Agenda a Chofnodion

Panel Heddlu a Throseddu Dyfed Powys - Dydd Gwener, 27ain Gorffennaf, 2018 10.30 yb

Lleoliad: Siambr a Rhag-Ystafell, - 3 Heol Spilman, Caerfyrddin. SA31 1LE.. Cyfarwyddiadau

Eitemau
Rhif eitem

1.

PENODI CADEIRYDD AC IS-GADEIRYDD Y PANEL pdf eicon PDF 96 KB

Cofnodion:

Cynigiwyd penodi'r Cynghorydd A Lloyd-Jones yn Gadeirydd y Panel ac eiliwyd hynny.

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod y Cynghorydd Alun Lloyd-Jones yn cael ei benodi'n Gadeirydd y Panel.

 

Gofynnodd y Cadeirydd am enwebiadau ar gyfer Is-gadeirydd. Cynigiwyd penodi'r Athro I. Roffe yn Is-gadeirydd y Panel, ac eiliwyd hynny.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL benodi'r Athro I. Roffe yn Is-gadeirydd y Panel.

 

 

2.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB A MATERION PERSONOL

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd L. George (Cyngor Sir Powys).

 

Bu i'r Panel longyfarch y Comisiynydd Heddlu a Throseddu a thîm o swyddogion Heddlu Dyfed-Powys gan eu bod wedi cymryd rhan mewn sialens a chwblhau taith feicio 5 niwrnod at achos da, a gododd arian ar gyfer elusen Safer Dyfed-Powys Diogel.  Cynhaliwyd y daith feicio rhwng 29 Ebrill 2018 a 4 Mai 2018 a chododd oddeutu £5,000.

 

 

3.

DATGANIADAU O FUDDIANT

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.

 

 

4.

LLOFNODI YN COFNOD CYWIR COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 18 MAI 2018 pdf eicon PDF 315 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion cyfarfod Panel Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys a gynhaliwyd ar 18 Mai 2018 yn gofnod cywir.

 

 

5.

MATERION YN CODI O'R COFNODION (OS OES RHAI)

Cofnodion:

5.1 Cofnod 4.1 – Eitem Agenda, Cwestiwn gan y Cynghorydd A. Lloyd Jones

 

Gofynnwyd am y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch cyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer Rhaglen Gyswllt Ysgolion Cymru Gyfan.  Dywedodd y Comisiynydd Heddlu a Throseddu fod Llywodraeth Cymru wedi cytuno i barhau i gyllido'r rhaglen am 12 mis pellach, o ganlyniad i ymgyrch sylweddol, er mwyn cael tystiolaeth bellach cyn gwneud penderfyniad terfynol.

5.2 Cofnod 4.5 - Eitem Agenda, Cwestiwn gan y Cynghorydd M. James

 

Dywedwyd ei fod yn bleser nodi bod y Comisiynydd Heddlu a Throseddu wedi bod yn gweithio ar y cyd â chymunedau ffermio er mwyn lleihau nifer yr achosion o boeni da byw.  Dywedodd y Comisiynydd Heddlu a Throseddu fod camau sylweddol wedi'u cymryd i sicrhau bod pob Sir yn cael adnoddau penodedig penodol er mwyn rhoi diwedd ar droseddau poeni da byw.

 

Mewn ymateb i ymholiad ynghylch trefniadau llywodraethu'r Strategaeth Troseddau Gwledig, dywedodd y Comisiynydd Heddlu a Throseddu fod y Prif Gwnstabl yn cadeirio cyfarfodydd gyda fforymau a phartneriaid troseddau gwledig yn rheolaidd.  Er bod y Fforwm yn swyddogaeth weithredol, estynnodd y Comisiynydd Heddlu a Throseddu wahoddiad i Aelodau'r Panel ddod a bod yn gynrychiolwyr ar y Fforwm. 

5.3 Cofnod 7 – Eitem Agenda, Penderfyniadau'r Comisiynydd

 

Nodwyd bod hen orsaf yr heddlu yn Sanclêr gyferbyn â'r maes parcio yn ddiolwg a mynegwyd pryder ei bod yn bosibl bod hyn yn achosi'r cyhoedd i gael argraff gynyddol negyddol o ran ei chysylltiad blaenorol â'r Heddlu.  Dywedodd y Comisiynydd Heddlu a Throseddu fod yr adeilad wedi'i werthu ac nad yw Heddlu Dyfed-Powys yn gyfrifol am yr adeilad mwyach.

 

 

6.

ADRODDIAD BLYNYDDOL DRAFFT COMISIYNYDD YR HEDDLU A THROSEDDU pdf eicon PDF 96 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Panel Adroddiad Blynyddol y Comisiynydd Heddlu a Throseddu ar gyfer 2017/18 i'w ystyried yn unol â darpariaethau Adrannau 12 a 28 o Ddeddf Diwygio'r Heddlu a Chyfrifoldeb Cymdeithasol 2011.

 

Rhoddwyd sylw i'r cwestiynau/materion canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

 

  • Pwysleisiwyd bod nifer o heriau wedi bod o ran Gwasanaeth Dioddefwyr a Thystion y Goleudy ers iddo gael ei lansio.  Cydnabuwyd gan y Comisiynydd Heddlu a Throseddu fod nifer o welliannau wedi'u nodi o ganlyniad i rai problemau cychwynnol.  Mae gwelliannau i'r gwasanaeth yn cynnwys bod y Goleudy'n cytuno i reoli a chynorthwyo dioddefwyr cam-drin domestig risg ganolig a'r holl achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol risg uchel.

 

Yn ogystal, dywedodd y Comisiynydd Heddlu a Throseddu bod cynnig wedi'i wneud bod y Goleudy'n rhoi adroddiad ar berfformiad ac y byddent yn gyfrifol amdano.

 

  • Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch teithwyr yn cyrraedd Aberystwyth, dywedodd y Comisiynydd Heddlu a Throseddu y byddai'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf yn uniongyrchol i'r Cynghorydd fel yr aelod lleol ar ôl cael trafodaeth â'r Prif Gwnstabl.

 

  • Er mwyn codi proffil Panel Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys, awgrymwyd bod gwaith y Panel yn cael ei gydnabod yn yr Adroddiad Blynyddol.  Cytunodd y Comisiynydd Heddlu a Throseddu i ystyried yr awgrym.

  • Cyfeiriwyd at y ddarpariaeth o gamerâu teledu cylch cyfyng. Dywedwyd bod y wasg leol wedi adrodd straeon newyddion cadarnhaol.  Rhoddodd y Comisiynydd Heddlu a Throseddu wybod i'r Panel ei fod wedi treulio noson yng Ngorsaf Heddlu Llanfair-ym-Muallt i weld yn uniongyrchol y cyfleuster teledu cylch cyfyng yn cael ei ddefnyddio.  Wrth iddo arsylwi, gwnaed arestiad lle byddai'r fideo teledu cylch cyfyng yn cael ei ddefnyddio fel tystiolaeth.  Dywedodd y Comisiynydd Heddlu a Throseddu ei fod yn falch o weld bod y system teledu cylch cyfyng yn gweithio yn unol â'r bwriad, a'i fod yn edrych ymlaen at weld y llwyddiant mewn ardaloedd eraill.

 

Dywedodd y Comisiynydd Heddlu a Throseddu wrth y Pwyllgor fod taflen wedi'i llunio i roi gwybodaeth i'r cyhoedd am ddarpariaeth system teledu cylch cyfyng.  Roedd y daflen ar gael i'r Pwyllgor ei gweld.

 

Estynnodd y Comisiynydd Heddlu a Throseddu wahoddiad i'r Panel ddod i weld Ardal Fonitro Ganolog y system teledu cylch cyfyng ym Mhencadlys yr Heddlu ar ôl y seminar ariannol nesaf.

 

Yn dilyn ymholiad ynghylch technoleg Adnabod Rhifau Cerbydau yn Awtomatig (ANPR), dywedodd y Comisiynydd Heddlu a Throseddu fod desg dactegol cudd-wybodaeth ANPR wedi'i chyflwyno sy'n darparu cyfleuster cadarn a phellgyrhaeddol.

Mewn ymateb i ymholiad ynghylch defnyddio meddalwedd adnabod wynebau, dywedodd y Comisiynydd Heddlu a Throseddu, er bod Heddlu De Cymru yn defnyddio'r swyddogaeth adnabod wynebau ar hyn o bryd yn eu system teledu cylch cyfyng, nad oedd bwriad i ddefnyddio meddalwedd adnabod wynebau yn system teledu cylch cyfyng Heddlu Dyfed-Powys oherwydd pryderon ynghylch ei chywirdeb.  Fodd bynnag, os bydd cyfle i ddefnyddio meddalwedd adnabod wynebau yn y dyfodol, mae'r system teledu cylch cyfyng sydd wedi'i gosod yn gallu darparu'r gwasanaeth hwn.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

 

 

7.

PENDERFYNIADAU A WNAED GAN Y COMISIYNYDD pdf eicon PDF 97 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Er gwybodaeth, cafodd y Panel adroddiad a fanylai ar y penderfyniadau a wnaed gan y Comisiynydd Heddlu a Throseddu yn ystod y cyfnod rhwng 19 Rhagfyr 2017 a 16 Gorffennaf 2018. Codwyd y materion canlynol:

 

  • Mewn perthynas â phenderfyniad ynghylch canolfan Plismona Bro Caerfyrddin, dywedodd y Comisiynydd Heddlu a Throseddu fod y broses wedi cael ei gohirio gan fod yna leithder yn yr adeilad.  Fodd bynnag, yn dilyn cyfarfod â Chyngor Tref Caerfyrddin, ac os na fydd problemau gan CADW, byddai Canolfan Plismona Bro Caerfyrddin yn agor maes o law.

 

Yn dilyn sylw ynghylch gweledigrwydd yr Heddlu, dywedodd y Comisiynydd Heddlu a Throseddu fod cysylltiadau rhwng y cyhoedd a'r Heddlu wedi newid yn sylweddol dros y degawd diwethaf a bod y cyhoedd yn cael eu hannog i ffonio 101 neu 999, gan ddibynnu ar ddifrifoldeb y mater.  Dywedwyd ymhellach ei bod yn bwysig bod yr Heddlu yn aros yn weladwy er diogelwch y cyhoedd ac er mwyn diwallu anghenion rhai pobl oedrannus ac unigolion eraill y mae'n well ganddynt gyfathrebu wyneb yn wyneb.

 

Gofynnwyd ynghylch oriau agor Canolfan Plismona Bro Caerfyrddin.  Dywedodd y Comisiynydd Heddlu a Throseddu ei fod wedi gofyn i'r Prif Gwnstabl yn ddiweddar ynghylch yr oriau agor yn y dyfodol a bod yr Uwcharolygydd Claire Parmenter fel rhan o dîm wedi cael cyfarwyddyd i adolygu oriau agor yr holl ganolfannau plismona bro.  O ystyried yr adolygiad uchod, roedd y Panel yn awyddus i gael eglurdeb a chysondeb o ran oriau agor canolfannau plismona bro ar draws y llu.

 

  • Mewn ymateb i ymholiad ynghylch plismona mewn parau, dywedodd y Comisiynydd Heddlu a Throseddu nad oes gofyniad i'r heddlu gael eu gweld mewn parau, ond bod parau'n angenrheidiol at ddibenion mentora.

 

  • Gan gyfeirio at y penderfyniad ynghylch datrysiad copïau wrth gefn TGCh, esboniodd y Comisiynydd Heddlu a Throseddu y broses o gaffael contractau a bod cymeradwyaeth derfynol yn cael ei rhoi gan y Comisiynydd Heddlu a Throseddu.

 

  • Gofynnwyd sut y mae penderfyniadau'n cael eu gwneud yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 ac a oedd dull safonol.  Rhoddodd y Comisiynydd Heddlu a Throseddu sicrwydd i'r Panel nad yw unrhyw benderfyniad a wneir yn cael effaith negyddol ar Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol a dywedodd y byddai'n cynnwys y modd y mae penderfyniadau'n effeithio ar y Ddeddf yn adroddiadau'r dyfodol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

 

 

 

8.

BWRDD ATEBOLRWYDD YR HEDDLU pdf eicon PDF 99 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Panel yn ystyried agenda, adroddiadau a chofnodion cyfarfod Bwrdd Atebolrwydd yr Heddlu a gynhaliwyd ar 8 Mai 2018.

 

Dywedodd y Cadeirydd fod rhai o'r tudalennau'n annealladwy a gofynnodd a fyddai modd gwella ansawdd yr adroddiadau ar gyfer y cyfarfodydd yn y dyfodol.

 

Mynegwyd pryder mewn perthynas â'r cynnydd mewn absenoldeb salwch sy'n gysylltiedig ag anhwylderau seicolegol, a gofynnwyd beth sy'n cael ei wneud i fynd i'r afael â hyn.  Dywedodd y Comisiynydd Heddlu a Throseddu fod y duedd yn gyson â'r tueddiadau cenedlaethol yn anffodus, a bod hynny'n cynyddu bob blwyddyn.  Ychwanegodd y gellid priodoli'r cynnydd i'r ffaith bod unigolion yn fwy cyfforddus o ran adrodd eu rhesymau dros yr absenoldeb wrth i'r stigma sy'n gysylltiedig ag iechyd meddwl ac anhwylderau seicolegol leihau.

 

Rhoddodd y Comisiynydd Heddlu a Throseddu sicrwydd i'r Panel fod mesurau rhagweithiol wedi cael eu rhoi ar waith er mwyn cynorthwyo unigolion a lleihau'r duedd gynyddol drwy drefnu seminarau llesiant staff, ffeiriau ac arolygon.

Mewn ymateb i ymholiad, dywedodd y Comisiynydd Heddlu a Throseddu fod y cyhoedd yn cael eu hannog i ffonio 101 gan y byddai hyn yn galluogi'r gwaith o gyfrif faint o amser a gymerwyd i ddatrys pob galwad ar gyfartaledd.

 

Gofynnwyd a oes modd rhannu canlyniadau arolwg staff diweddar â'r Panel. Dywedodd y Comisiynydd Heddlu a Throseddu y byddai'n gwneud ymholiadau.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod yr adroddiad ynghylch cyfarfod Bwrdd Atebolrwydd yr Heddlu a gynhaliwyd ar 8 Mai 2018 yn cael ei nodi.


 

 

9.

ADRODDIAD BLYNYDDOL Y CADEIRYDD pdf eicon PDF 123 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniodd y Panel Adroddiad Blynyddol y Cadeirydd 2017-2018, a oedd â'r nod o godi ymwybyddiaeth y cyhoedd o rôl a gwaith y Panel.  Lluniwyd yr adroddiad yn unol â'r arweiniad a ddarparwyd gan y Ganolfan Craffu Cyhoeddus.

 

Roedd yr adroddiad yn rhoi adolygiad o'r flwyddyn 2017-18 gan gynnwys 4 amcan y Panel ar gyfer 2018-19.  Roedd aelodau canlynol y panel wedi gwirfoddoli i fod yn hyrwyddwyr y Panel ar gyfer pob amcan:-

 

1. Craffu ar Braesept yr Heddlu - Y Cynghorydd Keith Evans

2. Craffu ar y modd y mae'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu yn dal y Prif Gwnstabl i gyfrif - Y Cynghorydd William Powell

3. Craffu ar y Cynllun Heddlu a Throseddu - Yr Athro Ian Roffe

4. Gwella ymwybyddiaeth y cyhoedd o'r Panel Heddlu a Throseddu - Y Cynghorydd Alun Lloyd Jones

 

Yn ogystal, roedd yr adroddiad yn cynnig y trefniadau canlynol o ran dosbarthu:-

 

·         Cyhoeddi'r Adroddiad Blynyddol ar wefan y Panel a'i ddosbarthu drwy ddefnyddio'r cyfryngau traddodiadol sydd ar waith yn ardal y llu;

·         E-bostio'r Adroddiad Blynyddol at yr holl Aelodau Seneddol, Aelodau Cynulliad, Aelodau Senedd Ewrop, Cynghorwyr Sir a Chynghorau Tref a Chymuned yn ardal y llu.

 

Yn ogystal â'r trefniadau dosbarthu uchod, gofynnwyd bod llyfrgelloedd a Chadeiryddion Paneli Heddlu a Throseddu eraill yn cael eu cynnwys, a bod copïau ar gael yn yr Eisteddfod Genedlaethol.

 

Yn ogystal, dywedodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol y byddai'n anfon e-bost at holl aelodau'r Panel sydd am gael argymhellion o ran ble i ddosbarthu'r cynllun yn eu hardaloedd.

 

Tynnodd y Panel sylw at rai camgymeriadau teipio a gafodd eu nodi gan y Swyddogion.

 

Diolchodd y Cadeirydd i Reolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol am ei arweiniad a'i gymorth wrth ddatblygu'r adroddiad.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:

9.1      gymeradwyo Adroddiad Blynyddol y Cadeirydd 2017-2018, yn amodol ar gywiro'r camgymeriadau teipio;

 

9.2      cymeradwyo'r rhestr ddosbarthu a nodwyd yn yr adroddiad i gynnwys llyfrgelloedd a Chadeiryddion Paneli Heddlu a Throseddu eraill.


 

 

10.

STRATEGAETH GYFATHREBU'R PANEL pdf eicon PDF 134 KB

Cofnodion:

Derbyniodd y Panel yr adroddiad ynghylch Strategaeth Gyfathrebu'r Panel a dosbarthwyd y Strategaeth i'r Panel i'w hystyried.

 

Mae'r Strategaeth wedi cael ei datblygu er mwyn cydymffurfio â deddfwriaeth a oedd yn gofyn i Baneli Heddlu a Throseddu hyrwyddo eu gweithgareddau gyda golwg ar godi ymwybyddiaeth ac ymgysylltiad y cyhoedd.  Yn ogystal, rhoddwyd sicrwydd gan y Strategaeth bod ei gweithgareddau'n cael eu cynnal mewn modd cost-effeithiol, a fyddai yn ei dro yn cydymffurfio â'r amodau sydd ynghlwm wrth Grant y Swyddfa Gartref sy'n cyllido gwaith y Panel.

 

Pwysleisiodd yr adroddiad fod yr holl weithgareddau hyrwyddo wedi'u gwneud gan Dîm Marchnata a'r Cyfryngau Cyngor Sir Caerfyrddin ers creu Panel Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys, ac mae hyn yn cynnwys:

­   creu a chynnal gwefan y Panel;

­   llunio nifer fawr o ddatganiadau i'r wasg;

­   gwaith ymgysylltu â'r cyfryngau traddodiadol ar draws ardal y llu;

­   gwaith ymgysylltu â swyddfeydd gwasg y 3 awdurdod arall sydd yn ardal y llu.

 

O ganlyniad i'r gwaith uchod, nododd y Panel fod y cyhoedd a'r wasg wedi dangos llawer mwy o ddiddordeb yng ngwaith y Panel dros y 12 mis diwethaf. 

 

Er mwyn cynyddu dealltwriaeth y cyhoedd o rôl benodol y Panel, mae'r Strategaeth yn dangos sut y byddai hyn yn cael ei gyflawni drwy ddefnyddio'r cyfryngau traddodiadol a chyfryngau ar-lein/cymdeithasol.

 

Nododd y Panel y gallai gweddarlledu ei gyfarfod fod yn ddull o ddarparu ffyrdd cost-effeithiol o ymgysylltu â'r wasg a'r cyhoedd ac felly cynigiwyd bod y Panel yn treialu hyn ar gyfer ei gyfarfod nesaf ar 16 Tachwedd 2018.

 

Diolchodd y Cadeirydd i dîm Marchnata a'r Cyfryngau Sir Gaerfyrddin am yr holl waith rhagorol y maent yn ei wneud ar gyfer y Panel.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

 

10.1     gymeradwyo Strategaeth Gyfathrebu'r Panel;

10.2     treialu'r gweddarlledu yng nghyfarfod nesaf y Panel a drefnwyd ar gyfer 16 Tachwedd 2018 yng Nghaerfyrddin.