Agenda a Chofnodion

Cabinet - Dydd Llun, 30ain Ionawr, 2023 10.00 yb

Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Julie Owens  01267 224088

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd A.Davies.

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.

3.

LLOFNODI FEL COFNOD CYWIR GOFNODION CYFARFOD Y CABINET A GYNHALWYD AR 09 IONAWR 2023 pdf eicon PDF 159 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 9 Ionawr 2023 yn gofnod cywir.

4.

CWESTIYNAU Â RHYBUDD GAN YR AELODAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau â rhybudd wedi cael eu cyflwyno gan yr Aelodau.

 

5.

CWESTIYNAU A RHYBYDD GAN Y CYHOEDD

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.

 

6.

DEISEB AR GYFER DIOGELWCH PALMENTYDD A FFYRDD - CASTELLNEWYDD EMLYN pdf eicon PDF 1020 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn unol â chofnod 7 o gyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd ar 12 Hydref 2022, bu'r Cabinet yn ystyried adroddiad ar ddeiseb mewn perthynas â Diogelwch Palmentydd a Ffyrdd yng Nghastellnewydd Emlyn.

 

Roedd yr adroddiad yn manylu ar y gwaith partneriaeth parhaus ym meysydd Addysg, Peirianneg a Gorfodaeth i alluogi'r Cyngor i gyflawni ei ddyletswyddau statudol i wella diogelwch ar y ffyrdd ac atal gwrthdrawiadau traffig.

 

Roedd yr adroddiad hefyd yn nodi'r fframwaith dau gam a roddwyd ar waith gan y Cyngor mewn perthynas â blaenoriaethu gwelliannau i'r briffordd yng nghyd-destun y cyfyngiadau cyllidebol er mwyn ymdrin â cheisiadau o'r fath ar sail tystiolaeth a sicrhau bod cyllid yn cael ei gyfeirio at y meysydd sydd â'r angen mwyaf. 

 

Nodwyd hefyd ddata perthnasol i'r Cabinet ei ystyried o ran y cyfleusterau croesi presennol, llif cerbydau, cyfansoddiad a chyflymder, llif cerddwyr a chyfansoddiad, nodweddion safle a data ynghylch damweiniau ar y ffordd, a nodwyd bod angen casglu data pellach o ran traffig a nifer y cerddwyr rhwng oriau brig ac oriau tawel i sicrhau asesiad safle cynhwysfawr.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:

 

6.1

Nodi cynnwys yr adroddiad

 

6.2

Bod y deisebwyr yn cael gwybod am yr adroddiad.

 

6.3

Bod arolygon traffig ac asesiadau croesfannau i gerddwyr yn cael eu cynnal mewn lleoliadau allweddol yng Nghastellnewydd Emlyn yng Ngwanwyn 2023 a bod y deisebwyr yn cael gwybod am y canfyddiadau.

 

7.

Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM GRONFA FFYNIANT GYFFREDIN Y DU pdf eicon PDF 151 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn dilyn cofnod 7 o gyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 31 Hydref 2022, rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad cynnydd  o ran y Gronfa Ffyniant Gyffredin.

 

Cadarnhawyd bod Llywodraeth y DU wedi cymeradwyo Cynllun Buddsoddi Rhanbarthol y De-orllewin ym mis Rhagfyr 2022 ac roedd dyraniad cyllid o £38.6m ar gyfer Sir Gaerfyrddin wedi ei sicrhau er mwyn galluogi'r Awdurdod i gyflawni rhai o amcanion strategol y Sir. Cyfeiriwyd at y goblygiadau cyfreithiol a nodwyd yn yr adroddiad lle cadarnhawyd bod Cyngor Abertawe, fel yr Awdurdod Arweiniol ar ran rhanbarth y De-orllewin yn parhau â'r atebolrwydd cyffredinol o ran cyllido a gweithrediad y Gronfa Ffyniant Gyffredin, fodd bynnag cyfrifoldeb yr Awdurdod oedd rheolaeth a chyflawniad y rhaglen yn Sir Gaerfyrddin.

 

Roedd yr adroddiad yn manylu ar y prif brosiectau o fewn y themâu Cymuned, Gwledig, Lle, Cefnogi Busnes Lleol a Chyflogadwyedd a Sgiliau. Rhoddwyd trosolwg i’r Cabinet o'r goblygiadau ariannol, y prosesau llywodraethu a'r prosesau hefyd.  Yn hyn o beth, rhoddwyd ystyriaeth i'r trefniadau gwneud penderfyniadau ar gyfer y prif brosiectau a'r prosiectau annibynnol a oedd yn cynnwys datblygu ffurflen gais a meini prawf asesu, fel yr atodir i'r adroddiad.

 

I gydnabod fod Llywodraeth y DU wedi pennu dyddiad cwblhau o 31 Mawrth 2025 ar gyfer holl weithgarwch y Gronfa Ffyniant Gyffredin, gofynnwyd am gymeradwyaeth y Cabinet i fwrw ymlaen â recriwtio staff ar gyfer timau mewnol y prif brosiectau a'r tîm Rheoli Rhaglen, ynghyd ag agor galwadau ar gyfer pob cais cyn ymrwymo i Gytundeb Lefel Gwasanaeth ffurfiol â Chyngor Abertawe.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:

 

7.1

Cymeradwyo’r camau a gymerwyd hyd yma a'r rhai a gafodd eu cynnig i alluogi swyddogion i barhau â'u gwaith paratoi ar gyfer darparu'r cyllid, h.y. sefydlu prosesau a gweithdrefnau ar gyfer cyflawni, a datblygu cytundebau cyfreithiol ffurfiol yn ôl y gofyn.

 

7.2

Cymeradwyo'r cais arfaethedig a'r broses o wneud penderfyniadau.

 

7.3

Cymeradwyo hyblygrwydd yn y cyllidebau gwaith er mwyn eu mireinio mewn ymgynghoriad â Chyllid a'r Bartneriaeth Adfywio.

 

7.4

Dirprwyo awdurdod i'r Aelod Cabinet dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth i lofnodi'r manylion am y prif brosiectau yn dilyn argymhelliad y Bartneriaeth Adfywio.

 

7.5

Symud ymlaen gyda risg o ran galw am geisiadau cyn dechrau ar Gytundeb Lefel Gwasanaeth ffurfiol â Chyngor Abertawe.

 

7.6

Dirprwyo awdurdod i'r Aelod Cabinet dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth i gymeradwyo prosiectau hyd at £100k.

 

7.7

Symud ymlaen gyda risg o ran recriwtio staff ar gyfer timau mewnol y prif brosiectau a'r tîm Rheoli Rhaglen er mwyn galluogi'r rhaglen i ddechrau cyn gynted â phosib.

 

8.

CYMERADWYO ARFOR 2 (2022-2025) pdf eicon PDF 140 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedwyd wrth y Cabinet, ar sail llwyddiant cam cyntaf y Rhaglen, byddai £11 miliwn arall yn cael ei ddarparu gan Lywodraeth Cymru tan fis Mawrth 2025 i gefnogi cymunedau i ffynnu drwy ymyriadau economaidd ac i gyfrannu at ragor o gyfleoedd o ran gwelededd a defnydd dyddiol o'r Gymraeg  .

 

Bu'r Cabinet yn ystyried y trefniadau llywodraethu arfaethedig ar gyfer rhaglen Arfor 2, ynghyd â'r amcanion strategol a fyddai'n cael eu cyflawni trwy gyflwyno'r pecynnau gwaith canlynol:

 

·       Llwyddo'nLleol - Rhaglen ieuenctid wedi'i thargedu i gefnogi sgiliau entrepreneuriaidd i geisio darbwyllo ieuenctid rhag gadael yr ardal.

·       CymunedauMentrus - Cynllun sy'n cael ei weinyddu gan Gyngor Sir Caerfyrddin i greu cyfleoedd i fusnesau newydd, twf a datblygiad yn y trydydd sector trwy gyfrwng trydydd grant sydd wedi'i alinio ag amcanion Arfor.

·       Cronfa Her Arfor - Cyfle i sefydliadau ar draws y rhanbarth gyflwyno ceisiadau am adnoddau i ddatblygu gweithgareddau a chynllun peilot a fydd yn mynd i'r afael ag amcanion strategol y Rhaglen.

·       Cryfhau hunaniaeth Cymunedau Arfor - Creu rhaglen gyfathrebu a marchnata ar gyfer y Rhaglen.

·       Monitro a Gwerthuso a dysgu

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:

 

8.1

Bod y camau a gymerwyd hyd yn hyn i alluogi'r Sir i elwa ar Raglen Arfor 2 yn cael eu cymeradwyo.

 

8.2

Cymeradwyo sefydlu trefniadau llywodraethu priodol ar gyfer gweithredu'r rhaglen ar

lefel leol, gan gynnwys sefydlu'rgrant trydydd parti Cymunedau Mentrus.

 

9.

Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM Y STRATEGAETH WASTRAFF pdf eicon PDF 167 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn dilyn cofnod 7 o gyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 11 Hydref 2022, rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad a oedd yn rhoi diweddariad ar y cynnydd a wnaed hyd yn hyn ynghylch Strategaeth Wastraff y Cyngor ar gyfer 2021-2025, gan gynnwys cyflwyno'r newidiadau dros dro i'r drefn casglu gwastraff wrth ymyl y ffordd. 

 

Nododd strategaeth yr Awdurdod raglen gynhwysfawr o waith i sicrhau newid trawsnewidiol o ran gwasanaethau yn unol â'i uchelgais i leihau carbon.  Rhoddwyd trosolwg o'r sefyllfa interim i'r Cabinet, a oedd yn manylu ar y newidiadau a wnaed i'r casgliadau gwastraff ymyl y ffordd a oedd wedi dechrau ar 23 Ionawr 2023.  Dywedwyd wrth y Cabinet fod yr Awdurdod yn anelu at gyflwyno newid gwasanaeth mwy hirdymor i gyflawni methodoleg casglu'r Glasbrint erbyn 2024, a fyddai'n cynnwys gwelliannau i ddarpariaeth y fflyd bresennol.

 

Rhoddwyd ystyriaeth hefyd i'r polisi rheoli gwastraff a atodir i'r adroddiad a oedd yn darparu dogfen gyfunol yn amlinellu darpariaeth yr Awdurdod o ran gwasanaethau casglu sbwriel ac ailgylchu, ei rwydwaith o Ganolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref a  chyfleusterau ailddefnyddio yn unol ag amcan strategol yr Awdurdod o wella casgliadau gwastraff domestig ymyl y ffordd er mwyn cynyddu'r cyfraddau ailgylchu yn Sir Gaerfyrddin.

 

Cyfeiriwyd at y cosbau ariannol sylweddol a fyddai'n cael eu rhoi pe bai'r Awdurdod yn methu â chyrraedd y targedau ailgylchu statudol.  Ar ben hynny, wrth ystyried rhwymedigaethau moesol yr Awdurdod i leihau ei ôl troed carbon, roedd y Cabinet yn cydnabod yr ymdrechion a wnaed hyd yma i symud tuag at system sy'n seiliedig ar egwyddorion economi gylchol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:

 

9.1

nodi cynnydd a chyflawniad Strategaeth Wastraff 2021.

 

9.2

Cymeradwyo'r Polisi Gwastraff ac Ailgylchu.

 

10.

I GADARNHAU PENODIAD IS-GADEIRYDD Y PWYLLGOR CRAFFU - LLE, CYNALIADWYEDD A NEWID HINSAWDD FEL CYNRYCHIOLYDD YR AWDURDOD AR 'PATROL' A'R AELOD CABINET DROS WASANAETHAU GWASTRAFF, TRAFNIDIAETH A SEILWAITH FEL YR EILYDD ENWEBEDIG

O ganlyniad i ymddiswyddiad Cadeirydd y Pwyllgor Craffu - Lle, Cynaliadwyedd a Newid Hinsawdd (Cyng. John James) o PATROL (Rheoliadau Parcio a Thraffig y tu allan i Lundain).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Cabinet yn ystyried enwebiadau mewn perthynas â phenodi Cynrychiolydd yr Awdurdod ac Eilydd ar PATROL (Rheoliadau Parcio a Thraffig y tu allan i Lundain). Roedd angen yr enwebiad o ganlyniad i ymddiswyddiad y cynrychiolydd presennol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:

 

10.1

Cadarnhau Is-gadeirydd y Pwyllgor Craffu Lleoedd, Cynaliadwyedd a Newid Hinsawdd fel cynrychiolydd yr Awdurdod ar 'PATROL’.

 

10.2

Cadarnhau yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Gwastraff, Trafnidiaeth a Seilwaith fel eilydd yr Awdurdod ar 'PATROL’.

 

11.

UNRHYW FATER ARALL Y GALL Y CADEIRYDD OHERWYDD AMGYLCHIADAU ARBENNIG BENDERFYNU EI YSTYRIED YN FATER BRYS YN UNOL AG ADRAN 100B(4)(B) O DDEDDF LLYWODRAETH LEOL, 1972.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd unrhyw eitemau eraill o fater brys.