Agenda a Chofnodion

Cyngor Sir - Dydd Mercher, 13eg Ionawr, 2021 10.00 yb

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Emma Bryer  01267 224029

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr J.S. Edmunds, P.M. Edwards, A.L. Fox, P.M. Hughes, A. James, T.J. Jones a S. Najmi.

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Y Cynghorydd

Rhif y Cofnod

Y Math o Fuddiant

D.C. Evans

9.4 - Rhybudd o Gynnig a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Cefin Campbell

Mae'n berchen ar ail gartref.

K.V. Broom

9.4 - Rhybudd o Gynnig a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Cefin Campbell

Mae ganddi gartref gwyliau.

S.M. Allen

9.4 - Rhybudd o Gynnig a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Cefin Campbell

Mae ganddi Airbnb ac mae ganddi ffrindiau â llety gwyliau.

S.J.G. Gilasbey

8.2 - Derbyn Adroddiad Cyfarfod y Bwrdd Gweithredol a gynhaliwyd ar 21 Rhagfyr, 2020

Mae un o'i pherthnasau yn gweithio yn Ysgol Gwenllian. Mae'r Pwyllgor Safonau wedi rhoi gollyngiad i siarad ond nid pleidleisio ar y pwnc hwn.

S.J.G. Gilasbey

12 1 - Pwyllgor Craffu Addysg a Phlant - 23 Tachwedd 2020 (Cofnodion Er Gwybodaeth)

Mae un o'i pherthnasau yn gweithio yn Ysgol Gwenllian. Mae'r Pwyllgor Safonau wedi rhoi gollyngiad i siarad ond nid pleidleisio ar y pwnc hwn.

R. James

9.4 - Rhybudd o Gynnig a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Cefin Campbell

Mae ei berthnasau'n landlordiaid.

J.A. Davies

7.4 - Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig Sir Gaerfyrddin 2018-2033 Sylwadau a Ddaeth i Law a Newidiadau â Ffocws

Mae'n berchen ar dir a nodir yn y Cynllun Datblygu Lleol.

H.A.L. Evans

9.4 - Rhybudd o Gynnig a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Cefin Campbell

Mae gan aelod o'r teulu gartref gwyliau.

J.G. Prosser

9.4 - Rhybudd o Gynnig a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Cefin Campbell

Mae'n berchen ar ail gartref.

K. Lloyd

7.4 - Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig Sir Gaerfyrddin 2018-2033 Sylwadau a Ddaeth i Law a Newidiadau â Ffocws

Mae ganddo gyfranddaliadau yn Ynni Sir Gâr. Mae'r Pwyllgor Safonau wedi rhoi gollyngiad i siarad ond nid pleidleisio ar y pwnc hwn.

K. Lloyd

9.4 - Rhybudd o Gynnig a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Cefin Campbell

Mae gan gyfaill agos personol gartref gwyliau.

S.A. Curry

9.4 - Rhybudd o Gynnig a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Cefin Campbell

Mae gan berthynas gartref gwyliau.

B. Thomas

9.4 - Rhybudd o Gynnig a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Cefin Campbell

Mae gan gyfaill agos personol gartref gwyliau.

D.M. Cundy

9.4 - Rhybudd o Gynnig a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Cefin Campbell

Mae gan berthynas ail gartref.

E. Dole

9.4 - Rhybudd o Gynnig a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Cefin Campbell

Mae ganddo gartref gwyliau ar ei dir.

A. Vaughan-Owen

8.1 - Derbyn Adroddiad Cyfarfod y Bwrdd Gweithredol a gynhaliwyd ar 30 Tachwedd 2020

Mae wedi derbyn arian grant gan yr Awdurdod.

J. K. Howell

9.4 - Rhybudd o Gynnig a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Cefin Campbell

Mae gan aelod o'r teulu gartref gwyliau.

G.R. Jones

9.4 - Rhybudd o Gynnig a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Cefin Campbell

Mae gan aelod o'r teulu gartref gwyliau ac mae'n defnyddio llety Airbnb yn Sir Gaerfyrddin.

B.D.J. Phillips

7.4 - Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig Sir Gaerfyrddin 2018-2033 Sylwadau a Ddaeth i Law a Newidiadau â Ffocws

Mae gan ei fab safle ymgeisio yn y Cynllun Datblygu Lleol.

B.D.J. Phillips

9.4 - Rhybudd o Gynnig a gyflwynwyd gan y  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 2.

3.

CYHOEDDIADAU'R CADEIRYDD.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

·         Bu'r Cadeirydd yn llongyfarch Lisa Randell, Uwch-weithiwr Cymorth yng Nghartref Preswyl Llys y Bryn yn Llanelli, sydd wedi derbyn Medal yr Ymerodraeth Brydeinig am wasanaethau i iechyd a gofal cymdeithasol yn ystod Pandemig Covid-19.

·         Hefyd bu'r Cadeirydd yn llongyfarch Mr Huw Owen, Owens Group, Llanelli sydd wedi derbyn MBE a Sandra May Morgan, sydd wedi derbyn Medal yr Ymerodraeth Brydeinig.

·         Bu'r Cynghorydd Jean Lewis yn llongyfarch Emma Bolom, aelod o'r tîm a fu'n gyfrifol am frechlyn Rhydychen. Dywedodd y Cynghorydd Lewis eu bod yn hynod falch o'i llwyddiant a diolchodd iddi hi a'r tîm am ddatblygu'r brechlyn.

·         Rhoddodd yr Arweinydd ddatganiad ar sefyllfa Covid-19 yn y Sir gan ddweud bod cyfradd heintio Sir Gaerfyrddin bellach yn is na chyfartaledd Cymru ond ei bod yn hanfodol ein bod i gyd yn cadw at y cyfyngiadau.  Dywedwyd bod brechiadau'n cael eu cyflwyno'n llwyddiannus ledled y Sir.  Mynegwyd pryder ynghylch y canllawiau a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru ynghylch brechiadau mewn cartrefi gofal a dywedwyd y byddai'r Awdurdod yn lobïo Llywodraeth Cymru am Bolisi Cenedlaethol. Rhoddwyd sicrwydd bod mesurau diogelwch cadarn yn cael eu rhoi ar waith i sicrhau diogelwch y preswylwyr a'r staff.  Diolchodd yr Arweinydd i'r tîm am ei waith caled a'i ymroddiad wrth ateb y galw am y gwasanaeth.

4.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNOD CYFARFOD Y CYNGOR A GYNHALIWYD AR 9FED RHAGFYR, 2020 pdf eicon PDF 222 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd ar 9 Rhagfyr 2020 gan eu bod yn gywir.

5.

CYNLLUN LLEIHAU TRETH Y CYNGOR 2021-22. pdf eicon PDF 554 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Cyngor yn ystyried adroddiad ar Gynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor ar gyfer 2021/22 a chafodd wybod bod Llywodraeth San Steffan, yn 2013, wedi creu cynllun lleol yn lle Cynllun Budd-dal y Dreth Gyngor cenedlaethol. Dywedwyd, yn dilyn y newid hwnnw, bod Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno cynllun safonol yn 2013/14 a chynllun unffurf (gyda mân newidiadau) i Gymru gyfan yn y blynyddoedd dilynol, er bod hynny'n cynnwys ychydig o feysydd lle roedd awdurdodau lleol yn gallu arfer eu disgresiwn yn lleol fel y nodir yn yr adroddiad.  Er bod y cynllun wedi'i sefydlu ar sail Cymru gyfan, roedd yn ofynnol yn ôl y Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig fod pob awdurdod lleol yng Nghymru yn mabwysiadu Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor yn ffurfiol erbyn 31 Ionawr bob blwyddyn.

 

Ers i'r cynllun gael ei gyflwyno, roedd Cyngor Sir Caerfyrddin wedi defnyddio ei bwerau disgresiwn (yn yr un modd â'r rhan fwyaf o Awdurdodau Cymru) ac wedi diystyru'n llawn unrhyw Bensiynau Anabledd, Pensiynau Gweddwon Rhyfel a thaliadau tebyg wrth gyfrifo hawl. Pwysleisiwyd y byddai Sir Gaerfyrddin, drwy dderbyn argymhellion yr adroddiad, yn parhau i ddiystyru'r taliadau hynny.

 

PENDERFYNWYD bod y Cyngor ar gyfer 2021/22:

 

5.1

Yn mabwysiadu'n ffurfiol Gynllun safonol Cymru Gyfan ar gyfer Gostyngiadau'r Dreth Gyngor a ddarperir yn Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau'r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013;

 

5.2

Yn gweithredu'r ffigurau uwchraddio blynyddol (a ddefnyddir wrth gyfrifo hawl) a'r diwygiadau technegol eraill sydd wedi'u cynnwys yn Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau'r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a'r Cynllun Diofyn) (Cymru) (Diwygio) 2021, a fydd yn dod i rym ym mis Ionawr 2021 ac mae'r rheoliadau hyn yn berthnasol mewn perthynas â Chynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor a wnaed ar gyfer y flwyddyn ariannol sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2021;

 

5.3

Yn parhau i arfer ei ddisgresiwn o ran elfennau disgresiynol cyfyngedig y cynllun rhagnodedig, fel y'u hamlinellir yng Nghrynodeb Gweithredol yr adroddiad.

 

6.

ADRODDIAD BLYNYDDOL Y PWYLLGOR SAFONAU. pdf eicon PDF 302 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Estynnodd y Cadeirydd groeso i'r cyfarfod i Mrs Mary Dodd, Is-gadeirydd y Pwyllgor Safonau, a wahoddwyd i gyflwyno Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Safonau ar gyfer y cyfnod 2019/20 i'r Cyngor.

Diolchodd Mrs Dodd i'r Cyngor am y cyfle i gyflwyno'r Adroddiad Blynyddol ar ran y Pwyllgor Safonau ac aeth yn ei blaen i roi trosolwg o'r materion y bu'r Pwyllgor yn mynd i'r afael â hwy yn ystod 2019/20. Roedd y rheiny'n cynnwys Cwynion Côd Ymddygiad, Ceisiadau am Ollyngiad, Hyfforddiant Côd Ymddygiad ar gyfer Cynghorau Tref a Chymuned a Datgelu Camarfer.

Diolchodd yr Arweinydd i Mrs Dodd am ei chyflwyniad ac am y gwaith a wnaed gan y Pwyllgor Safonau.

PENDERFYNWYD derbyn Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Safonau am y cyfnod rhwng 1 Ebrill 2019 a 31 Mawrth 2020.

7.

YSTYRIED ARGYMHELLION Y BWRDD GWEITHREDOL O RAN Y MATERION CANLYNOL:-

Dogfennau ychwanegol:

7.1

ADRODDIAD CHWARTEROL YNGYLCH RHEOLI'R TRYSORLYS A DANGOSYDD DARBODAETH EBRILL 1AF 2020 I MEDI 30AIN 2020 pdf eicon PDF 220 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedwyd wrth y Cyngor fod y Bwrdd Gweithredol, yn ystod ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 30 Tachwedd 2020, wedi cymeradwyo'r wybodaeth ddiweddaraf am weithgareddau rheoli'r trysorlys o 1 Ebrill 2020 hyd at 30 Medi 2020, yn unol â Pholisi a Strategaeth Rheoli'r Trysorlys 2020/21 (a fabwysiadwyd gan y Cyngor ar 19 Chwefror 2020 - cofnod 8).

 

Dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau mai'r gostyngiad mewn cynnyrch domestig gros yn hanner cyntaf 2020 oedd -21.8%, ond bod hyn i'w ddisgwyl gan fod yr economi'n dibynnu'n fawr ar wasanaethau sy'n ymwneud yn uniongyrchol â chwsmeriaid yr oedd y cyfyngiadau symud wedi effeithio'n wael arnynt. Cafodd buddsoddiadau'r awdurdod yn ystod y cyfnod enillion cyfartalog o 0.28% a'r llog gros a enillwyd ar fuddsoddiadau oedd £0.209m a'r llog a dalwyd ar fenthyciadau oedd £8.96m.

 

PENDERFYNWYD mabwysiadu'r argymhelliad canlynol gan y Bwrdd Gweithredol

 

‘mabwysiadu'r Adroddiad Canol Blwyddyn ynghylch Dangosyddion Darbodaeth a Rheoli'r Trysorlys rhwng 1 Ebrill 2020 a 30 Medi 2020”.

7.2

CYNNIG I LEIHAU'R BROSES BENDERFYNU FEWNOL YNGHYLCH TREFNIADAETH YSGOLION pdf eicon PDF 424 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedwyd wrth y Cyngor bod y Bwrdd Gweithredol, yn ei gyfarfod ar 21 Rhagfyr 2020 (gweler cofnod 6), wedi ystyried adroddiad ar gynigion i fyrhau'r Broses Fewnol bresennol o Benderfynu ar Drefniadaeth Ysgolion wedi iddi gael ei chymeradwyo gan yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Addysg a Phlant ym mis Medi 2018.  Datblygwyd y cynnig presennol mewn ymateb i effaith y pandemig Covid-19 ar waith y Tîm Moderneiddio Darpariaeth Addysg a'r oedi o tua 6 mis a fu yn ei raglen waith o ganlyniad.

 

Dywedodd yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Addysg a Phlant wrth y Cyngor petai'n mabwysiadu argymhelliad y Bwrdd Gweithredol byddai'n golygu dileu ymgynghori â'r Pwyllgor Craffu - Addysg a Phlant o Gamau 2 a 3 y broses ar y sail bod y Bwrdd Gweithredol yn gallu cymeradwyo Cam 2 a bod y Cyngor Sir yn gallu cymeradwyo Cam 3.  Pe bai hyn yn cael ei fabwysiadu, byddai'r broses ymgynghori yn cymryd tua 2 fis yn llai. Y broses newydd wedyn fyddai:-

 

Cam 1 – Y Pwyllgor Craffu - Addysg a Phlant a'r Bwrdd Gweithredol

Cam 2 – Y Bwrdd Gweithredol

Cam 3 – Y Bwrdd Gweithredol a'r Cyngor

 

Nodwyd bod y Pwyllgor Craffu - Addysg a Phlant wedi cymeradwyo'r cynnig yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 23 Tachwedd 2020.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr argymhellion canlynol gan y Bwrdd Gweithredol:-

 

"Y dylid cymeradwyo'r cynnig i fyrhau'r Broses Fewnol o Benderfynu ar Drefniadaeth Ysgolion ac y dylid dileu'r Pwyllgor Craffu - Addysg a Phlant o Gamau 2 a 3 o'r broses ymgynghori”.

7.3

DATGANIAD TECHNEGOL RHANBARTHOL AR GYFER AGREGAU – DE CYMRU – AIL ADOLYGIAD (RTS2) pdf eicon PDF 349 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedwyd wrth y Cyngor bod y Bwrdd Gweithredol, yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 21 Rhagfyr 2020 (gweler cofnod 13) wedi ystyried adroddiad ar yr adolygiad a gynhaliwyd o'r Datganiad Technegol Rhanbarthol ar gyfer Agregau – De Cymru a gynhyrchwyd yn unol â gofynion Nodyn Cyngor Technegol Mwynau 1: Agregau (MTAN 2020). Nodwyd mai diben yr RTS2 oedd darparu strategaeth ar gyfer cyflenwi agregau adeiladu yn y dyfodol ym mhob rhanbarth (Gogledd a De Cymru) gan ystyried y wybodaeth ddiweddaraf mewn perthynas â chydbwysedd y cyflenwad a'r galw a'r syniadau cyfredol am gynaliadwyedd fel y'u nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr argymhelliad canlynol gan y Bwrdd Gweithredol:-

 

“cymeradwyo'r Datganiad Technegol Rhanbarthol ar gyfer Agregau – De Cymru – Ail Adolygiad (RTS2)”.

7.4

CYNLLUN DATBLYGU LLEOL DIWYGIEDIG SIR GAERFYRDDIN (2018- 2033) - SYLWADAU A OEDD WEDI DOD I LAW A NEWIDIADAU Â FFOCWS. pdf eicon PDF 394 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[SYLWER: Roedd y Cynghorwyr J.A. Davies, K. Lloyd, B.D.J. Phillips, G.B. Thomas a J. Tremlett wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach. Nid oedd yn ofynnol i'r un ohonynt adael y cyfarfod gan nad oedd y drafodaeth yn canolbwyntio ar unrhyw faterion a oedd yn gysylltiedig â'r buddiannau a ddatganwyd ganddynt].

 

Dywedodd y Dirprwy Arweinydd wrth y Cyngor fod y Bwrdd Gweithredol, yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 21 Rhagfyr 2020 (gweler cofnod 12), wedi ystyried adroddiad a fanylai ar y sylwadau a gafwyd ar Gynllun Datblygu Lleol Diwygiedig Adneuo Sir Gaerfyrddin 2018-2033 mewn ymateb i benderfyniad y Cyngor ar 10 Ionawr 2018 i ddechrau paratoi CDLl Diwygiedig (Newydd) yn ffurfiol. Roedd y penderfyniad hwnnw'n cynnwys ymgynghoriad cyhoeddus wyth wythnos o hyd a gynhaliwyd rhwng 29 Ionawr 2020 ac, yn dilyn estyniad o dros bythefnos, a ddaeth i ben ar 27 Mawrth 2020. Ategwyd hynny wedyn gan ymgynghoriad 3 wythnos arall a ddaeth i ben ar 2 Hydref 2020 i adlewyrchu effaith cau adeiladau cyhoeddus yn ystod wythnosau olaf yr ymgynghoriad oherwydd y pandemig Covid-19.

 

Nododd y Dirprwy Arweinydd fod yr adroddiad yn cyflwyno'r ymatebion a gafwyd i'r ymgynghoriad a'i fod yn ceisio nodi cyfres o Newidiadau â Ffocws arfaethedig mewn ymateb i'r argymhellion a ddaeth i law ynghyd â'r rheiny a allai fod wedi dod i'r amlwg o ganlyniad i newidiadau i ddeddfwriaeth, canllawiau, tystiolaeth neu, er mwyn rhoi eglurder ac ystyr. Roeddent hefyd yn rhoi cyfle i ymgorffori ac ymateb i faterion sy'n codi yn sgil Covid-19, fel yr adroddwyd i'r Cyngor yn yr Asesiad Covid-19 ar y cyd â'r Cytundeb Cyflawni Diwygiedig ar 22 Hydref 2020.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr argymhelliad canlynol gan y Bwrdd Gweithredol:-

 

7.4.1

cymeradwyo argymhellion y swyddog ar yr ymatebion a gafwyd i'r ymgynghoriad ynghylch y CDLl Diwygiedig Adneuo, yr Arfarniad Cynaliadwyedd, yr Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd a'r Canllawiau Cynllunio Atodol;

7.4.2

cytuno i gyflwyno'r rhestr o Newidiadau â Ffocws i'r Bwrdd Gweithredol i'w cymeradwyo ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus a fydd para o leiaf 6 wythnos;

7.4.3

cymeradwyo cyflwyno'r CDLl Adneuo a'i ddogfennau ategol, tystiolaeth a dogfennau cefndir fel sy'n ofynnol i Weinidogion Llywodraeth Cymru i'w harchwilio;

7.4.4

rhoi awdurdod dirprwyedig i swyddogion ymateb i argymhellion a cheisiadau sy'n codi gan yr Arolygydd fel rhan o'r Archwiliad a'r sesiynau gwrandawiad;

7.4.5

penderfynu mabwysiadu'r Canllawiau Cynllunio Atodol mewn perthynas ag ACA Caeau'r Mynydd Mawr a Chilfach Tywyn (yn amodol ar ganlyniad yr Archwiliad) ar yr un pryd â mabwysiadu'r CDLl Diwygiedig;

7.4.6

rhoi awdurdod dirprwyedig i swyddogion wneud addasiadau teipograffyddol, cartograffig a/neu ffeithiol ansylweddol i wella eglurder a chywirdeb y Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig a'i ddogfennau ategol”.

 

8.

DERBYN ADRODDIADAU CYFARFODYDD Y BWRDD GWEITHREDOL A GYNHALIWYD AR Y DYDDIADAU CANLYNOL:

Dogfennau ychwanegol:

8.1

30AIN TACHWEDD, 2020 pdf eicon PDF 330 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

8.2

21AIN RHAGFYR, 2020 pdf eicon PDF 352 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

9.

YSTYRIED Y RHYBUDDION O GYNNIG CANLYNOL:-

Dogfennau ychwanegol:

9.1

RHYBUDD O GYNNIG A GYFLWYNWYD GAN Y CYNGHORYDD LOUVAIN ROBERTS pdf eicon PDF 97 KB

Mae tân gwyllt yn cael ei ddefnyddio gan bobl drwy gydol y flwyddyn, i nodi gwahanol ddigwyddiadau.  Er ei fod yn rhoi llawer o fwynhad i bobl, mae'n gallu achosi cryn dipyn o ofn i bobl eraill ac anifeiliaid hefyd.

 

Mae’r anifeiliaid yr effeithir arnynt nid yn unig yn dioddef trallod seicolegol ond mae hyn hefyd yn gallu achosi iddynt hunan-niweidio.

 

Galwaf felly ar Gyngor Sir Caerfyrddin i'w gwneud yn ofynnol i'r holl arddangosfeydd Tân Gwyllt Cyhoeddus o fewn ffiniau Awdurdodau Lleol gael eu hysbysebu cyn y digwyddiad, gan ganiatáu i drigolion gymryd y rhagofalon angenrheidiol o ran lles eu hanifeiliaid a lles pobl agored i niwed.

 

Mynd ati i hyrwyddo Ymgyrch Ymwybyddiaeth Gyhoeddus am effaith tân gwyllt ar les anifeiliaid a phobl agored i niwed.  Gan gynnwys y rhagofalon y gellir eu rhoi ar waith i liniaru'r risgiau.

 

Ysgrifennu at Lywodraeth y DU/Cymru, a’u hannog i gyflwyno Deddfwriaeth i gyfyngu ar uchafswm lefel s?n y tân gwyllt i 90 dB o ran y rhai sy'n cael eu gwerthu i'r cyhoedd ar gyfer arddangosfeydd preifat.

 

Annog cyflenwyr tân gwyllt yn lleol i stocio 'fersiwn mwy tawel' o'r tân gwyllt a ddefnyddir ar gyfer arddangosfeydd cyhoeddus ac ati.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd fod y Cynghorydd Louvain Roberts wedi gofyn am i'w Rhybudd o Gynnig gael ei dynnu'n ôl o'r cyfarfod.

 

Nododd y Cyngor fod y Rhybudd o Gynnig wedi'i dynnu'n ôl.

9.2

RHYBUDD O GYNNIG A GYFLWYNWYD GAN Y CYNGHORYDD ROB JAMES

Mae'r pandemig Coronafeirws wedi rhoi teuluoedd lleol mewn sefyllfaoedd anodd, gan gynnwys tlodi, ac mae wedi tynnu sylw at ansicrwydd bwyd yn ein Sir.

 

Nid yw llawer o blant sy'n byw mewn tlodi yn Sir Gaerfyrddin yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim oherwydd bod eu rhieni yn gweithio neu nad oes gan eu teuluoedd hawl i unrhyw arian cyhoeddus. Prif nodau Llywodraeth y DU o ran credyd cynhwysol yw hyrwyddo gwerth gweithio h.y. bod yr enillion ychwanegol bob amser yn sicrhau bod teuluoedd ar eu hennill. Fodd bynnag, mae cyflwyno'r trothwy enillion yn tanseilio'r amcan hwn ac wedi gwneud teuluoedd yn gaeth i dlodi.

 

Ar 1 Ebrill 2019, cyflwynodd Llywodraeth Lafur Cymru bolisi diogelu trosiannol newydd ar gyfer prydau ysgol am ddim. Cafodd y polisi hwn ei greu i sicrhau bod prydau ysgol am ddim i ddisgyblion yn cael eu diogelu yn ystod cyfnod cyflwyno'r rhaglen credyd cynhwysol. Mae'r diogeliad hwn yn berthnasol i ddisgyblion unigol a bydd yn parhau tan ddiwedd eu cyfnod presennol yn yr ysgol, sef gorffen yn yr ysgol gynradd neu bob cyfnod yn yr ysgol uwchradd. Cyhoeddodd Llywodraeth Lafur Cymru eleni y byddai prydau ysgol am ddim hefyd ar gael yn ystod pob gwyliau ysgol.

 

Mae'r cynnig yn nodi fel a ganlyn:

·         Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn cefnogi’r ymgyrch gan Gr?p Gweithredu Tlodi Plant a'r Cynulliad Pobl i sicrhau bod prydau ysgol am ddim ar gael yn ystod pob gwyliau ysgol.

·         Mae'r cynnig yn galw ar Gyngor Sir Caerfyrddin i ddefnyddio ei gyllid ei hun yn y gyllideb arfaethedig i sicrhau bod prydau ysgol am ddim ar gael i bob teulu sy'n cael credyd cynhwysol neu gredydau treth gwaith yn Sir Gaerfyrddin.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd fod y Cynghorydd Rob James wedi tynnu ei Rybudd o Gynnig yn ôl.

 

Nododd y Cyngor fod y Rhybudd o Gynnig wedi'i dynnu'n ôl.

9.3

RHYBUDD O GYNNIG A GYFLWYNWYD GAN Y CYNGHORYDD DARREN PRICE

“Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn:   

  1. cydnabod y ffaith ofidus bod 30% o blant Cymru yn byw mewn tlodi, tra bod dim ond 17% yn cael prydau ysgol am ddim, yn bennaf am fod eu rhieni mewn swyddi â chyflog isel sy'n eu cymryd hwy dros y trothwy cymhwysedd;  

  2. nodi bod gan Loegr a'r Alban brydau ysgol am ddim i’r plant lleiaf, gyda phob disgybl yn y dosbarth derbyn, blynyddoedd 1 a 2 yn gymwys, tra nad yw Cymru'n gwneud hynny;  

  3. galw ar Lywodraeth Cymru i gostio, fel mater o frys, ymestyn prydau bwyd am ddim i unrhyw blentyn mewn unrhyw deulu sy'n cael credyd cynhwysol neu fudd-dal cyfatebol, ac unrhyw blentyn mewn teulu sy’n methu troi at arian cyhoeddus;  

  4. cytuno y dylai hyn fod yn gam tuag at y nod o ddarparu prydau ysgol am ddim yn gyffredinol, fel y gelwir amdano gan wahanol grwpiau yng Nghymru, gan gynnwys y Gr?p Gweithredu ar Dlodi Plant (CPAG) a Chynulliad y Bobl”.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Cyngor yn ystyried y Rhybudd o Gynnig canlynol a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Darren Price:-

 

“Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn:

  1. cydnabod y ffaith ofidus bod 30% o blant Cymru yn byw mewn tlodi, tra bod dim ond 17% yn cael prydau ysgol am ddim, yn bennaf am fod eu rhieni mewn swyddi â chyflog isel sy'n eu cymryd hwy dros y trothwy cymhwysedd;
  2. nodi bod gan Loegr a'r Alban brydau ysgol am ddim i’r plant lleiaf, gyda phob disgybl yn y dosbarth derbyn, blynyddoedd 1 a 2 yn gymwys, tra nad yw Cymru'n gwneud hynny;

3.    galw ar Lywodraeth Cymru i gostio, fel mater o frys, ymestyn prydau bwyd am ddim i unrhyw blentyn mewn unrhyw deulu sy'n cael credyd cynhwysol neu fudd-dal cyfatebol, ac unrhyw blentyn mewn teulu sy’n methu troi at arian cyhoeddus;

4.    cytuno y dylai hyn fod yn gam tuag at y nod o ddarparu prydau ysgol am ddim yn gyffredinol, fel y gelwir amdano gan wahanol grwpiau yng Nghymru, gan gynnwys y Gr?p Gweithredu ar Dlodi Plant (CPAG) a Chynulliad y Bobl”.

Eiliwyd y Cynnig.

 

Rhoddwyd cyfle i gynigydd ac eilydd y Cynnig siarad o blaid y Cynnig a bu iddynt amlinellu'r rhesymau dros ei gyflwyno, fel y'u nodwyd yn y Cynnig.

 

Gwnaed nifer o ddatganiadau yn mynegi cefnogaeth i'r Cynnig.  Nodwyd hefyd bwysigrwydd y cytundeb trawsbleidiol a oedd ar waith i gefnogi'r Cynnig hwn.

 

Dywedwyd wrth y Cyngor, os byddai'r cynnig yn cael ei gefnogi, byddai'n cael ei gyfeirio i'r Bwrdd Gweithredol a byddai pwynt 3 yn cael ei gyfeirio i Lywodraeth Cymru.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gefnogi'r Rhybudd o Gynnig a'i gyfeirio i'r Bwrdd Gweithredol a chyfeirio pwynt 3 i Lywodraeth Cymru.

9.4

RHYBUDD O GYNNIG A GYFLWYNWYD GAN Y CYNGHORYDD CEFIN CAMPBELL

Rhybudd Gynnig Ail Gartrefi/Tai Haf

“Noder bod 1,118 o gartrefi yn Sir Gâr yn cael eu diffinio fel ail gartrefi. Y diffiniad o ail gartref yw eiddo nad yw’n unig neu brif annedd i’r perchennog.

Noder yn ychwanegol bod cynnydd diweddar wedi bod ar draws Cymru yn y nifer o dai sy’n cael eu prynu fel ail gartrefi neu dai gwyliau i’w rhentu neu osod fel AirBnB (gan gynnwys Sir Gâr). Mewn rhai ardaloedd mae cymaint â 40% o’r stoc tai yn ail eiddo. O ganlyniad mae pobl leol (pobl ifanc yn arbennig) yn ei chael hi’n anodd os nad yn amhosibl i brynu eiddo gan eu bod yn aml yn cael eu prisio allan o’r farchnad dai. Mae hyn yn amlwg yn cael effaith niweidiol ar ddemograffi’r ardal, cydlyniad cymdeithasol a’r iaith Gymraeg.

Er bod Cyngor Sir Gâr yn croesawu bwriad Llywodraeth Cymru i ychwanegu cynnydd bychan o 1% ar y Dreth Trafodion Tir ar y sawl sy’n prynu ail gartref nid ydym yn credu bod hwn yn mynd yn ddigon pell i ateb yr argyfwng tai sy’n wynebu rhai o’n cymunedau gwledig. Rydym felly’n gofyn i Lywodraeth Cymru i:

·         Newid deddfau cynllunio i sicrhau bod rhaid cael caniatâd cynllunio cyn newid eiddo annedd cynradd i ail-gartref / llety gwyliau;

·         Caniatau i awdurdodau lleol, mewn ymgynghoriad â’r gymuned leol, i osod trothwy ar y nifer o ail gartrefi ym mhob ward, a defnyddio cytundebau Adran 106 i atal cartrefi newydd rhag cael eu defnyddio fel ail gartrefi mewn wardiau sydd â chanran annerbyniol o ail gartrefi;

·         Cyflwyno system o drwyddedu ar gyfer rheoli’r broses o droi eiddo preswyl yn uned fasnachol megis uned wyliau/t? gwyliau neu AirBnB;

·         Cau’r bwlch sy’n caniatau i ail gartrefi i gael eu cofrestru fel busnesau er mwyn optio allan o dalu trethi domestig a Threthi Cyngor, a chymryd mantais o ollyngdod trethi busnes;

·         Cyflwyno deddfwriaeth i gynyddu ymhellach Treth Trafodion Tir (LTT) pan yn prynu ail gartrefi.

Unwaith y byddai’r newidiadau polisi hyn yn cael eu cymeradwyo gan Lywodraeth Cymru, byddai Cyngor Sir Gâr yna’n ystyried codi’r Premiwm Treth Cyngor ar ail gartrefi gan o leiaf 200%”.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[SYLWER: Roedd y Cynghorwyr D.C. Evans, K.V. Broom, S.M. Allen, R. James, H.A.L. Evans, J.G. Prosser, K. Lloyd, S.A. Curry, B. Thomas, D.M. Cundy, E. Dole, J.K. Howell, G.R. Jones, B.D.J. Phillips, L.D. Evans, S.L. Davies, G. Davies ac A.S.J. McPherson wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach ac nid oeddent yn bresennol wrth ystyried yr eitem.  Roedd y Cynghorydd A.D.T. Speake hefyd wedi datgan buddiant ond arhosodd yn y cyfarfod gan nad oedd y Rhybudd o Gynnig yn ymwneud â'r math o fuddiant a ddatganwyd ganddo].

 

Ystyriodd y Cyngor y Rhybudd o Gynnig canlynol a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Cefin Campbell:-

 

Noder bod 1,118 o gartrefi yn Sir Gâr yn cael eu diffinio fel ail gartrefi. Y diffiniad o ail gartref yw eiddo nad yw’n unig neu brif annedd i’r perchennog.  

 

Noder yn ychwanegol bod cynnydd diweddar wedi bod ar draws Cymru yn y nifer o dai sy’n cael eu prynu fel ail gartrefi neu dai gwyliau i’w rhentu neu osod fel AirBnB (gan gynnwys Sir Gâr). Mewn rhai ardaloedd mae cymaint â 40% o’r stoc tai yn ail eiddo. O ganlyniad mae pobl leol (pobl ifanc yn arbennig) yn ei chael hi’n anodd os nad yn amhosibl i brynu eiddo gan eu bod yn aml yn cael eu prisio allan o’r farchnad dai. Mae hyn yn amlwg yn cael effaith niweidiol ar ddemograffi’r ardal, cydlyniad cymdeithasol a’r iaith Gymraeg. 

 

Er bod Cyngor Sir Gâr yn croesawu bwriad Llywodraeth Cymru i ychwanegu cynnydd bychan o 1% ar y Dreth Trafodion Tir ar y sawl sy’n prynu ail gartref nid ydym yn credu bod hwn yn mynd yn ddigon pell i ateb yr argyfwng tai sy’n wynebu rhai o’n cymunedau gwledig. Felly, rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud y canlynol:

  • Newid deddfau cynllunio i sicrhau bod rhaid cael caniatâd cynllunio cyn newid eiddo annedd cynradd i ail-gartref / llety gwyliau; 
  • Caniatáu i awdurdodau lleol, mewn ymgynghoriad â’r gymuned leol, i osod trothwy ar y nifer o ail gartrefi ym mhob ward, a defnyddio cytundebau Adran 106 i atal cartrefi newydd rhag cael eu defnyddio fel ail gartrefi mewn wardiau sydd â chanran annerbyniol o ail gartrefi;
  • Cyflwyno system o drwyddedu ar gyfer rheoli’r broses o droi eiddo preswyl yn uned fasnachol megis uned wyliau/t? gwyliau neu AirBnB; 
  • Cau’r bwlch sy’n caniatáu i ail gartrefi i gael eu cofrestru fel busnesau er mwyn optio allan o dalu trethi domestig a Threthi Cyngor, a chymryd mantais o ollyngdod trethi busnes;
  • Cyflwyno deddfwriaeth i gynyddu ymhellach Treth Trafodion Tir (LTT) pan yn prynu ail gartrefi. 

Unwaith y byddai’r newidiadau polisi hyn yn cael eu cymeradwyo gan Lywodraeth Cymru, byddai Cyngor Sir Gâr yna’n ystyried codi’r Premiwm Treth Cyngor ar ail gartrefi gan o leiaf 200%.  

Eiliwyd y Cynnig.

 

Rhoddwyd cyfle i gynigydd ac eilydd y Cynnig siarad o blaid y Cynnig a bu iddynt amlinellu'r rhesymau dros ei gyflwyno, fel y'u nodwyd yn y Cynnig.

 

Gwnaed nifer o ddatganiadau o blaid ac yn erbyn y Cynnig.

 

PENDERFYNWYD bod  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 9.4

10.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.

11.

CWESTIYNAU GAN YR AELODAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan aelodau.

12.

COFNODION ER GWYBODAETH

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[Sylwer: Roedd y Cynghorydd S.G.J. Gilasbey wedi datgan buddiant yn eitem 12.1 Pwyllgor Craffu - Addysg a Phlant yn gynharach - 23 Tachwedd 2020].

 

Dywedodd y Cadeirydd fod y cofnodion a amlinellir ar agenda 12.1 – 12.10 ar gael i'w gweld ar wefan y Cyngor.