Agenda item

DATGANIAD POLISI TALIADAU 2020/21

Cofnodion:

[SYLWER:

1.     Roedd y Cynghorwyr L.R. Bowen, C.A. Campbell, Arwel Davies, J.A. Davies, E. Dole, J.S Edmunds, L.D. Evans, R. Evans, S.J.G. Gilasbey, T.M. Higgins, P. Hughes-Griffiths, R. James, G. John, B.W. Jones, G.R. Jones, K. Madge, D. Nicholas, G.B. Thomas ac A. Vaughan-Owen wedi datgan buddiant yn gynharach yn yr eitem hon;

2.     Roedd pob swyddog a oedd yn bresennol yn y cyfarfod wedi datgan buddiant personol yn yr eitem hon ac wedi gadael y cyfarfod cyn i'r eitem hon gael ei hystyried, ac eithrio'r Prif Weithredwr Cynorthwyol (Rheoli Pobl a Pherfformiad a arhosodd yn y cyfarfod i ymateb i unrhyw gwestiynau a oedd yn deillio o'r adroddiad), y Swyddog Gwasanaethau Democrataidd, a arhosodd yn y cyfarfod i gymryd cofnodion, a'r Swyddog Gweddarlledu].

Atgoffwyd y Cyngor bod rheidrwydd ar yr holl Awdurdodau Lleol, yn unol â darpariaethau Deddf Lleoliaeth 2011, i baratoi Datganiad Polisi Tâl ar gyfer eu holl weithwyr y mae'n rhaid cytuno arno a'i gyhoeddi erbyn 1 Ebrill bob blwyddyn. Roedd yn ofynnol i'r Datganiad gael ei gymeradwyo gan y Cyngor llawn ac roedd rhaid iddo fanylu ar bolisïau'r Awdurdod am y flwyddyn ariannol o ran cydnabyddiaeth ariannol ei Brif Swyddogion, cydnabyddiaeth ariannol y gweithwyr oedd yn ennill y symiau lleiaf, a'r cysylltiad rhwng y gydnabyddiaeth ariannol i'w Brif Swyddogion ac i'w weithwyr nad oeddynt yn Brif Swyddogion.

 

Heblaw am y cytundeb diweddar ar dalu Lwfans Cynnal a Chadw dros y Gaeaf (a ymgorfforwyd yn y Polisi Cyflogau) ni chafwyd unrhyw newidiadau sylweddol i'r polisïau na'r rheoliadau eleni, ac oherwydd nad oedd undebau llafur a chyflogwyr wedi gorffen y trafodaethau o ran cyflogau, roedd y Polisi Tâl yn cynnwys graddfeydd cyflog 2019-2020 a fyddai'n cael eu diweddaru ar ôl cael hysbysiad am gytundeb.  Yna, byddai'r graddfeydd cyflog newydd yn cael eu hymgorffori yn y Polisi Tâl. Nodwyd bod Panel Ymgynghorol y Polisi Tâl, sy'n wleidyddol gytbwys, wedi rhoi mewnbwn o ran llunio'r Datganiad Polisi Tâl ac roedd ei argymhellion wedi'u cynnwys yn y ddogfen derfynol, i'w cymeradwyo gan y Cyngor Sir. Yn benodol, roedd y Panel wedi bod yn awyddus i barhau i gefnogi'r rhai sy'n ennill y cyflogau isaf drwy sicrhau bod y "Cyflog Byw Gwirioneddol", fel y'i pennwyd gan Living Wage Foundation, yn cael ei dalu o 1 Ebrill 2020. Roedd y gyfradd newydd fesul awr yn £9.30 felly byddai Tâl Atodol Cyflog Byw yn daladwy i rai gweithwyr o 1 Ebrill hyd nes y ceir canlyniad y trafodaethau Cyflogau Cenedlaethol.  Byddai hyn yn golygu na fyddai unrhyw oedi o ran codiad cyflog i'r rhai sy'n derbyn tâl is. Byddai'r gost i'r Cyngor oddeutu £4k. 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod y Datganiad Polisi Tâl am 2020/21 yn cael ei gymeradwyo yn unol ag Adran 38(1) o Ddeddf Lleoliaeth 2011.

 

Dogfennau ategol:

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau