Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Martin S. Davies 01267 224059
Rhif | eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr T. Bowen, D.B. Davies, D.C. Evans, C. Higgins, K.P. Thomas, M.K. Thomas a J. Tremlett.
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
CYHOEDDIADAU'R CADEIRYDD Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Nid oedd cyhoeddiadau gan y Cadeirydd.
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION CYFARFOD Y CYNGOR A GYNHALIWYD AR Y 13EG IONAWR 2015 PDF 409 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD llofnodi bod cofnodion cyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd ar 13eg Ionawr 2016 yn gofnod cywir.
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
RHYBUDD O GYNNIG A GYFLWYNWYD GAN Y CYNGHORYDD G.B. THOMAS ‘Mae nifer cynyddol o ffermydd gwartheg yn Sir Gaerfyrddin o dan gyfyngiadau bTB oherwydd cynnydd mewn twbercwlosisbuchol. Yng ngoleuni methiant llwyr y rhaglen frechu annigonol ac anwyddonol bresennol, mae'r Cyngor hwn yn galw ar Lywodraeth Cymru i gefnogi a gweithredu rhaglen difa moch daear ym mhob ardal lle mae cynnydd sylweddol mewn TB buchol.’
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
(NODER: Roedd y Cynghorwyr S.M. Allen, J.M. Charles, J.A. Davies, T. Defis, E. Dole, L.D. Evans, W.J.W. Evans, W.T. Evans, J.K. Howell, A. James, P.A. Palmer, D.W.H. Richards, L.M. Stephens, D.E. Williams a J.E. Williams, wedi datgan buddiant personol sy’n rhagfarnu yn yr eitem hon yn gynharach, a bu iddynt adael Siambr y Cyngor tra oedd yr eitem yn cael ei thrafod).
Bu'r Cyngor yn ystyried y Rhybudd o Gynnig canlynol a gyflwynwyd gan y Cynghorydd G.B. Thomas:-
‘Mae nifer gynyddol o ffermydd
gwartheg yn Sir Gaerfyrddin o dan gyfyngiadau bTB oherwydd cynnydd
mewn twbercwlosis buchol. difa moch daear ym mhob ardal lle mae cynnydd sylweddol mewn TB buchol.’
Eiliwyd y Cynnig.
Rhoddwyd cyfle i'r Cynigydd siarad o blaid y Cynnig ac amlinellodd y rhesymau dros ei gyflwyno fel a nodwyd yn y Cynnig.
Gwnaed nifer o ddatganiadau yn mynegi cefnogaeth i'r Cynnig ac ar ôl cynnal pleidlais,
PENDERFYNWYD mabwysiadu'r Cynnig.
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
CWESTIYNAU GAN AELODAU Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan yr Aelodau.
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
CWESTIYNAU CYHOEDDUS Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
CYFLWYNIAD GAN DWR CYMRU - GLAWLIF Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Gan gyfeirio at gofnod 7 yng nghyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd ar 10fed Rhagfyr 2014, estynnodd y Cadeirydd groeso’n ôl i Mr. Steve Wilson a Mr. Fergus O’Brien o Dd?r Cymru, a wahoddwyd i roi cyflwyniad i ddiweddaru’r Cyngor ar brosiect GawLif. Rhoddwyd manylion cynlluniau a gynhaliwyd hyd yma yn ardal Llanelli a Phorth Tywyn fel rhan o’r prosiect a’r amryw ffyrdd y caiff y gymuned leol ei hysbysu o’r gwaith. Y bwriad gwreiddiol oedd cwblhau’r gwaith erbyn 2025, ond yr oedd hyn bellach wedi’i ddwyn ymlaen i 2020. Hysbyswyd yr Aelodau hefyd o’r buddsoddiad yn Sir Gaerfyrddin mewn perthynas â d?r glân a d?r gwastraff. Ar ôl y cyflwyniad cafwyd sesiwn holi ac ateb ac ar ôl hynny diolchodd y Cadeirydd i'r swyddogion am gyflwyniad rhagorol a llawn gwybodaeth. Talwyd teyrnged hefyd i’r ffordd hwylus yr oedd D?r Cymru wedi ymgymryd â gwaith i drwsio prif bibell dd?r a oedd wedi byrstio yn ardal Trap y bore hwnnw a dosbarthu d?r potel lle’r oedd angen.
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
ADOLYGIAD O DDATGANIAD Y POLISI TRWYDDEDU (DEDDF TRWYDDEDU 2013) PDF 544 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: (NODER: Roedd y Cynghorwyr A.W. Jones a H. Shepardson wedi datgan buddiant personol sy’n rhagfarnu yn yr eitem hon yn gynharach a gadawodd y ddau Siambr y Cyngor tra oedd yr eitem yn cael ei thrafod). Hysbyswyd y Cyngor bod y Bwrdd Gweithredol, yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 4ydd Ionawr 2016 (Cofnod 10 yn cyfeirio at hyn), wedi adolygu Polisi Trwyddedu’r Cyngor yr oedd gofyn iddo wneud, yn ôl deddfwriaeth, bob pum mlynedd i sicrhau ei fod yn adlewyrchu adborth gan y gymuned leol a bod yr amcanion statudol yn cael eu cyflawni. PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fabwysiadu'r argymhellion canlynol gan y Bwrdd Gweithredol:- ‘9.1 bod Datganiad diwygiedig y Polisi Trwyddedu yn cael ei gymeradwyo; 9.2 bod y Polisi Effaith Gronnol presennol yn cael ei gadw ar gyfer Heol yr Orsaf, Llanelli, fel y manylir yn Adran 10 o'r polisi; 9.3 bod rhagor o dystiolaeth yn cael ei chasglu mewn perthynas â'r posibilrwydd o fabwysiadu Polisi Effaith Gronnol ar gyfer Heol Awst, Caerfyrddin yn sgil yr ymatebion i'r ymarfer ymgynghori.’
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
ADOLYGIAD O'R POLISI HAPCHWARAE PDF 540 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: (NODER: Roedd y Cynghorwyr A.W. Jones a H. Shepardson wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach a gadawodd y ddau Siambr y Cyngor tra oedd yr eitem yn cael ei thrafod). Hysbyswyd y Cyngor bod y Bwrdd Gweithredol, yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 4ydd Ionawr 2016 (Cofnod 11 yn cyfeirio at hyn), wedi adolygu Polisi Hapchwarae’r Awdurdod yr oedd gofyn iddo wneud, yn ôl deddfwriaeth, bob tair blynedd i sicrhau ei fod yn adlewyrchu adborth gan y gymuned leol a bod yr amcanion statudol yn cael eu cyflawni. PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fabwysiadu'r argymhelliad canlynol gan y Bwrdd Gweithredol:- ‘bod y Polisi Hapchwarae diwygiedig, gan gymryd i ystyriaeth ganllawiau'r Comisiwn Hapchwarae wedi'u diweddaru, yn cael ei gymeradwyo.’
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
ADOLYGU FFIOEDD A BENNIR YN LLEOL YN ADAIN IECHYD YR AMGYLCHEDD A THRWYDDEDU PDF 285 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: (NODER: Roedd y Cynghorwyr S.L. Davies, T. Devichand, P.M. Hughes ac A.W. Jones wedi datgan buddiant personol sy’n rhagfarnu yn yr eitem hon yn gynharach a bu iddynt adael Siambr y Cyngor tra oedd yr eitem yn cael ei thrafod). Hysbyswyd y Cyngor bod y Bwrdd Gweithredol, yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 4ydd Ionawr, 2016 (Cofnod 12 yn cyfeirio at hyn), wedi ystyried strwythur ffioedd arfaethedig i’r Adain Iechyd yr Amgylchedd a Thrwyddedu. PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fabwysiadu'r argymhellion canlynol gan y Bwrdd Gweithredol:- ‘11.1 hysbysebu'r ffioedd arfaethedig ar gyfer cerbydau hacnai/hurio preifat, fel y manylir yn Atodiad 1 i'r adroddiad, am gyfnod o 28 diwrnod fel sy'n ofynnol gan Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 er mwyn i bobl gyflwyno gwrthwynebiadau ac os nad oes gwrthwynebiadau bydd y ffioedd yn cael eu gweithredu o 1af Ebrill, 2016;
11.2 hysbysebu’r ffioedd mewn perthynas â Sefydliadau Rhyw, Tat?io a Thyllu’r Croen, Diogelwch mewn Meysydd Chwaraeon, Ail-sgorio Hylendid Bwyd a Thrwyddedau Cychwyr a Chychod Pleser, fel y manylir yn Atodiad 1 i’r adroddiad, am gyfnod o 28 diwrnod a bod y ffioedd yn cael eu gweithredu o 1af Ebrill, 2016.’
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
CYNLLUN CYDRADDOLDEB STRATEGOL CYNGOR SIR CAERFYRDDIN (DRAFFT) 2016-2020 PDF 449 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Hysbyswyd y Cyngor bod y Bwrdd Gweithredol, yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 4ydd Ionawr, 2016 (Cofnod 17 yn cyfeirio at hyn), wedi ystyried fersiwn drafft o Gynllun Cydraddoldeb Strategol a amlinellai sut byddai’r Cyngor yn cyflawni’i ddyletswyddau o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a’r Dyletswyddau Penodol i Gymru. PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fabwysiadu'r argymhelliad canlynol gan y Bwrdd Gweithredol:- ‘bod Cynllun Cydraddoldeb Strategol Cyngor Sir Caerfyrddin 2016-2020 yn cael ei gefnogi i’w weithredu o Ebrill 2016.’
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Hysbyswyd y Cyngor bod y Bwrdd Gweithredol, yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 1af Chwefror 2016 (Cofnod 7 yn cyfeirio at hyn), wedi ystyried adroddiad a amlinellai gynigion i gau Ysgol Fabanod a Meithrin Copperworks ac Ysgol Gynradd Maesllyn. Nodwyd na dderbyniwyd unrhyw wrthwynebiadau i’r Hysbysiad Statudol a gyhoeddwyd ar 3ydd Tachwedd 2015 ac a roddai fanylion bwriad y Cyngor i fwrw ymlaen â chau’r ysgolion.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fabwysiadu'r argymhelliad canlynol gan y Bwrdd Gweithredol:- ‘bwrw ymlaen â'i gynnig i gau Ysgol Fabanod a Meithrin Copperworks ac Ysgol Gynradd Maesllyn a gweithredu'r cynnig fel y manylir yn yr Hysbysiad Statudol dyddiedig 3ydd Tachwedd, 2015.’
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
SWYDDFA ARCHWILIO CYMRU - ADRODDIAD YR ASESIAD CORFFORAETHOL 2015 PDF 420 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Hysbyswyd y Cyngor bod y Bwrdd Gweithredol, yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 1af Chwefror, 2016 (Cofnod 12 yn cyfeirio at hyn), wedi ystyried Adroddiad Asesiad Corfforaethol Cyngor Sir Caerfyrddin 2015, a gyhoeddwyd gan Swyddfa Archwilio Cymru. Pwrpas yr adroddiad oedd rhoi datganiad sefyllfa o alluedd a medr yr awdurdod i gyflawni gwelliant parhaus. Estynnodd y Cadeirydd groeso i’r cyfarfod i Mr. Jeremy Evans o Swyddfa Archwilio Cymru a gyflwynodd yr adroddiad a’i ganfyddiadau. Canmolai Mr Evans y Cyngor am feddu ar weledigaeth oedd wedi sefydlu'n dda ac a oedd yn cael ei sbarduno yn ei blaen gan gyd-arweinyddiaeth gadarn o du'r Bwrdd Gweithredol a'r Tîm Rheoli Corfforaethol. Roedd yr Archwilydd Cyffredinol wedi dod i'r casgliad bod 'Cyngor Sir Caerfyrddin, gan amlygu uchelgais o ran ei weledigaeth, ynghyd ag arweinyddiaeth ar y cyd a llywodraethu mwy cadarn a thryloyw, yn sicrhau bod gwell canlyniadau i'w ddinasyddion er bod rhai dulliau gweithredu sydd wedi dyddio yn gallu cyfyngu ar gyflymder y cynnydd.’
Croesawyd yr adroddiad gan yr Aelodau a thalwyd teyrnged i’r cymorth a roddwyd gan staff yn ystod y broses archwilio. Diolchwyd hefyd i Uwch Swyddogion Rheoli’r Awdurdod, a oedd yn gyfrifol am weithredu gweledigaeth y Cyngor. Diolchodd y Cadeirydd i Mr. Evans am ddod i’r cyfarfod. PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fabwysiadu'r argymhellion canlynol gan y Bwrdd Gweithredol:- ‘14.1 bod cynnwys Adroddiad Asesiad Corfforaethol 2015 yn cael ei gymeradwyo;
14.2 bod cynllun gweithredu'n cael ei lunio i ymdrin â'r Cynigion Gwella a geir yn yr Adroddiad.’
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
DERBYN ADRODDIAD CYFARFOD Y BWRDD GWEITHREDOL A GYNHALIWYD AR Y 4YDD IONAWR, 2016 PDF 574 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: (SYLWER: Gan fod y Cynghorydd T. Devichand wedi datgan buddiant personol sy’n rhagfarnu yn yr eitem hon yn gynharach, gadawodd Siambr y Cyngor tra oedd yr eitem hon yn cael ei thrafod).
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod adroddiad y cyfarfod uchod yn cael ei dderbyn.
|