Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Craffu Cymunedau ac Adfywio - Dydd Iau, 30ain Mawrth, 2017 10.00 yb

Lleoliad: Siambr a Rhag-Ystafell, - 3 Heol Spilman, Caerfyrddin. SA31 1LE.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Kevin Thomas  01267 224027

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd G.B. Thomas.

 

Cyfeiriodd y Cadeirydd at y ffaith mai dyma gyfarfod olaf y Pwyllgor Craffu - Cymunedau cyn yr etholiadau llywodraeth leol a diolchodd yr aelodau etholedig a'r swyddogion am eu cyfraniad i waith y Pwyllgor dros y pum mlynedd diwethaf. Mynegodd yr aelodau eu gwerthfawrogiad i'r Cadeirydd am y modd y bu’n ymgymryd â'i ddyletswyddau yn ystod ei gyfnod yn y swydd.

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant personol.

3.

DATGAN CHWIPIAID PLAID SYDD WEDI EU GWAHARDD

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch chwip waharddedig.

 

4.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW)

Cofnodion:

Nid oedd cwestiynau gan y cyhoedd wedi dod i law.

 

5.

GORCHYMYN DATBLYGU LLEOL DRAFFT – CANOL TREF LLANELLI pdf eicon PDF 341 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried y Gorchymyn Datblygu Lleol drafft ar gyfer Canol Tref Llanelli, yn dilyn cymeradwyaeth y Cyngor ar 22 Chwefror 2017 iddo fynd i ymgynghoriad cyhoeddus.

 

Nodwyd bod y Gorchymyn Drafft yn ceisio adlewyrchu'r amcanion adfywio corfforaethol ar gyfer canol tref Llanelli gan sicrhau bod y materion ynghylch bywiogrwydd a hyfywedd parhaus canol y dref yn cael ystyriaeth briodol mewn perthynas â darpariaethau'r polisi cynllunio cenedlaethol. Petai'r Gorchymyn yn cael ei gyflwyno, byddai'n caniatáu ystod o ddefnyddiau cynllunio o fewn ardal benodol iawn heb fod angen cyflwyno cais cynllunio i'r Awdurdod Cynllunio Lleol, yn amodol ar i'r Awdurdod roi 'tystysgrif cydymffurfiaeth'.  

 

Byddai cyfnod ymgynghori'r Gorchymyn Drafft yn dechrau yn ystod y gwanwyn/haf 2017 ac yn para am o leiaf chwe wythnos. Gall aelodau'r Pwyllgor gyflwyno sylwadau personol ar y cynigion fel rhan o'r ymgynghoriad, yn ychwanegol at unrhyw argymhellion a wneir gan y Pwyllgor. Wedi hynny, cyflwynir adroddiad i'r Cyngor ar y sylwadau a gafwyd er mwyn iddo ystyried yn ffurfiol p'un ai i fwrw ymlaen i fabwysiadu a gweithredu'r Gorchymyn ai peidio.

 

Rhoddwyd sylw i'r cwestiynau/materion canlynol wrth drafod yr adroddiad:

·        Cyfeiriwyd at gynigion i addasu lloriau uchaf yr unedau adwerthu yng nghanol y dref at ddibenion preswyl. Gofynnwyd am eglurhad ynghylch yr effaith bosibl ar y cyfleusterau parcio presennol ac a fyddai llefydd parcio ychwanegol yn cael eu cynllunio fel rhan o unrhyw gynigion i ailddatblygu.

 

Cadarnhaodd y Rheolwr Blaen-gynllunio nad oedd y Gorchymyn Drafft yn cynnwys llefydd parcio ychwanegol oherwydd ystyrid bod digon o ddarpariaeth ar hyn o bryd yng nghanol y dref. Fodd bynnag, os byddai dyheadau'r cynllun yn cael eu cyflawni ac yr ystyrid yn hwyrach ei bod yn briodol ailystyried y mater, byddai cyflwyno cynlluniau ar gyfer trwyddedau parcio neu ddefnyddio cyfleusterau ar y cyd ymhlith yr atebion posibl y gellid eu cyflwyno. 

·        Mewn perthynas â hyd a lled Parth Llifogydd C2 yng nghanol y dref, cadarnhaodd y Rheolwr Blaen-gynllunio fod yr ardaloedd sydd mewn perygl o lifogydd, fel y'u diffinnir yn y cynllun a geir yn yr adroddiad, yn perthyn i'r risg bosibl gan gyrsiau d?r afonol. Fodd bynnag, byddai angen i'r Gorchymyn roi ystyriaeth, yn ogystal, i'r posibilrwydd o lifogydd o ganlyniad i ymchwydd y llanw a newid hinsawdd.

·        Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch paratoi Prif Gynllun Tref Llanelli, cadarnhaodd y Rheolwr Blaen-gynllunio fod ymgynghorwyr y Cyngor yn bwrw ati i gasglu tystiolaeth hanfodol i'w gefnogi ac y disgwylid iddo gael ei gyhoeddi yn y dyfodol agos.

·        Cyfeiriwyd at ran 1.2 o'r adroddiad ac at y posibilrwydd y byddai unrhyw ganiatâd a roddir gan Orchymyn Datblygu Lleol yn dod o dan ddarpariaethau'r Ardoll Seilwaith Cymunedol, petai'r Cyngor yn penderfynu bwrw ymlaen i fabwysiadu'r Ardoll yn Sir Gaerfyrddin. Rhoddodd y Rheolwr Blaen-gynllunio wybod nad yw'r Ardoll Seilwaith Cymunedol yn swyddogaeth sydd wedi'i datganoli ar hyn o bryd ond y byddai, yn fuan, yn cael ei datganoli i Lywodraeth Cymru ac fe allai hi benderfynu edrych yn fanylach ar y ddeddfwriaeth i sicrhau bod modd ei chyflawni yng Nghymru.

 

PENDERFYNWYD YN  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5.

6.

ADRAN CYMUNEDAU GYNLLUN BUSNES YR ADRAN AM 2017-2020 pdf eicon PDF 132 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu i'r Pwyllgor ystyried Cynllun Busnes yr Adran Gymunedau sy'n rhoi diweddariad o'i blaenoriaethau ar gyfer y cyfnod 2017-20. Nodwyd, er bod y cynllun yn cwmpasu holl flaenoriaethau'r Adran, mai rôl y Pwyllgor y diwrnod hwnnw oedd craffu ar elfennau'r gwasanaethau Tai a Hamdden. Parthed y Gwasanaethau Hamdden, cytunodd y Pwyllgor y gellid eu trafod fel rhan o'r ystyriaeth a roddid i'r Adroddiad Diweddaru blynyddol ynghylch y Gwasanaethau Hamdden, oedd wedi ei roi ar yr agenda y diwrnod hwnnw fel eitem ar wahân.

 

Rhoddwyd sylw i'r materion canlynol sy'n codi yn yr adroddiad ac sy'n ymwneud â'r Gwasanaethau Tai:

·        Cyfeiriwyd at y ffaith fod y Credyd Cynhwysol yn mynd i gael ei gyflwyno'n fuan, ac effaith bosibl hynny ar allu tenant i dalu ei rent. Er bod y Cyngor yn rhwym o gychwyn achos er mwyn adfer dyledion rhent, mynegwyd pryder y byddai cost gweithred o'r fath ond yn gwaethygu caledi ariannol y tenant. Felly, teimlwyd y dylid ystyried ffyrdd o gynorthwyo tenantiaid i osgoi caledi rhag digwydd, cyhyd ag y bo modd.

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Tai a Diogelu'r Cyhoedd fod yr Is-adran yn cadw mewn cof effaith ariannol bosibl y ddeddfwriaeth ar denantiaid ac yn dilyn ymagwedd ataliol yn hytrach nag adweithiol i ddyledion rhent. Roedd hynny'n cynnwys rhoi cymorth i ddarpar denantiaid er mwyn gwerthuso'u gallu i gynnal y denantiaeth, er enghraifft, drwy asesu lefelau rhent a'r budd-daliadau posibl.

·        Cyfeiriwyd at gynnig yr Adran i ddatblygu porth ar-lein er mwyn i denantiaid gael mynediad i'w cyfrif rhent yn ogystal ag at waith atgyweirio sy'n disgwyl i gael ei wneud a cheisiadau trosglwyddo. Mynegwyd y farn y dylai'r porth gynnwys cyfeiriad at daliadau gwasanaeth i denantiaid sy'n byw mewn canolfannau tai gwarchod.

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Tai a Diogelu'r Cyhoedd y gellid addasu'r porth i gynnwys taliadau gwasanaeth. 

·       Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch y targed i ddod â 50 o dai gwag yn ôl i'r stoc dai gyffredinol ar ffurf tai fforddiadwy, cadarnhaodd y Pennaeth Tai a Diogelu'r Cyhoedd fod yr Is-adran, yn dilyn y pryderon diweddar a fynegwyd ynghylch bod oddeutu 2,000 o dai gwag yn Sir Gaerfyrddin, wedi cynyddu ei adnoddau ar gyfer elfen honno'r gwaith, gan gynnwys dyblu'r staff o un swyddog i ddau. O ganlyniad i hynny, roedd nifer y tai a ddychwelwyd i'r Stoc Dai wedi cynyddu i 110 y flwyddyn gan alluogi'r Cyngor i gyflawni ei darged y byddai o leiaf 50 o'r rhain yn dai fforddiadwy. O ran yr eiddo sy'n weddill a adnewyddwyd, byddai rhai ohonynt wedi cael eu gwerthu ar y farchnad agored ac eraill wedi'u rhentu'n breifat ar y farchnad agored am rent uwch.

·       Cyfeiriwyd at y cynnig i gyflwyno cynllun gwobrwyo i denantiaid. Gofynnwyd am eglurhad ynghylch y mathau o opsiynau a ystyrir, a pha mor debygol ydynt o gael eu cyflawni.

 

Dywedodd y Pennaeth Tai a Diogelu'r Cyhoedd nad oedd polisi ffurfiol wedi'i sefydlu, ond ystyrid a fyddai cyflwyno un yn gallu bod o fudd i'r awdurdod a'i denantiaid. Os byddai'r polisi yn cael ei fabwysiadu gallai gynnwys,  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6.

7.

DIWEDDARIAD BLYNYDDOL: GWASANAETHAU HAMDDEN pdf eicon PDF 134 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu i'r Pwyllgor ystyried Adroddiad Diweddaru Blynyddol y Gwasanaethau Hamdden ar gyfer 2016/17 gan fesur perfformiad mewn perthynas â'r saith canlyniad canlynol:

 

Canlyniad 1 – Mae pobl yn cael cyfleoedd i fod yn egnïol

Canlyniad 2 – Mae mwy o blant a phobl ifanc yn dwlu ar weithgareddau hamdden/diwylliannol am oes (0–24)

Canlyniad 3 – Mae mwy o oedolion (25 oed a h?n) yn cymryd rhan mewn gweithgareddau Hamdden a Diwylliant

Canlyniad 4 – Mae pobl yn ymaelodi â chlybiau / grwpiau cymunedol neu gyfleusterau

Canlyniad 5 – Mae pobl yn cael y sgiliau i fod yn greadigol ac yn gorfforol alluog am oes

Canlyniad 6 – Mae pobl yn cyflawni eu potensial

Canlyniad 7 – Mae ein cyfleusterau a'n gwasanaethau yn effeithlon ac yn cael eu rheoli'n dda

 

Rhoddwyd sylw i'r materion canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

·        Cyfeiriwyd at y cynigion i ddatblygu Prif Gynllun ar gyfer Amgueddfa Parc Howard ac at ymweliad safle diweddar a wnaed gan y Pwyllgor Craffu. Mynegwyd y farn fod y cyfleuster yn unigryw a bod angen ei farchnata i drigolion Sir Gaerfyrddin ac ymwelwyr â'r sir er mwyn galluogi'r safle i gyflawni ei botensial llawn.

 

Cytunodd Pennaeth y Gwasanaethau Hamdden â'r farn ac atgoffodd y Pwyllgor fod y gwasanaeth amgueddfeydd wedi dioddef toriadau cyllido am gyfnod cyn iddo gael ei ymgorffori yn y Gwasanaethau Hamdden rai blynyddoedd ynghynt. Cyn yr ymgyfuno hwnnw, sicrhawyd bod rhagor o adnoddau ar gael i'r gwasanaeth a'r gobaith oedd y byddai gwelliannau yn dod i'r amlwg dros y blynyddoedd nesaf. Roedd yr adnoddau ychwanegol hynny wedi galluogi'r gwasanaeth i benodi Rheolwr Datblygu Amgueddfeydd ac roedd gweledigaeth wrthi'n cael ei pharatoi ar gyfer datblygu a marchnata'r gwasanaeth yn y dyfodol. Byddai hon yn cynnwys y dyhead am gael cyfleuster storio newydd i fod yn gartref i arteffactau'r sir, gan ddisodli'r trefniadau presennol, sef eu bod yn cael eu cadw mewn nifer o leoliadau gwahanol. Er enghraifft, roedd 70,000 o eitemau yn cael eu storio rhwng amgueddfeydd Parc Howard ac Abergwili. Fodd bynnag, byddai angen amser i'r gwelliannau hyn ddwyn ffrwyth.

 

Hefyd, dywedodd y Pennaeth Hamdden fod y gwasanaeth, fel rhan o'r weledigaeth, yn ceisio cael ei achredu gan Wasanaeth Amgueddfeydd Cymru sy'n gosod safonau o ran rheoli amgueddfeydd, gofalu am gasgliadau a rhoi gwasanaeth i'r cyhoedd.

·       Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch darparu adeilad newydd yr archifau y tu ôl i Lyfrgell Caerfyrddin, dywedodd y Pennaeth Hamdden fod y trafodaethau ynghylch cynllun yr adeilad yn dod at eu terfyn a'r gobaith oedd y gallai'r cyfleuster newydd fod ar waith erbyn dechrau 2019.

·       Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch mesur perfformiad mewn perthynas â'r saith canlyniad allweddol, atgoffwyd aelodau'r Pwyllgor gan y Pennaeth Hamdden eu bod yn cael adroddiadau diweddaru chwarterol am y perfformiad hwnnw.   Roedd y rhain yn cynnwys cyfeiriad at y lefelau cyfranogi yng nghyfleusterau chwaraeon y Cyngor yn ogystal â chyfleusterau preifat, gyda'r Cyngor yn darparu gwybodaeth am ei gyfleusterau ei hun a Chwaraeon Cymru yn darparu gwybodaeth am gyfleusterau/clybiau chwaraeon preifat.

·       Cyfeiriwyd at fater a ystyriwyd yn  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 7.

8.

GWEITHREDU'R DDULL VANGUARD pdf eicon PDF 486 KB

Cofnodion:

Yn unol â'r penderfyniad a wnaed yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 20 Gorffennaf 2016, cafodd y Pwyllgor adroddiad ynghylch rhoi Methodoleg Vanguard ar waith mewn perthynas â gweithredu a chyflawni polisïau a gweithdrefnau'r Awdurdod ar gyfer gosod tai cyngor a'u defnyddio drachefn.

 

Dywedodd y Pennaeth Tai a Diogelu'r Cyhoedd fod Dull Vanguard, a ddatblygwyd yn wreiddiol ar gyfer y sector preifat, yn cael ei ddefnyddio'n helaeth ledled y sector cyhoeddus wrth i sefydliadau chwilio am ffyrdd o ymateb i'r heriau parhaus o leihau adnoddau ariannol yn wyneb cynnydd o ran galwadau a disgwyliadau. Roedd yn gorfodi sefydliadau i feddwl yn amgenach yngl?n â darparu gwasanaethau ac roedd staff ar bob lefel yn cyfrannu tuag ato, fel rheol. Mae'r dull hwnnw wedi'i ddefnyddio ar draws 12 maes gwasanaeth ar wahân, gan arwain at welliannau sylweddol o ran ansawdd ac effeithlonrwydd.

 

O ran gweithredu system Gosod Tai (eiddo gwag) y Cyngor, yn flaenorol roedd honno'n cynnwys proses o 34 o gamau ledled tair adran ar wahân gan arwain at 70-80 o ddiwrnodau gwaith ar gyfartaledd er mwyn dod ag eiddo gwag yn ôl i'r Stoc Dai ar gyfer ei ailosod. O ganlyniad i weithredu Methodoleg Vanguard lleihawyd y broses i 4 cam, cafwyd llai o wariant ar atgyweirio tai gwag, cynnydd o ran cyfraddau bodlondeb y tenantiaid, lleihad o 80 i 20 o ddyddiau yn yr amser cyfartalog mae'n ei gymryd i ailosod eiddo ynghyd â chynnydd yn sgil hynny o £600k y flwyddyn drwy rent.  Yn ei hanfod, roedd y fethodoleg wedi arwain at uwchraddio'r system eiddo gwag, o un nad oedd yn addas i'r diben i un oedd yn llai costus. Roedd hefyd yn prosesu ac yn clustnodi eiddo newydd yn gyflymach ac yn darparu incwm gwell drwy rent.

 

Dywedodd y Pennaeth Tai a Diogelu'r Cyhoedd na ddylid ystyried Vanguard yn ateb i bopeth ond roedd yn ddull effeithiol o archwilio a gwella'r gwasanaethau a ddarperir, am lai o gost yn fynych iawn.

 

Rhoddwyd sylw i'r materion canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

·        Cyfeiriwyd at bolisi dyrannu tai'r Cyngor a'r angen i Aelodau Lleol gael gwybod am dai cyngor gwag yn eu ward cyn gynted â phosibl, a chael gwybod pan gânt eu dyrannu. Cadarnhaodd y Pennaeth Tai a Diogelu'r Cyhoedd fod prosesau ar waith i drosglwyddo'r wybodaeth honno i Aelodau Lleol ac y byddai'n atgoffa'r staff o'r gofyniad hwnnw.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

9.

LLOFNODI YN GOFNODAU CYWIR, COFNODION Y PWYLLGOR A GYNHALIWYD AR:- pdf eicon PDF 160 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 30 Ionawr ac ar 17 Chwefror 2017 gan eu bod yn gywir.