Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Martin S. Davies 01267 224059
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Cofnodion: Ni chafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb.
|
|
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol. |
|
Y DIWEDDARAF YNGHYLCH AR CYNLLUN ARCHWILIO MEWNOL 2019/20 PDF 234 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i adroddiad a roddai'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd oedd yn cael ei wneud o ran gweithredu'r Cynllun Archwilio Mewnol.
Roedd rhan A o'r adroddiad yn cynnwys adroddiad cynnydd manwl ar Gynllun Archwilio 2019/20 ynghyd ag Argymhellion Matrics Sgorio. Roedd Rhan B yn grynodeb o adroddiadau terfynol wedi'u cwblhau ar gyfer 2019/20 ynghylch y prif systemau ariannol (Ebrill 2018 hyd y heddiw) ac roedd Rhan C yn cynnwys adolygiadau a oedd wedi'u cwblhau er mis Ebrill 2018 lle'r oedd gan y systemau un neu ragor o Wendidau Rheoli Sylfaenol neu lle'r oedd adolygiadau yr oedd y Pennaeth Refeniw a Chydymffurfiaeth Ariannol wedi cytuno y dylid eu rhoi gerbron y Pwyllgor. Roedd yr adolygiadau a gwblhawyd yn ymwneud â Rheoli Eiddo a Diffygion a Gwargedion Ysgolion.
Cadarnhaodd y Pennaeth Adfywio y camau sy'n cael eu cymryd i fynd i'r afael â'r argymhellion sy'n deillio o'r adolygiad archwilio yn ymwneud â Rheoli Eiddo. Rhoddodd Pennaeth y Gwasanaethau Addysg a Chynhwysiant amlinelliad o'r camau sy'n cael eu cymryd i fynd i'r afael â'r argymhellion sy'n deillio o'r adolygiad archwilio yn ymwneud â Diffygion a Gwargedion Ysgolion. Roedd y rhain yn cynnwys cyfarfodydd â Phenaethiaid, cyfarfodydd ag ysgolion unigol, sesiynau briffio ag ymgynghorydd her, cyllidebau ysgolion fel eitem sefydlog ar agendâu'r Tîm Rheoli Adrannol ac adborth rheolaidd i'r Prif Weithredwr. Cydnabuwyd bod angen cefnogi Penaethiaid a darparu hyfforddiant ariannol, yn enwedig mewn ysgolion llai ac o dan amgylchiadau lle mae'n fwyfwy anodd i ddenu ymgeiswyr am swyddi Penaethiaid.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL
3.1 dderbyn y wybodaeth ddiweddaraf am Gynllun Archwilio Mewnol 2019/20;
3.2 fod diweddariadau yn cael eu darparu mewn 6 mis ynghylch y cynnydd o ran mynd i'r afael â'r argymhellion sy'n ymwneud ag adolygiadau archwilio Rheoli Eiddo a Diffygion a Gwargedion Ysgolion.
|
|
BLAENRHAGLEN GWAITH PDF 343 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried y Flaenraglen Waith a oedd yn rhoi manylion am yr eitemau disgwyliedig ar agenda cylch cyfarfodydd y Pwyllgor Archwilio 2019/20.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn y Flaenraglen Waith.
|
|
COFRESTR RISG CORFFORAETHOL CYNGOR SIR CAERFYRDDIN PDF 293 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried ac yn adolygu'r Gofrestr Risg Gorfforaethol a oedd yn cael ei chadw er mwyn gwerthuso'r risgiau strategol allweddol y mae'r Cyngor yn eu hwynebu. Cytunodd y Pennaeth Refeniw a Chydymffurfiaeth Ariannol i ddarparu'r wybodaeth ddiweddaraf am yr adolygiad mewnol a gynhaliwyd yn ymwneud â phrosesau gorfodi.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.
|
|
ARCHWILIAD MEWNOL GRANT RHAGLEN CEFNOGI POBL 2019/20 PDF 348 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i Adroddiad Archwiliad Mewnol 2019/20 o'r Grant Rhaglen Cefnogi Pobl. Diben y grant oedd darparu cymorth sy'n gysylltiedig â thai i helpu pobl agored i niwed i fyw mor annibynnol ag y bo modd. Daethpwyd i'r casgliad yn yr adolygiad, a gynhaliwyd i sicrhau y cydymffurfiwyd yn llawn â thelerau ac amodau'r grant yn ymwneud â'r Grant Cefnogi Pobl, fod cynnydd parhaus yn cael ei wneud mewn perthynas â rheoli, gweinyddu a monitro trefniadau.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.
|
|
Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM GYNLLUN GWEITHREDU AMGUEDDFEYDD SIR GAERFYRDDIN PDF 250 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Gan gyfeirio at gofnod 9.1 o'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 1 Gorffennaf 2019, rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i'r wybodaeth ddiweddaraf am Gynllun Gweithredu Amgueddfeydd Sir Gaerfyrddin a oedd yn adolygu cynnydd yn erbyn y pedwar argymhelliad a wnaed gan yr Adain Archwilio Mewnol yn adolygiad 2016/17, a gofnodwyd fel 26 cam gyda dangosyddion llwyddiant mesuradwy. Mae adolygiadau Archwilio Mewnol dilynol wedi cydnabod ymdrechion a'r cynnydd cadarnhaol a wnaed gan y gwasanaeth i oresgyn diffygion drwy ddefnyddio'r adnoddau sydd ar gael ar hyn o bryd.
Dywedwyd bod y meysydd rheoli casgliadau yr oedd angen gwneud cynnydd pellach yn eu cylch yn rhannu nodwedd gyffredin o ran bod yn gyd-ddibynnol â'r heriau hirdymor yr oedd y gwasanaeth amgueddfeydd yn ei chael yn anodd ymdrin â hwy oherwydd cyfyngiadau o ran y staff a'r cyfleusterau presennol. Byddai cynnydd yn parhau i gael ei wneud gyda'r adnoddau sydd ar gael wrth barhau i archwilio ateb mwy boddhaol i wella safonau rheoli asedau treftadaeth yr awdurdod ar sail datblygu yn y dyfodol.
Cytunodd y Pennaeth Refeniw a Chydymffurfiaeth Ariannol i ddosbarthu copi o'r archwiliad diweddaraf o'r gwasanaeth amgueddfeydd.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL
7.1 dderbyn yr adroddiad a nodi'r cynnydd;
7.2 cyflwyno adroddiad cynnydd pellach i'r Pwyllgor mewn 12 mis.
|
|
CYNNYDD O RAN ARGYMHELLION YR ADRODDIAD RHEOLEIDDIO PDF 290 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad a oedd yn amlinellu'r cynnydd a wnaed o ran argymhellion yr adroddiad rheoleiddiol. Byddai'r argymhellion yn cael eu monitro a'u cofnodi bob chwarter ar gyfer y Pwyllgor Craffu.
Cytunodd y Pennaeth Refeniw a Chydymffurfiaeth Ariannol i ddarparu manylion am y sefyllfa bresennol o ran yr adolygiadau o strwythur y pwyllgor trosolwg a chraffu a sut mae Llywodraeth Leol yn defnyddio data.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.
|
|
DOGFENNAU A LUNIWYD GAN SWYDDFA ARCHWILIO CYMRU:- |
|
LLYTHYR ARCHWILIO BLYNYDDOL CYNGOR SIR GAERFYRDDIN PDF 340 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried Llythyr Archwiliad Blynyddol 2018/19 a baratowyd gan yr Archwilydd Cyffredinol yn unol â'i gyfrifoldebau statudol o dan Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004.
Roedd y Llythyr Archwiliad Blynyddol yn ymdrin â'r gwaith a oedd wedi'i wneud gan Swyddfa Archwilio Cymru ers cyhoeddi'r llythyr diwethaf ac yn crynhoi'r negeseuon allweddol yn sgil y gwaith a wnaed i gyflawni cyfrifoldebau'r Archwilydd Cyffredinol a'r hyn yr oedd yn ystyried y dylid eu dwyn i sylw'r Awdurdod.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn Llythyr Archwiliad Blynyddol Swyddfa Archwilio Cymru.
|
|
CYNGOR SIR GAERFYRDDIN MEMO CYFRIFON TERFYNOL PDF 338 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried Memo Cyfrifon Terfynol Swyddfa Archwilio Cymru ar gyfer Cyngor Sir Caerfyrddin yn 2018/19 a oedd yn rhoi crynodeb o'r negeseuon allweddol a godai o'r gwaith cyfrifon terfynol a wnaed.
PENDERFYNWYD bod yr adroddiad yn cael ei dderbyn.
|
|
ADRODDIADAU LLEOL SWYDDFA ARCHWILIO CYMRU PDF 164 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad lleol Swyddfa Archwilio Cymru ar y canlynol:
· Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol: Cynyddu faint o dai rhent a thai fforddiadwy sydd ar gael.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn Adroddiad Lleol Swyddfa Archwilio Cymru.
|
|
ADRODDIADAU CENEDLAETHOL SWYDDFA ARCHWILIO CYMRU PDF 262 KB Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried yr Adroddiadau Cenedlaethol canlynol a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Swyddfa Archwilio Cymru:
· Y ‘drws blaen’ i ofal cymdeithasol i oedolion; · Cronfa Gofal Integredig - Archwiliad o Fwrdd Partneriaeth Ranbarthol Gorllewin Cymru; · Adolygiad o Fyrddau Gwasanaethau Cyhoeddus; · Cynnydd o ran rhoi’r Ddeddf Trais yn Erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol ar waith. PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn Adroddiadau Cenedlaethol Swyddfa Archwilio Cymru a nodwyd uchod.
|
|
COFNODION GRWPIAU PERTHNSAOL I'R PWYLLGOR ARCHWYLIO PDF 354 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn y cofnodion canlynol:-
· Cofnodion y Gr?p Llywio Rheoli Risg – 8 Tachwedd 2019 · Cofnodion y Panel Grantiau –1 Hydref 2019.
|
|
COFNODION - 13 MEDI, 2019 PDF 471 KB Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Archwilio a gynhaliwyd ar 13 Medi, 2019 gan eu bod yn gywir.
|