Agenda item

CYNLLUN DATBLYGU LLEOL DIWYGIEDIG SIR GAERFYRDDIN (2018- 2033) - SYLWADAU A OEDD WEDI DOD I LAW A NEWIDIADAU Â FFOCWS.

Cofnodion:

[SYLWER: Roedd y Cynghorwyr J.A. Davies, K. Lloyd, B.D.J. Phillips, G.B. Thomas a J. Tremlett wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach. Nid oedd yn ofynnol i'r un ohonynt adael y cyfarfod gan nad oedd y drafodaeth yn canolbwyntio ar unrhyw faterion a oedd yn gysylltiedig â'r buddiannau a ddatganwyd ganddynt].

 

Dywedodd y Dirprwy Arweinydd wrth y Cyngor fod y Bwrdd Gweithredol, yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 21 Rhagfyr 2020 (gweler cofnod 12), wedi ystyried adroddiad a fanylai ar y sylwadau a gafwyd ar Gynllun Datblygu Lleol Diwygiedig Adneuo Sir Gaerfyrddin 2018-2033 mewn ymateb i benderfyniad y Cyngor ar 10 Ionawr 2018 i ddechrau paratoi CDLl Diwygiedig (Newydd) yn ffurfiol. Roedd y penderfyniad hwnnw'n cynnwys ymgynghoriad cyhoeddus wyth wythnos o hyd a gynhaliwyd rhwng 29 Ionawr 2020 ac, yn dilyn estyniad o dros bythefnos, a ddaeth i ben ar 27 Mawrth 2020. Ategwyd hynny wedyn gan ymgynghoriad 3 wythnos arall a ddaeth i ben ar 2 Hydref 2020 i adlewyrchu effaith cau adeiladau cyhoeddus yn ystod wythnosau olaf yr ymgynghoriad oherwydd y pandemig Covid-19.

 

Nododd y Dirprwy Arweinydd fod yr adroddiad yn cyflwyno'r ymatebion a gafwyd i'r ymgynghoriad a'i fod yn ceisio nodi cyfres o Newidiadau â Ffocws arfaethedig mewn ymateb i'r argymhellion a ddaeth i law ynghyd â'r rheiny a allai fod wedi dod i'r amlwg o ganlyniad i newidiadau i ddeddfwriaeth, canllawiau, tystiolaeth neu, er mwyn rhoi eglurder ac ystyr. Roeddent hefyd yn rhoi cyfle i ymgorffori ac ymateb i faterion sy'n codi yn sgil Covid-19, fel yr adroddwyd i'r Cyngor yn yr Asesiad Covid-19 ar y cyd â'r Cytundeb Cyflawni Diwygiedig ar 22 Hydref 2020.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr argymhelliad canlynol gan y Bwrdd Gweithredol:-

 

7.4.1

cymeradwyo argymhellion y swyddog ar yr ymatebion a gafwyd i'r ymgynghoriad ynghylch y CDLl Diwygiedig Adneuo, yr Arfarniad Cynaliadwyedd, yr Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd a'r Canllawiau Cynllunio Atodol;

7.4.2

cytuno i gyflwyno'r rhestr o Newidiadau â Ffocws i'r Bwrdd Gweithredol i'w cymeradwyo ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus a fydd para o leiaf 6 wythnos;

7.4.3

cymeradwyo cyflwyno'r CDLl Adneuo a'i ddogfennau ategol, tystiolaeth a dogfennau cefndir fel sy'n ofynnol i Weinidogion Llywodraeth Cymru i'w harchwilio;

7.4.4

rhoi awdurdod dirprwyedig i swyddogion ymateb i argymhellion a cheisiadau sy'n codi gan yr Arolygydd fel rhan o'r Archwiliad a'r sesiynau gwrandawiad;

7.4.5

penderfynu mabwysiadu'r Canllawiau Cynllunio Atodol mewn perthynas ag ACA Caeau'r Mynydd Mawr a Chilfach Tywyn (yn amodol ar ganlyniad yr Archwiliad) ar yr un pryd â mabwysiadu'r CDLl Diwygiedig;

7.4.6

rhoi awdurdod dirprwyedig i swyddogion wneud addasiadau teipograffyddol, cartograffig a/neu ffeithiol ansylweddol i wella eglurder a chywirdeb y Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig a'i ddogfennau ategol”.

 

Dogfennau ategol:

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau