Agenda a Chofnodion

CYLLIDEB, Pwyllgor Craffu Cymunedau ac Adfywio - Dydd Llun, 31ain Ionawr, 2022 2.00 yp

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Kevin J Thomas  01267 224027

Nodyn: moved from 20/01/22 

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr F. Akhtar a J. Gilasbey a gan y Cynghorydd E. Dole (Arweinydd y Cyngor â chyfrifoldeb dros Adfywio).

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL GAN GYNNWYS UNRHYW CHWIPIAU PLEIDIAU A RODDIR MEWN YMATEB I UNRHYW EITEM AR YR AGENDA

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch chwip waharddedig.

 

Y Cynghorydd

Rhif(au) y Cofnod

Y Math o Fuddiant

H. Shepardson

Cofnod 4 – Ymgynghori Ynghylch Strategaeth y Gyllideb Refeniw 2022/23 i 2024/25 (Atodiad C – Crynhoad Taliadau)

Deiliad Tocyn Tymor ar gyfer Parc Gwledig Pen-bre a Meysydd Parcio Parc Arfordirol y Mileniwm

G. Thomas

5 – Cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai a Phennu Rhenti Tai ar gyfer 2022/23

Personol – Yn gosod eiddo i'r Cyngor i'w Osod

D. Thomas

5 – Cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai a Phennu Rhenti Tai ar gyfer 2022/23

Personol – Ei wraig yn gosod eiddo i'r Cyngor

 

3.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd

4.

YMGYNGHORI YNGHYLCH STRATEGAETH Y GYLLIDEB REFENIW 2022/23 TAN 2024/25 pdf eicon PDF 242 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

(NODER: Roedd y Cynghorydd H. Shepardson wedi datgan buddiant yn gynharach yn Atodiad 'C' i'r adroddiad (Crynhoad Taliadau) ac nid oedd yn siarad nac yn pleidleisio ar yr Atodiad hwnnw)

 

Bu'r Pwyllgor yn ystyried yr adroddiad a gyflwynwyd gan yr Aelod Cabinet dros Adnoddau ar Strategaeth Cyllideb Refeniw'r Cyngor 2022/23 hyd at 2024/25, fel y'i cymeradwywyd gan y Cabinet at ddibenion ymgynghori yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 17 Ionawr 2022.  Roedd yr adroddiad yn darparu'r sefyllfa bresennol i'r Aelodau ynghylch y Gyllideb Refeniw ar gyfer 2022/2023, ynghyd â ffigurau dangosol ar gyfer blynyddoedd ariannol 2023/2024 a 2024/2025, yn seiliedig ar ragamcanion ynghylch gofynion gwariant y swyddogion ac yn ystyried y setliad amodol a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ar 21 Rhagfyr 2021. Roedd hefyd yn adlewyrchu cyflwyniadau adrannol cyfredol ar gyfer cynigion am arbedion ar ôl ystyried effaith pandemig Covid-19 ar gyflawni'r arbedion hynny.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet fod y setliad dros dro gan Lywodraeth Cymru eleni yn sylweddol uwch nag yr oeddem wedi cynllunio ar ei gyfer, ond nododd hefyd fod maint y pwysau gwariant yr oeddem ni ac awdurdodau lleol eraill yn ei wynebu hefyd ar lefel uchel ddigynsail, a oedd yn gwrthbwyso'r setliad uwch. Roedd y setliad dros dro yn gynnydd cyfartalog o 9.4% ledled Cymru ar setliad 2021/22, roedd cynnydd Sir Gaerfyrddin wedi bod yn 9.2% (£26.335m) gan fynd â'r Cyllid Allanol Cyfunol i £311.957m ar gyfer 2022/23 a oedd yn cynnwys £302k mewn perthynas â Grant y Gweithlu Gofal Cymdeithasol.

 

Ar draws holl gyllidebau'r cyngor, ychwanegodd y dilysiad gyfanswm o £23m, sef yr uchaf y mae angen i ni ganiatáu ar ei gyfer yn ystod y blynyddoedd diwethaf. 

 

Roedd y gyllideb hefyd yn cynnwys £12.5m. ar gyfer pwysau gwariant adrannol newydd a nodwyd gan adrannau ac nad oeddent yn gallu parhau i ddarparu ein prif wasanaethau ar y lefel bresennol. Fel yn yr un modd â'r cynnydd o ran chwyddiant, mae hyn gryn dipyn yn fwy nag yr ydym fel arfer wedi gorfod ei ystyried ac yn adlewyrchu maint y pwysau ar wasanaethau'r cyngor ar hyn o bryd.

 

Gan droi at ein cynigion arbedion, tynnodd yr Aelod Cabinet sylw at y ffaith bod ein hymateb parhaus i'r pandemig wedi effeithio ymhellach ar gyflawni arbedion effeithlonrwydd. Serch hynny, nododd fod ein strategaeth gyllidebol yn cyflwyno tua £3.8m o arbedion y flwyddyn nesaf a £7.9m arall dros y ddwy flynedd ganlynol.  O fewn cylch gwaith y pwyllgor hwn, cyfanswm y cynigion presennol oedd tua £268k ym mlwyddyn 1 a £573k arall dros y ddwy flynedd ganlynol.

 

Er bod Strategaeth y Gyllideb yn cynnig cynnydd o 4.39% yn y Dreth Gyngor ar gyfer 2022/23, yn unol â'r Cynllun Ariannol Tymor Canolig, byddai'r cynnig hwnnw'n cael ei ystyried fel rhan o'r broses o gwblhau'r gyllideb dros y mis nesaf a lle cafodd yr Awdurdod eglurhad pellach ynghylch costau a chyllid grant gyda'r bwriad o gyfyngu ar y cynnydd yn y Dreth Gyngor cyn belled ag y bo modd. Byddai cynigion terfynol y gyllideb wedyn yn cael eu cyflwyno i'r  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4.

5.

CYLLIDEB Y CYFRIF REFENIW TAI A PHENNU RHENTI TAI AR GYFER 2022/23 pdf eicon PDF 153 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

(NODER:

1)    Mae'r Cynghorydd G.B. Thomas wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach ac mae wedi datgan y buddiant hwnnw eto. Roedd wedi cael cyngor cyfreithiol y gallai aros yn y cyfarfod a chymryd rhan yn y bleidlais;

2)    roedd y Cynghorydd D. Thomas wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach, mae wedi datgan y buddiant hwnnw eto, ac wedi gadael y cyfarfod wrth i'r mater gael ei ystyried ac nid oedd yn cymryd rhan yn y drafodaeth na'r bleidlais)

 

Ystyriodd y Pwyllgor yr adroddiad a gyflwynwyd gan yr Aelod Cabinet dros Adnoddau ar Gyllideb y Cyfrif Refeniw Tai a Phennu Rhenti Tai ar gyfer 2022/23 a gyflwynir fel rhan o broses ymgynghori'r gyllideb a ddygai ynghyd y cynigion diweddaraf ar gyfer y cyllidebau Refeniw a Chyfalaf ar gyfer Cyfrif Refeniw Tai 2022/25 a fydd yn cael eu cyflwyno i'r Cabinet a'r Cyngor er mwyn iddynt benderfynu yn eu cylch.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet fod yr adroddiad wedi cael ei baratoi gan adlewyrchu'r cynigion diweddaraf a oedd wedi'u cynnwys yng Nghynllun Busnes y Cyfrif Refeniw Tai, sef y prif gyfrwng cynllunio ariannol ar gyfer darparu a chynnal Safon Tai Sir Gaerfyrddin a Mwy (STSG+) ar gyfer y dyfodol. Roedd y buddsoddiad arfaethedig a geir yn y cynllun busnes presennol wedi cyflawni STSG+ erbyn 2015 (i'r cartrefi hynny lle'r oedd tenantiaid wedi cytuno i gael y gwaith), wedi darparu buddsoddiad i gynnal STSG+ ac wedi parhau â'r buddsoddiad yng Nghynllun Cyflawni Tai ac Adfywio yr Awdurdod. 

 

Roedd yr adroddiad yn manylu ar sut y byddai rhenti'n cynyddu ar gyfer 2022/23 gyda chyllideb y Cyfrif Refeniw Tai yn cael ei gosod i adlewyrchu'r canlynol:-

 

·       Polisi Rhent Tai Cymdeithasol (a bennwyd gan Lywodraeth Cymru) a oedd eleni, oherwydd y lefel uwch o CPI, wedi gweithredu penderfyniad y Gweinidog

·       Cynigion yng Nghynllun Busnes Cyfrif Refeniw Tai Sir Gaerfyrddin

·       Cynllun Cyflawni ar gyfer Adfywio a Datblygu Tai

 

O ran pennu Rhenti Tai, atgoffwyd y Pwyllgor gan yr Aelod Cabinet fod yr Awdurdod wedi mabwysiadu Polisi Rhent Tai Cymdeithasol Llywodraeth Cymru ar 24 Chwefror 2015 am gyfnod o bedair blynedd hyd at 2018/19. Roedd Llywodraeth Cymru wedi darparu polisi interim ar gyfer 2019/20 wrth iddi aros am ganlyniadau'r Adolygiad o'r Cyflenwad o Dai Fforddiadwy.Yn dilyn yr adolygiad hwnnw, roedd Llywodraeth Cymru wedi penderfynu cadw'r polisi am gyfnod pellach o 5 mlynedd rhwng 2020/21 – 2024/25 gyda rhai gofynion ychwanegol/diwygiedig, fel y nodir yn yr adroddiad.

 

Roedd y polisi hwn yn caniatáu i awdurdodau lleol gynyddu cyfanswm y rhent gan y Mynegai Prisiau Defnyddwyr (CPI) +1% ar gyfer pob un o'r pum mlynedd hyd at 2024/25. Mae hefyd yn caniatáu i lefel y rhent ar gyfer tenantiaid unigol godi o hyd at £2 ychwanegol ar ben CPI+1% ar gyfer cysoni rhenti, ar yr amod na fyddai cyfanswm yr incwm rhent a gasglwyd gan y landlord cymdeithasol yn fwy na CPI+1%.

 

Fodd bynnag, os bydd CPI y tu allan i'r ystod o 0% i 3%, mae'r polisi'n darparu i'r Gweinidog â chyfrifoldeb am Dai  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5.

6.

CYNLLUN BUSNES Y CYFRIF REFENIW TAI 2022-25 RHAGLEN BUDDSODDI MEWN TAI SIR GAERFYRDDIN pdf eicon PDF 312 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor adroddiad a gyflwynwyd gan yr Aelod Cabinet dros Dai ar Gynllun Busnes y Cyfrif Refeniw Tai 2022-25 Rhaglen Buddsoddiadau Tai Sir Gaerfyrddin, a oedd â phwrpas pedwarplyg. Yn gyntaf, eglurai weledigaeth a manylion rhaglen buddsoddiadau tai dros y tair blynedd nesaf a'r hyn yr oedd y Safon yn ei olygu i'r tenantiaid. Yn ail, cadarnhaodd yr incwm sydd i'w dderbyn o renti tenantiaid a ffynonellau ariannu eraill dros y tair blynedd nesaf. Yn drydydd, cadarnhaodd y proffil ariannol, yn seiliedig ar y rhagdybiaethau presennol, ar gyfer cyflawni'r rhaglen buddsoddiadau tai a thai cyngor newydd dros y tair blynedd nesaf. Yn bedwerydd, roedd yn llunio cynllun busnes ar gyfer y cais blynyddol i Lywodraeth Cymru am Grant Lwfans Atgyweiriadau Mawr (MRA) ar gyfer 2022/23, a oedd yn cyfateb i £6.1m.

 

Roedd yr adroddiad hefyd yn tynnu sylw at bwysigrwydd bod y Cyngor yn cefnogi ei denantiaid a'i breswylwyr ym mhopeth y mae'n ei wneud, gan nodi'r pum thema allweddol ganlynol fel rhai sy'n gyrru'r busnes am y tair blynedd nesaf:-

-        Thema 1 – Cefnogi Tenantiaid a Phreswylwyr;

-        Thema 2 – Buddsoddi mewn Cartrefi a'r Cyffiniau;

-        Thema 3 - Darparu rhagor o dai;

-        Thema 4 – Datgarboneiddio'r Stoc Dai;

-        Thema 5 - Yr Economi Leol, Budd i'r Gymuned a Chaffael

 

Rhoddwyd sylw i'r cwestiynau/materion canlynol wrth drafod yr adroddiad:

·       Mewn ymateb i gwestiwn ar yr amser a gymerwyd i wneud gwaith i wagio eiddo cyn ail-osod, rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod lefel yr eiddo gwag ar hyn o bryd wedi gostwng o fwy na 400 i 344, ar ddiwedd mis Rhagfyr 2021, yn erbyn cyfanswm nifer y stoc dros 9,200. Er bod lefel yr eiddo gwag wedi gostwng, roedd nifer o resymau dros yr oedi wrth eu hail-osod. Roedd y rheiny'n cynnwys, er enghraifft, effaith covid, argaeledd contractwyr ac argaeledd deunyddiau. Nodwyd hefyd na ellir dychwelyd 45 o'r eiddo gwag hynny i'r stoc ac roedd ystyriaeth yn cael ei rhoi i'w gwerthu neu, o bosibl, ddymchwel.

 

Dywedodd y Pennaeth Tai, Eiddo a Phrosiectau Strategol fod adolygiad yn cael ei gynnal ar hyn o bryd ar eiddo gwag gyda'r nod o gyflymu'r broses o'u dychwelyd i'r stoc. Roedd hynny'n cynnwys ymweld ag awdurdodau tai lleol eraill a landlordiaid cymdeithasol i gael persbectif ar eu prosesau/gweithdrefnau. Yn ogystal, roedd fframwaith y contractwyr mân waith i fod i gael ei adnewyddu yn ystod y misoedd nesaf ac, fel rhan o'r broses dendro honno, byddai ystyriaeth yn cael ei rhoi i ddichonoldeb ymestyn y fframwaith i gynnwys cynnydd yn nifer y contractwyr.

·       Fel rhan o'r drafodaeth ar eiddo gwag, cyfeiriwyd at y ffaith nad oedd aelodau lleol yn cael gwybod am yr amser yr oedd yn ei gymryd i ddefnyddio eiddo gwag unwaith eto er mwyn rhannu'r wybodaeth hon ag etholwyr. Cadarnhawyd y byddai trefniadau'n cael eu gwneud i roi gwybod i aelodau lleol yn dilyn arolygiad o eiddo gwag o'r amser y disgwylir iddo gymryd i'w ail-osod.

·       Cyfeiriwyd at y drafodaeth a gynhaliwyd yng nghyfarfod blaenorol y  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6.

7.

GYNLLUN CYFLAWNI PUM MLYNEDD - ADFYWIO A DATBLYGU TAI (2022 - 2027) pdf eicon PDF 501 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad a gyflwynwyd gan yr Aelod Cabinet dros Dai a oedd yn manylu ar y Cynllun Cyflawni - Adfywio a Datblygu Tai a nododd gynlluniau'r Awdurdod i gefnogi'r gwaith o ddarparu dros 2,000 o gartrefi ychwanegol ledled y Sir dros y pum mlynedd nesaf. Pe bai'n cael ei fabwysiadu, byddai'r Cynllun yn adeiladu ar lwyddiant y cynlluniau darparu tai fforddiadwy presennol, yn cefnogi twf economaidd drwy fuddsoddi dros £300m mewn cymunedau ac yn cefnogi'n uniongyrchol y camau gweithredu yn y Cynllun Adfer Economaidd, gan gefnogi busnes, pobl a lleoedd.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL Y CANLYNOL I'R CABINET/CYNGOR:-

7.1

Cadarnhau y bydd y Cynllun Cyflawni - Adfywio a Datblygu Tai yn helpu i ddarparu dros 2,000 o dai i'w rhentu a'u gwerthu yn y Sir dros y pum mlynedd nesaf, gan ddiwallu anghenion tai, ysgogi adferiad a thwf economaidd, a chefnogi Egwyddorion Carbon Sero-net y Cyngor;

7.2

Cytuno bod yr awdurdod i gaffael tir ac adeiladau nad ydynt yn eiddo i'r Cyngor a nodwyd yn y Cynllun Cyflawni - Adfywio a Datblygu Tai, ynghyd ag unrhyw dir a/neu adeiladau eraill a fyddai'n ychwanegu gwerth at flaenoriaethau a dyheadau’r Cyngor o ran Tai ac Adfywio, yn cael ei ddirprwyo i’r Pennaeth Adfywio, mewn ymgynghoriad â'r Tîm Strategol Tai ac Adfywio;

7.3

Cytuno y byddai'r Cynllun yn chwarae rhan allweddol o ran cynyddu'r cyflenwad o dai rhent cymdeithasol yn ein cymunedau, gan gynnwys tai sy'n addas ar gyfer:

·       Cartrefi anghenion cyffredinol;

·       Llety arbenigol â chymorth i bobl ag anghenion cymhleth a;

·       Llety hyblyg y gellir ei addasu'n hawdd i bobl h?n

7.4

Cadarnhau y bydd datblygiadau deiliadaeth gymysg, sy'n cynnwys tai ar gyfer rhent cymdeithasol, perchentyaeth cost isel a gwerthu ar y farchnad agored yn cael eu cefnogi trwy'r cynllun cyflawni hwn, gan greu cymunedau cytbwys, cryf a gwydn;

7.5

Cytuno y byddai'r Cynllun yn cynnwys darparu atebion o ran tai deiliadaeth gymysg hyblyg, arloesol newydd sy'n diwallu anghenion poblogaeth sy'n heneiddio;

7.6

Cytuno y byddai'r Cynllun yn cefnogi'r gwaith o gyflwyno safleoedd adfywio strategol y Cyngor trwy ddarparu mwy o dai i'w rhentu a'u gwerthu, gan gynnwys:

·       Adfywio Canol Trefi;

·       Trefi a phentrefi gwledig;

·       Pentref Gwyddor Bywyd Pentre Awel a;

·       Thyisha.

7.7

Cadarnhau y byddai'r tai a gefnogir trwy'r cynllun yn cael eu darparu gan ddefnyddio ystod o ddulliau cyflawni sy'n cynnig hyblygrwydd, graddfa a lle;

7.8

Cytuno y byddai'r gwaith o ddarparu tai ledled y sir yn y cynllun yn dilyn yr ardaloedd gweithredu tai fforddiadwy, gan adeiladu wardiau yn y Sir yn ardaloedd nodedig, sy'n cysylltu'n ddaearyddol ac yn ddiwylliannol.

 

8.

CYNLLUN BUSNES ADRANNOL ADRAN CYMUNEDAU 2022/23 pdf eicon PDF 408 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad a gyflwynwyd gan yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth ar Aelod Cabinet dros Dai a oedd yn rhoi darn o Gynllun Busnes Adrannol yr Adran Cymunedau 2022/23 ar gyfer Gwasanaethau Hamdden a Thai ac yn rhoi cyfle i'r Pwyllgor ei adolygu a gwneud sylwadau arno. Rhoddodd y Cynllun Busnes grynodeb o'r camau gweithredu a'r mesurau allweddol sydd eu hangen i gefnogi'r gwaith o ddarparu'r gwasanaethau hynny o fewn y Strategaeth Gorfforaethol ac Amcanion Llesiant y Cyngor ac fe'i cefnogwyd gan gynllun adrannol manwl yn destun adolygiad rheolaidd.

 

Rhoddwyd sylw i'r materion canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

·       Mewn ymateb i gwestiwn ar gynnydd Prosiect Pentre Awel, atgoffodd y Pennaeth Hamdden y Pwyllgor fod elfen fawr o'r prosiect yn ymwneud â darparu canolfan hamdden newydd. Rhagwelwyd y byddai'r gwaith adeiladu yn dechrau eleni, a disgwylir iddo gael ei gwblhau yn 2024.

 

Cadarnhaodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol fod contractwr ar gyfer y prosiect wedi'i benodi a bod trafodaethau terfynol yn cael eu cynnal ar lunio manylion y contract.

·       O ran adeilad newydd yr Archifau yng Nghaerfyrddin, rhagwelwyd y byddai'n agor i'r cyhoedd yn ystod gwanwyn 2022 ar ôl cwblhau'r broses o drosglwyddo deunyddiau ac adnoddau.

·       O ran gwaith sy'n cael ei wneud ym Mharc Gwledig Llyn Llech Owain, dywedodd y Pennaeth Hamdden fod dros £188k wedi'i wario hyd yma ar lwybrau newydd, gwaith tir a choed ac ardal chwarae newydd.

·       Cyfeiriwyd at lwyddiant cyfleuster y maes carafannau ym Mharc Gwledig Pen-bre ac a fyddai'r Cyngor yn ystyried darparu cyfleusterau ychwanegol mewn ardaloedd eraill yn y Sir.

 

Cyfeiriodd y Pennaeth Hamdden at safle unigryw Parc Gwledig Pen-bre ac at y gwaith o wella'r maes carafannau a ddarperir i'w gyfleusterau. O ran darparu meysydd carafannau eraill, dywedodd y byddai angen i'r Cyngor fod yn ymwybodol o'r natur unigryw honno ac o'r effaith y gallai unrhyw ehangu yn y ddarpariaeth ei chael ar berchnogion safleoedd carafannau preifat yn y sir. Fodd bynnag, un elfen gynyddol o'r fasnach Dwristiaeth yn y sir a ledled y DU oedd poblogrwydd cynyddol cartrefi modur.  Ar hyn o bryd, roedd yr awdurdod wedi darparu cyfleuster ar gyfer 10 cartref modur ym Mhorth Tywyn a byddai'n monitro'r galw yn y dyfodol

 

PENDERFYNWYD YN UNFRODOL dderbyn Cynllun Busnes Adrannol yr Adran Cymunedau 2022/23 cyn belled â'i fod yn gysylltiedig â Gwasanaethau Tai a Hamdden.

9.

DETHOLIAD ADFYWIO O'R CYNLLUN BUSNES ADRANNOL Y PRIF WEITHREDWR 2022/23 pdf eicon PDF 410 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried darn o Gynllun Busnes Adrannol y Prif Weithredwr 2022/23 ar gyfer Gwasanaethau Adfywio a roddodd gyfle i adolygu a gwneud sylwadau arno. Rhoddodd y Cynllun Busnes grynodeb o'r camau gweithredu a'r mesurau allweddol sydd eu hangen i gefnogi'r gwaith o gyflawni adfywio o fewn y Strategaeth Gorfforaethol ac Amcanion Llesiant y Cyngor ac fe'i cefnogwyd gan gynllun adrannol manwl yn destun adolygiad rheolaidd.

 

Rhoddwyd sylw i'r cwestiwn/mater canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

·       Cyfeiriwyd at ddyrannu incwm sy'n deillio o Gytundebau Cynllunio Adran 106 a chadarnhaodd y Pennaeth Adfywio y byddai'n trefnu i aelodau'r Pwyllgor gael canllaw ar y broses ddyrannu

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr elfen Gwasanaethau Adfywio o Gynllun Busnes y Prif Weithredwr 2022/23.

10.

EGLURHAD AM BEIDIO Â CHYFLWYNO ADRODDIAD CRAFFU pdf eicon PDF 225 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor eglurhad am beidio â chyflwyno'r adroddiad/adroddiadau craffu canlynol

·       Adroddiad Blynyddol Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru 2020/21: Sir Gaerfyrddin;

·       Adroddiad Monitro'r Gyllideb Refeniw a'r Gyllideb Gyfalaf 2021/22;

·       Ymgynghoriad ar Gyllideb y Rhaglen Gyfalaf 5 mlynedd

·       Y diweddaraf am Gaffael y Fargen Ddinesig;

·       Strategaeth Datgarboneiddio a Gwres Fforddiadwy;

·       Cynllun Busnes Adran yr Amgylchedd

 

PENDERFYNWYD nodi'r eglurhad am beidio â chyflwyno'r adroddiad

11.

EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL pdf eicon PDF 227 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor restr o'r eitemau a fyddai'n cael eu hystyried yn ei gyfarfod nesaf ar 24 Chwefror 2022.

 

PENDERFYNWYD nodi'r rhestr o eitemau ar gyfer y dyfodol a oedd i'w hystyried yn y cyfarfod nesaf ar 24 Chwefror 2022.

12.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR GOFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 14 RHAGFYR 2021 pdf eicon PDF 335 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion: