(NODER: Roedd y Cynghorwyr K. Broom a K.
Madge ynghyd â Mr D. MacGregor, Mr C. Moore a Mrs H. Pugh
wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach a pharhaodd yn y
cyfarfod tra oedd yr eitem yn cael ei thrafod)
Yn sgil cymhwyso prawf budd y cyhoedd
PENDERFYNWYD, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng
nghofnod rhif 3 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn
breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn
y cyfarfod, gan y byddai hynny yn datgelu gwybodaeth eithriedig am
unigolyn penodol (Paragraff 12 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r
Ddeddf).
Yr oedd y prawf budd y cyhoedd mewn
perthynas â'r mater hwn yn ymwneud â'r ffaith fod yr
adroddiad yn cynnwys manylion o'r ceisiadau a ddaethai i law am y
swydd Person Lleyg. Roedd y budd i'r cyhoedd o ran cynnal yr
eithriad uchod yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran datgelu'r
wybodaeth a geir yn yr adroddiad hwn, gan y byddai gan ymgeiswyr
ddisgwyliad rhesymol na fyddai eu gwybodaeth bersonol yn cael ei
datgelu i'r cyhoedd. Nid oedd unrhyw fudd cyhoeddus tra phwysig o
ran datgelu gwybodaeth o'r fath.
Roedd y Pwyllgor wedi cyfweld â
phedwar ymgeisydd ar gyfer swydd y Person Lleyg ar y Pwyllgor
Llywodraethu ac Archwilio.
Ar ôl ystyried y cyflwyniadau gan yr
ymgeiswyr,
PENDERFYNWYD ARGYMELL I'R CYNGOR, er mwyn
bodloni gofyniad Cyfansoddiad y Cyngor, bod y Cyngor Sir yn penodi
Karen Jones i swydd Person Lleyg ar y Pwyllgor Llywodraethu ac
Archwilio am y cyfnod 19 Ebrill 2023 hyd 18 Ebrill
2028.