Lleoliad: Y Llwyfan, Heol y Coleg, Caerfyrddin. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Jessica Laimann 01267 224178
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorydd Emlyn Dole (Cyngor Sir Caerfyrddin), y Cynghorydd Rosemarie Harris (Cyngor Sir Powys), y Cynghorydd Rob Stewart (Cyngor Abertawe), Mr. Phil Roberts (Cyngor Abertawe), Mark James (Cyngor Sir Caerfyrddin), a Mr. Mark Campion (ESTYN).
Croesawodd y Cadeirydd Ms Caroline Turner (Cyngor Sir Powys) i'r Cyd-bwyllgor.
|
|
DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol yn y cyfarfod.
|
|
CYNLLUN BUSNES 2019-2020 PDF 131 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ystyriodd y Cyd-bwyllgor y Cynllun Busnes ar gyfer 2019-20, a oedd yn amlinellu'r rhaniad swyddogaethau rhwng y tair haen yn y system ranbarthol - Rhanbarth, Is-ranbarth/Awdurdod Lleol ac Ysgolion.
Cynghorwyd y Cyd-bwyllgor bod dwy brif ran i'r Cynllun Busnes. Roedd y tudalennau pinc yn amlinellu'r prif waith sy'n gysylltiedig â nodau ERW, gan gynnwys y cwricwlwm newydd ar gyfer Cymru, sgiliau'r gweithlu, datblygu arweinwyr, ysgolion cryf a chynhwysol a chefnogi system sy'n gwella ei hun. Dilynwyd hyn gan gynlluniau gweithredol rhanbarthol/lleol manwl ar gyfer pob gweithgaredd yn ymwneud â nodau cyffredinol ERW. Byddai'r Cynllun Busnes yn cael ei ddiweddaru mewn ymateb i adborth gan arweinwyr Awdurdodau Lleol.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo'r Cynllun Busnes ar y sail y gellir ei ddiwygio/ei newid.
|
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Cyd-bwyllgor yn trafod yr Adroddiad ar Gyllideb 2019-20, a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y canlynol:
· Cyllideb y Tîm Canolog 2018-19 a 2019-20 · Cyfraniadau Awdurdodau Lleol · Dilyniant 2019-20 · Grant 2019-20 · Cyllideb a Ariennir gan Grant 2019-20 · Risgiau · Cronfeydd wrth gefn · Argymhellion
Dywedodd y Cadeirydd fod copïau o ohebiaeth mewn perthynas â'r gyllideb wedi'u cylchredeg yn y cyfarfod. Roedd hyn yn cynnwys llythyr at y Gweinidog Addysg, dyddiedig 11 Chwefror 2019, yn gofyn i'r Gweinidog neilltuo oddeutu £790k o arian grant i gyflogi staff canolog, ac ymatebion y Gweinidog o 1 Mawrth 2019 a 2 Ebrill 2019. Roedd ymateb y Gweinidog ar 2 Ebrill yn nodi y gallai'r Cyd-bwyllgor godi hyd at £500k o'r cyllid grant presennol ar yr amod bod Awdurdodau Lleol yn mynd i'r afael â'r diffyg a bod cyfanswm yr arian yn cael ei rannu'n gyfartal rhwng Awdurdodau Lleol a Llywodraeth Cymru.
Roedd yr ohebiaeth hefyd yn cynnwys: · Llythyr gan Gyngor Sir Penfro, dyddiedig 20Mawrth, yn gofyn yn eu rôl fel Awdurdod Cyflogi a Deiliad Cyllideb am sicrwydd gan bob awdurdod yn y bartneriaeth; · Llythyr gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot, dyddiedig 27 Mawrth 2019, yn rhoi hysbysiad o'u bwriad i adael ERW erbyn 31 Mawrth 2020 ond yn cadw'r hawl i dynnu'r hysbysiad hwnnw yn ôl os gellid datrys problemau; · Datganiad y Cadeirydd i'r wasg mewn ymateb i hysbysiad Castell-nedd Port Talbot.
Cynghorwyd y Cyd-bwyllgor fod yr Adroddiad ar y Gyllideb yn union yr un fath â'r hyn a gafwyd yng nghyfarfod diwethaf y Cyd-bwyllgor gan mai dim ond neithiwr y cafwyd cadarnhad gan y Gweinidog ynghylch y defnydd o gyllid grant.
Roedd y cwestiynau a sylwadau a godwyd ynghylch yr adroddiad yn cynnwys y canlynol:
Mewn ymateb i ymholiad ynghylch Ysgolion sy'n Destun Pryder, cynghorwyd y Cyd-bwyllgor bod angen cynnydd yn y gyllideb er mwyn sefydlu model cynaliadwy ar gyfer ysgolion sy'n helpu ysgolion a bod hyn yn fusnes craidd i ERW. Roedd nifer yr ysgolion a ddosbarthwyd fel rhai ambr neu goch wedi gostwng o 165 i 87 o dan ERW ac roedd categoreiddio ysgolion yn ffordd o ddyrannu cymorth.
Gwnaed nifer o sylwadau yn mynegi pryder bod ymateb y Gweinidog yn gadael bwlch ariannu o £290k, y gallai fod yn rhaid ei gyfannu drwy gynyddu cyfraniadau'r Awdurdodau Lleol. Dywedodd Castell-nedd Port Talbot, er y byddent yn aros yn Aelodau o ERW tan 31 Mawrth 2020, na fyddent yn cefnogi cynnydd mewn cyfraniadau gan Awdurdodau Lleol. Cadarnhaodd Castell-nedd Port Talbot y byddent yn talu eu cyfraniadau sy'n ddyledus ar gyfer 2018-19 a'r rheiny ar gyfer 2019-20 ar yr un lefel.
Mewn ymateb i ymholiad ynghylch cyllid staff, dywedodd Mr Geraint Rees fod £2.5.m, o'r blaen, wedi cael ei ddefnyddio i secondio 56 o swyddi ERW cyfwerth ag amser llawn. Roedd y rhain yn cael eu rheoli'n lleol gyda thaliadau'n cael eu hanfonebu trwy ysgolion. Dywedodd y Swyddog Adran 151 nad oedd manylion am ffynhonnell yr arian wedi'u cynnwys yn yr adroddiad presennol ar y gyllideb, ond y gellid darparu manylion pellach ar gais ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4. |
|
GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD NI DDYLID CYHOEDDI’R ADRODDIAD SY’N YMWNEUD Â’R MATER CANLYNOL GAN EI FOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y’I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFFAU 13 A 15 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y’I DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007. OS BYDD Y PWYLLGOR, AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD YN PENDERFYNU YN UNOL Â’R DDEDDF, I YSTYRIED Y MATER HYN YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I’R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O’R FATH. Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod tra oedd yr eitem ganlynol yn cael ei hystyried, gan fod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym Mharagraff 13 a 15 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.
|
|
GWYBODAETH ARIANNOL AR STAFFIO Cofnodion: Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng Nghofnod 5 uchod, y byddai'r mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod am fod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth a allai ddatgelu enwau unigolion a gwybodaeth berthnasol i drafodaethau/ymgynghoriadau sy'n ymwneud â'r gweithlu.
Bu'r Cyd-bwyllgor yn ystyried adroddiad ar wybodaeth am staffio ariannol, a oedd yn darparu gwybodaeth am gyllid Staff Tîm Canolog posibl yn 2019-20. Roedd yr adroddiad yn cynnwys strwythur staffio posibl ERW o Ebrill 2019 a'r ymrwymiadau staffio presennol a fyddai'n treiglo i'r flwyddyn ariannol 2019-20.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r adroddiad.
[Noder: ar ôl ystyried yr eitem uchod, aildderbyniwyd y cyhoedd i'r cyfarfod]
|
|
APWYNTIO CYFARWYDDWR ARWEINIOL A'R PRIF WEITHREDWR ARWEINIOL DROS DO PDF 121 KB Cofnodion: Hysbyswyd y Cyd-bwyllgor bod yr enwebiadau canlynol wedi dod i law:
· Prif Weithredwr Arweiniol Dros Dro: Mr Eifion Evans (Cyngor Sir Ceredigion) · Cyfarwyddwr Arweiniol: Ms Kate Evan-Hughes (Cyngor Sir Penfro)
Cynghorwyd y Cyd-bwyllgor y byddai trafodaethau pellach yn cael eu cynnal mewn perthynas â dosrannu rolau a chyfrifoldebau yn y consortiwm.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod 7.1. Mr Eifion Evans yn cael ei benodi'n Brif Weithredwr Arweiniol Dros Dro; 7.2. Ms Kate Evan-Hughes yn cael ei phenodi'n Gyfarwyddwr Arweiniol.
|
|
UNRHYW FATER ARALL Y GALL Y CADEIRYDD OHERWYDD AMGYLCHIADAU ARBENNIG, BENDERFYNU EI YSTYRIED YN FATER BRYS YN UNOL AG ADRAN 100B(4)(B) DEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd nad oedd unrhyw eitemau busnes eraill y dylid eu hystyried fel mater o frys.
|