Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Martin S. Davies 01267 224059
Nodyn: Moved from 26/02/20
Rhif | eitem | |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y cynghorwyr C.A. Davies, D.C. Evans, H.A.L. Evans, A.D. Harries, C.J. Harris, A. James, J. P. Jenkins, K. Lloyd, J.S Phillips, L.M. Stephens.
|
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
|
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
CYHOEDDIADAU'R CADEIRYDD Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: · Mynegodd y Cadeirydd ei longyfarchiadau i Mrs Mary Keir, preswylydd yng nghartref gofal Awel Tywi yn Ffair-fach, a oedd yn dathlu ei phen-blwydd yn 108 oed heddiw; · Dywedodd y Cadeirydd ei fod wedi mynychu ymweliad gan ei Huchelder Y Dywysoges Frenhinol â ffatri Corgi Hosiery yn Rhydaman; · Dywedodd y Cadeirydd ei fod yn drist o glywed am farwolaeth Kevin James o Adran Briffyrdd yr Awdurdod. Roedd Kevin wedi mynychu llawer o Bwyllgorau Cynllunio a byddai colled fawr ar ei ôl. Mynegodd y Cadeirydd, ar ran yr aelodau etholedig a'r staff, ei gydymdeimlad â theulu Kevin; · Dywedodd y Cadeirydd ei fod ef a'i Is-gadeirydd wedi mynychu sawl digwyddiad ar ran y Cyngor yn ystod y mis diwethaf, a bod rhai ohonynt wedi'u nodi ar ei flog ar wefan y Cyngor; · Roedd y Cynghorydd Arwel Davies, wedi llongyfarch Menna Evans, o Lansadwrn, ar ddod y ferch gyflymaf i redeg hyd Seland Newydd, o Cape Reinga i Bluff [1280 milltir] sydd yn record byd Guinness newydd. Roedd Menna wedi cwblhau'r cyfan mewn 36 diwrnod ac roedd hefyd wedi codi arian ar gyfer yr elusen Mind; · Rhoddodd yr Arweinydd ddatganiad byr ar y sefyllfa o ran y Coronafeirws gan ddweud bod Cymru'n gwbl barod a bod profion yn cael eu cynnig.
|
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
CWESTIYNAU GAN YR AELODAU Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
RHYBUDD O GYNNIG A GYFLWYNWYD GAN Y CYNGHORYDD ALUN LENNY: “Newid yn yr Hinsawdd - mater o frys: Mae tystiolaeth wyddonol gadarn yn priodoli tymheredd cynhesach a newidiadau i lwybrau stormydd ar draws Gogledd yr Iwerydd i'r newid yn yr hinsawdd. O ganlyniad, mae Sir Gaerfyrddin a rhannau eraill o Gymru a'r DU wedi dioddef llifogydd difrifol am yr ail dro mewn 16 mis. Mae'n amserol ac yn eironig bod y llifogydd diweddar wedi digwydd ychydig ddyddiau yn unig ar ôl i Gyngor Sir Caerfyrddin bleidleisio i weithredu ei bolisi radical i fod yn awdurdod carbon sero-net erbyn 2030 – yr awdurdod cyntaf yng Nghymru i wneud hynny. Mae'r cyngor hwn yn nodi, gyda siom, fod Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU wedi gosod 2050 fel dyddiad targed i fod yn garbon sero-net. Rydym yn galw ar y ddwy Lywodraeth i ddilyn arweiniad yr awdurdod hwn a chydnabod yr angen i weithredu gyda mwy o frys drwy bennu dyddiad targed cynt.”
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Cyngor yn ystyried y Rhybudd o Gynnig canlynol a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Alun Lenny:- “Newid yn yr Hinsawdd - mater o frys: Mae tystiolaeth wyddonol gadarn yn priodoli tymheredd cynhesach a newidiadau i lwybrau stormydd ar draws Gogledd yr Iwerydd i'r newid yn yr hinsawdd. O ganlyniad, mae Sir Gaerfyrddin a rhannau eraill o Gymru a'r DU wedi dioddef llifogydd difrifol am yr ail dro mewn 16 mis. Mae'n amserol ac yn eironig bod y llifogydd diweddar wedi digwydd ychydig ddyddiau yn unig ar ôl i Gyngor Sir Caerfyrddin bleidleisio i weithredu ei bolisi radical i fod yn awdurdod carbon sero-net erbyn 2030 – yr awdurdod cyntaf yng Nghymru i wneud hynny. Mae'r cyngor hwn yn nodi, gyda siom, fod Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU wedi gosod 2050 fel dyddiad targed i fod yn garbon sero-net. Rydym yn galw ar y ddwy Lywodraeth i ddilyn arweiniad yr awdurdod hwn a chydnabod yr angen i weithredu gyda mwy o frys drwy bennu dyddiad targed cynt.” Eiliwyd y Cynnig.
Rhoddwyd cyfle i gynigydd ac eilydd y Cynnig siarad o blaid y Cynnig a bu iddynt amlinellu'r rhesymau dros ei gyflwyno, fel y'u nodwyd yn y Cynnig.
Gwnaed nifer o ddatganiadau yn mynegi cefnogaeth i'r Cynnig.
PENDERFYNODD y Cyngor gefnogi'r Cynnig.
|
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
STRATEGAETH Y GYLLIDEB REFENIW 2020/21 - 2022/23 PDF 191 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Rhoddwyd gwybod i'r Cyngor fod y Bwrdd Gweithredol, yn ei gyfarfod ar 24 Chwefror, 2020 (gweler Cofnod 6), wedi ystyried y Strategaeth Cyllideb Refeniw 2020/21 tan 2022/23 a'i fod wedi gwneud nifer o argymhellion yn ei chylch, fel y manylwyd arnynt yn adroddiad Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol, i'w hystyried gan y Cyngor.
Cafodd y Cyngor gyflwyniad gan yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau, ar ran y Bwrdd Gweithredol, pryd y bu'n manylu ar gefndir yr argymhellion ar gyfer y gyllideb oedd yn cael eu cyflwyno at ystyriaeth y Cyngor. Bu i'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol ddweud bod yr adroddiad yn crynhoi'r sefyllfa ddiweddaraf ar gynigion y gyllideb, ac argymhellion y Bwrdd Gweithredol i'r Cyngor o ran y Cynllun Ariannol Tymor Canolig ar gyfer 2020/21 i 2022/23. Ychwanegodd nad oedd setliad terfynol Llywodraeth Cymru wedi cael ei gyhoeddi tan y diwrnod ar ôl i'r Bwrdd Gweithredol gyfarfod i ystyried y gyllideb derfynol, ac roedd cyllideb derfynol Llywodraeth Cymru yn dal heb gael ei thrafod yn y Senedd. Roedd y newidiadau a wnaed gan Lywodraeth Cymru i'r setliad yn newidiadau i grantiau penodol yn unig, ac felly roedd y cyllid craidd yn aros yr un fath â'r manylion a roddwyd yn yr adroddiad, gyda chynnydd o 4.3% ar sail Cymru gyfan, gyda Sir Gaerfyrddin sy'n derbyn 4.4%. Mae hyn yn adlewyrchu i ryw raddau gydnabyddiaeth Llywodraeth Cymru o'r lefel ddigynsail o bwysau chwyddiant a'r pwysau anorfod sy'n wynebu awdurdodau lleol. Fodd bynnag, nid oedd hyn yn newid y ffaith bod angen arbedion o hyd er gwaethaf y cynnydd yn y cyllid a groesawyd. Dywedodd yr aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau fod y wybodaeth ddiweddaraf am grantiau a thybiaethau wedi darparu arian ychwanegol o'i gymharu â'r gyllideb amodol y cytunodd y Bwrdd Gweithredo arni ar 6 Ionawr 2020. Roedd hyn yn golygu yr edrychwyd eto ar rai o'r cynigion yn yr amlinelliad o'r gyllideb wreiddiol a rhoddwyd ystyriaeth i opsiynau pellach. Dywedodd fod cyllid awdurdodau lleol yn parhau i fod yn heriol a'i fod yn parhau i fod yn anodd cynllunio am fod Llywodraeth Cymru unwaith eto wedi darparu ffigurau ar lefel awdurdod am flwyddyn yn unig. Roedd Adolygiad Gwariant Cynhwysfawr San Steffan, i bob pwrpas, wedi'i symud ymlaen, a disgwylir y bydd adolygiad mwy cyflawn, aml-flwyddyn yn cael ei gynnal yn 2020. Dywedodd fod y Cyfarwyddwr wedi gwneud rhai addasiadau i rai o'r ffigurau eraill yn y strategaeth a oedd yn rhan o'r drefn arferol, wrth i ragor o wybodaeth a gwybodaeth fwy clir fod ar gael. Roedd y cyfanswm dilysu cyfredol yn ychwanegu tua £11.8m i'r gyllideb heb gynnwys costau pensiynau athrawon. Roedd tâl yn parhau i fod y dilysiad mwyaf sylweddol eleni, ond tynnodd yr adroddiad sylw at y lefel uchel o ansicrwydd o ystyried y bwlch rhwng y ddwy ochr sy'n rhan o drafodaethau ar hyn o bryd. Yn absenoldeb unrhyw eglurder pellach, roedd y gyllideb yn caniatáu ar gyfer cynnydd o 2.75%. Nid oedd y cynnig cyflog yn berthnasol i athrawon, a oedd yn destun ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 7. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
RHAGLEN GYFALAF PUM MLYNEDD (CRONFA'R CYNGOR) - 2020/21 - 2024/25 PDF 132 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Bu i'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau gyflwyno i'r Cyngor, ar ran y Bwrdd Gweithredol, y Rhaglen Gyfalaf Bum Mlynedd (Cronfa'r Cyngor) 2020/2021 i 2024/2025 a roddai ystyriaeth i'r ymgynghoriadau a gyflawnwyd a setliad Llywodraeth Cymru. Roedd y Bwrdd Gweithredol yn ei gyfarfod ar 24 Chwefror, 2020 (gweler Cofnod 7), wedi ystyried y Rhaglen ac wedi gwneud nifer o argymhellion i'w hystyried gan y Cyngor.
Dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau fod y rhaglen gyfalaf arfaethedig, a oedd yn rhagweld gwariant amcangyfrifedig o bron i £255m dros y pum mlynedd 2020/2021 i 2024/2025, yn manteisio ar y cyfleoedd ariannu ac yn gwneud y mwyaf o'r cyllid sydd ar gael o ffynonellau allanol. Ystyriwyd y byddai cyfuniad o gynlluniau newydd a phresennol yn datblygu'r economi leol, yn creu swyddi ac yn gwella ansawdd bywyd ar gyfer trigolion Sir Gaerfyrddin. Roedd y cyllid gan y Cyngor Sir ar gyfer y rhaglen hon tua £126m ar hyn o bryd a byddai £129m pellach yn dod oddi wrth gyrff cyllid grant allanol. Nid oedd Llywodraeth Cymru wedi darparu rhagamcanion o ran y cyllid cyfalaf y tu hwnt i 2020/21, ac felly roedd y rhaglen wedi'i seilio ar fenthyca â chymorth yn y dyfodol a grant cyffredinol ar yr un lefel â 2020/21.
Dywedodd yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau y byddai llawer o'r buddsoddiadau, megis rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif, priffyrdd, adfywio a thai, yn gyfarwydd, ond bu'n bosibl unwaith eto i ychwanegu buddsoddiad i gynlluniau yr ystyrid eu bod yn bwysig ar gyfer y Sir. Yn y Gwasanaethau Cymunedol, roedd y rhaglen gyfalaf wedi gwneud buddsoddiad yn y gwasanaethau hamdden a diwylliannol. Y mwyaf sylweddol o'r rhain oedd buddsoddiad o £1.9m o arian newydd i Oriel Myrddin, gyda £650k i'w fuddsoddi yng Nghanolfan Hamdden Caerfyrddin i gwblhau'r uwchgynllun a chymorth parhaus ar gyfer tai yn y sector preifat yn 2024/25 ar gyfer Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl. Byddai Adran yr Amgylchedd yn parhau i gael cymorth parhaus ar gyfer gwella priffyrdd, cynnal a chadw pontydd, a chynlluniau diogelwch ffyrdd yn 2024/25. Byddai cyllid y Cyngor ar gynnal a chadw priffyrdd yn parhau i gael ei gryfhau yn 2020/21 drwy'r Grant Adnewyddu Ffyrdd a ddarperir gan Lywodraeth Cymru. Dywedwyd wrth y Cyngor y bu'n bosibl gwneud ymrwymiadau ychwanegol ar draws ystadau'r Cyngor gyda darpariaeth o £2.5m ar gyfer gwaith hanfodol i Neuadd y Sir, £500k ar gyfer gwaith yn Nh? Elwyn a £3.5m tuag at gynnal a chadw ar draws yr ystâd yn 2024/25. Byddai arian newydd yn cael ei ddarparu ar gyfer mentrau di-garbon ar draws yr ystâd. Yn ogystal, byddai £2.7m o arian ychwanegol gan Lywodraeth Cymru yn cael ei ddefnyddio i gynnal a chadw adeiladau ysgolion. Roedd £4m wedi'i gynnwys ar gyfer ailddatblygu Neuadd Farchnad Llandeilo a £847k ar gyfer y buddsoddiad parhaus yn Ystâd Ddiwydiannol Glanaman. Roedd £500k wedi'i ddyrannu hefyd tuag at y camau gweithredu gofynnol yn dilyn yr argyfwng hinsawdd a gafodd ei ddatgan yn 2019/20.
Dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 8. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: (NODER: Roedd y Cynghorwyr K. Broom, J. Edmunds, A.C. Jones, A.G. Morgan, D. Price, G.B. Thomas wedi datgan diddordeb yn yr eitem hon yn gynharach)
Dywedwyd wrth y Cyngor fod y Bwrdd Gweithredol, yn ei gyfarfod ar 24 Chwefror 2020 (gweler Cofnod 8), wedi ystyried Cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai 2020/21 tan 2022/23 a Phennu Rhenti Tai ar gyfer 2020/21 a'i fod wedi gwneud nifer o argymhellion, fel y manylwyd arnynt yn adroddiad Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol, i'w hystyried gan y Cyngor. Nodwyd bod yr adroddiad wedi cael ei ystyried a'i gymeradwyo hefyd gan y Pwyllgor Craffu – Cymunedau yn ei gyfarfod ar 5 Chwefror 2020, fel rhan o'r broses ymgynghori ynghylch y gyllideb.
Roedd yr adroddiad wedi cael ei baratoi gan adlewyrchu'r cynigion diweddaraf a oedd yn rhan o Gynllun Busnes y Cyfrif Refeniw Tai, sef y prif gyfrwng cynllunio ariannol ar gyfer darparu Safon Tai Sir Gaerfyrddin a Mwy ar gyfer y dyfodol. Nodwyd bod y buddsoddiad arfaethedig yn y cynllun busnes presennol wedi cyflawni Safon Tai Sir Gaerfyrddin erbyn 2015 (i'r cartrefi hynny lle'r oedd tenantiaid wedi cytuno i gael y gwaith wedi'i wneud), wedi darparu'r buddsoddiad i gynnal Safon Tai Sir Gaerfyrddin a Mwy, ac wedi parhau i fuddsoddi yn Ymrwymiad i Dai Fforddiadwy'r Cyngor.
Dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau fod buddsoddiad cyfalaf o tua £230m wedi darparu Safon Tai Sir Gaerfyrddin i denantiaid a gwariwyd £49m pellach ar gynnal Safon Tai Sir Gaerfyrddin a Mwy ar gyfer eiddo a thenantiaid. Dros y 3 blynedd nesaf rhagwelwyd y byddai tua £49m ymhellach yn cael ei wario ar gynnal a gwella ein stoc tai. Ychwanegodd y byddai £42m yn cael ei ddarparu dros y 3 blynedd nesaf i gefnogi'r rhaglen tai fforddiadwy a byddai hyn yn gweld cynnydd yn y cyflenwad o dai fforddiadwy ledled y sir.
Dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau, ers 2015, ei fod yn ofynnol i'r Awdurdod fabwysiadu Polisi Cysoni Rhent Tai Cymdeithasol Llywodraeth Cymru, a oedd yn golygu bod y cynnydd arfaethedig mewn rhent yn cael ei ragnodi gan gyfarwyddyd Llywodraeth Cymru, a thrwy hynny, ddarparu dosbarthiad mwy teg o'r rhenti ar gyfer tenantiaid y sector cymdeithasol. Roedd y polisi wedi dod i ben yn 2018/19 a mabwysiadwyd polisi dros dro ar gyfer 2019/20 am flwyddyn. Roedd Llywodraeth Cymru bellach wedi datblygu polisi newydd i'w roi ar waith yn 2020/21. Roedd y polisi interim hwnnw'n caniatáu i Awdurdodau Lleol o fewn eu band rhent targed gynyddu rhent yn ôl CPI+1% yn unig. Roedd hefyd yn caniatáu i lefel y rhent ar gyfer tenantiaid unigol godi o hyd at £2 ychwanegol ar ben CPI+1% ar gyfer cysoni rhenti, ar yr amod na fyddai cyfanswm yr incwm rhent a gasglwyd gan y landlord cymdeithasol yn fwy na CPI+1%. Byddai'r polisi newydd yn gymwys am 5 mlynedd o 2020/21 ac roedd yn cynnwys meini prawf ychwanegol ynghylch bodlonrwydd tenantiaid, cyfleusterau amwynder, lleihau achosion o droi allan ac effeithlonrwydd ynni. Roedd hefyd yn nodi bod angen datgarboneiddio'r stoc tai cymdeithasol, a ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 9. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
SAFON TAI SIR GAERFYRDDIN A MWY (STSG+) CYNLLUN BUSNES 2020–23 PDF 704 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Dywedwyd wrth y Cyngor fod y Bwrdd Gweithredol, yn ei gyfarfod ar 24 Chwefror, 2020 (gweler cofnod 9) wedi ystyried Cynllun Busnes Safon Tai Sir Gaerfyrddin a Mwy (CHS+) 2020-2023, yr oedd ei ddiben fel a ganlyn:-
· egluro'r weledigaeth a'r manylion yngl?n â chynnal a gwella Safon Tai Sir Gaerfyrddin a Mwy dros y tair blynedd nesaf, a beth y mae hyn yn ei olygu i'r tenantiaid; · Nodi’r bwriad i ddatblygu safon newydd ar gyfer Sir Gaerfyrddin drwy barhau i symud tuag at dai carbon niwtral, rhai presennol a rhai newydd, gan sicrhau bod cadwyn gyflenwi, swyddi a chyfleoedd hyfforddi newydd yn cael eu darparu; · Cadarnhau'r proffil ariannol, yn seiliedig ar y rhagdybiaethau presennol, ar gyfer cyflawni Safon Tai Sir Gaerfyrddin a Mwy + dros y tair blynedd ariannol nesaf; · Llunio cynllun busnes ar gyfer y cais blynyddol i Lywodraeth Cymru am Lwfans Atgyweiriadau Mawr (MRA) ar gyfer 2020/21, sy’n cyfateb i £6.1m.
Dywedodd yr Aelod Bwrdd Gweithredol dros Dai y byddai'r Cyngor yn gweithio gyda phartneriaid i ddatblygu safon newydd ar gyfer Sir Gaerfyrddin drwy barhau i symud tuag at gartrefi carbon niwtral, rhai presennol a rhai newydd. Gyda chymorth Prifysgol Caerdydd, roedd yr Awdurdod wedi bod yn gweithio ar ôl-osod amrywiaeth o dechnolegau carbon isel gan gynnwys cyflenwadau ynni adnewyddadwy, storio ynni a thechnolegau lleihau'r galw am ynni. Dywedodd fod bron i £49m wedi'i neilltuo i gynnal Safon Tai Sir Gaerfyrddin a Mwy ar gyfer tenantiaid presennol dros y 3 blynedd nesaf er mwyn galluogi tenantiaid i elwa ar gartrefi sy'n gyfeillgar i garbon ac yn rhatach i'w rhedeg.
Cadarnhaodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Dai fod yr Awdurdod ar fin cyflawni ei addewid i ddarparu 1,000 yn fwy o dai fforddiadwy o ganlyniad i brynu tai ar y farchnad, ail-ddefnyddio eiddo gwag unwaith yn rhagor a thrwy adeiladu cartrefi newydd. Ychwanegodd, er bod llawer wedi'i gyflawni, cydnabuwyd bod mwy i'w wneud o hyd ond bod yr Awdurdod yn barod i wynebu'r heriau. Roedd y cynllun a gyhoeddwyd yn manylu ar fwriad yr Awdurdod i ddatblygu rhaglen adeiladu newydd ar gyfer Cartrefi Croeso i sicrhau tai, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig. Roedd gwaith i adeiladu cartrefi cyngor newydd yn Dylan eisoes wedi dechrau gyda bron i £52m ar gael i'w wario dros y tair blynedd nesaf ar adeiladu mwy o dai Cyngor a byddai hyn yn gyson â'r rhaglen ehangach i fuddsoddi mewn tai. Byddai hyn yn galluogi'r Awdurdod i ganolbwyntio ar y datblygiad arfaethedig yn ward Tyisha, y Pentref Llesiant, canol trefi a threfi gwledig.
Dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Dai fod yr Awdurdod yn ymwybodol bod cyflwyno Credyd Cynhwysol wedi rhoi her i denantiaid o ran rheoli eu cyllidebau misol, ond roedd y cynllun gweithredu a roddwyd ar waith gan yr Awdurdod wedi lleihau'r effaith cymaint â phosibl iddynt. I gloi, mynegodd y farn, er bod hwn yn gyfnod cyffrous, ei fod hefyd yn gyfnod o ansicrwydd i denantiaid. Fodd bynnag, roedd yr Awdurdod wedi gallu cadw'r codiad rhent ar gyfer ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 10. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
POLISI RHEOLI’R TRYSORLYS A STRATEGAETH 2020 - 2021 PDF 172 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Dywedwyd wrth y Cyngor fod y Bwrdd Gweithredol, yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 24 Chwefror, 2020 (gweler Cofnod 10) wedi ystyried Polisi a Strategaeth Rheoli'r Trysorlys 2020/21.
Dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol wrth y Cyngor fod yn rhaid i'r Cyngor, yn unol â gofynion Côd Ymarfer diwygiedig CIPFA ynghylch Rheoli'r Trysorlys, gynnal Polisi Rheoli'r Trysorlys a oedd yn manylu ar bolisïau ac amcanion gweithgareddau'r Awdurdod o ran Rheoli'r Trysorlys, a hefyd gymeradwyo Strategaeth Rheoli'r Trysorlys yn flynyddol cyn dechrau'r flwyddyn ariannol yr oedd yn ymwneud â hi. Yn ogystal, dan ddarpariaethau Deddf Llywodraeth Leol 2003, roedd yn ofynnol i'r Cyngor gymeradwyo Dangosyddion Rheoli'r Trysorlys ar gyfer y flwyddyn i ddod.
Yn unol â'r gofynion uchod, rhoddodd y Cyngor ystyriaeth i'r Polisi a'r Strategaeth Rheoli'r Trysorlys ar gyfer blwyddyn ariannol 2020/21.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fabwysiadu'r argymhellion canlynol gan y Bwrdd Gweithredol:-
|
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
DATGANIAD POLISI TALIADAU 2020/21 PDF 129 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: [SYLWER: 1. Roedd y Cynghorwyr L.R. Bowen, C.A. Campbell, Arwel Davies, J.A. Davies, E. Dole, J.S Edmunds, L.D. Evans, R. Evans, S.J.G. Gilasbey, T.M. Higgins, P. Hughes-Griffiths, R. James, G. John, B.W. Jones, G.R. Jones, K. Madge, D. Nicholas, G.B. Thomas ac A. Vaughan-Owen wedi datgan buddiant yn gynharach yn yr eitem hon; 2. Roedd pob swyddog a oedd yn bresennol yn y cyfarfod wedi datgan buddiant personol yn yr eitem hon ac wedi gadael y cyfarfod cyn i'r eitem hon gael ei hystyried, ac eithrio'r Prif Weithredwr Cynorthwyol (Rheoli Pobl a Pherfformiad a arhosodd yn y cyfarfod i ymateb i unrhyw gwestiynau a oedd yn deillio o'r adroddiad), y Swyddog Gwasanaethau Democrataidd, a arhosodd yn y cyfarfod i gymryd cofnodion, a'r Swyddog Gweddarlledu]. Atgoffwyd y Cyngor bod rheidrwydd ar yr holl Awdurdodau Lleol, yn unol â darpariaethau Deddf Lleoliaeth 2011, i baratoi Datganiad Polisi Tâl ar gyfer eu holl weithwyr y mae'n rhaid cytuno arno a'i gyhoeddi erbyn 1 Ebrill bob blwyddyn. Roedd yn ofynnol i'r Datganiad gael ei gymeradwyo gan y Cyngor llawn ac roedd rhaid iddo fanylu ar bolisïau'r Awdurdod am y flwyddyn ariannol o ran cydnabyddiaeth ariannol ei Brif Swyddogion, cydnabyddiaeth ariannol y gweithwyr oedd yn ennill y symiau lleiaf, a'r cysylltiad rhwng y gydnabyddiaeth ariannol i'w Brif Swyddogion ac i'w weithwyr nad oeddynt yn Brif Swyddogion.
Heblaw am y cytundeb diweddar ar dalu Lwfans Cynnal a Chadw dros y Gaeaf (a ymgorfforwyd yn y Polisi Cyflogau) ni chafwyd unrhyw newidiadau sylweddol i'r polisïau na'r rheoliadau eleni, ac oherwydd nad oedd undebau llafur a chyflogwyr wedi gorffen y trafodaethau o ran cyflogau, roedd y Polisi Tâl yn cynnwys graddfeydd cyflog 2019-2020 a fyddai'n cael eu diweddaru ar ôl cael hysbysiad am gytundeb. Yna, byddai'r graddfeydd cyflog newydd yn cael eu hymgorffori yn y Polisi Tâl. Nodwyd bod Panel Ymgynghorol y Polisi Tâl, sy'n wleidyddol gytbwys, wedi rhoi mewnbwn o ran llunio'r Datganiad Polisi Tâl ac roedd ei argymhellion wedi'u cynnwys yn y ddogfen derfynol, i'w cymeradwyo gan y Cyngor Sir. Yn benodol, roedd y Panel wedi bod yn awyddus i barhau i gefnogi'r rhai sy'n ennill y cyflogau isaf drwy sicrhau bod y "Cyflog Byw Gwirioneddol", fel y'i pennwyd gan Living Wage Foundation, yn cael ei dalu o 1 Ebrill 2020. Roedd y gyfradd newydd fesul awr yn £9.30 felly byddai Tâl Atodol Cyflog Byw yn daladwy i rai gweithwyr o 1 Ebrill hyd nes y ceir canlyniad y trafodaethau Cyflogau Cenedlaethol. Byddai hyn yn golygu na fyddai unrhyw oedi o ran codiad cyflog i'r rhai sy'n derbyn tâl is. Byddai'r gost i'r Cyngor oddeutu £4k. PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod y Datganiad Polisi Tâl am 2020/21 yn cael ei gymeradwyo yn unol ag Adran 38(1) o Ddeddf Lleoliaeth 2011.
|
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
AWDURDOD PARC CENEDLAETHOL BANNAU BRYCHEINIOG PDF 168 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Cyngor yn ystyried ei gynrychiolaeth ar Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn dilyn cyngor gan y Dirprwy Weinidog dros Lywodraeth Leol a Thai y byddai'r gostyngiad yn y gynrychiolaeth o'r 2 aelod presennol i 1 aelod yn dod i rym o 1 Ebrill 2020 yn unol â'r cynnig i leihau cyfanswm yr aelodaeth o 24 i 18 aelod.
Cynrychiolwyr presennol y Cyngor oedd y cynghorwyr Andrew James (80% o'i ward o fewn ardal y Parc) a Kevin Madge (50% o'r ward o fewn ardal y Parc) ac oherwydd hyn argymhellwyd newid cynrychiolaeth y Cyngor yn unol â phenderfyniad Llywodraeth Cymru a bod y Cynghorydd Andrew James yn cael ei benodi fel unig gynrychiolydd y Cyngor ar Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Ystyriwyd y dylid annog Llywodraeth Cymru i adolygu ei phenderfyniad mewn perthynas â chynrychiolaeth Sir Gaerfyrddin, yn enwedig gan fod 17% o ehangdir y Parc o fewn y Sir.
PENDERFYNWYD y dylid diwygio cynrychiolaeth y Cyngor ar Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn unol â phenderfyniad Llywodraeth Cymru a bod y Cynghorydd Andrew James yn cael ei benodi fel unig gynrychiolydd y Cyngor.
|
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
BWRDD GWEITHREDOL - 3 CHWEFROR 2020 PDF 336 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: |