Cofnodion:
Bu'r Panel yn ystyried agenda, adroddiadau a chofnodion cyfarfod Bwrdd Atebolrwydd yr Heddlu a gynhaliwyd ar 8 Mai 2018.
Dywedodd y Cadeirydd fod rhai o'r tudalennau'n annealladwy a gofynnodd a fyddai modd gwella ansawdd yr adroddiadau ar gyfer y cyfarfodydd yn y dyfodol.
Mynegwyd pryder mewn perthynas â'r cynnydd mewn absenoldeb salwch sy'n gysylltiedig ag anhwylderau seicolegol, a gofynnwyd beth sy'n cael ei wneud i fynd i'r afael â hyn. Dywedodd y Comisiynydd Heddlu a Throseddu fod y duedd yn gyson â'r tueddiadau cenedlaethol yn anffodus, a bod hynny'n cynyddu bob blwyddyn. Ychwanegodd y gellid priodoli'r cynnydd i'r ffaith bod unigolion yn fwy cyfforddus o ran adrodd eu rhesymau dros yr absenoldeb wrth i'r stigma sy'n gysylltiedig ag iechyd meddwl ac anhwylderau seicolegol leihau.
Rhoddodd y Comisiynydd Heddlu a Throseddu sicrwydd i'r Panel
fod mesurau rhagweithiol wedi cael eu rhoi ar waith er mwyn
cynorthwyo unigolion a lleihau'r duedd gynyddol drwy drefnu
seminarau llesiant staff, ffeiriau ac arolygon.
Mewn ymateb i ymholiad, dywedodd y Comisiynydd Heddlu a Throseddu fod y cyhoedd yn cael eu hannog i ffonio 101 gan y byddai hyn yn galluogi'r gwaith o gyfrif faint o amser a gymerwyd i ddatrys pob galwad ar gyfartaledd.
Gofynnwyd a oes modd rhannu canlyniadau arolwg staff diweddar â'r Panel. Dywedodd y Comisiynydd Heddlu a Throseddu y byddai'n gwneud ymholiadau.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod yr adroddiad ynghylch cyfarfod Bwrdd Atebolrwydd yr Heddlu a gynhaliwyd ar 8 Mai 2018 yn cael ei nodi.
Dogfennau ategol: