Lleoliad: Siambr - Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Julie Owens 01267 224088
Rhif | eitem | ||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb. |
|||||||||||||||||||||||||
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
|
|||||||||||||||||||||||||
PENODI CADEIRYDD Y PWYLLGOR LLYWODRAETHU AC ARCHWILIO AR GYFER BLWYDDYN Y CYNGOR 2022/23 Mae Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) yn amodi bod yn rhaid i'r aelod a benodir yn gadeirydd pwyllgor fod yn berson lleyg. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL benodi Mr D. MacGregor yn Gadeirydd y Pwyllgor ar gyfer Blwyddyn y Cyngor 2022/23. |
|||||||||||||||||||||||||
PENODI IS-GADEIRYDD Y PWYLLGOR LLYWODRAETHU AC ARCHWILIO AR GYFER BLWYDDYN Y CYNGOR 2022/23 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL benodi'r Cynghorydd G. Morgan yn Is-gadeirydd y Pwyllgor ar gyfer Blwyddyn y cyngor 2022/23. |
|||||||||||||||||||||||||
ADRODDIADAU CYNYDD: Dogfennau ychwanegol: |
|||||||||||||||||||||||||
CYLLIDEBAU YSGOLION Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Gan gyfeirio at gofnod 8.1 o'r cyfarfod ar 16 Gorffennaf 2021, ystyriodd y Pwyllgor adroddiad cyllideb ysgolion a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am sefyllfa'r Awdurdod ar ddiwedd y flwyddyn ariannol ar gyfer ysgolion cynradd, uwchradd ac arbennig yn Sir Gaerfyrddin. Darparwyd ffigurau cymharol hefyd ar gyfer 2018/19, 2019/20 a 2020/21. Cydnabu'r Pwyllgor fod arian grant ychwanegol sylweddol wedi'i ddarparu i ysgolion gan Lywodraeth Cymru yn ystod y pandemig coronafeirws, a oedd wedi arwain at effaith gadarnhaol ar nifer o gyllidebau ysgol ar gyfer y flwyddyn ariannol gyfredol a'r flwyddyn ariannol sydd i ddod.
Ymdriniwyd â'r materion/sylwadau a godwyd gan y Pwyllgor fel a ganlyn:-
· Holodd yr Aelodau am effaith cyllid grant, o'i gymharu â'r cymorth gan yr Awdurdod Lleol, i fynd i'r afael â'r sefyllfa gyllidebol o ran diffygion mewn ysgolion. Cadarnhaodd Pennaeth y Gwasanaethau Addysg a Chynhwysiant fod yr arian grant a ddarparwyd ers 2020 wedi galluogi ysgolion i sefydlogi eu cyllidebau, ond cydnabuwyd efallai na fyddai'r cymorth ar gael yn yr hirdymor. Darparwyd crynodeb i'r Aelodau o'r amrywiaeth o gymorth parhaus a gynigir i ysgolion, a oedd yn cynnwys gwell dadansoddi a chraffu ar gyllidebau ysgolion a thrafodaethau rheolaidd gyda Phenaethiaid, Rheolwyr Busnes a Llywodraethwyr Ysgol mewn perthynas ag atebolrwydd ariannol. At hynny, adroddwyd bod mentrau codi ymwybyddiaeth llwyddiannus a ysgogwyd gan y Swyddog Adran 151 wedi arwain at ddirprwyo monitro cyllidebau i Swyddogion Gwella Ysgolion, gyda disgwyliadau clir bod meysydd sy'n peri pryder yn cael eu hadrodd i'r Awdurdod mewn modd amserol.
· Mynegwyd pryderon ynghylch amrywioldeb balansau ysgolion a'r sefyllfa gyllidebol ar draws ysgolion a gofynnwyd a oedd mesurau ymyrryd arbennig ar gael i'r Awdurdod, os oedd angen. Rhoddodd Pennaeth y Gwasanaethau Addysg a Chynhwysiant sicrwydd i'r Pwyllgor fod pob ysgol bellach, o ganlyniad i'r cymorth a ddarperir gan yr Awdurdod, yn fwy ymwybodol o ofynion cynllunio'r gyllideb a gwariant. Cadarnhawyd nad oedd unrhyw ysgolion mewn mesurau arbennig ar hyn o bryd a bod Estyn yn gweithio gyda'r Awdurdod fel rhan o'r Rhaglen Arolygu Ysgolion.
· Cyfeiriwyd at y fformiwla ariannu gyffredinol ar gyfer ysgolion a oedd wedi'i hadolygu i fynd i'r afael â'r gwasgfeydd a nodwyd gan ysgolion, yn enwedig y rheiny mewn ardaloedd gwledig lle roedd llai o ddisgyblion. Diolchodd y Pwyllgor i'r Awdurdod am y cymorth ychwanegol a ddarparwyd, yr oedd yr ysgolion yn ddiolchgar amdano. Cadarnhaodd Pennaeth y Gwasanaethau Addysg a Chynhwysiant fod y trefniadau a roddwyd ar waith i gynorthwyo ysgolion yn defnyddio llawer o adnoddau. Yn hyn o beth, hysbyswyd y Pwyllgor fod y Rhaglen Moderneiddio Addysg (MYA) yn faes ffocws i'r Awdurdod ac y byddai'n cael ei ystyried ymhellach yn ystod hydref 2022.
· Mewn ymateb i gais gan y Pwyllgor, cytunwyd y dylid cynnal adolygiad ymhen 6 mis, gydag adroddiad diweddaru i'w gyflwyno i'w ystyried gan y Pwyllgor Craffu - Addysg a Phlant.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL
|
|||||||||||||||||||||||||
ARCHWILIO CYMRU: ADOLYGIAD O'R GWASANAETHAU CYNLLUNIO - CYNGOR SIR CAERFYRDDIN Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Gan gyfeirio at gofnod 4.2 o'r cyfarfod ar 17 Rhagfyr 2021, ystyriodd y Pwyllgor adroddiad diweddaru mewn ymateb i argymhellion Archwilio Cymru a chamau gweithredu cytûn yn deillio o'r adolygiad o Wasanaethau Cynllunio'r Cyngor. Ceisiai'r adroddiad roi sicrwydd i'r Pwyllgor fod cynnydd sylweddol wedi'i wneud dros y saith mis diwethaf.
Roedd y Pwyllgor yn falch o nodi bod 15 o 17 o argymhellion Archwilio Cymru wedi'u cwblhau hyd yma a bod 47 o'r 49 o is-gamau gweithredu a oedd yn sail i argymhellion Archwilio Cymru wedi'u cwblhau.
Ymdriniwyd â'r materion/sylwadau a godwyd gan y Pwyllgor fel a ganlyn:-
· Anogwyd yr Aelodau i nodi'r cynnydd sylweddol a wnaed i fynd i'r afael ag argymhellion Archwilio Cymru a chanmolwyd y staff am eu gwaith rhagorol a oedd yn rhoi sicrwydd i'r Pwyllgor bod y materion a nodwyd yn cael sylw.
· Roedd y Pwyllgor yn arbennig o falch fod morâl y staff wedi gwella, a phwysleisiwyd pwysigrwydd llesiant staff, a oedd yn hanfodol er mwyn i wasanaethau barhau i wella.
· Mewn ymateb i bryderon gan Aelodau am broblemau gorfodi, eglurodd Cyfarwyddwr Dros Dro yr Amgylchedd fod nifer yr achosion oedd heb eu cwblhau wedi gostwng yn sylweddol ers mis Mai 2021, a bod yr is-adran wedi ymdrin â nifer o achosion cymhleth ac wedi parhau i wneud cynnydd da i ddatrys achosion cyfredol a hanesyddol. Yn hyn o beth, sicrhawyd y Pwyllgor bod fframwaith monitro perfformiad wedi'i roi ar waith i gryfhau prosesau o fewn yr is-adran.
· Cyfeiriwyd at yr amrywiadau mewn lefelau perfformiad, fel y nodwyd yn yr adroddiad. Cydnabu Cyfarwyddwr Dros Dro yr Amgylchedd fod recriwtio staff proffesiynol profiadol yn parhau i fod yn her ar draws y sector cynllunio cyfan, ac felly gellid priodoli'r amrywiant i amrywiadau mewn adnoddau.
· Gwnaeth y Pwyllgor gais am gynnal adolygiad 'deep dive' o faterion gorfodi, a byddai'r canlyniad yn cael ei adrodd yn ôl i'r Pwyllgor ym mis Rhagfyr 2022. Cydnabuwyd y byddai'r adolygiad dilynol gan Archwilio Cymru o'r Gwasanaethau Cynllunio yn dylanwadu ar yr adroddiad.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL
|
|||||||||||||||||||||||||
Y DIWEDDARAF YNGHYLCH AR CYNLLUN ARCHWILIO MEWNOL 2021/22 A 2022/23 Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd oedd yn cael ei wneud o ran gweithredu Cynlluniau Archwilio Mewnol 2021/22 a 2022/23. Adroddwyd bod cyfradd gwblhau o 93% wedi'i chyflawni ar gyfer 2021/22, a bod yr eitemau oedd yn weddill wedi'u cynnwys yng Nghynllun Mewnol 2022/23, a oedd yn nodi cyfradd gwblhau o 12.5% hyd yma. Edrychodd y Pwyllgor ar y cynnydd a wnaed o ran cyflawni'r rhaglen archwilio.
Yna tynnwyd sylw'r Pwyllgor at yr adolygiad o systemau ariannol allweddol yr Awdurdod mewn perthynas â Thaliadau Credydwyr a'r Gyflogres. Roedd yr adroddiad yn nodi cwmpas yr adolygiad, y materion a nodwyd, a'r argymhellion a wnaed.
Ymdriniwyd â'r materion/sylwadau a godwyd gan y Pwyllgor fel a ganlyn:-
· Mewn ymateb i gais gan y Pwyllgor, cytunwyd y byddai adroddiadau diweddaru'r Cynllun Archwilio yn y dyfodol yn cynnwys nifer y diwrnodau a gymerwyd i gwblhau pob archwiliad.
· Cyfeiriwyd at y prosesau ymgeisio ar gyfer tâl Mamolaeth a Thadolaeth, nad oeddent ar y cyfan yn cael eu cyflwyno'n unol â'r amserlenni gofynnol. Roedd y Pennaeth Refeniw a Chydymffurfiaeth Ariannol yn cydnabod bod gan Reolwyr rywfaint o gyfrifoldeb i sicrhau bod y dogfennau priodol yn cael eu cyflwyno yn unol â pholisi'r Awdurdod. Nodwyd hefyd bod y mater yn waeth byth o achos oedi wrth roi tystysgrifau MATB1, ac yn hyn o beth, sicrhawyd y Pwyllgor y byddai Swyddogion yn adolygu'r mater gyda'r adran Adnoddau Dynol, gyda'r bwriad o godi'r mater gyda'r Awdurdod Iechyd o bosibl.
· Adroddwyd bod graddfa'r balansau credyd wedi gostwng o £289k i £184k ers yr archwiliad blaenorol. Eglurwyd cymhlethdod y broses i'r Aelodau a rhoddwyd sicrwydd bod ymdrechion yn cael eu gwneud i fynd i'r afael â'r mater, yn enwedig ar gyfer hen anfonebau, a byddent yn cael eu hadlewyrchu'n gywir yng nghyfrifon yr Awdurdod.
· Mynegwyd pryderon yngl?n â'r methiant i godi archebion prynu mewn amgylchiadau priodol. Nododd y Pennaeth Refeniw a Chydymffurfiaeth Ariannol fod y mater wedi'i gyfeirio at y rhaglen Trawsnewid, Arloesi a Newid (TIC) gyda'r nod o wella cydymffurfiaeth a pherfformiad yn y maes hwn. Yn unol â hynny, byddai Polisi 'Sicrhau Cydymffurfiaeth â'r Gorchymyn Brynu' yn cael ei dreialu'n fuan i fynd i'r afael â'r mater. Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Ariannol wrth yr Aelodau y gallai'r diffyg cydymffurfio, mewn rhai achosion, fod o achos problemau adrodd o ganlyniad i'r systemau a weithredir gan yr Awdurdod. Yn dilyn cais a wnaed gan Aelod, cytunwyd y dylid rhoi adroddiad cynnydd i'r Aelodau mewn modd amserol y tu allan i broses y cyfarfod, gyda'r bwriad o roi sicrwydd bod y maes risg wedi'i liniaru drwy reolaethau effeithiol.
· Roedd y Pwyllgor o'r farn bod lefel yr ymateb i'r ymarfer ardystio gweithwyr yn annerbyniol. Awgrymwyd y dylid mynd i'r afael â'r diffyg ymatebion yn ystod gwerthusiadau staff. Nododd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol y byddai'r pryderon a fynegwyd gan y Pwyllgor yn cael eu hystyried mewn cyfarfod o'r Tîm Rheoli Corfforaethol yn y dyfodol.
· Er bod y sgôr archwilio gyffredinol ar gyfer y systemau ariannol allweddol ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6. |
|||||||||||||||||||||||||
ADRODDIAD BLYNYDDOL ARCHWILIAD MEWNOL 2021/22 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor Adroddiad Blynyddol Archwilio Mewnol ar gyfer 2021/22 a oedd yn nodi barn y Prif Weithredwr Archwilio (Pennaeth Refeniw a Chydymffurfiaeth Ariannol) ar ddigonolrwydd ac effeithiolrwydd amgylchedd rheoli'r Awdurdod, yn seiliedig ar gyflawni Cynllun Archwilio Mewnol 2021/22 a gymeradwywyd gan y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ar 26 Mawrth 2021. Yn unol â hynny, roedd yr adroddiad yn crynhoi sefyllfa flynyddol y gwaith archwilio a wnaed o fewn yr Awdurdod yn ystod y cyfnod adrodd yn unol â darpariaethau Safonau Archwilio Mewnol y Sector Cyhoeddus (PSIAS) ac yn cynnwys data cymaradwy neu gyfnod adrodd 2020/21.
Nododd y Pwyllgor fod y Pennaeth Refeniw a Chydymffurfiaeth Ariannol o'r farn fod gan yr Awdurdod, ar y cyfan, amgylchedd rheoli derbyniol ar waith. Daeth yr adroddiad i'r casgliad bod trefniadau llywodraethu clir ar waith, a oedd yn cynnwys strwythurau pwyllgorau a chyfrifoldebau rheoli diffiniedig, gyda fframwaith rheoli cadarn ar y cyfan a oedd yn cael eu gweithredu'n weddol gyson. Cyfeiriwyd hefyd at Gyfansoddiad sefydledig yr Awdurdod, ac roedd wedi datblygu polisïau a chymeradwyo Rheolau Gweithdrefn Ariannol a roddai gyngor ac arweiniad i'r holl staff ac aelodau. O ganlyniad, roedd y Pennaeth Refeniw a Chydymffurfiaeth Ariannol yn fodlon fod gwaith sicrwydd digonol wedi ei gyflawni i'w galluogi i ddod i gasgliad rhesymol ynghylch digonolrwydd ac effeithiolrwydd amgylchedd rheoli mewnol yr Awdurdod.
Ymdriniwyd â'r materion/sylwadau a godwyd gan y Pwyllgor fel a ganlyn:-
· Cyfeiriwyd at adran 9.4 o'r adroddiad lle cadarnhawyd bod y sgôr risg Seiberddiogelwch wedi'i hadolygu yn dilyn y cais a wnaed gan y Pwyllgor yn ei gyfarfod ar 11 Mawrth 2022, a chadarnhawyd bod y sgôr wedi'i gosod yn briodol oherwydd y rheolaethau lliniaru sydd ar waith o fewn yr Awdurdod.
· Mewn ymateb i ymholiad, darparodd y Pennaeth Refeniw a Chydymffurfiaeth Ariannol grynodeb o'r rhaglen hyfforddi a datblygu gynhwysfawr a'r cyfleoedd oedd ar gael i weithwyr yn yr is-adran Gwasanaethau Corfforaethol i wella sgiliau ac annog staff i aros. At hynny, cyfeiriodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol at fenter Cymru gyfan i annog unigolion i ymgymryd â swyddi ym maes cyllid y sector cyhoeddus, ac roedd yna Raglen Rheoli Talent Genedlaethol i ddenu a chadw gweithwyr cyllid proffesiynol o fewn Llywodraeth Leol.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r gofynion statudol, fod Adroddiad Blynyddol Archwilio Mewnol 2021/22 yn cael ei dderbyn. |
|||||||||||||||||||||||||
YSTYRIED Y DOGFENNAU CANLYNOL PARATOWYD GAN SWYDDFA ARCHWILIO CYMRU: Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd gynrychiolwyr Archwilio Cymru i'r cyfarfod, sef Mr Jason Blewitt a Ms Alison Lewis. |
|||||||||||||||||||||||||
DIWEDDARIAD RHAGLEN WAITH ARCHWILIO CYMRU Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Pwyllgoryn ystyried adroddiad a gyflwynwyd gan Gynrychiolwyr Archwilio Cymru ar Raglen Waith Archwilio Cymru a'r diweddariad chwarterol ynghylch yr Amserlen, ar 31 Mawrth 2022.
PENDERFYNODD YN UNFRYDOL nodi’r Diweddariad ynghylch Rhaglen Waith Archwilio Cymru.
|
|||||||||||||||||||||||||
CYNLLUN ARCHWILIO 2022 - CYNGOR SIR CAERFYRDDIN Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried Cynllun Archwilio 2022/23 ar gyfer Cyngor Sir Caerfyrddin. Mae'n rhaid i'r Archwilydd Cyffredinol, fel archwilydd Cyngor Sir Caerfyrddin, gyflawni ei ddyletswyddau a'i rwymedigaethau statudol o dan Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004, ac roedd y cynllun yn nodi'r gwaith oedd i'w wneud er mwyn cyflawni'r cyfrifoldebau hynny.
Wrth ystyried risgiau archwilio'r datganiad ariannol a nodwyd yn Arddangosyn 1 o'r adroddiad, eglurodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Corfforaethol yr amserlenni ar gyfer archwilio datganiadau ariannol ac esboniodd fod yr oedi yn y Datganiad o Gyfrifon ar gyfer 2021/22, ar y cyfan, i'w briodoli i ffactorau a oedd yn ymwneud â phandemig y coronafeirws, yn ogystal â chwblhau'r gwaith oedd ei angen i fynd i'r afael â'r risgiau cysylltiedig â phrisio asedau.
Ymdriniwyd â'r materion/sylwadau a godwyd gan y Pwyllgor fel a ganlyn:-
· Eglurwyd i'r Aelodau fod proses prisio asedau Archwilio Cymru yn amrywio rhywfaint o gymharu â chanllawiau CIPFA.
· Cyfeiriwyd at brosiect Pentre Awel (pentref Gwyddor Bywyd a Llesiant) oedd dan arweiniad y Cyngor, a nodwyd bod cyfanswm y buddsoddiad yn y prosiect yn £200 miliwn, gyda chyfanswm y contract ar gyfer 2022/23 yn £87 miliwn. Bydd £40 miliwn o gyfanswm buddsoddiad y prosiect yn cael ei dalu o Gyllid Llywodraeth Cymru.
· Mewn ymateb i ymholiad, cadarnhaodd yr Archwilydd Allanol fod Archwilio Cymru wrthi'n ymgynghori ar hyn o bryd i nodi meysydd ffocws posibl ar gyfer gwaith archwilio yn y dyfodol. Adroddwyd byddai darpariaeth gwasanaethau digidol yn cael ei hadolygu o fewn pob Cyngor Sir ledled Cymru yng nghyd-destun newid arferion gwaith yn dilyn pandemig y coronafeirws. Yn hyn o beth, hysbyswyd y Pwyllgor y gellid rhannu rhagor o wybodaeth ar ôl cwblhau'r cam cwmpasu.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi Cynllun Archwilio 2022/23 ar gyfer yr Awdurdod. |
|||||||||||||||||||||||||
CYNLLUN ARCHWILIO 2022 - CRONFA BENSIWN DYFED Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: [Noder: Datganwyd buddiant yn yr eitem hon gan y Cynghorwyr K. Broom, K. Davies, D.E. Williams a J. Williams a Mr M. MacDonald.]
Bu'r Pwyllgor yn ystyried Cynllun Archwilio 2022/23 ar gyfer Cronfa Bensiwn Dyfed. Dywedwyd bod yn rhaid i'r Archwilydd Cyffredinol, fel archwilydd Cronfa Bensiwn Dyfed, gyflawni ei ddyletswyddau a'i rwymedigaethau statudol o dan Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004, ac roedd y cynllun yn nodi'r gwaith oedd i'w wneud er mwyn cyflawni'r cyfrifoldebau hynny. Yn unol â hynny, rhoddwyd ystyriaeth i'r tîm archwilio, y ffioedd a'r amserlen.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi Cynllun Archwilio 2022/23 ar gyfer Cronfa Bensiwn Dyfed.
|
|||||||||||||||||||||||||
DATGANIAD LLYWODRAETHU BLYNYDDOL 2021/22 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Adolygodd y Pwyllgor Ddatganiad Llywodraethu Blynyddol y Cyngor ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2022, a fyddai'n cyd-fynd â'r Datganiad o Gyfrifon i ddangos bod yr Awdurdod yn cydymffurfio â fframwaith CIPFA a SOLACE a'i saith egwyddor graidd o lywodraethu da.
Ymdriniwyd â'r materion/sylwadau a godwyd gan y Pwyllgor fel a ganlyn:-
· Canmolodd y Pwyllgor dempled AGS fel enghraifft o arfer gorau. Cyfeiriwyd at y gofynion oedd yn deillio o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 o ran trefniadau llywodraethu effeithiol. Awgrymwyd ad-drefnu rhywfaint o'r wybodaeth a'i gosod yn adran yr Atodiadau er mwyn sicrhau bod y camau gofynnol yn cael eu monitro'n briodol.
· Mewn ymateb i sylwadau a wnaed gan Aelod, cadarnhaodd y Pennaeth Refeniw a Chydymffurfiaeth Ariannol y byddai'r Pwyllgor yn derbyn adroddiad blynyddol ar gwynion a fyddai'n cynnwys gwybodaeth gymharol am themâu cwynion.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r Datganiad Llywodraethu Blynyddol. |
|||||||||||||||||||||||||
BLAENRHAGLEN GWAITH Y PWYLLGOR LLYWODRAETHU AC ARCHWILIO Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor y Flaenraglen Waith ar gyfer Cylch Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio 2022/23 a oedd yn manylu ar yr eitemau i'w cyflwyno i'r Pwyllgor mewn cyfarfodydd yn ystod y flwyddyn i ddod, yn ogystal â rhaglen o sesiynau datblygu er mwyn rhoi'r sgiliau angenrheidiol i Aelodau gyflawni eu gwaith ar y Pwyllgor yn effeithiol.
Gofynnodd y Pwyllgor am i hyfforddiant ar Risgiau Seiber a Thwyll gael ei gynnwys yn rhaglen hyfforddi 2022/23.
PENDERFYNWYD YN UNFYRDOL fod y Flaenraglen Waith am 2022/23 yn cael ei nodi.
|
|||||||||||||||||||||||||
COFNODION GRWPIAU PERTHNSAOL I'R PWYLLGOR LLYWODRAETHU AC ARCHWILIO Dogfennau ychwanegol: |
|||||||||||||||||||||||||
GRWP LLYWIO RHEOLI RISG 12 MAI 2022 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn cofnodion cyfarfod y Gr?p Llywio Rheoli Risg a gynhaliwyd ar 12 Mai 2022. |
|||||||||||||||||||||||||
PANEL GRANTIAU 29 TACHWEDD 2021 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn cofnodion cyfarfod y Panel Grantiau a gynhaliwyd ar 29 Tachwedd 2021. |
|||||||||||||||||||||||||
PANEL GRANTIAU 08 MAWRTH 2022 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn cofnodion cyfarfod y Panel Grantiau a gynhaliwyd ar 8 Mawrth 2022.
|
|||||||||||||||||||||||||
LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION CYFARFOD PWYLLGOR LLYWODRAETHU AC ARCHWILIO AR:- Dogfennau ychwanegol: |
|||||||||||||||||||||||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyfeiriodd y Pennaeth Refeniw a Chydymffurfiaeth Ariannol at adroddiad Gofal Preswyl Garreg Lwyd a adroddwyd yn flaenorol i'r Pwyllgor, a nododd y byddai canlyniadau'r adolygiad diweddaraf yn cael eu cyflwyno i gyfarfod yn y dyfodol.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio a gynhaliwyd ar 11 Mawrth 2022 gan eu bod yn gywir.
|
|||||||||||||||||||||||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: [SYLWER: Bu i Ms J. James, Mr M MacDonald a Mr D MacGregor ddatgan buddiant personol yn yr eitem hon ac aros yn y cyfarfod ond dim pleidleisio].
PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ar 8 Ebrill 2022, gan eu bod yn gywir.
|