Agenda a Chofnodion

Cyngor Sir - Dydd Mercher, 14eg Chwefror, 2018 10.00 yb

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr F. Akhtar, A. Davies, H.L. Davies, I.W. Davies, A.D. Harries, S. Matthews, A.D.T. Speake, L.M. Stephens, G.B. Thomas.

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cynghorydd/Cynghorwyr

Rhif y Cofnod

Y Math o Fuddiant

J.M. Charles;

D.C. Evans;

K. Madge;

E.G. Thomas;

D.E. Williams.

 

5.            Eitem 5 -
Cyflwyniad gan Brif Swyddog Tân Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru.

 

Aelod o Awdurdod Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru.

 

C.A. Davies

Eitem 10.1 -

Symud Ymlaen yn Sir Gaerfyrddin - Y Pum Mlynedd Nesaf.

 

Llwybr Dyffryn Tywi yn rhedeg drwy dir y mae'n berchen arno.

K. Madge

Eitem 10.2 –

Sefydlu Cwmni Masnachu Awdurdod Lleol a adwaenir fel ‘Llesiant Delta Wellbeing Ltd’ ar gyfer Llinell Gofal.

Ei ferch yn gweithio i'r Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

 

 

3.

CYHOEDDIADAU'R CADEIRYDD.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu i'r Cadeirydd gydymdeimlo â'r Cynghorydd Dai Nicholas a'i deulu ar farwolaeth ei fam.

 

Dymunodd y Cadeirydd yn dda i'r Cynghorydd A. Davies a oedd yn cael triniaeth yn yr ysbyty ar y pryd.

 

Estynnodd y Cadeirydd ei longyfarchiadau i Shaun Miles, Swyddog Rheoli Adeiladu gyda'r Awdurdod, a oedd wedi ei ddewis i chwarae dros Dîm Rygbi Saith Bob Ochr Byddar Cymru ym Mhencampwriaethau'r Byd ac mewn gêm brawf 15 dyn i'w chynnal yn Sydney, Awstralia ym mis Ebrill.

 

Estynnodd y Cadeirydd ei longyfarchiadau i Cory Baldwin, a oedd wedi sgorio 2 gais yn erbyn yr Alban, ac i Dan Davies, a sgoriodd 1 cais, ill dau'n byw yn etholaeth y Cynghorydd Edward Thomas. Hefyd cafodd Aron Hemmings, sy'n byw yn etholaeth y Cynghorydd Joseph Davies, ei longyfarch ar chwarae dros dîm dan 20 Cymru yn erbyn Lloegr.

 

Estynnwyd llongyfarchiadau arbennig i Nancy Williams o Gapel Seion, Drefach a oedd wedi dathlu ei phen-blwydd yn 100 oed ym mis Ionawr eleni, yng Nghartref Gofal Gwernllwyn, Gorslas.

 

Estynnwyd llongyfarchiadau i'r Cynghorwyr Sharen Davies a Shahana Najmi ar basio eu ILM (Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth) Lefel 5 yn ddiweddar, ac ennill Gradd Dosbarth 1af mewn Rheolaeth. Byddant yn graddio ym Mhrifysgol y Drindod Dewi Sant ym mis Gorffennaf eleni.

 

Diolchwyd i holl staff yr Adran Priffyrdd am eu gwaith caled yn sicrhau bod y ffyrdd yn Sir Gaerfyrddin yn ddiogel yn ystod y tywydd garw a gafwyd yn ddiweddar.

 

 

4.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION Y CYFARFODYDD A GYNHALIWYD AR Y DYDDIADAU CANLYNOL:-

Dogfennau ychwanegol:

4.1

13EG RHAGFYR, 2017; pdf eicon PDF 405 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi bod cofnodion cyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd ar 13 Rhagfyr 2017 yn gofnod cywir.

 

 

4.2

10FED IONAWR, 2018. pdf eicon PDF 241 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi bod cofnodion cyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd ar 10 Ionawr 2018 yn gofnod cywir.

 

 

5.

CYFLWYNIAD GAN PRIF SWYDDOG TAN, GWASANAETH TAN AC ACHUB CANOLBARTH A GORLLEWIN CYMRU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[SYLWER: Roedd y Cynghorwyr J.M. Charles, D.C. Evans, K. Madge, E.G. Thomas, a D.E. Williams wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.]

Croesawyd y Prif Swyddog Tân, Chris Davies, a'r Dirprwy Brif Swyddog Tân, Rob Quin, o Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru i'r cyfarfod gan y Cadeirydd. 

 

Rhoddodd y Prif Swyddog Tân drosolwg ar waith y Gwasanaeth Tân ac Achub. Cyfeiriodd y cyflwyniad at y materion canlynol:

 

·         Ardal ddaearyddol y Gwasanaeth a heriau cysylltiedig

·         Strwythur rheoli gan gynnwys Bwrdd Gweithredol y Cyfarwyddwyr a chwe Ardal Reoli sirol

·         Yr Awdurdod Tân

·         Arbedion ariannol oedd wedi'u gwneud eisoes

·         Perfformiad o ran tanau bwriadol, tanau damweiniol mewn preswylfeydd, marwolaethau ac anafiadau a damweiniau traffig ffyrdd

·         Newidiadau gwariant gwirioneddol ac o ran gwerth cyhoeddus 

·         Canlyniadau arolwg cyhoeddus diweddar

·         Dyletswyddau statudol y gwasanaeth.

·         Newidiadau i'r modd y darperir y gwasanaeth

·         Y Prif Ddangosyddion Perfformiad.

 

Nododd yr Aelodau fod gweithio ar y cyd ac addysg wedi bod yn allweddol o ran y gostyngiad mewn digwyddiadau.

 

Cynhaliwyd sesiwn holi ac ateb ar ôl y cyflwyniad. 

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r Prif Swyddog Tân a'r Dirprwy Brif Swyddog Tân am ddod i'r cyfarfod ac am y cyflwyniad.

 

 

6.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.

 

 

7.

CWESTIYNAU GAN AELODAU:-

Dogfennau ychwanegol:

7.1

CWESTIWN GAN Y CYNGHORYDD LOUVAIN ROBERTS I'R CYNGHORYDD LINDA EVANS, AELOD O'R BWRDD GWEITHREDOL DROS TAI

“Ddiwedd 2017 bu tân ar risiau mewn bloc o 6 fflat yn Ward Glanymôr.

 

Ers i hyn ddigwydd, rwyf wedi cael gwybod nad oes unrhyw ffenestri ‘gogwyddo a throi’ wedi eu gosod mewn unrhyw fath tebyg o breswylfa. Hefyd, nid oes unrhyw fath o systemau chwistrellu wedi eu gosod nac unrhyw ddiffoddiaduron tân yn yr eiddo hwn. 

 

Ceir yr un sefyllfa mewn cyfadeiladau yn Ward Glanymôr, a hefyd nid oes unrhyw ddiangfeydd tân ar gyfer fflatiau ar y llawr cyntaf.

 

Credaf fod y math hwn o ffenestr yn hanfodol ar gyfer iechyd a diogelwch preswylwyr. Yn y cyfadeiladau mae ganddynt ffenestri y mae modd eu hagor ychydig yn lletach.

 

Mae rhai preswylwyr yn fregus iawn ac rwy’n sylweddoli bod rhai wedi gwrthod symud i’r llawr gwaelod. 

 

Ond mae dyletswydd gofal ar Gyngor Sir Caerfyrddin i sicrhau bod preswylwyr bob amser yn ddiogel lle maent yn byw.

 

Gofynnir ichi roi sicrwydd imi y bydd y materion yr wyf wedi tynnu eich sylw chi, a sylw’r Cyngor hwn, atynt yn cael eu hunioni ar unwaith.”

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

“Ar ddiwedd 2017 bu tân ar risiau mewn bloc o 6 o fflatiau yn Ward Glanymôr.

Ers y digwyddodd hwn, rwyf wedi cael gwybod nad oes unrhyw ffenestri PLYGU a THROI mewn unrhyw breswylfa debyg ei math. Hefyd, nid oes unrhyw fath o Systemau Chwistrellu yn yr eiddo hyn, na Diffoddiaduron Tân ychwaith.

Mae'r un sefyllfa'n bodoli mewn Canolfannau Tai yn Ward Glanymôr, a hefyd nid oes allanfeydd tân ar gyfer Preswylfeydd ar y Llawr Cyntaf.

Teimlaf fod y math hwn o ffenestr yn hanfodol ar gyfer iechyd a diogelwch y preswylwyr. Mae gan y Canolfannau Tai ffenestri y gellir eu gwneud ychydig yn lletach.

Mae rhai preswylwyr yn eiddil iawn ac rwyf yn sylweddol bod rhai wedi gwrthod cael eu symud i'r llawr gwaelod.

Ond mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn rhwym wrth Ddyletswydd Gofal i sicrhau bod preswylwyr yn ddiogel bob amser.

Fyddech chi cystal â rhoi sicrwydd imi y bydd y materion rwyf wedi eu codi gyda chi heddiw, yn ogystal â chael sylw gan y Cyngor hwn, yn cael eu hunioni'n syth.”

 

Ymateb gan y Cynghorydd Linda Evans, sef yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Dai:-

 

Diolch i'r Cynghorydd Roberts, mae hyn yn rhoi cyfle imi ddangos i chi fel Cyngor pa mor ddifrifol rydym yn ystyried iechyd a diogelwch yng nghartrefi ein tenantiaid, ac efallai fod hynny hyd yn oed yn fwy perthnasol heddiw ar ôl y cyflwyniad y bore yma. Yn anffodus ym mis Tachwedd cafodd tân bwriadol ei gynnau gan rywun ar un o'r grisiau cymunol yn Granby Close. O ganlyniad i hyn, treuliodd un tenant amser yn yr ysbyty yn dioddef o sgil-effeithiau'r mwg cyn cael ei ryddhau'n ddiweddarach ac effeithiwyd ar chwe fflat. Mae 5 tenant wedi cael eu hailgartrefu. Cyn mynd ymhellach, hoffwn gymryd y cyfle hwn unwaith eto i ddiolch i bawb oedd yn gysylltiedig â'r digwyddiad hwn, gan gynnwys y gwasanaethau brys, y tenantiaid, y gymuned, staff y Cyngor a aeth y filltir ychwanegol, contractwyr a'r ddau aelod lleol sef y Cynghorydd Roberts a'r Cynghorydd Prosser. Hoffwn ddiolch iddynt nid yn unig am eu hymateb cyflym wrth ddelio â chanlyniadau uniongyrchol y digwyddiad, ond am y gefnogaeth barhaus sydd wedi cael ei rhoi i'r tenantiaid yr effeithiwyd arnynt. Mae hyn yn cynnwys ailgartrefu, taliadau brys, trefniadau o ran celfi, parseli bwyd ac ati. Cafwyd cydweithredu rhagorol rhwng pawb a diolch unwaith yn rhagor ichi i gyd. 

 

Gaf i ddweud hefyd ein bod, trwy gydweithio'n agos â'r Awdurdod Tân, wedi gallu sicrhau ein bod hefyd yn dysgu gwersi yn dilyn hyn. Fel y dywedais, cafodd y tân ei gynnau'n fwriadol ac o ganlyniad rydym wedi gwneud llawer o waith manwl ac wedi rhoi nifer o gamau ar waith i sicrhau bod pob grisiau'n cael eu cadw'n glir. Rydym yn cynnal ymweliadau'n rheolaidd a hefyd wedi cymryd camau gorfodi os nad yw tenantiaid yn barod i gydymffurfio. O hyn ymlaen ni fydd dim goddefgarwch o gwbl o ran y mater hwn. Bydd hyn yn parhau nid yn unig yn Granby Close,  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 7.1

7.2

CWESTIWN GAN Y CYNGHORYDD TINA HIGGINS I'R CYNGHORYDD HAZEL EVANS, AELOD O'R BWRDD GWEITHREDOL DROS AMGYLCHEDD

“Gan fod Tsieina wedi datgan yn ddiweddar na fydd yn derbyn plastigion i'w hailgylchu mwyach, pa gamau y mae'r Cyngor yn eu cymryd i sicrhau bod targedau ailgylchu Sir Gaerfyrddin yn cael eu cyrraedd o hyd?"

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gan fod Tsieina wedi datgan yn ddiweddar na fydd yn derbyn plastigion i'w hailgylchu mwyach, pa gamau y mae'r Cyngor yn eu cymryd i sicrhau bod targedau ailgylchu Sir Gaerfyrddin yn cael eu cyrraedd o hyd?"

 

Ymateb y Cynghorydd Hazel Evans, yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros yr Amgylchedd:-

 

Ym mis Gorffennaf 2017 dywedodd Tsieina ei bod yn mynd i wahardd mewnforio deunyddiau penodol. Arweiniodd hyn at leihad sylweddol mewn marchnadoedd posibl ar gyfer plastigion a phapur cymysg. Ar 1 Ionawr 2018, daeth y gwaharddiad ar fewnforio 24 math o wastraff plastig a phapur cymysg i rym.  Yn 2017, anfonodd Cwm 38% o'i bapur i'w ailgylchu i Tsieina, ond ni allforiwyd unrhyw blastig i Tsieina.  O ganlyniad i'r sefyllfa hon yn Tsieina, bydd yn rhaid inni ddod o hyd i farchnadoedd ailgylchu papur eraill. Ar hyn o bryd mae gan Cwm ddwy farchnad - un yn Indonesia ac un yn y farchnad Ewropeaidd ddomestig.   Mae llawer cwmni o'r DU yn allforio eu plastigion i Tsieina, ond nid felly y Cwm. O ganlyniad i'r gwaharddiad gan Tsieina mae'n rhaid ailgyfeirio plastigion i leoedd eraill yn y marchnadoedd sydd ar gael, a gallai hyn leihau'r pris mae Cwm yn ei gael yn y dyfodol ac o'r herwydd, gallai ychwanegu at wasgfeydd ariannol.

 

Serch hynny, mae'n ymddangos bod y marchnadoedd ar gyfer plastigion yn gymharol sefydlog ar hyn o bryd o ystyried yr amgylchiadau ac er gwaethaf y gost.  Ar hyn o bryd mae Cwm mewn trafodaeth â phroseswyr eraill mewn ymgais i sicrhau trefniadau prosesu mwy ffafriol lle mae gwaith da chynnydd da wedi cael eu gwneud.

 

Ar hyn o bryd mae papur cymysg a phlastigion yn dal i gyrraedd y marchnadoedd ailgylchu, ac o ganlyniad maent yn dal i gyfrannu at ein ffigurau ailgylchu yn y tymor byr. Fodd bynnag, bydd yn rhaid i Cwm a'r Cyngor barhau i fonitro'r sefyllfa'n agos ac adolygu ein sefyllfa'n briodol, gan ddibynnu ar yr amgylchiadau a'r farchnad ar y pryd.

 

 

7.3

CWESTIWN GAN Y CYNGHORYDD ANDRE MCPHERSON I'R CYNGHORYDD EMLYN DOLE, ARWEINYDD Y CYNGOR

“Yng nghyfarfod y Cyngor Sir ym mis Rhagfyr, mewn cysylltiad â'm cynnig "9.2 ein bod yn codi Baner Enfys LGBTQ dros adeiladau'r Cyngor Sir bob blwyddyn yn ystod Mis Hanes LGBTQ", dywedwyd wrth y Cyngor llawn y byddid yn ei anfon i'w ystyried gan Weithgor Adolygu'r Cyfansoddiad. Rwyf am ofyn i'r Cynghorydd Dole beth oedd ymateb y Gweithgor, ac, os nad yw'r cynnig wedi bod yn llwyddiannus, beth yw'r rhesymau dros hynny.”

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

“Yng nghyfarfod y Cyngor Sir ym mis Rhagfyr, mewn cysylltiad â'm cynnig "9.2 ein bod yn codi Baner Enfys LGBTQ dros adeiladau'r Cyngor Sir bob blwyddyn yn ystod Mis Hanes LGBTQ", dywedwyd wrth y Cyngor llawn y byddid yn ei anfon i'w ystyried gan Weithgor Adolygu'r Cyfansoddiad.

 

Rwyf am ofyn i'r Cynghorydd Dole beth oedd ymateb y Gweithgor, ac, os nad yw'r cynnig wedi bod yn llwyddiannus, beth yw'r rhesymau dros hynny?”

 

Ymateb y Cynghorydd Emlyn Dole, Arweinydd y Cyngor:-

 

Dylid gwneud yn glir o'r dechrau y cytunwyd ym mis Rhagfyr, pan godwyd y mater, y dylai'r Cyngor barhau i ddathlu a chefnogi amrywiaeth LGBTQ o fewn y gymuned.  Yr unig bwynt na chytunwyd arno oedd a ddylai'r Cyngor godi baner enfys LGBTQ dros adeiladau'r Cyngor Sir yn ystod mis hanes LGBTQ.

 

Mae gan y Cyngor bolisi sydd wedi'i hen sefydlu ar gyfer codi baneri y tu allan i'r prif adeiladau dinesig yng Nghaerfyrddin, Llanelli a Rhydaman, a chan fod y cais y tu hwnt i'r polisi presennol, rhoesom gerbron y Cyngor y dylid cyfeirio'r mater i Weithgor Adolygu'r Cyfansoddiad, sy'n drawsbleidiol ac yn wleidyddol gytbwys, er eglurhad. Gallaf ddweud wrthych fod y gr?p wedi cwrdd ddydd Llun ac edrych yn fanwl ar y polisi presennol o ran codi baneri a chawsom drafodaeth lawn a manwl ar y mater. Roeddem wedi ystyried eich cais yng nghyd-destun y gwaith mae'r Awdurdod eisoes yn ei wneud i hyrwyddo cydraddoldeb i bawb, a'r angen i werthfawrogi ein staff a'n trigolion beth bynnag eu cyfeiriadedd rhywiol. Cydnabuwyd bod gan y Cyngor ystod o bolisïau, gwasanaethau a rhwydweithiau cysylltiedig â chydraddoldeb ac amrywiaeth ar waith eisoes i gefnogi ein staff i gyd.

 

Yn 2016, graddiodd Stonewall Cyngor Sir Caerfyrddin fel un o'r 12 o gyflogwyr gorau yng Nghymru ar gyfer staff lesbiaidd, hoyw a deurywiol. Mae Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle Stonewall yn gosod yr Awdurdod yn yr unfed safle ar ddeg ledled Cymru gyfan. Mae'r mynegai'n rhestru'r cyflogwyr gorau ar gyfer hybu gweithle teg a chyfiawn a chyfranogiad cymunedol ar gyfer pobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol.  Mae'r Awdurdod wedi bod yn aelod o Stonewall am dros 5 mlynedd ac wedi cymryd camau i hybu rhaglen hyrwyddwyr amrywiaeth Stonewall, a'n nod yw creu'r amgylchedd iawn lle gall yr holl staff roi o'u gorau a chael eu trin ag urddas a pharch.

Gan ymateb yn uniongyrchol i'ch Rhybudd o Gynnig mae'r Cyngor hefyd wedi gwneud ymrwymiad i ddangos cadernid gyda phobl ag HIV+ a'r bobl yn Sir Gaerfyrddin sy'n byw ag AIDS, trwy annog pawb i wisgo rhuban coch, sef y symbol ar gyfer diwrnod AIDS y Byd ar 1 Rhagfyr bob blwyddyn, fel yr ydym yn ei wneud gyda'r rhuban wen ar gyfer cam-drin domestig.

 

Rwyf am droi'n benodol at eich cais am i faner enfys LGBTQ gael ei chodi dros adeiladau'r Cyngor Sir bob blwyddyn yn ystod mis hanes LGBTQ. Trafododd Gweithgor Adolygu'r Cyfansoddiad y nifer o geisiadau a geir bob blwyddyn gan fudiadau yn gofyn am i'w baneri gael eu  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 7.3

8.

AELODAETH PWYLLGORAU CRAFFU, PWYLLGORAU RHEOLEIDDIO A PHWYLLGORAU ERAILL Y CYNGOR A PHENODI AELODAU I WASANAETHU ARNYNT pdf eicon PDF 134 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn unol â gofynion Deddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 a Rheoliadau Llywodraeth Leol (Pwyllgorau a Grwpiau Gwleidyddol) 1990, fel y'u diwygiwyd, rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad yn manylu ar ganlyniad adolygiad o gyfansoddiad Pwyllgorau Craffu, Pwyllgorau Rheoleiddio a phwyllgorau eraill y Cyngor yn dilyn ymddiswyddiad y Cynghorydd A. James o'r Gr?p Annibynnol a'r hysbysiad o'i ddymuniad i ymuno â Phlaid Cymru.  Ystyriodd y Cyngor adroddiad a nodai fanylion y newidiadau arfaethedig i'r aelodaeth gan Grwpiau Annibynnol a Phlaid Cymru.

Nododd y Cyngor nad oedd newid i ddyraniad y seddi i'r Gr?p Llafur a'r Aelod heb gysylltiad pleidiol, fodd bynnag byddai'r Gr?p Annibynnol yn colli un sedd Graffu ac un sedd Reoleiddio a byddai Plaid Cymru'n ennill un sedd Graffu ac un sedd Reoleiddio.

 

Mewn ymateb i'r newidiadau gofynnol fel y'u nodwyd yn nhabl 2B yn yr adroddiad,  roedd y Gr?p Annibynnol wedi cytuno i ildio un sedd ar y Pwyllgor Craffu - Diogelu'r Cyhoedd a'r Amgylchedd ac roedd Plaid Cymru wedi enwebu'r Cynghorydd Andrew James i lenwi'r sedd ychwanegol ar y Pwyllgor hwn.

 

O ran y newidiadau sy'n effeithio ar y sedd Reoleiddio, fel y nodwyd yn Nhabl 3 o fewn yr adroddiad, roedd y Gr?p Annibynnol wedi cytuno i ildio un sedd ar y Pwyllgor Safonau ac roedd Gr?p Plaid Cymru wedi enwebu'r Cynghorydd Jeanette Gilasbey i lenwi'r sedd ychwanegol ar y Pwyllgor Safonau.

 

At hynny, yn unol â Rhan 6 o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, sy'n gosod y gofynion ar gyfer penodi Pobl i Gadeirio Pwyllgorau Craffu a Throsolwg, nododd y Cyngor, gan fod y Cynghorydd James wedi symud rhwng dau gr?p sy'n rhan o'r Weithrediaeth, nad oedd unrhyw newid o ran dyraniad 5 Cadeirydd y Pwyllgorau Craffu.

 

PENDERFYNWYD o ganlyniad i newidiadau i aelodaeth wleidyddol gyffredinol y Cyngor,

 

8.1 fabwysiadu'r newidiadau i nifer y seddi sy'n cael eu dal gan y Gr?p Annibynnol a Gr?p Plaid Cymru, fel y nodir yn Nhablau 1, 2 a 3 yr adroddiad, yn benodol y seddi a ddyrennir parthed Pwyllgor Craffu - Diogelu'r Cyhoedd a'r Amgylchedd, Pwyllgor Craffu - Polisi ac Adnoddau a'r Pwyllgor Safonau;

 

8.2 nodi nad oes dim newidiadau i nifer y seddi sy'n cael eu dal gan y Gr?p Llafur a'r Aelod heb Gysylltiad Pleidiol;

 

8.3 yn unol â Rheol Gweithdrefn Gorfforaethol 2 (2) (n), gymeradwyo newidiadau yn Aelodaeth y Pwyllgor o ganlyniad i argymhelliad 8.1 uchod (fel y manylir yn yr adroddiad);

 

8.4  yn unol â Rhan 6 o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, nodi nad yw dyraniad y 5 Cadeirydd Craffu yn newid.

 

 

9.

PENODI AELODAU I WASANAETHU AR BWYLLGORAU YMGYNGHOROL Y CYNGOR AC AR GYRFF ALLANOL YN AMODOL AR Y GOFYNION O RAN CYDBWYSEDD GWLEIDYDDOL pdf eicon PDF 222 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

O ganlyniad i adolygiad yn dilyn ymddiswyddiad y Cynghorydd A. James o'r Gr?p Annibynnol a'r hysbysiad o'i ddymuniad i ymuno â Gr?p Plaid Cymru, ystyriodd y Cyngor adroddiad a bennai'r newidiadau dilynol i gyfansoddiad gwleidyddol cyffredinol y Cyngor ac adolygu'r trefniadau ar gyfer dyrannu seddi i grwpiau gwleidyddol.

 

Nododd y Cyngor mai'r unig newidiadau yr effeithiwyd arnynt oedd y dyraniad seddi i'r grwpiau gwleidyddol ar gyfer Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ac Awdurdod Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru.

Roedd enwebiadau wedi dod i law ar gyfer y trefniadau newydd o ran cynrychiolaeth ar Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ac Awdurdod Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, ac roeddent wedi'u hatodi i'r adroddiad yn Atodiad A. 

 PENDERFYNWYD:

9.1  cymeradwyo'r enwebiadau diwygiedig o ran yr Aelodau sy'n eistedd ar Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ac ar Awdurdod Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, fel y nodir yn Atodiad A yr adroddiad;

 

9.2  nodi nad oedd dim newidiadau'n ofynnol o ran yr aelodaeth a dyraniad y seddi ar gyfer y canlynol:
- Panel Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys;
- Gweithgor Adolygu'r Cyfansoddiad;
- Y Panel Ymgynghorol ynghylch y Polisi Tâl.

 

 

10.

YSTYRIED ARGYMHELLION Y BWRDD GWEITHREDOL O RAN Y MATERION CANLYNOL:-

Dogfennau ychwanegol:

10.1

SYMUD YMLAEN YN SIR GAERFYRDDIN Y 5 MLYNEDD NESAF pdf eicon PDF 127 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[SYLWER: Roedd y Cynghorydd C. A. Davies wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach].

Hysbyswyd y Cyngor fod y Bwrdd Gweithredol, yn ei gyfarfod ar 8 Ionawr 2018 (gweler cofnod 5), wedi ystyried adroddiad a oedd yn cynnwys cynllun a amlinellai gynigion y Bwrdd Gweithredol ar gyfer Symud Ymlaen yn Sir Gaerfyrddin dros y pum mlynedd nesaf.

 

Roedd y cynllun yn nodi dyheadau'r Bwrdd Gweithredol i'w cyflawni a cheisiai wella llesiant economaidd, amgylcheddol, cymdeithasol a diwylliannol yn barhaus, a thrwy hynny sicrhau bod preswylwyr, cymunedau, sefydliadau a busnesau yn cael cefnogaeth a'u bod yn gallu datblygu a ffynnu.

 

Nododd y Cyngor y byddai'r prosiectau a'r rhaglenni allweddol yn y cynllun yn cael eu cynnwys yn Strategaeth Gorfforaethol newydd y Cyngor, a fyddai hefyd yn cael eu datblygu'n unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a chynlluniau datblygu. At hynny, nododd y Cyngor y byddai adroddiadau manwl ac argymhellion ar brosiectau/rhaglenni penodol yn cael eu cyflwyno drwy brosesau democrataidd y Cyngor dros y 5 mlynedd nesaf er mwyn gwneud cynnydd o ran yr ymrwymiadau hyn.

 

Cyfeiriwyd at bwynt 72(a) ar dudalen 15 o'r adroddiad, lle gofynnwyd am i adroddiad statws llawn ynghylch y cynnydd ar ddatblygiadau grwpiau ffocws  Rhydaman, Caerfyrddin a Llanelli gael eu rhoi gerbron y Cyngor er ystyriaeth. Dywedodd yr Arweinydd fod elfennau penodol wedi'u rhoi gerbron y Cyngor, fodd bynnag cytunodd i ddarparu adroddiad llawn.

 

PENDERFYNWYD bod cynllun y Bwrdd Gweithredol ar gyfer Symud Ymlaen yn Sir Gaerfyrddin dros y 5 mlynedd nesaf yn cael ei gymeradwyo.

 

 

 

10.2

SEFYDLU CWMNI MASNACHU AWDURDOD LLEOL A ADWAENIR FEL 'LLESIANT DELTA WELLBEING LTD' AR GYFER LLINELL GOFAL pdf eicon PDF 584 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[SYLWER: Roedd y Cynghorydd K. Madge wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach].

Hysbyswyd y Cyngor fod y Bwrdd Gweithredol, yn ei gyfarfod ar 22 Ionawr 2018 (gweler cofnod 8) wedi ystyried adroddiad a nodai'r rhesymau dros sefydlu Cwmni Masnachu a oedd yn berchen yn ei gyfanrwydd i'r Awdurdod Lleol ar gyfer Llinell Gofal, a elwid yn 'Llesiant Delta Wellbeing Ltd,' a'r elfennau ymarferol oedd yn perthyn i hynny.

 

Cafodd y Cyngor adroddiad manwl i'w ystyried a ddangosai'r gallu i gael mynediad i farchnadoedd a ffrydiau incwm llawer ehangach nag oedd y gwasanaeth Llinell Gofal yn gallu ei wneud.

 

Nododd y Cyngor hefyd, er mwyn mynd i'r afael â'r heriau a amlinellwyd yn yr adroddiad, fod y Bwrdd Gweithredol wedi penderfynu sefydlu Cwmni Masnachu Awdurdod Lleol o'r enw "Llesiant Delta Wellbeing Ltd" i redeg y gwasanaeth Llinell Gofal.

 

Yn dilyn nifer o ymholiadau a godwyd, pwysleisiodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymunedol i aelodau'r Cyngor y byddai'r cwmni'n berchen yn llwyr ac o dan reolaeth lwyr y Cyngor, ac mai'r Cyngor fyddai'n gyfrifol am reoli unrhyw atebolrwydd ariannol oedd ynghlwm wrth y cwmni masnachu.

 

 PENDERFYNWYD

 

10.2.1   adennill costau sefydlu'r Cwmni drwy drefnu benthyciad rhwng y Cyngor Sir a'r Cwmni ar gyfradd log fasnachol. Bydd y gwerth yn cael ei bennu yng nghynllun busnes manwl y Cwmni a bydd y Bwrdd Gweithredol yn cytuno arno;

 

10.2.2   bod y Cyngor Sir yn cytuno i ddarparu benthyciad llif arian i'r Cwmni o hyd at £250k (bydd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol yn cytuno ar y gwerth o fewn y terfyn hwn) ar gyfer gwaith y cwmni o ddydd i ddydd a'r costau sefydlu (gweler rhif 10.2.1 uchod). Y gyfradd log fasnachol fydd 3.5% yn uwch na chyfradd adeg aeddfedu benthyciad 5 mlynedd y Bwrdd Benthyciadau Gwaith Cyhoeddus bob chwe mis. Cyfnod y benthyciad fydd 5 mlynedd ar y mwyaf;

 

10.2.3   pe na fyddai'r Cwmni'n cael ei sefydlu, yna bydd y costau sefydlu'n dod o gyllideb y Cyngor Sir (drwy gronfeydd wrth gefn);

 

10.2.4   bod y Cyngor yn gwarantu rhwymedigaethau pensiwn y staff a gyflogir gan y Cwmni.

 

 

11.

AELODAETH PWYLLGORAU:

Dogfennau ychwanegol:

11.1

NODI BOD Y GRWP PLAID CYMRU WEDI ENWEBU'R CYNGHORYDD KIM BROOM I GYMERYD LLE'R CYNGHORYDD DAI NICHOLAS AR Y PWYLLGOR CRAFFU POLISI AC ADNODDAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn unol â Rheol Gweithdrefn Gorfforaethol 2 (2)(n), roedd yr enwebiadau canlynol gan Gr?p Plaid Cymru wedi dod i law a

 

PHENDERFYNWYD nodi bod y Cynghorydd Kim Broomyn cymryd lle'r Cynghorydd Dai Nicholas ar y Pwyllgor Craffu - Polisi ac Adnoddau.

 

 

12.

DERBYN ADRODDIAD CYFARFOD Y BWRDD GWEITHREDOL A GYNHALIWYD AR:

Dogfennau ychwanegol:

12.1

8FED IONAWR, 2018; pdf eicon PDF 127 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn adroddiad cyfarfod y Bwrdd Gweithredol a gynhaliwyd ar 8 Ionawr, 2018.

 

 

12.2

22AIN IONAWR, 2018. pdf eicon PDF 163 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn adroddiad cyfarfod y Bwrdd Gweithredol a gynhaliwyd ar 22 Ionawr, 2018.

 

 

13.1

PWYLLGOR CRAFFU POLISI AC ADNODDAU A GYNHALIWYD 6ED RHAGFYR, 2017;

Dogfennau ychwanegol:

13.2

PWYLLGOR TRWYDDEDU A GYNHALIWYD 7FED RHAGFYR, 2017;

Dogfennau ychwanegol:

13.3

PWYLLGOR CRAFFU DIOGELU'R CYHOEDD A'R AMGYLCHEDD A GYNHALIWYD 11EG RHAGFYR, 2017;

Dogfennau ychwanegol:

13.4

IS-BWYLLGOR TRWYDDEDU "A" A GYNHALIWYD 12FED RHAGFYR, 2017;

Dogfennau ychwanegol:

13.5

PWYLLGOR CYNLLUNIO A GYNHALIWYD 14EG RHAGFYR, 2017;

Dogfennau ychwanegol:

13.6

PWYLLGOR CRAFFU CYMUNEDAU A GYNHALIWYD 14EG RHAGFYR, 2017;

Dogfennau ychwanegol:

13.7

PWYLLGOR ARCHWILIO A GYNHALIWYD 15FED RHAGFYR, 2017;

Dogfennau ychwanegol:

13.8

PWYLLGOR CRAFFU GOFAL CYMDEITHASOL AC IECHYD A GYNHALIWYD 18FED RHAGFYR, 2017;

Dogfennau ychwanegol:

13.9

PWYLLGOR CRAFFU ADDYSG A PHLANT A GYNHALIWYD 21AIN RHAGFYR, 2017;

Dogfennau ychwanegol:

13.10

PWYLLGOR CYNLLUNIO A GYNHALIWYD 11EG IONAWR, 2018.

Dogfennau ychwanegol: