Agenda item

RHANBARTH Y GORLLEWIN - PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO

Cofnodion:

5.1    PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ganiatáu'r cais cynllunio canlynol yn amodol ar yr amodau yn adroddiad/atodiad y Pennaeth Cynllunio a/neu y rhoddwyd gwybod amdanynt yn y cyfarfod:-

 

W/37006

Bwriad i gadw a chwblhau gwaith ar dir fel maes parcio ychwanegol dros dro am gyfnod o hyd at 5 mlynedd ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Ffordd y Coleg, Caerfyrddin, SA31 3EP

 

(SYLWER: Gan fod y Cynghorydd A.C. Jones a'r Cynghorydd D. Jones wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach, gadawsant Siambr y Cyngor tra bod y Pwyllgor yn ystyried y mater)

 

5.2    PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ohirio ystyried y ceisiadau cynllunio canlynol er mwyn i'r Pwyllgor Cynllunio ymweld â'r safle:-

 

W/37401

Dymchwel yr adeiladau presennol a'r slabiau telathrebu diangen ac adeiladu siop fwyd Lidl ynghyd â'r maes parcio cysylltiedig, trefniadau dosbarthu ac ehangu'r ffordd fynediad bresennol ar safle hen orsaf yr heddlu yng Nghaerfyrddin, Parc y Brodyr Llwyd,

Caerfyrddin, SA31 3AW

 

Rheswm: er mwyn galluogi'r Pwyllgor i asesu'r effaith debygol y gallai'r datblygiad ei chael ar heneb gofrestredig Bullwark.

 

Yn unol â phrotocol y Pwyllgor Cynllunio, roedd y gwrthwynebydd a oedd wedi gofyn am gael siarad ynghylch yr eitem hon wedi dewis cyflwyno ei sylwadau yn y cyfarfod a fydd yn dilyn yr ymweliad safle

 

(SYLWER: Gan fod y Cadeirydd, sef y Cynghorydd A. Lenny, wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach, gadawodd Siambr y Cyngor tra bod y Pwyllgor yn ystyried y mater. Cadeiriwyd y cyfarfod gan y Cynghorydd Irfon Jones, sef yr Is-gadeirydd)

W/38447

Newid defnydd y llawr gwaelod o breswylfa (C3) i siop goffi defnydd cymysg (A1/A3) ac ychwanegu to ar oleddf i'r garej ar wahân yn y cefn ac ychwanegu ffenstri Velux at do'r brif breswylfa (ailgyflwyno cais W/37493), Croft House, Llansteffan, Caerfyrddin, SA33 5LW

 

RHESWM: er mwyn galluogi'r Pwyllgor i weld y safle yn sgil y gwrthwynebiadau a ddaeth i law gan Gyngor Cymuned Llansteffan a Llan-y-bri, fel y dywedwyd yn y cyfarfod.

 

Yn unol â phrotocol y Pwyllgor Cynllunio, roedd y gwrthwynebydd a oedd wedi gofyn am gael siarad ynghylch yr eitem hon wedi dewis cyflwyno ei sylwadau yn y cyfarfod a fydd yn dilyn yr ymweliad safle

 

(SYLWER:

1.    Gan fod y Cadeirydd, sef y Cynghorydd A. Lenny, wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach, gadawodd Siambr y Cyngor tra bod y Pwyllgor yn ystyried y mater. Cadeiriwyd y cyfarfod gan y Cynghorydd Irfon Jones, sef yr Is-gadeirydd, yn ystod absenoldeb y Cadeirydd.

2.    Gan fod y Cynghorydd A.C. Jones wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach, gadawodd Siambr y Cyngor tra bod y Pwyllgor yn ystyried y mater.

 

5.3      PENDERFYNWYD caniatáu'r cais cynllunio canlynol yn groes i argymhellion y Pennaeth Cynllunio, oherwydd bod y Pwyllgor yn ystyried ei fod yn unol â pholisi AH3 o Gynllun Datblygu Lleol Sir Gaerfyrddin (Tai Fforddiadwy - Mân anheddiad yng nghefn gwlad agored), yn cyd-fynd â'r anghenion lleol go iawn, agosrwydd y safle i glwstwr bach o anheddau/eiddo masnachol, darpariaethau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol o ran yr ymgeisydd a chymuned Hendy-gwyn ar Daf a'r angen a'r gynsail hanesyddol i gael eiddo preswyl mawr fforddiadwy yn yr ardal;

 

            Bydd y caniatâd cynllunio'n amodol ar yr ymgeisydd yn ymrwymo i Gytundeb Adran 106 ar gyfer dosbarthu'r breswylfa'n Eiddo Fforddiadwy am byth.

 

W/38718

Un breswylfa (anghenion lleol) ar dir gyferbyn â Sparrows Nest, Hendy-gwyn ar Daf, SA34 0LG

 

 

Dogfennau ategol: