Agenda a Chofnodion

Cyfarfod Blynyddol, Cyngor Sir - Dydd Mercher, 24ain Mai, 2017 11.00 yb

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Nodyn: Annual Meeting 

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB A MATERION PHERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr S.M. Allen, John, B. Jones, T.J. Jones, A.G. Morgan (sesiwn y bore yn unig) S. Najmi, B.A.L. Roberts (sesiwn y bore yn unig) a D. Thomas. 

 

Cyfeiriodd y Cadeirydd at y newyddion trist am farwolaeth y cyn gynghorydd W.D. Thomas a mynegodd ei gydymdeimlad â'r teulu

 

Cyfeiriodd y Cadeirydd at y newyddion trist am farwolaeth cyn Brif Weinidog Cymru Rhodri Morgan a mynegodd ei gydymdeimlad â'r teulu

 

Safodd aelodau'r Cyngor mewn teyrnged dawel i ddioddefwyr yr ymosodiad diweddar ym Manceinion. Dywedodd y Prif Weithredwr wrth yr Aelodau ei fod wedi anfon llythyr o gefnogaeth at Ddinas Manceinion.

 

 

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cynghorydd

Rhif y Cyfnod

Y Math o Fuddiant

A.D.T. Speake

16 -  Newidiadau I Gyfansoddiad y Cyngor

Ynderbyn pensiwn rhyfel.

 

3.

CYHOEDDIADAU GAN Y CADEIRYDD YMADAWOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Croesawodd Eryl Morgan y Cadeirydd a oedd yn Ymddeol, westeion nodedig, Cynghorwyr, staff a ffrindiau i'r cyfarfod.

 

Bu'r Cynghorydd Morgan yn edrych yn ôl ar ei flwyddyn yn y swydd a diolchodd i bobl Sir Gaerfyrddin am estyn gwahoddiad iddo i nifer o ddigwyddiadau gan roi cyfle iddo, yn rhinwedd ei swydd fel Cadeirydd, gael golwg unigryw ar yr hyn oedd yn digwydd yng nghymunedau'r Sir, a chymysgu â gwahanol gymdeithasau a mudiadau yn Sir Gaerfyrddin, a oedd yn sir mor gyfoethog ac mor amrywiol. Mynegodd ei ddiolch yn ddiffuant am yr holl gefnogaeth a gawsai ef a'i gydymaith drwy gydol yr hyn a ystyriai ef yn bersonol yn flwyddyn lwyddiannus iawn. Ychwanegodd y Cadeirydd oedd yn Ymddeol taw un o'i flaenoriaethau yn ystod y flwyddyn oedd codi arian at ei ddwy elusen enwebedig sef Hosbis T? Bryngwyn ac Offer Canser y Prostad yn Ysbyty Tywysog Philip Llanelli, a diolchodd i'r aelodau, i'r staff ac i bobl Sir Gaerfyrddin am eu cefnogaeth a'u cyfraniadau hael. Diolchodd i'w Is-gadeirydd, y Cynghorydd Irfon Jones, a'i Gydymaith Mrs Jean Jones, am eu cymorth a'u cwmni yn ystod ei gyfnod yn y swydd.

 

Diolchodd y Cadeirydd oedd yn Ymddeol i Mr Mark James am ei gyngor a'i arweiniad proffesiynol, ac i'r Cyfarwyddwyr a staff yr Awdurdod oedd yn estyn cymorth i'r Cadeirydd, gan gyfeirio at yr Uned Gwasanaethau Democrataidd, ei yrrwr Jeff Jones ac yn benodol at Eira Evans am ei chefnogaeth broffesiynol a phersonol, am drefnu ei ddigwyddiadau, ac am sicrhau bod popeth yn mynd yn hwylus bob amser.

 

 

 

4.

ETHOL CADEIRYDD Y CYNGOR AM FLWYDDYN Y CYNGOR 2017/18

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cynigiwyd gan y Cynghorydd E. Morgan ac eiliwyd gan y Cynghorydd E. Dole a PHENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ethol y Cynghorydd H.I. Jones yn Gadeirydd Cyngor Sir Caerfyrddin ar gyfer Blwyddyn y Cyngor 2017/18.

 

Gwnaeth y Cynghorydd H.I. Jones ei ddatganiad yn derbyn y swydd, ac fe'i harwisgwyd â'r Gadwyn Swyddogol gan y Cadeirydd oedd yn ymddeol.

 

Diolchodd y Cynghorydd H.I. Jones i'r Gr?p Annibynnol am gyflwyno ei enw ar gyfer swydd Cadeirydd yr Awdurdod, a mynegodd ei ddiolchiadau i'r Cynghorwyr am eu cefnogaeth yn ei benodi yn Gadeirydd Cyngor Sir Caerfyrddin. Dywedodd ei fod yn gobeithio efelychu'r safon uchel o ran Cadeiryddiaeth a ddarparwyd gan ei ragflaenwyr.  Cyflwynodd y Cynghorydd Jones deyrnged i'r Cadeirydd oedd yn ymddeol, y Cynghorydd E. Morgan a chyflwynodd i'r Cadeirydd oedd yn ymddeol ddarlun ac albwm o ffotograffau i nodi rhai o'r prif ddigwyddiadau yn ystod ei flwyddyn yn y swydd, ynghyd â Chrogdlws i nodi ei fod yn Gyn-gadeirydd.
 

 

Yna cyflwynodd Jean Morgan, cydymaith y Cadeirydd oedd yn Ymddeol Gadwyn Swyddogol i Mrs Jean Jones, a cyflwynodd Mrs Jean Jones Grogdlws ar gyfer Cydymaith Cyn-gadeirydd i Mrs Jean Morgan.

 

TEYRNGEDAU

Bu arweinwyr y Gr?p Annibynnol, Gr?p Plaid Cymru a'r Gr?p Llafur yn talu teyrnged i'r Cadeirydd oedd yn ymddeol am ei wasanaeth ardderchog i'r Cyngor.  Cyfeiriwyd yn benodol at y modd rhagorol yr oedd y Cynghorydd Morgan’s wedi cadeirio cyfarfodydd y Cyngor. Yn ogystal talodd y Prif Weithredwr deyrnged ar ran staff yr Awdurdod i'r Cadeirydd oedd yn Ymddeol, a oedd wedi cyflawni'r rôl mewn modd proffesiynol dros ben gan fod yn hynod o gefnogol i waith y Cyngor.

 

 

 

5.

ETHOL IS-GADEIRYDD Y CYNGOR AM FLWYDDYN Y CYNGOR 2017/18

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cynigiwyd gan y Cynghorydd C. Campbell, ac eiliwyd gan y Cynghorydd L.M. Stephens a PHENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ethol y Cynghorydd J.M. Charles yn Is-gadeirydd Cyngor Sir Caerfyrddin am Flwyddyn y Cyngor 2017/18.   

 

Gwnaeth y Cynghorydd J.M. Charles ei ddatganiad yn derbyn y swydd, ac fe'i harwisgwyd â'r Gadwyn Swyddogol gan y Cadeirydd.

 

Mynegodd y Cadeirydd longyfarchiadau i'r Is-gadeirydd a'i Gydymaith ar eu penodiad. 

Cyflwynwyd Cadwyn y Swydd i gydymaith y Cadeirydd, Mrs Jean Jones, gan gydymaith y Cadeirydd Mrs Jean Morgan.

 

 

6.

ETHOL ARWEINYDD Y CYNGOR

Arôl y penodiadau uchod bydd y Cadeirydd yn cynnig bod y cyfarfod yn torri tan 2.00 p.m. pryd y rhoddir sylw i'r materion sydd yn weddill ar yr agenda.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cynigiwyd ac eiliwyd bod y Cynghorydd Emlyn Dole yn cael ei ethol yn Arweinydd y Cyngor.

PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd Emlyn Dole yn Arweinydd y Cyngor.

 

 

7.

GOHIRIAD

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cynigiodd y Cadeirydd, eiliwyd hynny gan yr Is-gadeirydd, a PHENDERFYNWYD YN UNFRYDOL y dylid gohirio gweddill y materion ar yr agenda tan 2.00pm yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw.

 

 

8.

AILYMGYNNULL Y CYFARFOD

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd y Cyngor wedi ailymgynnull yn y Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin am 2.00 p.m.

yr aelodau a oedd yn bresennol yn dilyn ailgynnull y cyfarfod:-

 

YN BRESENNOL: - Y Cynghorydd H.I. Jones [Cadeirydd]

 

Y Cynghorwyr:

F. Akhtar, K.V. Broom, C.A. Campbell, J.M. Charles, S.A. Curry, A. Davies,  C.A. Davies, G. Davies, H.L. Davies,  J.A. Davies, S.L. Davies, T.A.J. Davies, E. Dole, J.S. Edmunds, P.M. Edwards, H.A.L. Evans, L.D. Evans, R. Evans, W.T. Evans, A.L. Fox, S.J. Gilasbey, T.M. Higgins, P. Hughes Griffiths, P. Hughes, A. James, J.D. James, R. James, D.M. Jenkins, J.P. Jenkins, A.C. Jones, D.L. Jones, G.R. Jones, A. Lenny, M.J.A. Lewis, K. Lloyd, K. Madge, S. Matthews, A.S.J. McPherson, A.G. Morgan, E. Morgan, D. Nicholas, B.D.J. Phillips, J.S. Phillips, D. Price, J.G. Prosser, B.A.L. Roberts, E.M.J.G. Schiavone, H.B. Shepardson, A.D.T. Speake, L.M. Stephens, B. Thomas, E.G. Thomas, G. Thomas, J. Tremlett,  A. Vaughan-Owen, D.E. Williams, D.T. Williams and J.E. Williams.

 

Roedd y Swyddogion canlynol yn bresennol yn y cyfarfod:

 

Mr M. James – Y Prif Weithredwr

Mr C. Moore - Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol

Mr J. Morgan - Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymunedol,

Mr G. Morgans - Y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant

Mrs R. Mullen - Cyfarwyddwr yr Amgylchedd

Ms L. Rees Jones - Pennaeth Gweinyddiaeth a'r Gyfraith

Mr P. Thomas - Prif Weithredwr Cynorthwyol (Rheoli Pobl a Pherfformiad)

 

Mrs W. Walters – Y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Adfywio a Pholisi)

Mr I. Llewellyn -  Rheolwr Cymorth Gweithredol

Mrs H. Morgan - Rheolwr Datblygu Economaidd

Mrs M. Evans Thomas  - Pen-swyddog Gwasanaethau Democrataidd

 

Y Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin : 2.00 p.m. – 3.15 p.m.

 

 

9.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriad gan y Cynghorwyr L.R. Bowen, D.M. Cundy, I.W. Davies, W.R.A. Davies, C.J. Harris, K. Howell, T.J. Jones a G.B. Thomas.

 

 

10.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Y Cynghorydd

Rhif y Cofnod

Y Math o Fuddiant

K. Madge

12 -  Adroddiad Blynyddol Arweinydd y Cyngor

Mae ei ferch yn gweithio yn gofal cymdeithasol.

 

11.

DERBYN ADRODDIAD ARWEINYDD Y CYNGOR YNGHYLCH PENODI CYNGHORWYR SY'N CAEL EU DEWIS I WASANAETHU AR Y BWRDD GWEITHREDOL pdf eicon PDF 267 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd yr Arweinydd ei fod wedi ystyried penodi aelodau i wasanaethu ar y Bwrdd Gweithredol a rhoddodd wybod i'r Cyngor am y penodiadau canlynol:-

Cynghorydd                                          Portffolio

Mair Stephens                   -         Dirprwy Arweinydd

Cefin Campbell                  -         Cymunedau a Materion Gwledig

Glynog Davies                   -         Addysg a Phlant

Hazel Evans                      -         Yr Amgylchedd

Philip Hughes                    -         Diogelu'r Cyhoedd

Peter Hughes Griffiths       -         Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth

David Jenkins                    -         Adnoddau

Jane Tremlett                    -         Gofal Cymdeithasol ac Iechyd

Rhoddodd fanylion am bortffolio Aelodau'r Bwrdd Gweithredol ac esboniodd fod penodiad y Cynghorydd Linda Evans yn Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Dai i'w gadarnhau.

 

 

 

12.

DERBYN ADRODDIAD BLYNYDDOL ARWEINYDD Y CYNGOR pdf eicon PDF 3 MB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[NODER:  Yr oedd y Cynghorydd K. Madge wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.]

 

Cyflwynodd yr Arweinydd ei adroddiad blynyddol, a rhoddwyd copïau ohono yn ystod y cyfarfod, a oedd yn edrych yn ôl ar lwyddiannau'r Cyngor dros y 12 mis diwethaf.  Fodd bynnag roedd yr adroddiad ychydig yn wahanol eleni, oherwydd yn ogystal â bod yn ddiwedd blwyddyn y Cyngor, roedd hefyd yn ddiwedd tymor pum mlynedd y Cyngor. 

 

Roedd nifer o Gynghorwyr a fu'n gwasanaethu am gyfnod hir wedi ymddeol yn ystod yr etholiad diweddar ac roedd cyfnodau swyddi aelodau eraill wedi dirwyn i ben. Cyfeiriodd at eu hawydd i gynrychioli eu cymunedau lleol a rhoddodd ganmoliaeth iddynt am eu cyfraniad at waith y Cyngor dros y blynyddoedd. Rhoddodd deyrnged benodol i'r Cynghorydd Meryl Gravell am ei hymrwymiad a'i hymroddiad i'r Cyngor a'i dyhead diffuant i wneud Sir Gaerfyrddin yn lle gwell i'w thrigolion oll.

 

Cyfeiriodd at y ddau addewid pendant a wnaeth pan ddaeth yn Arweinydd sef y byddai'n canolbwyntio ar adfywio ledled y sir ac yn amddiffyn gwasanaethau rhengflaen. Roedd y Bwrdd Gweithredol wedi cefnogi'n llwyr ei weledigaeth ar gyfer y sir a diolchodd iddynt am eu cyfraniad at yr hyn a fu'n flwyddyn lwyddiannus iawn i'r Cyngor, a llwyddwyd i gyflawni hyn wrth wynebu toriadau llym o ran gwariant cyhoeddus gan lywodraethau Cymru a'r DU.  

 

Yn ôl yr Arweinydd uchafbwynt y flwyddyn ddiwethaf yn ddiamheuaeth oedd sicrhau Bargen Ddinesig Bae Abertawe.  Hwn yw'r buddsoddiad mwyaf erioed yn Ne-orllewin Cymru.  Bydd Sir Gaerfyrddin yn elwa ar dri phrosiect penodol: Y Pentref Llesiant a Gwyddorau Bywyd yn Llanelli, prosiect diwydiant creadigol Yr Egin yng Nghaerfyrddin, a menter sgiliau a thalentau a fydd yn helpu i ddatblygu sgiliau ar gyfer y rhanbarth cyfan.

 

Cyfeiriodd at y ffaith fod y Cyngor dros y 12 mis diwethaf wedi:-

 

·       Buddsoddi miliynau o bunnoedd mewn prosiectau cyffrous i greu cannoedd o swyddi sy'n talu'n dda er mwyn helpu i gadw ein pobl ifanc yn ein sir;

·       Lansio rhaglen 1,000 o dai fforddiadwy, yn cynnwys adeiladu 60 o dai Cyngor;

·       Cadw'r cynnydd yn y Dreth Gyngor i 2.5%;

·       Diogelu ysgolion rhag toriadau go iawn i gyllid;

·       Diogelu'r Gwasanaethau Cymdeithasol a chanfod arian ychwanegol ar gyfer atgyweiriadau hanfodol i briffyrdd;

·       Rhoi codiad cyflog haeddiannol iawn o 2.6% i'n staff sydd ar y cyflogau isaf.

 

Bydd dau ddigwyddiad yn ystod y flwyddyn ddiwethaf yn cael effaith sylweddol a hirhoedlog ar lywodraeth leol yng Nghymru.  Yn y lle cyntaf, roedd y Gweinidog Llywodraeth Leol wedi colli ei sedd yn Etholiadau'r Cynulliad ym mis Mai 2016, a roddodd derfyn sydyn ar y cynnig i aildrefnu llywodraeth leol a chyflwynwyd yn hytrach llawer mwy o bwyslais ar gydweithio rhwng cynghorau.  Mae Sir Gaerfyrddin wedi derbyn y cysyniad hwn yn llawn ac mae llwyddiant Bargen Ddinesig Bae Abertawe yn adrodd cyfrolau ynghylch pa mor benderfynol ydym o weithio'n glos gydag awdurdodau cyfagos.  Yn ail oedd penderfyniad pobl Prydain i adael yr Undeb Ewropeaidd.  Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi elwa'n fawr iawn ar gyllid gan yr  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 12.

13.

PROTOCOL AR GYFER ENWEBU CADEIRYDD Y CYNGOR pdf eicon PDF 304 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Cyngor yn ystyried adroddiad a oedd yn awgrymu protocol ar gyfer enwebu Cadeirydd y Cyngor ar gyfer cyfnod 2017/18 i 2022/23.  Mae cael protocol ar waith yn cynorthwyo â'r paratoadau ar gyfer y Cyfarfod Blynyddol bob blwyddyn, gyda'r Cyngor yn cytuno ar enwebiadau yn ystod ei gyfarfod ym mis Ebrill (heblaw yn ystod blwyddyn etholiadau'r Cyngor Sir).

 

Roedd y Cyngor blaenorol wedi mabwysiadu protocol ar gyfer enwebu Cadeirydd y Cyngor hyd at Flwyddyn y cyngor 2017/18 ac os oedd y Cyngor yn penderfynu defnyddio protocol tebyg i'r un blaenorol, byddai'r enwebiadau fel a ganlyn:-

 

2017/18           Annibynnol (fel y cytunwyd yn y Cyngor ar 1 Mehefin)

2018/19        Plaid Cymru

2019/20           Llafur

2020/21           Annibynnol

2021/22         Plaid Cymru

2022/23           Llafur

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL mabwysiadu'r protocol ar gyfer enwebu Cadeirydd y Cyngor, fel y manylwyd arno uchod ar gyfer y cyfnod 2017/18 i 2022/23.

 

 

14.

AELODAETH PWYLLGORAU CRAFFU, PWYLLGORAU RHEOLEIDDIO A PHWYLLGORAU ERAILL Y CYNGOR A PHENODI AELODAU I WASANAETHU ARNYNT pdf eicon PDF 214 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Cyngor yn ystyried adroddiad ynghylch Aelodaeth y Pwyllgorau Craffu, y Pwyllgorau Rheoleiddio a Phwyllgorau Eraill y Cyngor ac ynghylch penodi aelodau i wasanaethu arnynt. Nodwyd y bod unrhyw newidiadau i aelodaeth a gafodd eu cynnig gan y grwpiau gwleidyddol yn cael eu hamlygu yn yr adroddiad.

 

Roedd yn ofynnol i'r Cyngor, yn unol â'i Gyfansoddiad, benodi aelodau i wasanaethu ar ei bwyllgorau, ac i ddyrannu'r seddi hynny fel eu bod yn adlewyrchu cyfansoddiad gwleidyddol y Cyngor yn ei gyfanrwydd.

 

Yn dilyn ystyried strwythur gwleidyddol newydd yr Awdurdod ac er mwyn sicrhau bod dyraniad llawr o seddi ar gael i'w dosbarthu ymysg y grwpiau gwleidyddol a'r aelodau heb gysylltiad pleidiol, argymhellwyd cynyddu'r cyfrifiad o ran dosbarthiad y seddi ar bwyllgorau o 1 i 167 (fel y cytunwyd gan y Cyngor blaenorol) i 168 gyda nifer y seddi ar gael ar Bwyllgorau Craffu yn cynyddu o 67 i 68. Argymhellwyd hefyd newid i nifer yr aelodau ar bwyllgorau rheoleiddio a phwyllgorau eraill er mwyn adlewyrchu cydbwysedd gwleidyddol newydd y Cyngor, gan sicrhau bod yr holl seddi yn cael eu dyrannu ar sail wleidyddol gytbwys, gyda nifer y seddi ar bwyllgorau hefyd yn cael eu dyrannu i adlewyrchu, cyhyd ag sy'n bosibl, cydbwysedd gwleidyddol y Cyngor yn ei gyfanrwydd.

 

Cafwyd yr enwebiadau canlynol gan Arweinydd y Gr?p Llafur ar gyfer swyddi gwag y pwyllgor a oedd yn weddill:-

 

- Y Cynghorydd John Prosser i wasanaethu ar Bwyllgor Cronfa Bensiwn Dyfed

- Y Cynghorydd John James i fod yn aelod dirprwyol ar y Panel Adolygu Tai

- Y Cynghorydd Louvain Roberts i wasanaethu ar y Pwyllgor Cynllunio

 

Nid oedd dim newidiadau o ran aelodaeth ychwanegol.

PENDERFYNWYD

14.1 cynyddu cyfanswm y seddau ar Bwyllgorau o 1 sef 167 i 168 o seddau;

14.2  yn dilyn mabwysiadu 14.1 uchod, cynyddu nifer y seddau ar Bwyllgorau Craffu o 67 i 68;

14.3  bod cyfansoddiad ac aelodaeth Pwyllgorau Rheoleiddio, Pwyllgorau Craffu a Phwyllgorau eraill ar gyfer Blwyddyn y Cyngor 2017/18, fel y nodwyd yn Atodiad 1 yr adroddiad yn cynnwys yr enwebiadau uchod gan y Gr?p Llafur yn cael eu cymeradwyo.

 

 

15.

PENODI CADEIRYDDION AC IS-GADEIRYDDION PWYLLGORAU / PANELAU CANLYNOL Y CYNGOR AM FLWYDDYN Y CYNGOR 2017/18 pdf eicon PDF 139 KB

Y Pwyllgorau Craffu:

 

Cymunedau

Addysg a Phlant

Diogelu'rCyhoedda'r Amgylchedd

Polisi ac Adnoddau

GofalCymdeithasol ac Iechyd

 

Noder:

Mae'nrhaidi gyfanswm nifer Cadeiryddion y Pwyllgorau Craffu adlewyrchu cydbwysedd gwleidyddol y Cyngor cyfan. Nid oes gofyniad tebyg ar gyfer penodi Is-gadeiryddion.

 

 

 

PwyllgorauRheoleiddio ac Eraill:-

 

Y Pwyllgor Apêlau

PwyllgorPenodi "A" - Cyfarwyddwyr

PwyllgorPenodi “B” - Penaethiaid Gwasanaethau

PwyllgorGwasanaethauDemocrataidd   (Ni chaiff yr unigolyn sy'n cael ei benodi'n gadeirydd fod yn aelod o un o'r grwpiau sy'n rhan o'r weithrediaeth)        

Pwyllgor Cronfa Bensiwn Dyfed (Cadeirydd yn unig)

Y Panel Adolygu Tai          

Y Pwyllgor Trwyddedu

PwyllgorPenodi'rAelodau

Y Pwyllgor Cynllunio

 

 

           

SYLWER:-

 

1.    Bydd yr aelodau o'r Pwyllgor Archwilio, yn eu cyfarfod cyntaf yn dilyn Cyfarfod Blynyddol y Cyngor, yn ethol y Cadeirydd a'r Is-gadeirydd am Flwyddyn y Cyngor.

 

2.    Byddyr aelodau o’r Pwyllgor Trwyddedu, yn eu cyfarfod cyntaf yn dilyn Cyfarfod Blynyddol y Cyngor, yn ethol Cadeiryddion y 3 Is-Bwyllgor Trwyddedu am Flwyddyn y Cyngor.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Council considered nominations which had been received for the appointment of Chairs and Vice Chairs of Committees for the 2017/18 municipal year. 

 

In order to receive nominations for Chairs and Vice-Chairs of Committees it was

 

RESOLVED to suspend CPR 4(2) in order to receive nominations for Chairs and Vice-Chairs of Committee for the 2017/18 municipal year.

 

No further nominations were received and it was therefore

 

FURTHER RESOLVED that the following appointments to Chairs and Vice Chairs of Regulatory, Scrutiny, Other Committees and Panels be made for the 2017/18 municipal year:-

 

COMMITTEE / PANEL

CHAIR

VICE CHAIR

Community Scrutiny Committee

Councillor S.L. Davies

Councillor J.K. Howell

Education & Children Scrutiny Committee

Councillor D. Price

Councillor E.G. Thomas

Environmental & Public Protection Scrutiny Committee

Councillor J.D. James

Councillor A. Davies

Policy & Resources Scrutiny Committee

Councillor A.G. Morgan

Councillor D.E. Williams

Social Care & Health Scrutiny Committee

Councillor G. Thomas

Councillor I.W. Davies

Appeals Committee

Councillor J.K. Howell

Councillor S.M. Allen

Appointments Committee A - Directors

Councillor E. Dole

Councillor L.M. Stephens

Appointments Committee B - Heads of Service

Councillor L.M. Stephens

Councillor E. Dole

Democratic Services Committee

Councillor R. James

Councillor W.T. Evans

Planning Committee

Councillor A. Lenny

Councillor H.I. Jones

Licensing Committee

Councillor E.G. Thomas

Councillor D.E. Williams

Member Appointments Committee

Councillor A.D.T. Speake

Councillor W.R.A. Davies

Housing Review Panel

Councillor G.B. Thomas

Councillor I.W. Davies

Investment Panel

Councillor D.E. Williams

Not required

 

16.

NEWIDIADAU I GYFANSODDIAD Y CYNGOR pdf eicon PDF 476 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[NODER: Yr oedd y Cynghorydd A.D.T. Speake wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.]

 

Dywedwyd wrth y Cyngor ei fod yn ofynnol yn ôl Rheoliadau Maint a Chyfansoddiad Pwyllgorau Awdurdodau Cynllunio Lleol (Cymru) 2017 a ddaeth i rym ar 5 Ebrill 2017, i Pwyllgorau Cynllunio yng Nghymru cael eu strwythuro a'u gweithredu yn unol â'r gofynion canlynol:-

 

-           Rhaid i'r Pwyllgor Cynllunio gynnwys heb fod yn llai nag 11 aelod a heb fod yn fwy na 21 aelod, ond ni ddylai fod yn fwy 50% o Aelodau'r Awdurdod (wedi'i dalgrynnu i'r rhif cyfan agosaf);

-           Pan fo mwy nag un aelod etholedig, dim ond un aelod all wasanaethau ar y Pwyllgor Cynllunio, er mwyn caniatáu i aelodau eraill y ward i gyflawni'r rôl gynrychioladol ar gyfer buddiannau'r gymuned leol. 

 

Yn ogystal yn ôl Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Rheolau Sefydlog) (Cymru) (Diwygio) 2017 a ddaeth i rym ar 5 Mai, 2017, mae'r canlynol yn ofynnol:-

 

-           Rhaid i bob cyfarfod o'r Pwyllgor Cynllunio gael cworwm o 50% i wneud  penderfyniadau; ac

-           nid oes hawl defnyddio aelodau dirprwyol.

 

Bydd methu â chadw at ofynion y rheoliadau uchod yn effeithio ar ddilysrwydd penderfyniadau a wneir gan y Pwyllgor Cynllunio. Roedd felly'n hanfodol i ddiwygio cyfansoddiad y Cyngor er mwyn sicrhau bod y Pwyllgorau Cynllunio yn cael eu penodi yn unol â'r gofynion hyn cyn gwneud penderfyniadau.

 

Dywedwyd wrth y Cyngor hefyd yn gyfansoddiadol, cyfrifoldeb y Cyngor  oedd mabwysiadu Cynllun Lwfansau'r Cynghorwyr ond bellach y Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol sy'n dynodi'r cyfansymiau i'w talu gyda'r nod o ddarparu fframwaith cenedlaethol cyson o ran cydnabyddiaeth i gynghorwyr.  Bu'r Cyngor yn ystyried newidiadau ar gyfer 2017/18 yn ystod ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 26 Ebrill, 2017 (cofnod 9.1).  Atodwyd copi i'r adroddiad, er mwyn ei ystyried, o'r Cynllun Lwfansau a fabwysiadwyd gan y Cyngor ar gyfer 2016/17 a ddiwygiwyd er mwyn ei weithredu ar gyfer blwyddyn y cyngor 2017/18.

 

Roedd yr adroddiad hefyd yn cynnwys diwygiadau ychwanegol er mwyn adlewyrchu argymhellion y Gweithgor Adolygu'r Cyfansoddiad yn ystod ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 16 Rhagfyr 2016.

 

Cyfeiriwyd at RhGC 10.1 a, tra’n cefnogi’r ddarpariaeth hon, y farn oedd y dylid ei ddiwygio er mwyn atal rhagymadroddion hir mewn cyfarfodydd a gynigiwyd y gwelliant canlynol mewn ffurf ychwanegiad i RhGC 10.1: “Gellir cyflwyno cefndir neu rhagymadrodd weddol cryno gyda’r cwestiwn a fydd yn cael ei gyhoeddi ar agenda’r cyfarfod ond dim ond y cwestiwn ei hun a’r cwestiwn atodol gellir ei roi ar lafar.”

 

PENDERFYNWYD

 

16.1   Diwygio Cyfansoddiad y Cyngor (rhannau 13.1, 4.1 a 5.2) i gynnwys y newidiadau i aelodaeth a maint Pwyllgorau Cynllunio a ddaeth i rym ar 5 Mai 2017; ac unrhyw newidiadau ychwanegol a argymhellwyd gan y Gweithgor Adolygu'r Cyfansoddiad;

16.2     Diwygio Rhan 4.5 (Rheolau Gweithdrefn Craffu) 5.6 (Protocol Cyfathrebu ag Aelod Etholedig) a RHan 4.1 –  Rheol Gweithdrefn y Cyngor 22 (Ffilmio Cyfarfodydd) i ystyried ac egluro'r argymhellion a wnaed gan y Gweithgor Adolygu'r Cyfansoddiad;

16.3    Mabwysiadu Cynllun Cyflogau a Lwfansau Cynghorwyr ac Aelodau Cyfetholedig ar gyfer 2017/18  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 16.

17.

PENODI AELODAU I WEITHGOR TRAWSBLEIDIOL ADOLYGU'R CYFANSODDIAD AC I'R PANEL YMGYNGHOROL YNGHYLCH Y POLISI TÂL pdf eicon PDF 179 KB

GWEITHGOR TRAWSBLEIDIOL ADOLYGU'R CYFANSODDIAD (10 AELOD)

 

CYDBWYSEDD GWLEIDYDDOL:- 

 

5 PLAID CYMRU

3 LLAFUR

2 ANNIBYNNOL

 

 

Y PANEL YMGYNGHOROL YNGHYLCH Y POLISI TÂL (6 AELOD)

 

CYDBWYSEDD GWLEIDYDDOL:-

 

3 PLAID CYMRU

2 LLAFUR

1 ANNIBYNNOL

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Cyngor yn ystyried enwebiadau a gafwyd o ran penodi aelodau i wasanaethu ar y Gweithgor Adolygu'r Cyfansoddiad a'r Panel Ymgynghorol ynghylch y Polisi Tâl.

 

PENDERFYNWYD ar y penodiadau canlynol:

 

Gweithgor/Panel Ymgynghorol

 

Cynrychiolwyr a Benodwyd

Gweithgor Adolygu'r Cyfansoddiad

 

 

Y Cynghorydd E.  Dole

Y Cynghorydd J.S. Edmunds

Y Cynghorydd H.A.L. Evans

Y Cynghorydd W.T. Evans

Y Cynghorydd P. Hughes Griffiths

Y Cynghorydd J.D. James

Y Cynghorydd R. James

Y Cynghorydd D.M. Jenkins

Y Cynghorydd L.M. Stephens

Y Cynghorydd J. Tremlett

Y Panel Ymgynghorol Ynghylch Y Polisi Tâl

Y Cynghorydd E.  Dole

Y Cynghorydd J.S. Edmunds

Y Cynghorydd H.A.L. Evans

Y Cynghorydd D.M. Jenkins

Y Cynghorydd J.G. Prosser

Y Cynghorydd L.M. Stephens

 

 

 

18.

PENODI CYNRYCHIOLWYR I GYRFF ALLANOL pdf eicon PDF 170 KB

NIFER Y SEDDI

AWDURDOD PARC CENEDLAETHOL BANNAU BRYCHEINIOG

2

PANEL HEDDLU A THROSEDDU DYFED-POWYS

3

AWDURDOD TAN AC ACHUB CANOLBARTH A GORLLEWIN CYMRU

5

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Cyngor yn ystyried enwebiadau a gafwyd o ran penodi aelodau i wasanaethu ar y cyrff allanol y nodwyd isod.

 

PENDERFYNWYD ar y penodiadau canlynol:

 

Y Corff Allanol

 

Cynrychiolwyr a Benodwyd

Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog

Y Cynghorydd G. Davies

Y Cynghorydd A. James

Panel Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys

Y Cynghorydd J.K. Howell

Y Cynghorydd T.J. Jones

Y Cynghorydd E. Morgan

 

AwdurdodTân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru

 

Y Cynghorydd J.M. Charles

Y Cynghorydd D.C. Evans

Y Cynghorydd K. Madge

Y Cynghorydd E.G. Thomas

Y Cynghorydd D.E. Williams