Lleoliad: Siambr - Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Janine Owen 01267 224030
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorydd H.A.L Evans a Linda Rees Jones, Pennaeth Gweinyddiaeth a'r Gyfraith
|
|
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chafwyd datganiadau o fuddiant personol.
|
|
LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR Y 28AIN CHWEFROR 2022 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion y cyfarfod oedd wedi'i gynnal ar 28 Chwefror 2022 gan eu bod yn gywir.
|
|
SWYDDOGAETH Y GWASANAETH DEMOCRATAIDD Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
Yn ogystal â Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 ac Adrannau penodol 8 i 21 o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru), mae'r adroddiad yn tynnu sylw at y ffaith bod Deddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013 wedi ychwanegu adran 11A sy'n nodi y caiff y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd, ar gais yr awdurdod, adolygu unrhyw fater sy'n berthnasol i'r canlynol:
(a) y cymorth a'r cyngor sydd ar gael i aelodau'r awdurdod hwnnw, a (b) thelerau ac amodau swydd yr aelodau hynny.
Mae'r adroddiad yn gofyn i'r Pwyllgor nodi ei rôl a'i swyddogaeth ac ailgadarnhau penodi Cadeirydd y Pwyllgor yn Hyrwyddwr Datblygu Aelodau'r Cyngor, a fyddai'n gweithio'n agos gydag arweinydd Datblygu'r Aelodau ar gyfer yr elfen Weithredol a swyddogion y Tîm Dysgu a Datblygu ar nodi a hyrwyddo materion datblygu aelodau.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL
4.1 bod rôl a swyddogaeth y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd yn cael ei nodi.
4.2 bod penodi Cadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd fel Hyrwyddwr Datblygu Aelodau'r Awdurdod yn cael ei ailgadarnhau.
|
|
Y DIWEDDARAF AM RAGLEN SEFYDLU'R AELODAU 2022 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Derbyniodd y Pwyllgor adroddiad a oedd yn rhoi gwybodaeth am Raglen Sefydlu'r Aelodau 2022. Dywedodd yr Ymgynghorydd Dysgu a Datblygu wrth gyflwyno'r adroddiad i'r Pwyllgor fod y Rhaglen a lansiwyd ar 18 Mai 2022 yn cynnwys cyfanswm o 40 o sesiynau datblygu a rannwyd yn sesiynau i'r holl aelodau, sesiynau yn benodol ar gyfer aelodau'r Cabinet ac aelodau paneli a oedd yn eistedd ar bwyllgorau perthnasol.
Yn ogystal â'r amserlen hon, roedd llawer o sesiynau wedi'u recordio gan alluogi aelodau i wylio yn eu hamser eu hunain drwy blatfform eDdysgu'r Cyngor.
Er mwyn canfod a oedd y Rhaglen Sefydlu wedi bod yn effeithiol, roedd yr adroddiad yn gofyn am adborth gan aelodau drwy grwpiau ffocws.
Mynegodd yr aelodau eu diolch diffuant i'r adran Gwasanaethau Democrataidd a Dysgu a Datblygu am eu gwaith caled wrth baratoi, hwyluso a darparu rhaglen amrywiol a fu'n fuddiol i Aelodau newydd a'r rhai a gafodd eu hailethol. Mewn ymateb i ymholiad ynghylch cael adborth aelodau, awgrymodd yr Ymgynghorydd Dysgu a Datblygu y byddai grwpiau ffocws i gael dealltwriaeth o'r hyn a fu'n llwyddiant a'r hyn nad oedd mor llwyddiannus o ran y Rhaglen Sefydlu Aelodau yn cael eu trefnu maes o law.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:
5.1) bod y Rhaglen Sefydlu Aelodau hyd yn hyn yn cael ei nodi;
5.2) bod grwpiau ffocws gyda'r holl aelodau yn cael eu trefnu ddiwedd mis Tachwedd er mwyn cael adborth am y Rhaglen Sefydlu.
|
|
POLISI CYFARFODYDD AML-LEOLIAD Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Derbyniodd y Pwyllgor adroddiad a oedd yn atodi Polisi Cyfarfodydd Aml-leoliad drafft. Roedd y polisi drafft wedi cael ei ystyried gan y Gweithgor Adolygu'r Cyfansoddiad yn ei gyfarfod ar 20 Gorffennaf, 2022 lle argymhellwyd i'r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd bod y polisi yn cael ei gymeradwyo.
Ers cyflwyno Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 rhoddodd Llywodraeth Cymru y p?er a'r rhyddid i Gynghorau gynnull cyfarfodydd aml-leoliad gan alluogi mwy o hygyrchedd a chyfranogiad gan y cyhoedd o ran penderfyniadau llywodraeth leol.
Roedd yr adroddiad yn rhoi gwybodaeth am yr hyn a olygir gan aml-leoliad, y cyfeirir ato hefyd fel 'Hybrid’. Ar gyfer pob cyfarfod, rhaid i'r cyfranogwyr fedru siarad â'i gilydd a chlywed ei gilydd. Yn ogystal, roedd yn rhaid i gyfranogwyr cyfarfodydd a oedd yn gorfod cael eu darlledu fedru gweld a gweld ei gilydd.
O ran eilydd yn mynychu cyfarfod o bell, gofynnwyd a fyddai'n ofynnol i'r eilydd hefyd fod yn bresennol erbyn cychwyn y cyfarfod? Ychwanegwyd y gallai fod adegau lle byddai'r dechnoleg yn atal unigolyn i fod yn bresennol cyn dechrau'r cyfarfod. Cadarnhaodd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd yn unol â Rheol Rhif 4 (12)(c) o Weithdrefn y Cyngor y byddai'n rhaid i eilyddion sy'n mynychu'n gorfforol ac o bell fod yn bresennol erbyn cychwyn y cyfarfod. Fodd bynnag, cydnabuwyd y gallai fod angen adolygu elfennau o'r Weithdrefn yn dilyn cyflwyno presenoldeb aml-leoliad ac y byddai CRWG yn ystyried hyn yn ystod y flwyddyn.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R CYNGOR bod y Polisi Drafft ynghylch Cyfarfodydd Aml-leoliad yn cael ei gymeradwyo.
|
|
AROLWG - AMSERAU CYFARFODYDD Y CYNGOR Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Derbyniodd y Pwyllgor adroddiad a oedd yn darparu canfyddiadau'r arolwg gafodd ei gynnal yn dilyn yr etholiadau llywodraeth leol diweddar.
Roedd y Cyngor, yn unol â Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, wedi cynnal arolwg yn gofyn am farn yr Aelodau o ran amserau cyfarfodydd a'r adegau y cynhelir cyfarfodydd yr awdurdod lleol.
Nododd aelodau bod 53 aelod wedi ymateb i'r Arolwg Amserau Cyfarfodydd a oedd yn agored i bob Aelod Etholedig i'w gwblhau rhwng 19 Mai 2022 a 30 Mai 2022.
Bu aelodau'r Pwyllgor yn ystyried canlyniadau'r arolwg a oedd ynghlwm i'r adroddiad a oedd y nodi y byddai'n well gan y mwyafrif o'r aelodau gadw'r trefniadau sy'n bodoli ar hyn o bryd.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R CYNGOR bod trefniadau cyfarfod y Cyngor yn parhau fel y maent ar hyn o bryd.
|
|
BLAENRHAGLEN GWAITH Y PWYLLGOR GWASANAETHAU DEMOCRATAIDD Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried Blaenraglen Waith awgrymedig ar gyfer blwyddyn y cyngor 2022/23.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fabwysiadu Blaenraglen Waith 2022/23 Pwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd.
|