Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Emma Bryer 01267 224029
Nodyn: Originally scheduled for 12th April 2023
Rhif | eitem | |||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr H.A.L. Evans, D. Nicholas, R. Sparks, P.T. Warlow a J. Williams. |
||||||||||||||||||||||||||||
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
|
||||||||||||||||||||||||||||
CYHOEDDIADAU'R CADEIRYDD. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd ei fod ef a'i Gydymaith, y Cynghorydd Nysia Evans, wedi cael y pleser o fynd i nifer o ddigwyddiadau, gan gynnwys Prosiect Denu Twristiaid newydd Pentywyn. |
||||||||||||||||||||||||||||
CYHOEDDIADAU GAN YR ARWEINYDD, AELODAU'R CABINET NEU'R PRIF WEITHREDWR (OS OES RHAI) Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd nad oedd wedi cael gwybod am unrhyw gyhoeddiadau. |
||||||||||||||||||||||||||||
LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION CYFARFODYDD Y CYNGOR CYNGOR A GYNHALIWYD AR Y :- Dogfennau ychwanegol: |
||||||||||||||||||||||||||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Nodwyd y dylai datganiad o fuddiant y Cynghorydd K. V. Broom ar gyfer eitem 5.1, Strategaeth Cyllideb Refeniw 2023/24 – 2025/26 (sef bod ei ferch yn gweithio ym maes gofal cymdeithasol), gael ei briodoli i K. Madge.
PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion cyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd ar 1 Mawrth 2023 yn gofnod cywir, yn amodol ar y newid uchod. |
||||||||||||||||||||||||||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion cyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd ar 8 Mawrth 2023 yn gofnod cywir, yn amodol ar gynnwys y Cynghorydd S. L. Davies yn y rhestr o ymddiheuriadau. |
||||||||||||||||||||||||||||
YSTYRIED YR ENWEBIADAU AR GYFER SWYDD CADEIRYDD Y CYNGOR AM FLWYDDYN Y CYNGOR 2023-24 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD enwebu'r Cynghorydd B.A.L. Roberts yn Ddarpar Gadeirydd Cyngor Sir Caerfyrddin ar gyfer Blwyddyn y Cyngor 2023/24. |
||||||||||||||||||||||||||||
YSTYRIED YR ENWEBIADAU AR GYFER SWYDD IS-GADEIRYDD Y CYNGOR AM FLWYDDYN Y CYNGOR 2023-2024 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD enwebu'r Cynghorydd H.L. Davies yn Ddarpar Is-gadeirydd Cyngor Sir Caerfyrddin ar gyfer Blwyddyn y Cyngor 2023/24. |
||||||||||||||||||||||||||||
PENODI PERSON LLEYG I'R PWYLLGOR LLYWODRAETHU AC ARCHWILIO. PDF 99 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD, er mwyn bodloni gofyniad Cyfansoddiad y Cyngor, fod y Cyngor Sir yn penodi Karen Jones yn Aelod Lleyg y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ar gyfer y cyfnod rhwng 19 Ebrill 2023 a 18 Ebrill 2028. |
||||||||||||||||||||||||||||
CYNLLUN LLESIANT BWRDD GWASANAETHAU CYHOEDDUS SIR GAERFYRDDIN: Y SIR GÂR A GAREM PDF 108 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: [Noder: Roedd y Cynghorydd M. Palfreman wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach a chaniatawyd gollyngiad gan y Pwyllgor Safonau i siarad, ac arhosodd yn y cyfarfod tra oedd yr eitem yn cael ei hystyried].
Cafodd y Cyngor adroddiad gan Arweinydd y Cyngor a Chadeirydd y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus a oedd yn cyflwyno cynllun terfynol y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus i'w ystyried a'i gymeradwyo gan bedwar aelod statudol y Bwrdd (Cyngor Sir Caerfyrddin, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Cyfoeth Naturiol Cymru ac Awdurdod Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru).
Dywedodd yr Arweinydd fod gan y Bartneriaeth hanes hir a llwyddiannus o weithio mewn partneriaeth a hybu diwylliant cadarnhaol o gydweithio a oedd yn canolbwyntio ar ddarparu gwasanaethau effeithlon ac effeithiol i'r cymunedau lleol.
Fel rhan o'r gwaith o baratoi'r Cynllun, mae Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir Gaerfyrddin wedi cynnal asesiad llesiant manwl o lesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol y sir. Defnyddiwyd yr asesiad, ynghyd â chyfres o ddigwyddiadau ymgysylltu, i nodi amcanion llesiant Sir Gaerfyrddin a'r camau gweithredu i wneud cynnydd mewn perthynas â'r amcanion hynny. Roedd yr amcanion a'r camau gweithredu a nodwyd fel rhan o'r Cynllun yn canolbwyntio ar feysydd gweithredu ar y cyd y gallai'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ddylanwadu arnynt drwy gydweithio ac felly nid oeddent yn copïo'r hyn a ystyriwyd yn fusnes craidd y cyrff unigol a oedd yn aelodau o'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus oni bai bod gwerth ychwanegol i'w gael wrth i'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus gydweithio.
Tynnodd yr Arweinydd sylw at y pum amcan llesiant allweddol a fyddai'n ganolbwynt dros y blynyddoedd nesaf: · Sicrhau economi gynaliadwy a chyflogaeth deg · Gwella llesiant a lleihau anghydraddoldebau iechyd · Ymateb i'r argyfyngau hinsawdd a natur · Trechu tlodi a'i effeithiau · Helpu i greu cymunedau diogel, amrywiol, dwyieithog.
Nodwyd y byddai'r Cynllun wedyn yn cael ei fabwysiadu gan y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn ei gyfarfod ar 25 Ebrill i'w gyflawni o fis Mai 2023 ymlaen.
Manteisiodd yr Arweinydd ar y cyfle i ddiolch i gyn-Gadeirydd y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus, Barry Liles o Brifysgol y Drindod Dewi Sant a Choleg Sir Gâr, a chydnabod ei gyfraniad. Cyn rhoi'r gorau i'w rôl fel Cadeirydd ym mis Gorffennaf y llynedd, roedd Barry wedi bod yn Gadeirydd y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ers ei sefydlu yn 2016 ac wedi darparu arweinyddiaeth gref wrth ddatblygu'r Bwrdd.
PENDERFYNWYD cymeradwyoCynllun Llesiant Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir Gaerfyrddin 2023-2028. |
||||||||||||||||||||||||||||
YSTYRIED ARGYMHELLION Y CABINET O RAN Y MATER CANLYNOL: Dogfennau ychwanegol: |
||||||||||||||||||||||||||||
POLISI CARTREFI GWAG - EIN DULL O DDEFNYDDIO CARTREFI GWAG UNWAITH ETO PDF 210 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: [Noder: Roedd y Cynghorwyr S.L. Davies, K.V. Broom, M. James, D.E. Williams a S.A. Curry wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach ac wedi aros yn y cyfarfod yn ystod y drafodaeth ynghylch yr eitem hon a'r bleidlais ddilynol].
Dywedwyd wrth y Cyngor fod y Cabinet, yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 27 Mawrth 2023 (gweler cofnod 8), wedi ystyried adroddiad a oedd yn cyflwyno'r Polisi Cartrefi Gwag sy'n nodi gweledigaeth a rhaglen waith y Cyngor wrth fynd i'r afael â chartrefi preswyl preifat gwag yn y sir am y tair blynedd nesaf. Roedd yr adroddiad yn darparu cyfeiriad clir ar y dull gweithredu a lle y byddai ymdrechion yn canolbwyntio er mwyn cyflawni hyn a nodau polisi eraill.
Dywedodd yr Aelod Cabinet fod cartrefi gwag yn adnodd wedi'i wastraffu pan oedd prinder tai ledled y sir, gan gynnwys mewn wardiau gwledig. Nodwyd bod yr eiddo hyn yn anharddu'r gymdogaeth a gallent fod yn ganolbwynt ar gyfer ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Roedd y Cyngor wedi ymrwymo i ddefnyddio cartrefi gwag unwaith eto cyn gynted â phosibl ac roedd wedi gweithio gyda pherchnogion cartrefi gwag a phartneriaid i fanteisio ar yr holl gyfleoedd sydd ar gael i helpu i fynd i'r afael â mater eiddo gwag tymor hir.
Dywedodd Aelodau'r Cabinet y gallai defnyddio cartrefi gwag unwaith eto helpu i fynd i'r afael â nifer o faterion tai a materion cymdeithasol drwy gynyddu'r cyflenwad mewn ardaloedd lle'r oedd prinder tai a phwysau o ran tai a lle'r oedd cyfleoedd i gysylltu â phrosiectau adfywio eraill.
Mae'r Polisi yn nodi'r dull gweithredu a byddai'n caniatáu i swyddogion dargedu rhai mathau o eiddo, mewn rhai ardaloedd, a byddai'n rhoi eglurder a hyder ynghylch unrhyw gamau a gymerir.
Yn ogystal, nodwyd bod cynnydd wedi'i wneud dros y pum mlynedd diwethaf i leihau nifer y cartrefi gwag yn gyffredinol drwy weithgarwch parhaus a chamau i annog/gorfodi perchnogion tai i'w defnyddio unwaith eto. Y nifer presennol a nodwyd oedd 1,984 (Medi 2022). Mae hyn yn cyfateb i tua 2.1% o'r stoc dai gyffredinol yn y sir.
Mewn ymateb i ymholiad ynghylch yr amserlenni ar gyfer defnyddio eiddo gwag y Cyngor, dywedodd yr Aelod Cabinet fod yr amserlenni yn amrywio'n sylweddol, gan ddibynnu ar gyflwr yr eiddo. Nodwyd bod yr amserlenni wedi lleihau'n sylweddol.
Mewn ymateb i ymholiad ynghylch y defnydd posibl o gartrefi ar ffurf pod sy'n cael eu treialu ar hyn o bryd gan Gyngor Casnewydd, cadarnhaodd yr Aelod Cabinet fod yr Awdurdod wedi ystyried yr ateb hwn, fodd bynnag, ffefrir darparu cartrefi parhaol i drigolion ac mae podiau ond yn addas i fyw ynddynt yn y tymor byr iawn.
PENDERFYNWYD mabwysiadu'r argymhellioncanlynol gan y Cabinet:-
· cymeradwyo'r Polisi Cartrefi Gwag - "Ein Dull o Ddefnyddio Cartrefi Gwag Unwaith Eto".
|
||||||||||||||||||||||||||||
DERBYN ADRODDIADAU CYFARFODYDD Y CABINET A GYNHALIWYD AR Y :- Dogfennau ychwanegol: |
||||||||||||||||||||||||||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD derbyn adroddiad cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 13 Mawrth 2023. |
||||||||||||||||||||||||||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD derbyn adroddiad cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 27 Mawrth 2023. |
||||||||||||||||||||||||||||
YSTYRIED Y RHYBUDDION O GYNNIG CANLYNOL:- Dogfennau ychwanegol: |
||||||||||||||||||||||||||||
RHYBUDD O GYNNIG A GYFLWYNWYD GAN Y CYNGHORWYR EDWARD THOMAS A ARWEL DAVIES “Mae'r cyngor hwn yn gresynu at benderfyniad Banc Barclays i gau cangen Llandeilo ar 23 Mehefin. Mae'r penderfyniad hwn yn gadael rhan fawr o'r sir heb gyfleusterau bancio. Mae'r cyngor hwn yn gofyn i Barclays adolygu ei benderfyniad neu o leiaf ddarparu opsiynau amgen digonol i gwsmeriaid ymdrin â'r banc.”
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: [Noder: Gan i'r Cynghorydd F. Walters ddatgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach, gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth ynghylch yr eitem hon a'r bleidlais ddilynol].
Ystyriodd y Cyngor y Rhybudd o Gynnig canlynol a gyflwynwyd gan y Cynghorwyr Edward Thomas ac Arwel Davies:-
“Mae'r Cyngor hwn yn gresynu at benderfyniad Banc Barclays i gau cangen Llandeilo ar 23 Mehefin. Mae'r penderfyniad hwn yn gadael rhan fawr o'r sir heb gyfleusterau bancio. Mae'r Cyngor hwn yn gofyn i Barclays adolygu eu penderfyniad neu o leiaf ddarparu opsiynau amgen digonol i gwsmeriaid ymdrin â'r banc.’’
Eiliwyd y Cynnig.
Rhoddwyd cyfle i gynigwyr ac eilydd y Cynnig siarad o blaid y Cynnig a bu iddynt amlinellu'r rhesymau dros ei gyflwyno, fel y'u nodwyd yn y Cynnig.
Gwnaed nifer o ddatganiadau yn mynegi cefnogaeth i'r Cynnig.
PENDERFYNODD y Cyngor gefnogi'r Cynnig. |
||||||||||||||||||||||||||||
RHYBUDD O GYNNIG A GYFLWYNWYD GAN Y CYNGHORWYR HEFIN JONES, EDWARD THOMAS, ROB JAMES A JOHN JAMES ‘Mae'r Cyngor hwn: 1. Yn gofyn i Lywodraeth Cymru ailystyried ei sefyllfa i roi terfyn ar y cymhorthdal o ran y cynllun brys ar gyfer y sector bysiau a'i ymestyn hyd nes bod gwasanaethau wedi cael eu hailstrwythuro'n briodol, a sicrhau na chaiff unrhyw ardal ei gadael heb fynediad rhesymol i drafnidiaeth gyhoeddus.
2. Hefyd, mae'n gofyn i gamau brys gael eu cymryd ar y cyd â'r awdurdod lleol hwn i flaenoriaethu buddsoddiad a gweithredu gwasanaethau bysiau a arweinir gan y galw (gwasanaethau megis bwcabus a galw a theithio) yn yr ardaloedd hynny y bydd colli'r cymhorthdal hwn yn effeithio arnynt, gan wneud hyn mewn modd strategol a hyblyg gan alinio'r ddarpariaeth gyda'r galw.
3. Yn nodi mai nod Cynllun a Phapur Gwyn Llywodraeth Cymru ar gyfer Bws Cymru yw darparu gwasanaeth bws a fydd yn cael ei reoli a'i gynllunio er budd pennaf pobl Cymru ac yn gofyn bod dyddiad dechrau'r cynllun yn cael ei ddwyn ymlaen. ‘
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: [Noder: Gan i'r Cynghorydd S.L. Davies ddatgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach, gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth ynghylch yr eitem hon a'r bleidlais ddilynol].
Ystyriodd y Cyngor y Rhybudd o Gynnig canlynol a gyflwynwyd gan y Cynghorwyr Hefin Jones, Edward Thomas, Rob James a John James:-
“Mae'r Cyngor hwn: 1. Yn gofyn i Lywodraeth Cymru ailystyried ei sefyllfa i roi terfyn ar y cymhorthdal o ran y cynllun brys ar gyfer y sector bysiau a'i ymestyn hyd nes bod gwasanaethau wedi cael eu hailstrwythuro'n briodol, a sicrhau na chaiff unrhyw ardal ei gadael heb fynediad rhesymol i drafnidiaeth gyhoeddus. 2. Hefyd, mae'n gofyn i gamau brys gael eu cymryd ar y cyd â'r awdurdod lleol hwn i flaenoriaethu buddsoddiad a gweithredu gwasanaethau bysiau a arweinir gan y galw (gwasanaethau megis bwcabus a galw a theithio) yn yr ardaloedd hynny y bydd colli'r cymhorthdal hwn yn effeithio arnynt, gan wneud hyn mewn modd strategol a hyblyg gan alinio'r ddarpariaeth gyda'r galw. 3. Yn nodi mai nod Cynllun a Phapur Gwyn Llywodraeth Cymru ar gyfer Bws Cymru yw darparu gwasanaeth bws a fydd yn cael ei reoli a'i gynllunio er budd pennaf pobl Cymru ac yn gofyn bod dyddiad dechrau'r cynllun yn cael ei ddwyn ymlaen.’’
Eiliwyd y Cynnig.
Rhoddwyd cyfle i gynigwyr ac eilydd y Cynnig siarad o blaid y Cynnig a bu iddynt amlinellu'r rhesymau dros ei gyflwyno, fel y'u nodwyd yn y Cynnig.
Gwnaed nifer o ddatganiadau yn mynegi cefnogaeth i'r Cynnig.
PENDERFYNODD y Cyngor gefnogi'r Cynnig. |
||||||||||||||||||||||||||||
CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD:- Dogfennau ychwanegol: |
||||||||||||||||||||||||||||
CWESTIWN GAN Y PARCH ANGHARAD GRIFFITH I'R CYNGHORYDD GLYNOG DAVIES, AELOD Y CABINET DROS ADDYSG A'R GYMRAEG:-
Pa gynlluniau/ strwythurau sydd eisoes mewn bodolaeth gyda chi fel Adran Addysg i sicrhau tegwch addysgiadol hir a byr dymor i’r plant a pha adnoddau a hyfforddiant a dealltwriaeth sydd gyda chi mewn bodolaeth i chi fel Staff Adran Addysg, staff ysgolion a chanolfannau ac yn wir fel Cyngor’.”
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: “Gan fod cynnydd sylweddol yn nifer y plant sy'n cael diagnosis swyddogol o Anhwylder Osgoi Galwadau Patholegol (PDA), yn rhan o'r proffil Awtistig, a allaf ofyn:- Pa gynlluniau/strwythurau sydd eisoes ar waith gyda chi yn yr Adran Addysg i sicrhau tegwch addysgol tymor hir a thymor byr i'r plant a pha adnoddau, hyfforddiant a dealltwriaeth sydd gennych ar waith i chi, sef staff yr Adran Addysg, staff mewn ysgolion a chanolfannau ac, yn wir, y Cyngor?”
Ymateb gan y Cynghorydd Glynog Davies, yr Aelod Cabinet dros Addysg a'r Gymraeg:-
Rwy'n sylweddoli bod gennych bryder mawr yn y maes hwn. Mae'n fater cymhleth iawn ac rydych chi'n gwybod hynny ac mae llawer ohonom yn ymwybodol o hynny. Mae'n gwestiwn pwysig iawn ac mae'n gwestiwn personol i chi a hoffwn ddweud fy mod yn falch iawn bod y cyflwr hwn yn cael ei gydnabod. Os ewch chi'n ôl ychydig flynyddoedd, byddai label "plant drwg" wedi ei roi ar y rhai sydd bellach yn awtistig. Rydym wedi symud ymlaen yn sylweddol ers hynny. Mae cynhwysiant a sicrhau'r gorau i bob dysgwr, ac rwyf am bwysleisio hynny – i bob dysgwr - yn ein sir, yn flaenoriaeth i ni. Mae'n flaenoriaeth rydym yn ei hystyried yn rheolaidd yn yr Adran Addysg. Mae'r un mor bwysig i ni ddiweddaru ein gwybodaeth ein hunain, er mwyn gwneud yn si?r ein bod yn darparu'r gorau. Mae gwybodaeth yn y maes hwn yn newid yn rheolaidd ac rydym yn dysgu amdano drwy'r amser ac mae ein dealltwriaeth yr un mor bwysig. Sut mae mynd ati i ymateb i'r newyddion a gawn. Rwy'n deall, yn ôl Cymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth, fod PDA yn broffil i ddisgrifio'r rhai lle mai'r prif nodwedd yw eu bod yn osgoi disgwyliadau a thasgau. Mae gennym well dealltwriaeth o hyn drwy'r amser. Mae'n broffil ar y sbectrwm ei hun. Mae'n rhaid i chi gofio bod y sbectrwm awtistig yn un cymhleth ac eang iawn ond mae'r hyn rydym ni'n ei drafod nawr, sef PDA, yn broffil ar y sbectrwm awtistig. Mae'r plant a'r bobl ifanc yn osgoi gofynion o ddydd i ddydd. Maen nhw'n defnyddio strategaethau fel rhan o'r osgoi hwn os mynnwch chi. Mae unigolion â PDA yn rhannu nodweddion awtistig, sef yr hyn sy'n gyfarwydd i lawer ohonom, ond mae ganddynt hefyd lawer o nodweddion eraill sy'n berthnasol i'r proffil PDA hwn. Felly, gyda'r dysgwyr hyn, mae'n rhaid i ni weithio mewn ffordd wahanol iawn ac mae dulliau cydweithredol o addysgu a thasgau pob dydd cyffredin yn llawer mwy effeithiol wrth weithio gyda nhw fel unigolion. Mae'n rhaid i mi bwysleisio bod PDA yn ddiagnosis cymharol newydd, ac rydym yn gwybod hynny, ond er ei fod yn newydd, mae Sir Gaerfyrddin wedi codi ymwybyddiaeth ohono ac rwyf am bwysleisio hynny. Rydym wedi bod yn codi ymwybyddiaeth o'r cyflwr hwn. Mae hyfforddiant sy'n cynnwys PDA yn bwysig iawn ac mae bellach wedi'i gynnwys yn narpariaeth hyfforddiant yr Awdurdod. Roedd yn rhaid i ni roi llawer o gamau ar waith ar unwaith i wneud ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 13.1 |
||||||||||||||||||||||||||||
CWESTIYNAU GAN YR AELODAU (NID OES DIM WEDI DOD I LAW):- Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan yr Aelodau. |
||||||||||||||||||||||||||||
CYMARADWYO Y NEWIDIADAU CANLYNOL I AELODAETH PWYLLGORAU Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD:-
|
||||||||||||||||||||||||||||
COFNODION ER GWYBODAETH (AR GAEL AR Y WEFAN) Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd fod y cofnodion a amlinellir ar yr agenda o dan 16.1 – 16.14 ar gael i'w gweld ar wefan y Cyngor. |