Agenda a chofnodion drafft

Cyfarfod cyffredin, Treth y Cyngor & Polisi tal, Cyngor Sir - Dydd Mercher, 6ed Mawrth, 2024 10.00 yb

Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Kevin Thomas  01267 224027

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr P. Cooper, C. Davies, LL. M. Davies, D. Nicholas a J. Seward.

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Y Cynghorydd

Rhif y Cofnod

Y Math o Fuddiant

J.M. Charles

8 – Datganiad Polisi Tâl 2024/25

Mae aelodau agos o'r teulu yn gweithio i'r Awdurdod

Mae ei fab yn gweithio mewn ysgol

D.M. Cundy

8 – Datganiad Polisi Tâl 2024/25

Mae perthnasau iddo'n gweithio i'r Cyngor

A.  Davies

8 – Datganiad Polisi Tâl 2024/25

Mae aelod o'i deulu'n gweithio i'r Awdurdod

B.  Davies

8 – Datganiad Polisi Tâl 2024/25

Mae ei wraig yn gweithio i Adran Iechyd y Cyngor Sir

C.A. Davies

8 – Datganiad Polisi Tâl 2024/25

Mae ei chwaer yn gweithio i'r Awdurdod

S.L. Davies

10.1 – Rhybudd o Gynnig a gyflwynwyd gan y Cynghorydd R. James a D. Jones

Mae'n gweithio i Dolen Teifi. Os bydd unrhyw faterion trafnidiaeth yn codi. Caniatawyd gollyngiad iddi siarad ar y mater. 

T. Davies

8 – Datganiad Polisi Tâl 2024/25

Mae aelod o'r teulu'n gweithio i'r Awdurdod

T.A.J. Davies

8 – Datganiad Polisi Tâl 2024/25

Mae ei chwaer yng nghyfraith yn gweithio fel Pennaeth Gwasanaeth

A. Evans

8 – Datganiad Polisi Tâl 2024/25

Mae fy mam yn gweithio i'r awdurdod

D.C. Evans

8 – Datganiad Polisi Tâl 2024/25

Mae ei wraig yn gweithio i'r Awdurdod fel rhan o'r Ganolfan Alwadau

N. Evans

8 – Datganiad Polisi Tâl 2024/25

Mae ei merch yn gweithio i'r Awdurdod

R. Evans

8 – Datganiad Polisi Tâl 2024/25

Mae ei ferch yn gweithio i'r Awdurdod

S. Godrey-Coles

8 – Datganiad Polisi Tâl 2024/25

Mae fy mhartner yn gweithio i'r Awdurdod Lleol

J. Hart

8 – Datganiad Polisi Tâl 2024/25

Mae ganddo aelodau o'r teulu sy'n gweithio i'r Awdurdod

T. Higgins

8 – Datganiad Polisi Tâl 2024/25

Mae ei nith yn gweithio yn y llyfrgell

 

P.M. Hughes

8 – Datganiad Polisi Tâl 2024/25

Mae aelod o'i deulu yn gweithio i'r Awdurdod

A.C. Jones

8 – Datganiad Polisi Tâl 2024/25

Mae aelod o'r teulu'n gweithio i'r Gwasanaethau Cymdeithasol

H. Jones

8 – Datganiad Polisi Tâl 2024/25

Mae nifer o'i ffrindiau agos a'i deulu yn gweithio i'r Awdurdod

A. Leyshon

8 – Datganiad Polisi Tâl 2024/25

Mae ei ferch yn gweithio yn y llyfrgell

M.J.A. Lewis

8 – Datganiad Polisi Tâl 2024/25

Mae ei nith yn gweithio i'r Awdurdod Addysg

K. Madge

8 – Datganiad Polisi Tâl 2024/25

Mae ei ferch yn gweithio i'r Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol

M. Palfreman

8 – Datganiad Polisi Tâl 2024/25

Mae ganddo nifer o ffrindiau sy'n gweithio i'r Awdurdod

W.E. Skinner

8 – Datganiad Polisi Tâl 2024/25

Mae ganddo nith sy'n gweithio yn yr Adran Addysg

E. Rees

8 – Datganiad Polisi Tâl 2024/25

Mae ei frawd yn gweithio i'r Awdurdod

B.A.L. Roberts

8 – Datganiad Polisi Tâl 2024/25

Mae ei merch yn gweithio ym maes Gofal Cymdeithasol

F. Walters

8 – Datganiad Polisi Tâl 2024/25

Mae aelodau o'i theulu yn gweithio i'r Awdurdod

 

SYLWER:  Datganodd y Prif Weithredwr fuddiant yn eitem 8 ar yr agenda – Datganiad Polisi Tâl 2024/25 - ar ran yr holl swyddogion a oedd yn bresennol yn y cyfarfod, yn y Siambr ac yn rhithwir, a dywedodd y  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 2.

3.

CYHOEDDIADAU'R CADEIRYDD.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

The Chair reported that she had the previous week, together with Councillor Edward Thomas, visited a lady in Llandeilo celebrating her 112th birthday.

4.

CYHOEDDIADAU GAN YR ARWEINYDD, AELODAU'R CABINET NEU'R PRIF WEITHREDWR (OS OES RHAI)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Faterion Gwledig, Cydlyniant Cymunedol a Pholisi Cynllunio wrth y Cyngor fod y cyfnodau ymgynghori sy'n ymwneud â Llinell Beilonau Tywi/Teifi Green Gen a chynllun Ffermio Cynaliadwy Llywodraeth Cymru yn dod i ben ac anogodd aelodau i gyfrannu at y broses ar gyfer y ddau ymgynghoriad hynny.

5.

YSTYRIED YR ENWEBIADAU AR GYFER SWYDD CADEIRYDD Y CYNGOR AM FLWYDDYN Y CYNGOR 2024-25

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD enwebu'r Cynghorydd H.L. Davies yn Ddarpar Gadeirydd Cyngor Sir Caerfyrddin ar gyfer Blwyddyn y Cyngor 2024/25.

6.

YSTYRIED YR ENWEBIADAU AR GYFER SWYDD IS-GADEIRYDD Y CYNGOR AM FLWYDDYN Y CYNGOR 2024-2025

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD enwebu'r Cynghorydd D. Jones yn Ddarpar Is-gadeirydd Cyngor Sir Caerfyrddin ar gyfer Blwyddyn y Cyngor 2024/25.

7.

PENNU TRETH Y CYNGOR AM Y FLWYDDYN ARIANNOL 2024/25 pdf eicon PDF 97 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Cyngor adroddiad, a gyflwynwyd gan yr Aelod Cabinet dros Adnoddau, a oedd yn nodi'r manylion ariannol perthnasol o ran pennu'r Dreth Gyngor am flwyddyn ariannol 2024/2025, ynghyd â symiau'r Dreth Gyngor o ran gwahanol Fandiau Prisio'r Dreth Gyngor, fel yr oeddent yn berthnasol i'r holl Gynghorau Cymuned a Thref unigol.

Nodwyd bod yr argymhellion yn yr adroddiad yn dwyn ynghyd ofynion cyllideb yr awdurdod a'r praeseptau ar gyfer Awdurdod yr Heddlu a'r Cynghorau Tref a Chymuned i symiau cyfunol y Dreth Gyngor mewn perthynas â bandiau prisio unigol y Dreth Gyngor.

PENDERFYNWYD, er mwyn galluogi'r Cyngor i gydymffurfio â'r gofynion deddfwriaethol, bod adroddiad ac argymhellion Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol ynghylch pennu'r Dreth Gyngor am flwyddyn ariannol 2024/25 yn cael eu mabwysiadu.

8.

DATGANIAD POLISI TALIADAU 2024/25 pdf eicon PDF 147 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[SYLWER:

1. Roedd y     Cynghorwyr J.M Charles, D.M. Cundy, A. Davies, B. Davies, C.A. Davies, T. Davies, T.A.J. Davies, A. Evans, D.C. Evans, N.  Evans, R.E. Evans, S. Godfrey-Coles, J. Hart, T. Higgins, P.M. Hughes, R. James, A.C. Jones, H. Jones, A. Leyshon, M.J.A. Lewis, K. Madge, M. Palfreman, W.E. Skinner, E. Rees, B.A.L. Roberts, a F. Walters wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach a gadawodd y cynghorwyr hynny y cyfarfod;

2.    Barnwyd bod gan bob swyddog a oedd yn bresennol fuddiant personol yn yr eitem hon a gadawsant y cyfarfod cyn iddi gael ei hystyried ac eithrio Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd, y Swyddog Gwasanaethau Democrataidd a swyddogion a oedd yn hwyluso trefniadau gweddarlledu'r cyfarfod.

3.    Gan fod yr Aelod Cabinet dros Drefniadaeth a'r Gweithlu wedi datgan diddordeb yn yr eitem hon ac wedi gadael y cyfarfod, cyflwynodd Arweinydd y Cyngor yr adroddiad ar ei ran.

4.    Gan fod Cadeirydd y Cyngor, y Cynghorydd B.A.L. Roberts, wedi datgan buddiant yn yr eitem hon, cadeiriodd yr Is-gadeirydd y cyfarfod tra oedd yr adroddiad yn cael ei ystyried.

Cyflwynodd Arweinydd y Cyngor, ar ran yr Aelod Cabinet dros Drefniadaeth a'r Gweithlu, yr adroddiad a amlinellai fod rheidrwydd ar yr holl Awdurdodau Lleol, yn unol â darpariaethau Deddf Lleoliaeth 2011, i baratoi Datganiad Polisi Tâl y mae'n rhaid cytuno arno a'i gyhoeddi erbyn 1 Ebrill bob blwyddyn.  Roedd yn ofynnol i'r Datganiad gael ei gymeradwyo gan y Cyngor llawn ac roedd rhaid iddo bennu polisïau'r Awdurdod am y flwyddyn ariannol o ran cydnabyddiaeth ariannol ei Brif Swyddogion, cydnabyddiaeth ariannol y Gweithwyr oedd yn ennill y symiau lleiaf, a'r cysylltiad rhwng y gydnabyddiaeth ariannol i'w Brif Swyddogion ac i'w weithwyr nad oeddent yn Brif Swyddogion.

Dywedwyd bod Panel Ymgynghorol y Polisi Tâl, sy'n wleidyddol gytbwys, wedi cyfrannu at lunio'r Datganiad Polisi Tâl a bod ei argymhellion wedi'u cynnwys yn y ddogfen derfynol i'w chymeradwyo gan y Cyngor Sir y diwrnod hwnnw. Dywedwyd bod y Panel, yn ei gyfarfod y flwyddyn flaenorol, wedi gofyn bod yr opsiynau yn cael eu cyflwyno ar gyfer adolygu model cyflogau presennol y Cyd-gyngor Cenedlaethol a dileu'r gorgyffwrdd rhwng graddau, yn enwedig ar waelod y raddfa gyflog. Yn unol â'r cais hwnnw, roedd papur ar wahân (a oedd ynghlwm wrth yr adroddiad) yn rhoi manylion dau gynnig ar gyfer dileu'r gorgyffwrdd rhwng Graddau A i D ac A i E ynghyd â chostau. Roedd y Panel Tâl, yn ei gyfarfod ar 20 Chwefror 2024, wedi ystyried y ddau opsiwn, yng nghyswllt yr hinsawdd ariannol heriol, a chytunodd i gyflwyno cynnig 1 (h.y. dileu'r gorgyffwrdd rhwng Graddau A i D, gan gynnwys y graddau hynny) ym mis Ebrill 2025, os bydd yn ariannol hyfyw gwneud hynny. Byddai'r argymhelliad hwnnw yn cael ei drafod yn Fforwm Ymgynghorol ar y Cyd yr Undebau Llafur ym mis Ebrill 2024.

Hefyd rhoddwyd gwybod i'r Cyngor, yn ogystal â'r ymrwymiad a roddwyd eisoes mewn perthynas â chyfraddaucyflog byw y Living Wage Foundation, fod yr Awdurdod hefyd yn  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 8.

9.

DERBYN ADRODDIAD CYFARFOD Y CABINET A GYNHALIWYD AR Y 19 CHWEFROR 2024 pdf eicon PDF 114 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Mewn ymateb i gwestiwn am y Strategaeth Cyllideb Refeniw a'r diffyg yn y cyllidebau presennol y mae nifer o ysgolion cynradd ac uwchradd yn y Sir yn ei wynebu, dywedwyd wrth y Cyngor fod y sefyllfa yn ymwneud â chyllidebau ysgolion yn arbennig o gyfnewidiol ar hyn o bryd ac y byddai'n dod yn gliriach wrth iddynt bennu eu cyllidebau yn ystod yr wythnosau nesaf.

 

PENDERFYNWYD derbyn adroddiad cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 19 Chwefror, 2024.

10.

YSTYRIED Y RHYBUDDION O GYNNIG CANLYNOL:-

Dogfennau ychwanegol:

10.1

RHYBUDD O GYNNIG A GYFLWYNWYD GAN Y CYNGHORWYR ROBERT JAMES A DOT JONES

"Yn y bôn, mae gwasanaethau bysiau ysgol ar gyfer sicrhau bod ein disgyblion yn gallu teithio'n ddiogel i'r ysgol ynghyd â helpu i leddfu tagfeydd drwy leihau'r miloedd o deithiau unigol mewn ceir bob dydd.

 

Ym mis Chwefror, cafodd yr aelodau lleol wybod bod y gwasanaethau bws L23, L24 a L27 yn Llanelli wedi cael eu canslo pan wnaeth y darparwr lleol y penderfyniad anodd i dynnu ei ddarpariaeth yn ôl. Nid yw hwn yn achos ar ei ben ei hun, yn Sir Gaerfyrddin nac yng Nghymru, ond mae'n hanfodol ein bod yn gweithredu i sicrhau bod gan bob plentyn yr hawl a'r mynediad i wasanaethau bysiau ysgol yn Sir Gaerfyrddin.

 

Mae'r Cyngor hwn:

 

-        Yn galw ar y Cabinet i ddatblygu cynllun newydd ar gyfer sicrhau bod gan bob disgybl yn Sir Gaerfyrddin yr hawl a'r gallu i gael mynediad i wasanaethau bysiau ysgol dibynadwy.

-        Yn credu y dylid cynnal uwchgynhadledd frys gyda'r darparwyr preifat sy'n weddill i asesu hyfywedd pob llwybr ac ystyried a oes cyfleoedd i ddod â llwybrau yn ôl.

-        Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi ar frys ei hadolygiad diweddaraf ar y Mesur Teithio gan Ddysgwyr a lobïo dros gefnogi hefyd ddisgyblion sy'n byw o fewn 3 milltir i ysgol gyfun i deithio ar fws i'r ysgol"

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

(NODER: Roedd y Cynghorydd S.L. Davies wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach)

 

Bu'r Cyngor yn ystyried y Rhybudd o Gynnig canlynol a gyflwynwyd gan y Cynghorwyr Rob James a Dot Jones:-

 

"Yn y bôn, mae gwasanaethau bysiau ysgol ar gyfer sicrhau bod ein disgyblion yn gallu teithio'n ddiogel i'r ysgol ynghyd â helpu i leddfu tagfeydd drwy leihau'r miloedd o deithiau unigol mewn ceir bob dydd.

 

Ym mis Chwefror, cafodd yr aelodau lleol wybod bod y gwasanaethau bws L23, L24 a L27 yn Llanelli wedi cael eu canslo pan wnaeth y darparwr lleol y penderfyniad anodd i dynnu ei ddarpariaeth yn ôl. Nid yw hwn yn achos ar ei ben ei hun, yn Sir Gaerfyrddin nac yng Nghymru, ond mae'n hanfodol ein bod yn gweithredu i sicrhau bod gan bob plentyn yr hawl a'r mynediad i wasanaethau bysiau ysgol yn Sir Gaerfyrddin.

 

Mae'r Cyngor hwn:

·         Yn galw ar y Cabinet i ddatblygu cynllun newydd ar gyfer sicrhau bod gan bob disgybl yn Sir Gaerfyrddin yr hawl a'r gallu i gael mynediad i wasanaethau bysiau ysgol dibynadwy.

·         Yn credu y dylid cynnal uwchgynhadledd frys gyda'r darparwyr preifat sy'n weddill i asesu hyfywedd pob llwybr ac ystyried a oes cyfleoedd i ddod â llwybrau yn ôl.

·         Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi ar frys ei hadolygiad diweddaraf ar y Mesur Teithio gan Ddysgwyr a lobïo dros gefnogi hefyd ddisgyblion sy'n byw o fewn 3 milltir i ysgol gyfun i deithio ar fws i'r ysgol"

 

Eiliwyd y Cynnig.

 

Rhoddwyd cyfle i gynigydd ac eilydd y Cynnig siarad o blaid y Cynnig a bu iddynt amlinellu'r rhesymau dros ei gyflwyno, fel y'u nodwyd yn y Cynnig.

 

Gwnaed nifer o ddatganiadau o blaid ac yn erbyn y Cynnig

 

PENDERFYNWYD peidio â chefnogi'r Cynnig.

11.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.

12.

CWESTIYNAU GAN AELODAU:

Dogfennau ychwanegol:

12.1

CWESTIWN GAN Y CYNGHORYDD ROB JAMES I'R CYNGHORYDD EDWARD THOMAS - - YR AELOD CABINET DROS WASANAETHAU, TRAFNIDIAETH, GWASTRAFF A SEILWAITH

"A allai'r Cyngor nodi, fel nifer a chanran, faint o ffyrdd yn Sir Gaerfyrddin, a ddynodwyd yn flaenorol yn ffyrdd 30mya, sydd wedi'u newid i 20mya; a beth yw safbwynt yr Awdurdod hwn ar gefnogi gorfodi'r polisi?"

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

"A allai'r Cyngor nodi, fel nifer a chanran, faint o ffyrdd yn Sir Gaerfyrddin, a ddynodwyd yn flaenorol yn ffyrdd 30mya, sydd wedi'u newid i 20mya; a beth yw safbwynt yr Awdurdod hwn ar gefnogi gorfodi'r polisi?"

 

Ymateb gan y Cynghorydd Edward Thomas - yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Trafnidiaeth, Gwastraff a Seilwaith

 

Roedd cyflwyno deddfwriaeth Llywodraeth Cymru, Gorchymyn Ffyrdd Cyfyngedig (Terfyn Cyflymder 20 mya) (Cymru) 2022, yn gorfodi awdurdodau lleol i gyflwyno terfynau cyflymder diofyn o 20mya ar bob ffordd gyfyngedig yng Nghymru yn lle'r terfyn diofyn blaenorol o 30mya.  Mae ffyrdd cyfyngedig yn cael eu diffinio'n gyfreithiol yn Neddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 fel ffyrdd lle ceir system o oleuadau stryd.  Mae hyn yn gyffredinol yn berthnasol i'r rhan fwyaf o ffyrdd yn nhrefi Sir Gaerfyrddin a'r rhan fwyaf o bentrefi.  I roi'r terfyn diofyn newydd ar waith mewn aneddiadau ac ardaloedd trefol mwy, bu'n rhaid i awdurdodau lleol newid yr arwyddion terfyn cyflymder ar ffin yr ardal yn unig i gynnwys yn awtomatig yr holl ffyrdd cyfyngedig y tu mewn i'r ardal. Fodd bynnag, mae'n rhaid cydnabod bod hyn yn gymhleth.

 

Mae nifer o ffyrdd, er enghraifft yr A484 o Lanelli drwy Gaerfyrddin ac ymlaen i Gastellnewydd Emlyn, sydd bellach â nifer o rannau â therfyn cyflymder 20mya drwy ardaloedd aneddiadau fel Heol y Sandy, Porth Tywyn, tref Caerfyrddin a Chastellnewydd Emlyn, ond sydd â therfynau cyflymder uwch rhwng yr aneddiadau.  O ganlyniad, efallai y bydd gan un ffordd lawer o ddarnau sydd wedi newid yn ddiofyn o 30mya i 20mya. I ateb y cwestiwn, mae dadansoddiad o ddata yn ein system fapio yn dangos bod 2567 o ddarnau ffyrdd â goleuadau stryd sydd wedi newid yn ddiofyn i 20mya.  Fodd bynnag, dylid cydnabod hefyd bod o leiaf 300 o blith y 2567 o ddarnau ffyrdd hyn eisoes â chyfyngiadau 20mya cyn y ddeddfwriaeth, a hynny yn ardal Llanelli yn unig.  Pan oedd terfynau 20mya presennol ar waith yn flaenorol yn rhinwedd Gorchymyn Rheoleiddio Traffig, bu'n rhaid dirymu'r Gorchmynion er mwyn i gyfyngiad y ddeddfwriaeth ehangach gael blaenoriaeth.  Bu’n rhaid dirymu cyfanswm o 76 o Orchmynion Rheoleiddio Traffig lle roedd pob Gorchymyn yn cwmpasu un stryd neu grwpiau o strydoedd.

 

Un o brif amcanion y Cyngor Sir wrth gyflwyno'r ddeddfwriaeth oedd darparu cysondeb i ddefnyddwyr ffyrdd.  Mewn nifer o achosion, roedd gan ffyrdd penodol oleuadau stryd dros ran ohonynt yn unig.  Roedd hyn yn digwydd fel arfer tuag at ffin yr anheddiad lle roedd datblygiad yn ymestyn y tu hwnt i derfyn y goleuadau stryd. Mewn achosion o'r fath, byddai angen Gorchymyn Rheoleiddio Traffig i ymestyn y terfyn 20mya i ddechrau'r ardal anheddiad fel bod defnyddwyr ffyrdd yn deall yn glir eu bod yn mynd i mewn i amgylchedd trefol.  Roedd 417 o ddarnau ffyrdd yn cael eu trin fel hyn drwy Orchymyn Rheoleiddio Traffig.

 

Dywedodd Llywodraeth Cymru wrth awdurdodau lleol yng Nghymru y gallent wneud eithriadau i'r terfyn diofyn o 20mya i gadw terfyn o 30mya mewn amgylchiadau penodol a rhoddodd Llywodraeth Cymru ganllawiau  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 12.1

13.

ETHOL CADEIRYDD Y PWYLLGOR CRAFFU CYMUNEDAU, CARTREFI AC ADFYWIO YN DILYN SWYDD WAG CANOL TYMOR

Yn unol â Rheol 4 (2) o Weithdrefn y Cyngor mae'r enwebiad canlynol wedi'i gyflwyno i'r Prif Weithredwr :-

 

 Y Cynghorydd Robert Evans - Gr?p Llafur

 

Nid oes enwebiadau eraill wedi dod i law.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ethol y Cynghorydd R.E Evans yn Gadeirydd y Pwyllgor Craffu Cymunedau, Cartrefi ac Adfywio.

14.

CYMERADWYO'R NEWIDIADAU CANLYNOL I AELODAETH PWYLLGORAU A PHANELAU'R CYNGOR A GYNIGIR GAN Y GRWP LLAFUR

1.    Cynghorydd Michael Thomas i gymryd eu sedd wag ar y Pwyllgor Cynllunio

2.    Cynghorydd Peter Cooper i gymryd eu sedd wag ar y Pwyllgor Cronfa Bensiwn Dyfed

3.    Cynghorydd Tina Higgins i gymryd eu sedd wag ar y Gweithgor Adolygu’r Cyfansoddiad

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r newidiadau canlynol a gynigiwyd gan y Gr?p Llafur i aelodaeth Pwyllgorau a Phanelau:

 

·         Y Cynghorydd Michael Thomas i lenwi'r sedd wag ar y Pwyllgor Cynllunio.

·         Y Cynghorydd P. Cooper i lenwi'r sedd wag ar Bwyllgor Cronfa Bensiwn Dyfed.

·         Y Cynghorydd Tina Higgins i lenwi'r sedd wag ar Weithgor Adolygu'r Cyfansoddiad.