Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Craffu Cymunedau ac Adfywio - Dydd Llun, 20fed Mehefin, 2016 2.00 yp

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr S.L. Davies, W.R.A. Davies a J.Owen.

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

Y Cynghorydd

Rhif y Cofnod

Y Math o Fuddiant

T. Devichand

5 – Cynllun Cenedlaethol Trwyddedu Landlordiaid ac Asiantiaid

Landlord

H.B. Shepardson

5 – Cynllun Cenedlaethol Trwyddedu Landlordiaid ac Asiantiaid

Ysgrifennydd Clwb Cymdeithasol ym Mhorth Tywyn sy'n gosod eiddo ar rent.

G.B. Thomas

5 – Cynllun Cenedlaethol Trwyddedu Landlordiaid ac Asiantiaid

Perchennog eiddo sy'n cael ei osod ar rent

 

3.

DATGAN CHWIPIAID PLAID SYDD WEDI EU GWAHARDD

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch chwip waharddedig.

 

4.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW)

Cofnodion:

Nid oedd cwestiynau gan y cyhoedd wedi dod i law.

5.

CYNLLUN CENEDLAETHOL TRWYDDEDU LANDLORDIAID AC ASIANTIAID pdf eicon PDF 409 KB

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor adroddiad ar y cynnydd o ran y Cynllun Cenedlaethol Trwyddedu Landlordiaid ac Asiantiaid, fel y deddfwyd ar ei gyfer yn Neddf Tai (Cymru) 2014, oedd yn gosod gofyniad cyfreithiol ar bob landlord ac asiant oedd yn rheoli neu'n gosod tai yn y sector preifat yng Nghymru i gofrestru a chael trwydded mewn perthynas â hynny erbyn 23 Tachwedd 2015, sef y dyddiad y daeth y darpariaethau newydd i rym.

 

Rhoddwyd sylw i'r materion/cwestiynau canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

 

Cyfeiriwyd at ofynion y cynllun ar i bob landlord a'i asiant fynychu a chwblhau cwrs hyfforddiant cymeradwy i ddangos ei fod yn berson/cwmni addas a phriodol a'i fod yn gymwys i reoli ei eiddo'n effeithiol. Mewn ymateb i gwestiwn mewn perthynas â hyn, hysbyswyd y Pwyllgor na fyddai angen i landlordiaid fynychu cwrs hyfforddiant os byddent yn dirprwyo cyfrifoldeb am reoli eu heiddo i asiant, ond y byddai dal angen trywydd arnynt.

 

Dywedwyd bod oddeutu 8,000 o landlordiaid yn genedlaethol sydd wedi'u cofrestru, a chyfeiriwyd at y camau sydd ar gael i awdurdodau lleol a Rhentu Doeth Cymru i sicrhau bod pob landlord yn cofrestru. Er bod y ddeddfwriaeth newydd wedi dod i rym ar 23 Tachwedd 2015, rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod landlordiaid ac asiantiaid wedi'u rhyddhau o'u rhwymedigaeth i gydymffurfio â'r ddeddfwriaeth hyd 23 Tachwedd 2016. Os na fydd landlordiaid wedi cofrestru erbyn hynny, gellir gwirio, os yw hynny'n briodol, gydag adrannau eraill y Cyngor a gyda'r Adran Gwaith a Phensiynau i sicrhau y cydymffurfir â'r ddeddfwriaeth. Yn ogystal, pan dderbynnir cwynion gan denantiaid ynghylch eu landlord, gellir cysylltu â Rhentu Doeth Cymru i weld a oes trwydded gan y landlord.

 

Mewn ymateb i gwestiwn oedd yn ymwneud â'r 12 rhaglen hyfforddiant i landlordiaid a drefnir gan y Cyngor Sir, rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor na fyddai'n bosibl, o ystyried bod oddeutu 3,000 o landlordiaid yn y Sir, i ddarparu digon o gyrsiau hyfforddiant iddynt i gyd erbyn y dyddiad cau ar gyfer cofrestriadau ym mis Tachwedd. Serch hynny, byddai darparwyr eraill ar gael i roi hyfforddiant, a gellid gwneud hyfforddiant yn electronig, ar-lein. Roedd Rhentu Doeth Cymru hefyd wedi cydnabod yr anawsterau o gofrestru pob landlord erbyn Tachwedd 2016, a byddent yn arfer chwarae teg os byddai landlordiaid ac asiantiaid wedi dangos y bwriad i fynd ar gwrs hyfforddiant a chofrestru.

 

Mewn ymateb i gwestiwn am lefelau'r dirwyon y gellid eu gorfodi ar landlordiaid / asiantiaid am fethu â chofrestru neu am beidio bod yn drwyddedig, rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor y gallai'r Awdurdod orfodi Cosbau Penodedig sy'n amrywio o £150 i £200. Bydd achosion o ddiffyg cydymffurfio parhaus yn cael eu cyfeirio at Rentu Doeth Cymru at ddibenion cychwyn achos cyfreithiol. Gallai Hysbysiadau Cosb Benodedig gael eu cyflwyno mewn perthynas â methu â chyflawni swyddogaethau eraill landlordiaid yn briodol, a byddai'r incwm a fydd yn deillio o'r holl Hysbysiadau yn cael ei gadw gan yr Awdurdod.

 

Cyfeiriwyd at y ffaith mai ond 1,265 o'r oddeutu 3,000 o landlordiaid yn Sir Gaerfyrddin sydd wedi'u cofrestru ar hyn o  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5.

6.

DATBLYGU GWASANAETH ARCHIFAU NEWYDD SIR GAERFYRDDIN pdf eicon PDF 407 KB

Cofnodion:

Derbyniodd y Pwyllgor adroddiad i'w ystyried ar gynigion i ddarparu Gwasanaethau Archifau a Llyfrgell newydd, cyfun, gwerth £2m ar gyfer y Sir drwy symud yr Archifdy o'i safle presennol ym Mharc Myrddin i dir y tu cefn i Lyfrgell Caerfyrddin.

 

Codwyd y materion canlynol wrth ystyried yr adroddiad:-

 

Cyfeiriwyd at yr opsiynau sy'n cael eu hystyried fel rhan o'r cynigion, sef, i gynnwys gwasanaethau eraill yn yr adeilad newydd - y Ganolfan Addysg Gymunedol, y Ganolfan Gwasanaethau Cwsmeriaid, desg dalu awtomataidd ac Un Sir Gâr. Gofynnwyd am eglurhad ar y sefyllfa bresennol o ran yr opsiynau hyn ac am botensial yr adleoli i ryddhau asedau eraill.

 

Hysbyswyd y Pwyllgor gan y Pennaeth Hamdden mai'r brif flaenoriaeth ar hyn o bryd oedd hwyluso'r gwaith o ddarparu Gwasanaethau Archifau a Llyfrgell newydd, a fydd yn cael eu codi at y diben, o fewn y gyllideb o £2m a neilltuwyd ac yn y lle sydd ei angen ar gyfer y cyfleuster hwnnw. Ystyriwyd ymgorffori'r gwasanaethau ychwanegol uchod yn yr adeilad newydd, ond mae'r lle sydd ar gael y tu cefn i Lyfrgell Caerfyrddin yn golygu y byddai ond modd gwneud hynny drwy ddymchwel yr adeilad Addysg Gymunedol presennol, gan gynyddu cost y prosiect i dros £4m.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ar gynigion i ddigideiddio'r archifau, rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor na fyddai'n bosibl digideiddio'r holl gasgliad sydd yn nwylo'r Cyngor ond y rhoddid blaenoriaeth i'r archifau hynny a ddefnyddir amlaf gan y cyhoedd ac sydd o'r diddordeb pennaf iddynt. Rhoddir ystyriaeth hefyd i ddigideiddio elfennau o'r casgliad hanes lleol o blith arteffactau'r llyfrgelloedd a'r amgueddfeydd sydd ym mhrosiect 6 Threftadaeth, gan sicrhau bod casgliadau'r Cyngor yn fwy hwylus i bobl.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ar faint o ddifrod a achoswyd i'r archifau, hysbyswyd y Pwyllgor nad oedd unrhyw ddogfennau wedi cael eu difrodi'n barhaol, cyhyd ag y gellid gweld, ac nad oedd dim byd y tu hwnt i gael ei atgyweirio.

 

Cyfeiriwyd at y gost ychwanegol bosibl o £2.5m er mwyn ymgorffori'r ganolfan addysg gymunedol a gwasanaethau eraill yn yr adeilad newydd, ac y byddid yn gweld a oes posibilrwydd cael cyllid ychwanegol i hwyluso'r cynllun cyfan.

 

Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor mai'r flaenoriaeth ar hyn o bryd oedd hwyluso'r gwaith o ddarparu cyfleuster newydd, pwrpasol o fewn y gyllideb cyfalaf o £2m a neilltuwyd. Byddai ymgorffori'r gwasanaethau eraill yn y prosiect yn mynd ymhell y tu hwnt i'r gyllideb a neilltuwyd, ac o ystyried yr hinsawdd economaidd bresennol ni fyddai modd i'r Awdurdod dalu'r gost ychwanegol.  O ran yr adeilad newydd, fe fyddai'n un o'r gorau yng Nghymru ond mae'n bosibl na fyddai modd iddo ddarparu'r amrediad cyfan o wasanaethau archifol, megis gwaith digideiddio ac atgyweirio arbenigol, ac y byddai'n fwy buddiol i'r Awdurdod gydweithio ag awdurdodau/partneriaid lleol eraill yn rhanbarthol er mwyn darparu'r cyfleusterau hynny. Roedd Llywodraeth Cymru hefyd wedi pwysleisio'r angen i gydweithio a gallai hyn beri bod y rhanbarth yn gallu cael cyllid ychwanegol.

 

Cyfeiriwyd at ddatganiad gan y Pennaeth Hamdden y byddai cais cynllunio ar gyfer y cyfleuster newydd yn  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6.

7.

ADRODDIAD BLYNYDDOL (2015/16) A CHYNLLUN GWELLA (2016/17) - DRAFFT pdf eicon PDF 453 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor y fersiwn ddrafft o Adroddiad Blynyddol 2015/16 a Chynllun Gwella 2016/17 yn unol â gofynion Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) sy'n datgan bod dyletswydd ar bob awdurdod lleol i gyhoeddi Cynllun Gwella cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl dechrau'r flwyddyn ariannol ac i gyhoeddi Adroddiad Blynyddol ynghylch ei berfformiad blaenorol erbyn diwedd mis Hydref bob blwyddyn.

 

Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod yr Awdurdod wedi cyfuno'r ddwy ddogfen hyn er mwyn gwerthuso canlyniadau'r flwyddyn flaenorol a chytuno ar ganlyniadau'r dyfodol.  Barn y rheoleiddwyr oedd bod cyfuno'r ddau beth yn yr un ddogfen yn arfer da.

 

Aeth y Pwyllgor yn ei flaen i ystyried adroddiad a oedd yn cynnwys darnau sy'n berthnasol i'r Pwyllgor Craffu - Cymunedau.

 

Codwyd y materion canlynol wrth ystyried yr adroddiad:-

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch Canlyniad 7 – mae gan Sir Gaerfyrddin economi cryf a mwy llewyrchus – parthed Stryd Cyfleoedd, Llanelli, rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor bod yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Adfywio a Hamdden wedi cymeradwyo cynllun yn ddiweddar i roi cymorth ariannol i berchnogion siopau yn Llanelli i wella'u heiddo drwy gyfrwng cronfa fenthyciadau gwerth £750k a ddarperir gan Lywodraeth Cymru, ac y byddai datganiad i’r wasg yn cael ei ryddhau'n fuan yn ei gylch. Hefyd rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor mai nod Stryd Cyfleoedd oedd denu rhagor o gwsmeriaid i'r ardal drwy greu eiddo â siopau ar y llawr gwaelod a llety preswyl uwchben, a chynnwys llefydd parcio ar gyfer preswylwyr. Gyda hyn mewn golwg, roedd yr Awdurdod eisoes wedi prynu eiddo yn yr ardal ac wrthi'n cyflwyno ceisiadau cynllunio er mwyn eu hailddatblygu.

 

Cyfeiriwyd at y buddsoddiad a wneir yng nghanol tair prif dref, sef Rhydaman, Caerfyrddin a Llanelli, ac ar yr angen i sicrhau bod buddsoddiad yn digwydd hefyd mewn ardaloedd gwledig. Atgoffwyd y Pwyllgor fod yr Awdurdod eisoes wedi clustnodi £2m fel rhan o'r Gronfa Datblygu Eiddo i'w fuddsoddi yn ardaloedd gwledig y Sir, yn unol â meini prawf grantiau Llywodraeth Cymru a'r Undeb Ewropeaidd. Yn ogystal, roedd grantiau ar gael o dan y Rhaglen Datblygu Gwledig ar gyfer creu swyddi mewn ardaloedd gwledig.

 

Cyfeiriwyd at y gwaith a wneir i adfer tai gwag yn y Sir er mwyn iddynt gael eu defnyddio eto. Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod disgwyl i rywun gael ei benodi yn y dyfodol agos i gynorthwyo'r swyddog sy'n gwneud y gwaith hwnnw ar hyn o bryd, a gofynnodd y Pwyllgor am i'w aelodau gael eu hysbysu am y penodiad hwnnw.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad.

8.

BLAENRAGLEN WAITH Y PWYLLGOR CRAFFU CYMUNEDAU AR GYFER 2016/17 pdf eicon PDF 374 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn unol ag Erthygl 6.2 o Gyfansoddiad y Cyngor, bu'r Pwyllgor yn ystyried ei Flaenraglen Waith ar gyfer 2016/17, a oedd wedi cael ei datblygu yn dilyn sesiwn gynllunio anffurfiol y Pwyllgor ym mis Ebrill 2016.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r Flaenraglen Waith ar gyfer 2016/17.

9.

LLOFNODI FEL COFNOD CYWIR COFNODION CYFARFOD Y PWYLLGOR A GYNHALIWYD AR Y 24AIN O FAWRTH 2016 pdf eicon PDF 411 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 24 Mawrth 2016, gan eu bod yn gywir.

10.

DERBYN COFNODION CYD GYFARFOD Y PWYLLGOR CRAFFU CYMUNEDAU A’R PWYLLGOR CYNLLUNIO, A GYNHALIWYD AR Y 24AIN O FAWRTH 2016 pdf eicon PDF 325 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD derbyn cofnodion cyfarfod ar y cyd y Pwyllgor Craffu - Cymunedau a'r Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 24 Mawrth, 2016.