Lleoliad: Ystafell 65, Neuadd y Sir, Caerfyrddin
Cyswllt: Mr Kevin Thomas 01267 224027
Rhif | eitem |
---|---|
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL Cofnodion: Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant personol.
|
|
GRANTIAU CYSYLLTIEDIG A THRAFNIDIAETH LLYWODRAETH CYMRU 2016-17 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad a roddai fanylion y ceisiadau a gyflwynwyd i Lywodraeth Cymru, erbyn y dyddiad cau sef 29ain Ionawr 2016, am Grantiau Cysylltiedig â Thrafnidiaeth ar gyfer blwyddyn ariannol 2016-17 ar gyfer cynlluniau o dan y meysydd cyllido canlynol:-
- Cronfa Trafnidiaeth Leol - Diogelwch Ffyrdd (Refeniw a Cyfalaf) - Llwybrau Diogel mewn Cymunedau
Dywedwyd wrth yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol fod y cais wedi cael ei gyflwyno er mwyn sicrhau bod prosiectau economaidd allweddol yn cael eu rhoi ar waith yn llwyddiannus, yn unol â'r Cynllun Trafnidiaeth Lleol a'r Strategaeth Diogelwch Ffyrdd, gyda'r ceisiadau a gyflwynwyd yn cynnwys cefnogaeth ar gyfer datblygu economaidd a chymorth i hwyluso symud nwyddau a phobl yn ddiogel.
PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cynigion oedd wedi'u cyflwyno i Lywodraeth Cymru am Grantiau Cysylltiedig â Thrafnidiaeth ar gyfer blwyddyn ariannol 2016-17, yn unol â'r adroddiad.
|
|
GWRTHWYNEBIADAU I'R CYNNIG I OSOD TWMPATH FFORDD AR YR A485, NEW INN Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad ar gynigion i adeiladu twmpath ffordd ar yr A485 wrth fynediad gogleddol pentref New Inn, fel dull o arafu traffig sy’n dod i mewn i'r pentref. Rhoddwyd gwybod bod y lleoliad yn y gorffennol wedi cael amrywiol arwyddion rhybuddio, Arwydd sy'n cael ei Gynnau gan Gerbydau ac wedi bod yn destun camau gorfodi gan Heddlu Dyfed-Powys a GanBwyll (Partneriaeth Camerâu Diogelwch) mewn ymgais i leihau goryrru. Fodd bynnag, er y mesurau hynny, roedd goryrru'n dal yn broblem a'r farn oedd mai gosod y twmpath ffordd fyddai'r unig gam boddhaol i leihau cyflymder y traffig.
Dywedwyd wrth yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol fod un gwrthwynebiad wedi dod i law ar ôl i'r cynnig gael ei hysbysebu, fel y manylwyd yn Atodiad 2 i'r adroddiad ynghyd ag ymatebion swyddogion i'r gwrthwynebiadau a godwyd. Argymhellwyd bod y gwrthwynebiad yn cael ei nodi ond bod y Cyngor yn bwrw ymlaen â gosod y twmpath ffordd er mwyn lleihau cyflymder traffig trwy New Inn.
PENDERFYNWYD nodi'r gwrthwynebiad a oedd wedi dod i law i'r cynnig i osod twmpath ffordd ar yr A485 wrth fynediad gogleddol pentref New Inn, ond bod y Cyngor yn bwrw ymlaen â'r cynnig er budd diogelwch ffyrdd a lleihau cyflymder y traffig. |
|
Cofnodion: PENDERFYNWYD llofnodi bod Cofnod Penderfyniadau'r cyfarfod oedd wedi'i gynnal ar 27 Tachwedd, 2015 yn gofnod cywir. |