg heb reolaeth wedi'i diweddaru i adlewyrchu risg uchel (a sgoriwyd yn flaenorol fel risg canolig) ac roedd y risg dan reolaeth wedi'i diweddaru i adlewyrchu risg canolig (risg isel cyn hynny). Roedd rheolaeth ychwanegol wedi'i hychwanegu gan ddweud bod polisi recriwtio a chadw Cyngor Sir Caerfyrddin yn cael ei weithredu;

·       DPFOP0017 – roedd natur y risg wedi'i hehangu o fethiant i fodloni terfynau amser statudol gan arwain at gymhwyso'r cyfrifon, i risg ehangach gan gynnwys methu â chynnal papurau gwaith cadarn nad oedd yn rhoi sicrwydd o gywirdeb y cyfrifon. Roedd rheolaeth ychwanegol wedi'i hychwanegu sef presenoldeb mewn hyfforddiant Cyfrifon Cronfa Bensiwn CIPFA ac adolygiad o gyfrifon enghreifftiol Cronfa Bensiwn CIPFA.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo adroddiad y Gofrestr Risg. 

 

12.

DRAFFT DATGANIAD STRATEGAETH ARIANNU pdf eicon PDF 103 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor y Datganiad Strategaeth Ariannu Drafft i'w ystyried, a sefydlodd strategaeth ariannu glir a thryloyw a fyddai'n nodi sut yr oedd rhwymedigaethau pensiwn cyflogwr pob Cronfa i'w bodloni wrth symud ymlaen. Nodwyd yr ymgynghorir â'r holl bartïon sydd â diddordeb mewn cysylltiad â Chronfa Bensiwn Dyfed, a rhoddwyd cyfle iddynt roi sylwadau cyn i'r Datganiad gael ei gwblhau a'i fabwysiadu.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo'r Datganiad Strategaeth Ariannu diweddaraf. 

 

 

13.

CYNLLUN BUSNES 2023-2024 pdf eicon PDF 101 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor Gynllun Busnes Cronfa Bensiwn Dyfed ar gyfer y cyfnod 2023-2024 i'w ystyried, oedd yn manylu ar sut y byddai'r Gronfa yn cyflawni ei nodau ac yn nodi'r cynlluniau o safbwynt marchnata, ariannol a gweithredol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo Cynllun Busnes Partneriaeth Pensiwn Cymru ar gyfer 2023-24.

 

14.

CYNLLUN BUSNES PARTNERIAETH PENSIYNAU CYMRU 2023-2026 pdf eicon PDF 112 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor Gynllun Busnes Partneriaeth Pensiwn Cymru i'w ystyried ar gyfer y cyfnod 2023-2026, yn nodi sut oedd y Gronfa yn mynd i gyflawni ei hamcanion a sicrhau bod adnoddau digonol yn cael eu dyrannu i gyflawni'r amcanion hynny.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn amodol ar gymeradwyaeth gan Gyd-bwyllgor Llywodraethu Partneriaeth Pensiwn Cymru, gymeradwyo Cynllun Busnes Partneriaeth Pensiwn Cymru ar gyfer y cyfnod 2023-26. 

 

15.

PARTNERIAETH PENSIWN CYMRU - DIWEDDARIAD Y GWEITHREDWR pdf eicon PDF 111 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd gynrychiolwyr o'r LINK Group a Russell Investments a gyflwynodd yr adroddiadau diweddaraf am gerrig milltir a chynnydd Partneriaeth Pensiwn Cymru gan gynnwys yr Is-gronfeydd canlynol:-

 

·       Cyfran 1 – Ecwiti Byd-eang

·       Cyfran 2 – Ecwiti'r DU

·       Cyfran 3 – Incwm Sefydlog

·       Cyfran 4 – Marchnadoedd Datblygol

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn y diweddariadau ynghylch cerrig milltir a chynnydd Partneriaeth Pensiwn Cymru.

 

16.

CYNLLUN HYFFORDDI pdf eicon PDF 100 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor y Cynllun Hyfforddi terfynol ar gyfer 2022-2023 a'r Cynllun Hyfforddi newydd ar gyfer 2023-2024 gan manylu ar atodlen cyfarfodydd a digwyddiadau hyfforddi'r Pwyllgor ar gyfer aelodau a swyddogion Cronfa Bensiwn Dyfed.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi Cynllun Hyfforddi 2022-2023 a chymeradwyo Cynllun Hyfforddi 2023-2024.

 

17.

GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD

NI DDYLID CYHOEDDI’R ADRODDIADAU SY’N YMWNEUD Â’R MATERION CANLYNOL GAN EU BOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y’I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 14 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y’I DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007. OS BYDD Y PWYLLGOR AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD YN PENDERFYNU YN UNOL Â’R DDEDDF, I YSTYRIED Y MATER HYN YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I’R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O’R FATH.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i newidiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod tra oedd yr eitemau canlynol yn cael eu hystyried, gan fod yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf. 

 

18.

ADRODDIAD PERFFORMIAD A RISG YMGYNGHORYDD BUDDSODDI ANNIBYNNOL 31 RHAGFYR 2022

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 17 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn debygol o achosi niwed ariannol i'r Gronfa Bensiwn ac o niweidio trafodaethau parhaus a thrafodaethau'r dyfodol.

Ystyriodd y Pwyllgor Adroddiad yr Ymgynghorydd Buddsoddi Annibynnol, a roddai wybodaeth mewn perthynas â pherfformiad y rheolwr buddsoddiadau ar gyfer pob chwarter, pob 12 mis a chyfnodau treigl o 3 blynedd, gan ddod i ben ar 31 Rhagfyr 2022.

 

Roedd yr adroddiad hefyd yn cynnwys cefndir y farchnad fyd-eang a materion i'w hystyried.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

 

18.1 nodi Adroddiad yr Ymgynghorydd Buddsoddi Annibynnol fel yr oedd ar 31 Rhagfyr 2022;

 

18.2 am y rhesymau a nodir yn yr adroddiad, gwerthu £50m o ecwiti o bortffolio goddefol y DU a'i ail-fuddsoddi ym mhortffolio Credyd Byd-eang PPC, a bod awdurdod dirprwyedig yn cael ei roi i Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol i ail-gydbwyso'r portffolio, o fewn rheolau ail-gydbwyso llym, er mwyn sicrhau y gall ail-gydbwyso tactegol llai ddigwydd mewn modd amserol. 

 

19.

ADRODDIAD PERFFORMIAD NORTHERN TRUST 31 RHAGFYR 2022

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 17 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn debygol o achosi niwed ariannol i'r Gronfa Bensiwn ac o niweidio trafodaethau parhaus a thrafodaethau'r dyfodol.

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad perfformiad Northern Trust ar gyfer Cronfa Bensiwn Dyfed fel yr oedd ar 31 Rhagfyr 2022 a oedd yn nodi dadansoddiad o berfformiad o ran lefel y gronfa gyfan a chan y rheolwr buddsoddi am y cyfnodau ers i'r gronfa gychwyn.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn adroddiad perfformiad Northern Trust ar gyfer Cronfa Bensiwn Dyfed fel yr oedd ar 31 Rhagfyr 2022.

 

20.

ADRODDIADAU'R RHEOLWR BUDDSODDI AR 31 RHAGFYR 2022.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 17 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn debygol o achosi niwed ariannol i'r Gronfa Bensiwn ac o niweidio trafodaethau parhaus a thrafodaethau'r dyfodol.

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i adroddiadau rheolwyr buddsoddi a oedd yn nodi perfformiad pob rheolwr fel yr oeddent ar 31 Rhagfyr 2022. 

 

·       BlackRock - Adroddiad Chwarterol 31 Rhagfyr 2022;

·       Schroders - Adroddiad Buddsoddi Ch4 2022;

·       Partners Group - Adroddiad Chwarterol Ch4;

·       Cronfa Tyfu Byd-eang Partneriaeth Pensiwn Cymru - 31 Rhagfyr 2022;

·       Cronfa Credyd Byd-eang Partneriaeth Pensiwn Cymru - 31 Rhagfyr 2022.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn adroddiadau'r rheolwr buddsoddi ar gyfer Cronfa Bensiwn Dyfed.